Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Ynglŷn â Gwasanaeth Erlyn y Goron

Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn erlyn achosion troseddol sydd wedi cael eu hymchwilio gan yr heddlu a sefydliadau ymchwiliadol eraill yng Nghymru a Lloegr. Mae'r CPS yn annibynnol, ac rydym yn gwneud ein penderfyniadau yn annibynnol o'r heddlu a'r llywodraeth.

Ein dyletswydd yw sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn ar gyfer y drosedd gywir, ac i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell ble bynnag fo'n bosib.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron:

  • yn penderfynu pa achosion dylid eu herlyn; 
  • yn pennu'r cyhuddiadau priodol mewn achosion mwy difrifol neu chymhleth, ac yn cynghori'r heddlu yn ystod cyfnodau cynnar ymchwiliadau; 
  • yn paratoi achosion ac yn eu cyflwyno yn y llys; ac 
  • yn darparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion yr erlyniad. 

Rhaid i erlynwyr fod yn deg, yn wrthrychol ac yn annibynnol. Wrth benderfynu a ddylid dderbyn achos troseddol, rhaid i'n cyfreithwyr ddilyn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Golyga hynny, er mwyn cyhuddo rhywun o drosedd, rhaid i erlynwyr fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i ddarparu siawns realistig o gollfarn, a bod erlyn er budd y cyhoedd.

Mae'r CPS yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, y llysoedd, y Farnwriaeth a phartneriaid eraill i gyflawni cyfiawnder.

Sut rydym yn gweithio

Yr egwyddorion rydym yn eu dilyn

Mae'r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yn amlinellu'r egwyddorion cyffredinol y dylai Erlynwyr y Goron eu dilyn pan maen nhw'n gwneud penderfyniadau ar achosion. Mae'r penderfyniad a ddylid cyhuddo neu beidio yn erbyn rhywun a ddrwgdybir yn seiliedig ar Brawf Llawn y Cod fel yr amlinellir yn y Cod. Mae dau gam i Brawf Llawn y Cod:

Y cam tystiolaethol

Dyma'r cam cyntaf yn y penderfyniad i erlyn. Rhaid i Erlynwyr y Goron fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i ddarparu "siawns realistig o gollfarn" yn erbyn pob diffynnydd ar bob cyhuddiad. Rhaid iddynt ystyried a gellir defnyddio'r tystiolaeth ac a ydyw'n ddibynadwy. Rhaid iddynt hefyd ystyried beth allai achos yr amddiffyniad fod a sut mae'n debygol o effeithio ar achos yr erlyniad.

Mae "siawns realistig o gollfarn" yn brawf gwrthrychol. Mae'n golygu y bydd rheithgor neu fainc o ynadon, gyda'r cyfarwyddyd cywir yn unol â'r gyfraith, yn fwy tebygol na pheidio o ddyfarnu'r unigolyn a ddrwgdybir yn euog o'r cyhuddiad honedig. (Mae hwn yn brawf ar wahân i'r un y mae llysoedd troseddol eu hunain yn ei weithredu. Dylai rheithgor neu lys ynadon euogfarnu os ydyw'n sicr o euogrwydd diffynnydd yn unig.) Os nad yw'r achos yn pasio'r cam tystiolaethol, ni all fynd yn ei flaen, er gwaethaf pa mor bwysig neu ddifrifol ydyw.

Cam budd y cyhoedd

Os nad yw'r achos yn pasio'r cam tystiolaethol, yna rhaid i Erlynwyr y Goron benderfynu a oes angen erlyniad er budd y cyhoedd. Rhaid iddynt gydbwyso ffactorau o blaid ac yn erbyn erlyn yn ofalus ac yn deg. Mae'n bosib y bydd rhai ffactorau'n cynyddu'r angen i erlyn ond gallai eraill awgrymu bod gwahanol gamau o weithredu yn well.

Bydd erlyniad fel arfer yn digwydd fodd bynnag, oni bai bod yna ffactorau budd y cyhoedd sy'n tueddu yn erbyn erlyn sy'n amlwg yn drech na'r rhai sy'n tueddu o blaid. Bydd y CPS yn cychwyn neu barhau erlyniad os yw achos wedi pasio'r ddau gam yn unig.

Ein gwerthoedd


Byddwn yn annibynnol ac yn deg

Byddwn yn erlyn yn annibynnol, yn ddi-duedd ac yn ceisio cyflawni cyflawnder ym mhob achos.

