Adborth a chwynion
Rydyn ni eisiau gwybod pan na fydd ein gwasanaeth yn cyrraedd y safon rydych chi'n ei ddisgwyl er mwyn i ni allu datrys pethau, gwella pethau a dysgu o'r profiad.
Mae delio â chwynion yn rhan bwysig o'r gwasanaeth cyhoeddus rydyn ni'n ei ddarparu. Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf a gwneud pethau’n iawn. Os hoffech chi roi adborth neu gwyno am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, hoffem glywed gennych chi.
Darllenwch ein Cyfarwyddyd Adborth a Chwynion (PDF, 171kb). Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ein system adborth a chwynion. Mae'n egluro sut gallwch chi roi adborth i ni ar ein gwasanaethau - yn negyddol ac yn gadarnhaol, neu gwyno os ydych chi'n anfodlon â'r gwasanaeth rydyn ni wedi ei ddarparu. Mae Cyfarwyddyd Adborth a Chwynion ar gael yn Gymraeg hefyd (PDF, 171kb).
Sefydliadau eraill
Os oes gennych chi gŵyn am y gwasanaeth gawsoch chi gan yr heddlu neu adrannau eraill y llywodraeth, dylech gysylltu â nhw'n uniongyrchol.
Rwyf eisiau rhoi adborth neu wneud cwyn
Defnyddiwch ein gwefan i wneud cwyn ffurfiol neu i roi adborth
Cyfarwyddyd ar adborth a chwynion
Darllenwch y canllawiau ar Adborth a Chwynion yn Gymraeg.
Civil Proceedings Against The CPS
This page sets out the procedure for initiating civil proceedings against the CPS.
Beth yw cwyn?
Mae cwyn yn ffordd i unigolyn, neu ei gynrychiolydd, fynegi ei fod yn anfodlon ar unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth os oedd y mater dan sylw wedi effeithio arno’n uniongyrchol.
Gall cwynion fod yn rhai:
- Cyfreithiol - Cwynion sy'n ymwneud â phenderfyniadau cyfreithiol a wneir gan Wasanaeth Erlyn y Goron
- Gwasanaeth - Cwynion sy'n ymwneud â'r ffordd rydym wedi ymddwyn
- Cymysg - Mae'r rhain yn gwynion sy'n cynnwys materion cyfreithiol a gwasanaethau
Pwy sy’n cael gwneud cwyn?
Gallwch chi gyflwyno cwyn neu gall rywun rydych chi wedi'i enwebu gyflwyno cwyn ar eich rhan megis:
- Aelod o'r teulu neu ffrind
- Grŵp cymorth
- Cyfreithiwr neu weithiwr proffesiynol arall
Os byddwch chi'n enwebu rhywun i gwyno ar eich rhan, bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig i'r unigolyn hwnnw weithredu ar eich rhan.
Pwy sydd ddim yn cael gwneud cwyn?
Chewch chi ddim defnyddio trefn gwyno y CPS i wneud cwyn:
- Os ydych chi’n ddiffynnydd a'ch bod chi eisiau i achos yn eich erbyn gael ei ollwng
- Os ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd a'ch bod chi eisiau apelio yn erbyn eich euogfarn a/neu ddedfryd. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.
- Os ydych chi’n ddioddefwr a’ch bod eisiau defnyddio eich hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad y CPS i beidio â dwyn cyhuddiadau yn erbyn rhywun sy'n cael ei amau, terfynu achos neu gynnig dim tystiolaeth mewn achos. Ewch i Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.
Faint o amser sydd gennyf i wneud cwyn?
Dim ond os cyflwynir cwynion o fewn chwe mis i'r mater dan sylw y bydd y CPS yn ystyried y gŵyn. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd cwynion a gyflwynir y tu allan i'r cyfnod hwn yn cael eu hystyried, er enghraifft os oedd dros chwe mis wedi pasio cyn i chi gael gwybod am y mater.
Sut mae cwyno
Mae sawl ffordd o gwyno:
- Drwy ein gwefan: Gallwch wneud cwyn drwy ein gwefan, naill ai fel yr unigolyn a oedd yn rhan o'r digwyddiadau, neu ar ran rhywun arall. Dyma'r dull mwyaf effeithlon ar gyfer cyflwyno eich cwyn.
- Dros y ffôn: Os ydych chi eisiau cwyno, mae’n syniad da siarad yn gyntaf â'ch swyddfa Ardal CPS leol neu'r aelod o staff dan sylw. Byddant yn ceisio datrys y mater ar unwaith. Mae rhifau ffôn holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.
- Drwy anfon e-bost: Mae cyfeiriadau e-bost holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.
- Drwy’r post: Gallwch gyflwyno cwyn yn ysgrifenedig. Mae cyfeiriadau post holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.
Adborth
Rydym yn croesawu adborth - boed hwnnw'n gadarnhaol neu’n negyddol - ar ein polisïau, gweithdrefnau, gwasanaethau a pherfformiad. Rydym yn croesawu eich barn am eich profiad o ddelio â ni neu eich barn am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth.
Sut mae rhoi adborth?
Gall unrhyw un roi adborth i’r CPS, ac nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud hynny. Bydd yr holl adborth yn cael ei gydnabod, ei gofnodi a'i ddadansoddi er mwyn nodi gwelliannau i ddatblygu ein gwasanaethau.
Os yw'n bosibl ac yn briodol gwneud hynny, darperir ymateb.
Gallwch roi adborth yn y ffyrdd canlynol:
- Drwy ein gwefan: Gallwch roi adborth drwy ein gwefan. Dyma'r ffordd fwyaf effeithlon o ddarparu adborth.
- Dros y ffôn: Gellir darparu adborth dros y ffôn. Mae rhifau ffôn holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.
- Drwy anfon e-bost: Mae cyfeiriadau e-bost holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.
- Drwy’r post: Gellir darparu adborth yn ysgrifenedig. Mae cyfeiriadau post holl ardaloedd y CPS ar gael ar ein gwefan.
CPS Contact Scheme Privacy Notice
Safonau Delio â Chwynion ac Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae’r safonau hyn yn nodi’r meincnodau ansawdd rydym yn ymdrechu i’w cyflawni wrth erlyn troseddau dros y cyhoedd.
Asesydd Annibynnol Cwynion (IAC)
Mae'r Asesydd yn gweithredu'n annibynnol ar y CPS, ac mae'n gyfrifol am ddelio â chwynion gan aelodau o'r cyhoedd yng nghyswllt ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y CPS, ynghyd ag ymchwilio i’r cwynion hynny, ac ydy’r corff wedi glynu wrth ei weithdrefn gwynion sydd wedi ei chyhoeddi.