Byddwn yn onest ac yn agored

Byddwn yn esbonio ein penderfyniadau, yn gosod safonau clir am y gwasanaeth y gall y cyhoedd ei ddisgwyl gennym ac yn bod yn onest os ydym yn gwneud camgymeriad.

Byddwn yn trin pawb â pharch

Byddwn yn parchu ein gilydd, ein cydweithwyr a'r cyhoedd rydym yn ei wasanaethu, gan gydnabod bod pobl y tu ôl i bob achos.

Byddwn yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn anelu at ragoriaeth

Byddwn yn gweithio fel un tîm, gan edrych yn gyson am ffyrdd newydd a gwell o gyflwyno'r gwasanaeth gorau posib ar gyfer y cyhoedd. Byddwn yn effeithlon ac yn gyfrifol gydag arian y trethdalwyr.

Cydraddoldeb a chynhwysiant

Mae ymrwymiad y CPS at gynhwysiant a chydraddoldeb yn ganolog i sut rydym yn gweithio. Mae'n bwysig i ni fel cyflogwr ac yn ein hymagwedd at ein cyfrifoldebau fel awdurdod erlyn. Mae cysylltiadau agos rhwng y ddau - mae cefnogi gweithlu amrywiol yn ein caniatáu i ddarparu gwell gwasanaeth i'r cyhoedd.

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi'r mewnwelediad a gawn o ymrwymo'n uniongyrchol â'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, sy'n darparu goruchwyliaeth i'w groesawu ar ein gwaith. Golyga'r ymagwedd gynhwysol hon bod:

  • Ymrwymiad cymunedol effeithiol yn adeiladu mwy o ffydd gyda bodlonrwydd dioddefwyr a thystion y cyhoedd, gyda pholisi ac arferion erlyn yn cael eu hysbysu'n well.
  • Mae gan y CPS ddiwylliant cynhwysol, wedi'i adlewyrchu yn y gweithlu amrywiol, yn lleol ac yn genedlaethol, ac ar bob lefel o'r sefydliad.
  • Trwy agor y CPS i fyny a gweithredu ar fewnbwn gan gymunedau amrywiol, rydym yn anelu at ennyn mwy o hyder yn y CPS, yn benodol gan dystion a dioddefwyr, gan arwain at well canlyniadau erlyn.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn tanategu sut rydym yn gweithio; mae data ar gael yn adran Cyhoeddiadau y wefan hon.

Ein Sefydliad

Mae tua 6,000 o bobl yn gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron, ar draws Cymru a Lloegr mewn amrywiaeth o rolau. Mae bron hanner ein cyflogedigion yn gyfreithwyr, sy'n gyfrifol am benderfynu a dylid erlyn achosion, ac yn cynrychioli'r Goron mewn nifer o wrandawiadau yn y llysoedd. Mae'r gweddill yn gweithio i gynorthwyo erlynwyr i baratoi achosion ar gyfer y llys, neu mewn galwedigaethau eraill gan gynnwys swyddogaethau gweithredol, cyllid, adnoddau dynol, cyfathrebu a gwasanaethau digidol a thechnoleg.

Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Max Hill QC, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP)Max Hill KC yw Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP). Fe'i benodwyd i’r swydd gan y Twrnai Cyffredinol ar 1 Tachwedd 2018.

Cafodd Max ei eni yn Hertfordshire ym 1964. Mynychodd ysgolion cynradd y wladwriaeth, ac wedi i’r teulu symud i Northumberland, ysgol ramadeg Frenhinol yn Newcastle upon Tyne. Enillodd ysgoloriaeth i astudio'r gyfraith yng Ngholeg St Peter, Rhydychen 1983-6. Cymhwysodd fel bargyfreithiwr yn 1987 ac fe'i benodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2008.

Bu, Max yn amddiffyn ac yn erlyn mewn achosion cymhleth gan gynnwys dynladdiadau, troseddau treisgar, terfysgaeth, twyll gwerth uchel a throseddu corfforaethol. Gorchmynnwyd iddo mewn llawer o'r treialon llofruddiaeth mwyaf arwyddocaol a proffil uchel yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys yr ail gyfres o dreialon sy'n ymwneud â lladd Damilola Taylor, ac hefyd achosion bomiau Llundain  2005.

O Fis Mawrth 2017 hyd at Fis Hydref 2018 roedd Max yn adolygydd ddeddfwriaeth terfysgaeth annibynnol. Fel yr adolygydd annibynnol, lluniodd adroddiadau gan gynnwys arolwg ymchwiliol o'r defnydd o ddeddfwriaeth terfysgaeth yn dilyn yr ymosodiadau ar Bont San Steffan.

Roedd Max hefyd yn arweinydd Cylchdaith y De Ddwyrain o 2014 i 2016, Cadeirydd Cymdeithas y Bar Troseddol o 2011 i 2012 a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Kalisher o 2014 i 2018.  Tan ei benodiad fel DPP, roedd Max yn Bennaeth  Siambrau Y Llew Goch.

Bwrdd y CPS

Mae Bwrdd y CPS yn darparu arweinyddiaeth strategol ac mae'n gyfrifol ar y cyd am gyflwyno ein hamcanion sefydliadol. Mae'n chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod gan y sefydliad y cyfarpar i ddarparu gwasanaeth proffesiynol, effeithlon ac o ansawdd uchel.

Monica Burch, prif aelod anweithredol y Bwrdd, sy'n cadeirio Bwrdd y CPS.

Monica Burch profile photoMae Monica wedi cael gyrfa gyfreithiol hir a nodedig, gan ymddeol fel cadeirydd ac uwch bartner yn Addleshaw Goddard LLP yn 2016. Fel cyfreithiwr, bu’n ymarfer ym meysydd ymgyfreitha masnachol a chyflafareddu rhyngwladol, gan gynghori ar ystod eang o hawliadau mewn nifer o awdurdodaethau. Yn 2010, penodwyd Monica yn Gofiadur achosion sifil.

Yn ogystal â Chadeirio Bwrdd y CPS, mae Monica yn aelod o'r Pwyllgor Enwebiadau, Arweinyddiaeth a Chydnabyddiaeth. Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol gyda thanysgrifennwr Lloyds Ark Syndicate Management Limited ac yn Argenta Private Capital Limited, yn Gyfarwyddwr Anweithredol i gwmni cyfreithiol Shoosmiths LLP ac yn aelod o Gyngor Ymgynghorol y Sefydliad Mentora, sefydliad di-elw. sylfaen cynorthwyo merched i gyrraedd brig sefydliadau mawr.

Max Hill QC, Director of Public ProsecutionsMax Hill KC yw Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP).

Rebecca Lawrence, Prif WeithredwrRebecca Lawrence yw Prif Weithredwr Gwasanaeth Erlyn y Goron, gan ddechrau’r swydd ym mis Medi 2019. Cafodd ei magu yng ngorllewin Llundain, astudiodd Rebecca Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Rhydychen. Yna, mynychodd Brifysgol Harvard i ymgymryd ysgoloriaeth Harlech ym 1993.

Mae ugain mlynedd o brofiad gyda Rebecca mewn uwch swyddi ar draws Whitehall. Ar ôl dechrau ei gyrfa yn y sector bancio, ymunodd â Thrysorlys EM ym 1994. Yn ystod ei hamser yno, roedd Rebecca yn gyfrifol am arwain ar nifer o bynciau yn cynnwys gwariant ar iechyd a pholisi newid hinsawdd, a chafwyd ei phenodi yn Bennaeth Egni, Amgylchedd ac Amaethyddiaeth yn 2007.

Yn 2010, symudodd Rebecca i weithio i adran gwrthderfysgaeth-yn gyntaf fel Cyfarwyddwr y Swyddfa Diogelwch a Gwrthderfysgaeth yn y Swyddfa Gartref, ac yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Terfysgaeth a Materion Cysylltiedig i Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu.

Ymunodd Rebecca â Swyddfa Blismona a Throsedd Maer Llundain (MOPAC) yn 2013, yn gyntaf fel eu Cyfarwyddwr Strategaeth cyn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr yn 2016. Roedd hi'n gyfrifol am oruchwylio Gwasanaeth Metropolitan yr Heddlu, comisiynu gwasanaethau i atal troseddu, cefnogi dioddefwyr a lleihau troseddu ac i arwain partneriaethau i ymatebi newidiadau troseddau yn Llundain, er enghraifft sefydlu Uned Lleihau Trais Llundain y cyntaf ym 2018 - dod âg arbenigwyr gyda’i gilydd o sefydliadau iechyd, yr heddlu, llywodraeth leol, y gwasanaeth prawf a chyrff cymunedol i daclo troseddau trais a’i achosion.

Mark Hammond profile photoMae Mark wedi cael gyrfa helaeth yn y sector cyhoeddus, gan wasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac fel Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Gorllewin Sussex. Mae hefyd wedi cael amrediad o swyddi yn y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys Ysgrifennydd Preifat i'r Ysgrifennydd Parhaol yn Adran yr Amgylchedd.

Mae Mark yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Y tu allan i'r CPS, ar hyn o bryd mae'n gwneud rôl Athro Gwadd mewn Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Christ Church Caergaint a rôl uwch gymrawd yng Nghanolfan Astudiaethau Ewropeaidd y Brifysgol. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ac yn aelod o'r Bwrdd Cynghori'r Sector Cyhoeddus ar gyfer Penna plc.

Simon Jeffreys, Cyfarwyddyr AnweirthredolSimon Jeffreys oedd cyn Brif Swyddog Gweithredu a Prif Swyddog Ariannol The Wellcome Trust, roedd hefyd yn Brif Swyddog Gweinyddol yn Fidelity International.  Am rhan fwyaf o'i fywyd proffesiynol, roedd yn uwch bartner archwilio yn PwC, yn arwain arferion Rheoli Buddsoddi a Ystâd Real y cwmni byd-eang.

Simon yw Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y CPS. Y tu allan i'r CPS mae'n cadeirio byrddau Aon UK ac Ymddiriedolaeth Incwm Rhyngwladol Henderson.

Hyfforddodd Subo fel gwyddonydd ymchwil, gan gwblhau ei PhD mewn Imiwnoleg Glinigol yng Ngholeg Imperial Llundain. Mae wedi bod mewn rolau uwch weithredol yn y sectorau cyhoeddus ac nid-er-elw yn ogystal ag mewn menter gymdeithasol ac mae'n dod â phrofiad rheoli ac arwain o adeilad gyrfa 25 mlynedd a thrawsnewid sefydliadau.

Mae Subo wedi bod yn Ymddiriedolwr tair elusen sy'n gweithio ym maes datblygu ac addysg ryngwladol ac ar hyn o bryd mae'n Ymddiriedolwr Amnest Rhyngwladol y DU. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ambiwlans Arfordir y De-ddwyrain a Bromley Healthcare CIC gan ddefnyddio ei chefndir clinigol ac addysg i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal brys, brys a chymunedol.

Mae'n uwch hyfforddwr a mentor arweinyddiaeth hyfforddedig ac wedi bod yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch am 21 mlynedd.

Mae Kathryn wedi treulio dros 40 mlynedd o'i gyrfa mewn gwasanaeth cyhoeddus. Yn 2007 dyfarnwyd OBE iddi am wasanaethau i bobl ag anableddau dysgu tra'n Brif Weithredwr elusen genedlaethol Voice UK.

Fe'i penodwyd yn Gomisiynydd y Dioddefwyr a'r Goroeswyr yng Ngogledd Iwerddon yn 2012, ac fe roddodd lais i ddioddefwyr y Trafferthion a goruchwylio'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau am eu cefnogaeth.

Yn 2014, daeth yn Gomisiynydd ar ran Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, gyda chyfrifoldeb am saith heddlu yng nghanolbarth Lloegr a'r Gogledd.

Yn 2016, dechreuodd Kathryn rôl Prif Ombwdsmon Cyfreithiol Cymru a Lloegr.

Ers Ionawr 2018 Kathryn yw Comisiynydd Safonau y Senedd, un o swyddogion annibynnol Tŷ'r Cyffredin. Ym mis Medi 2022 cafodd Kathryn ei phenodi yn Gadeirydd Bwrdd Safonau'r Bar.

Rôl y Cyfarwyddwyr Anweithredol yw darparu safbwynt allanol, herio a chynghori ar faterion a gyfeirir i'r Bwrdd.

Dawn Brodrick - Prif Swyddog Pobl

Cyn ymuno â'r CPS treuliodd Dawn bum mlynedd fel Prif Swyddfa Pobl yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty King's College.

Cyn hynny, bu'n Gyfarwyddwr Pobl yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ac mae wedi bod mewn amrywiaeth o rolau uwch yn Adran Cyllid a Thollau EM a'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Dechreuodd Dawn ei gyrfa ar reng flaen y DWP a bu'n gweithio mewn rolau gweithredol ar draws Llundain, gan gynnwys rheoli ac arwain gweithrediadau Canolfan Waith.

Mae ganddi radd meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol Strategol ac mae'n Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). Yn 2015, derbyniodd Dawn CB yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i'r sector cyhoeddus.


Steve Buckingham - Prif Swyddog Cyllid

Steve yw Prif Swyddog Cyllid (CFO) Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) sy'n ymgymryd â swydd ym mis Mai 2021.

Mae'n aelod o Grŵp Gweithredol CPS (EG) ac yn Gadeirydd Pwyllgor Buddsoddi CPS (IC) ac mae hefyd yn aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio'r Llynges Frenhinol (RN).   

Mae Steve wedi dal uwch swyddi ariannol a masnachol ar draws y llywodraeth yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Comisiwn Cynnal a Chadw Plant a Gorfodi a Swyddi a Mwy.

Dechreuodd Steve ei yrfa yn gweithio i'r BT Group Plc lle cymhwysodd fel Cyfrifydd Rheoli Byd-eang Siartredig.


Mark Gray - Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth

Ymunodd Mark â'r CPS yn 2016 ac mae'n arwain y Gyfarwyddiaeth Ddigidol a Gwybodaeth. Fel Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth, Mark yw'r aelod o'r grŵp gweithredol sy'n gyfrifol am holl dechnoleg, trawsnewid digidol, diogelwch, a rheoli gwybodaeth y sefydliad.

Ef hefyd yw Pencampwr LHDT+ CPS. Yn 2018, enwyd Mark fel un o'r pump arweinydd TG gorau yn llywodraeth y DU gan CIO UK.

Dechreuodd Mark ei yrfa fel ymgynghorydd strategaeth i Deloitte, gan gynghori sefydliadau mewn amrywiaeth o sectorau ar heriau strategol sy'n amrywio o ehangu rhyngwladol i arbed costau. Yna treuliodd bum mlynedd ym Manc Barclays, lle arweiniodd y rhaglen lwyddiannus yn fwyaf diweddar i ddigidoleiddio morgeisi manwerthu.


Sue Hemming - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Phrif Weithredwr Dros Dro

Ymunodd Sue â'r CPS yn 1988 ac mae wedi dal amrywiaeth o rolau arwain cyfreithiol mewn Ardal, gwaith achos arbenigol a'r Pencadlys.

Yn 2005 fe'i penodwyd yn Bennaeth cyntaf yr Is-adran Gwrthderfysgaeth, a ffurfiodd yr Is-adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth (SCCTD) yn 2011. Roedd hyn yn cynnwys datblygu'r Hawl i Ddioddefwyr Adolygu o fewn yr Uned Apeliadau ac Adolygu ac arwain ymateb y CPS i ddigwyddiadau terfysgol a diogelwch cenedlaethol a thrychinebau cenedlaethol.

Cafodd Sue ei phenodi'n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol ym mis Awst 2018 ac mae'n gyfrifol am Ardaloedd CPS yn Ne'r wlad a SCCTD. Hi yw arweinydd DLS ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched, gwaith a phrotestiadau sy'n gysylltiedig â dioddefwyr. Fel yr SRO ar gyfer treisio a cham-drin domestig, mae Sue yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr polisi a'r heddlu i wella'r ymateb CJS i'r troseddau erchyll hyn.


Sandra McKay - Cyfarwyddwr Cyfathrebu

Mae gan Sandra brofiad helaeth o weithio ym maes cyfathrebu ar lefel uwch ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a NGO.

Dechreuodd ei gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth, gan weithio fel tafarnwr i artistiaid byd-eang cyn symud i Whitehall, lle treuliodd dros ddegawd yn arwain cyfathrebu ar faterion yn cynnwys gwrthderfysgaeth, twyll a rheoleiddio'r cyfryngau.

Cyn ymuno â'r CPS yn 2015, roedd Sandra yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Ewropeaidd ar gyfer sefydliad ymgyrchu ac eiriolaeth oedd yn gweithio i fynd i'r afael â thlodi eithafol.

 


Gregor McGill - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol

Cymhwysodd Gregor McGill fel cyfreithiwr yn 1987. Yn 2002, ymunodd Gregor ag HM Customs & Excise fel uwch gyfreithiwr.

Yn 2006, penodwyd Gregor yn Bennaeth yr Is-adran Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn Swyddfa Erlyn Cyllid a Thollau (RCPO).

Yn 2009, penodwyd Gregor yn Bennaeth yr Adran Erlyn Twyll ac yn 2010 fel Cyfarwyddwr Cyfreithiol yn CPS Llundain.

Penodwyd Gregor yn Bennaeth yr Is-adran Troseddau Cyfundrefnol yn y CPS ym mis Awst 2012 a bu'n gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol. Dechreuodd Gregor ei rôl fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y CPS ym mis Ionawr 2016.

 


Grace Ononiwu - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol

Cafodd Grace Ononiwu ei phenodi'n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron ym mis Ebrill 2021. Cymhwysodd Grace fel cyfreithiwr ym 1991 ac ymunodd â chwmni preifat o gyfreithwyr sy'n ymarfer cyfraith droseddol.

Ymunodd â'r CPS fel Erlynydd y Goron a daliodd nifer o swyddi, a arweiniodd at ei phenodi'n Brif Erlynydd y Goron Swydd Northampton ym mis Ebrill 2005, gan wneud iddi'r Caribî Affricanaidd cyntaf i gael ei phenodi'n Brif Erlynydd y Goron yn hanes y CPS.

Yn 2012, fe'i penodwyd yn Brif Erlynydd y Goron ar gyfer Rhanbarth Dwyrain Lloegr, ac yn 2014 fe'i penodwyd yn Brif Erlynydd y Goron yn Rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, gan ei gwneud y fenyw gyntaf a'r person Du cyntaf i ddal y ddwy swydd. Yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2019, dyfarnwyd Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig i Grace am wasanaethau i Gyfraith a Threfn.


Baljit Ubhey - Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi

Ymunodd Baljit Ubhey â Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) fel hyfforddai cyfreithiol yn 1992 gan gymhwyso'n ddiweddarach fel erlynydd yn Llundain. Ers hynny mae Baljit wedi cael llawer o rolau gan gynnwys Prif Erlynydd y Goron CPS Llundain.

Ym mis Ionawr 2017, penodwyd Baljit yn Gyfarwyddwr Polisi a Chynhwysiant Erlyn, gan arwain tîm polisi o fewn cyfarwyddiaeth gweithrediadau'r CPS tra'n arwain ar gydraddoldeb a chynhwysiant ar draws y gwasanaeth. Ym mis Medi 2019 daeth Baljit yn Gyfarwyddwr y Strategaeth a'r Gyfarwyddiaeth Polisi.

Yn ogystal â'i gyrfa gyda'r CPS, mae Baljit wedi dal nifer o rolau allanol megis cyfarwyddwr anweithredol ar gyfer BARTS ac Ysbyty Brenhinol Llundain ac mae wedi gweithio gyda nifer o elusennau.

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn gyfrifol am sicrhau bod Bwrdd Gwasanaeth Erlyn y Goron a Swyddogion Cyfrifyddu yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt o ran rheoli risg, yr amgylchedd rheoli, cywirdeb y datganiadau ariannol ac elfennau eraill o'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon. Caiff y Pwyllgor ei gadeirio gan Aelod Anweithredol o'r Bwrdd (NEBM). Mae NEBM a dau aelod annibynnol arall yn ymuno ag ef. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn.

Aelodau presennol y Pwyllgor:

  • Simon Jeffreys (Cadeirydd)
  • Mark Hammond (Aelod Anweithredol o'r Bwrdd)
  • Michael Dunn
  • Deborah Harris FCA

Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Michael Dunn

Photo of Michael WebbAr hyn o bryd mae Michael yn Gyfarwyddwr Anweithredol, Cadeirydd Archwilio ac Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol London & Continental Railways Limited (LCR Properties) sy'n gweithio rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddatblygu prosiectau tai ag elfennau trafnidiaeth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol y Grŵp Tai Storm. Cyn hynny, bu'n gwasanaethu fel Cadeirydd Anweithredol ac Archwilio a Risg ar fwrdd Metropolitan Thames Valley Housing Association ac fel Cadeirydd Anweithredol Metworks.

Yn Gyfrifydd Siartredig ag uwch brofiad cyllid a risg mewn eiddo, adeiladu, trysorlys, busnesau rheoledig a chysylltiadau buddsoddwyr, roedd gynt yn Brif Swyddog Ariannol yr arbenigwr adfywio St Modwen Properties plc ac ddarparwr gwasanaeth cymorth May Gurney Integrated Services plc.

Ymunodd Michael â Phwyllgor Archwilio a Risg Gwasanaeth Erlyn y Goron ym mis Tachwedd 2021.

Deborah Harris FCA

Deborah HarrisMae Deborah yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ac yn aelod anweithredol profiadol.

Y tu allan i’r CPS, mae Deborah yn Gyfarwyddwr a Chadeirydd Pwyllgor Risg ac Archwilio ar gyfer Trinity Laban Conservatoire of Music & Dance ac yn Ymddiriedolwr ac yn Gadeirydd Pwyllgor Risg, Archwilio a Chydymffurfiaeth Cymdeithas y Plant, elusen genedlaethol.

Deborah hefyd yw Cadeirydd sefydlu’r rhwydwaith grymuso menywod Lean In UK ac ar hyn o bryd mae’n Ddirprwy Lywydd Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig Llundain, ac yn aelod o Gyngor yr ICAEW.

Mae'r Pwyllgor Enwebiadau, Arweinyddiaeth a Chydnabyddiaeth (NLRC) yn gyfrifol am gynghori Bwrdd y CPS ar elfennau allweddol effeithiolrwydd sy'n gysylltiedig â diwylliant sefydliadol a strategaethau arweinyddiaeth, gan gynnwys sicrhau bod systemau cadarn ar waith i nodi a datblygu uwch arweinwyr o gronfeydd talent amrywiol, tynnu llun. sefydlu cynlluniau gweithlu ac olyniaeth priodol a chraffu ar strwythurau cymhelliant. Mae aelodaeth NLRC yn cynnwys y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, y Prif Weithredwr a dau Aelod Anweithredol o'r Bwrdd, gyda'r Prif Swyddog Pobl yn fynychwr gofynnol. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.

Aelodau presennol y Pwyllgor

  • Max Hill KC (DPP)
  • Rebecca Lawrence (Prif Weithredwr)
  • Monica Burch (Aelod o'r Bwrdd Anweithredol Arweiniol)

Mae'r Bwrdd Strategol Gweinidogol (MSB) yn Fwrdd ar y cyd rhwng Swyddfa Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Twrnai Cyffredinol. Fe'i ffurfiwyd ym mis Mawrth 2019 fel rhan o Fframwaith Gwasanaeth Erlyn y Goron/Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol. Diweddarwyd y Fframwaith ym mis Rhagfyr 2020. Nod trosfwaol MSB yw goruchwylio cyfeiriad strategol Gwasanaeth Erlyn y Goron a dwyn y Gwasanaeth i gyfrif o ran cyflawni ei amcanion strategol. Caiff yr MSB ei gadeirio gan y Twrnai Cyffredinol. Mae'r aelodau'n cynnwys y Cyfreithiwr Cyffredinol, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Prif Weithredwr Gwasanaeth Erlyn y Goron, Aelod o Fwrdd Anweithredol Arweiniol Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol. Maent yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn. Gellir gweld cofnodion y cyfarfod hwn ar wefan Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol.


Is-adrannau Gwaith Achos Arbenigol ac Enillion Troseddau y CPS

Mae ein Hadrannau Gwaith Achos Canolog yn delio â rhai o'r achosion mwyaf cymhleth yr ydym yn eu herlyn. Maent yn gweithio'n agos ag ymchwilwyr arbenigol o amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, Cyllid a Thollau EM a Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, yn ogystal â heddluoedd ledled Cymru a Lloegr.

Yr adrannau arbenigol, pob un dan arweiniad Pennaeth Adran (sy'n cyfateb i Brif Erlynydd y Goron), yw:

Eich CPS lleol

Mae'r CPS yn gweithredu ar draws Cymru a Lloegr, gyda 14 tîm rhanbarthol yn erlyn achosion yn lleol.
Arweinir pob un o'r 14 Ardaloedd hyn o'r CPS gan Brif Erlynydd y Goron, ac maen nhw'n gweithio'n agos gyda heddluoedd lleol a phartneriaid cyfiawnder troseddol eraill.

Darganfyddwch bwy yw pwy yn eich ardal, a darllen mwy am achosion lleol.

Gwybodaeth am eich Ardal

Scroll to top