Skip to main content

Accessibility controls

Text size
Contrast
Select language
Main content area

Gwybodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion

Yn aml, mae bod yn ddioddefwr neu’n dyst i drosedd yn gallu bod yn anodd ac efallai nad ydych yn gwybod llawer am y system cyfiawnder troseddol. Byddwn yn trin pob dioddefwr a phob tyst â pharch a dealltwriaeth drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.

O roi gwybod am y trosedd i ddedfrydu, rydym yn egluro yma beth sy’n digwydd, beth yw rôl Gwasanaeth Erlyn y Goron a beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni.

Gwybodaeth i ddioddefwyr

Mae gennym ddau ganllaw ar gyfer dioddefwyr troseddau: un ar gyfer dioddefwyr y rhan fwyaf o’r troseddau yr ydym yn delio â nhw, ac un ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol difrifol. Dewiswch y canllaw priodol i chi.

Llun o ystafell lys ynadon

Canllawiau i ddioddefwyr troseddau

Os ydych chi wedi dioddef trosedd, mae ein canllaw i ddioddefwyr yn egluro beth yw eich hawliau a beth sy’n digwydd pan fydd achos yn dod gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Canllaw i ddioddefwyr - Beth sy’n digwydd pan fydd achos yn dod i sylw Gwasanae…
Graffeg dioddefwr yn rhoi tystiolaeth o du ôl i sgrin

Canllaw i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol

Os ydych chi wedi dioddef trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol, mae cymorth ychwanegol ar gael i'ch helpu drwy'r system cyfiawnder troseddol. Mae ein canllaw i ddioddefwyr yn egluro beth yw eich hawliau a beth sy’n digwydd pan fydd achos yn dod gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Canllaw i ddioddefwyr trais ac ymosodiad rhywiol difrifol - Beth sy’n digwydd p…

Gwybodaeth i dystion

Os ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd ac wedi rhoi datganiad i'r heddlu, mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn esbonio pa gymorth sydd ar gael a beth y gallwch ei ddisgwyl ym mhob cam o'r broses cyfiawnder troseddol.

Rhoi datganiad

Datganiad tyst yw eich adroddiad chi o’r hyn a ddigwyddodd.

Bydd yr heddlu’n gofyn cwestiynau i chi ac yn ysgrifennu beth rydych chi wedi’i ddweud. Gofynnir i chi ei ddarllen a’i lofnodi gyda’ch enw. Pan fyddwch yn llofnodi datganiad tyst, rydych yn dweud eich bod yn cytuno bod y datganiad yn gofnod cywir o’ch profiad.

Mewn rhai achosion, gall yr heddlu recordio cyfweliad fideo gyda chi yn lle hynny os byddai hyn yn eich helpu i roi eich tystiolaeth.

Dylech gysylltu â’r heddlu os ydych chi’n cofio rhywbeth nad yw wedi’i gynnwys eisoes yn eich datganiad neu’ch cyfweliad gwreiddiol. 

Yr ymchwiliad

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am drosedd i’r heddlu, byddant yn cynnal ymchwiliad. Mae hyn yn golygu y byddant yn chwilio am yr holl wybodaeth y gallant ei chael i ddeall beth ddigwyddodd.

Gan ddibynnu ar gymhlethdod yr achos, gallai ymchwiliad yr heddlu gymryd peth amser. Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol eu hymchwiliad.

Mewn rhai achosion mwy cymhleth, gallwn gynnig ‘cyngor cynnar’ i’r heddlu. Mae hyn yn golygu, os byddant yn gofyn am gyngor gennym, ein bod yn gweithio gyda nhw cyn gynted â phosibl i’w cynghori ynghylch pa fath o dystiolaeth i chwilio amdani i’w helpu i adeiladu’r achos. Mae gweithio gyda’n gilydd yn ein helpu i adeiladu achosion cryf mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl.

Y penderfyniad i fynd ag achos i’r llys

Ar gyfer troseddau llai difrifol: Unwaith y bydd yr heddlu wedi cwblhau eu hymchwiliad byddant yn penderfynu a ydynt yn cyhuddo’r sawl a amheuir o drosedd ai peidio.

Ar gyfer troseddau mwy difrifol: Unwaith y bydd yr heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, byddant yn trosglwyddo’r achos i Wasanaeth Erlyn y Goron ac yn gofyn i ni adolygu’r dystiolaeth ac ystyried a allwn erlyn. Os nad oes ganddynt ddigon o dystiolaeth, ni fyddant yn anfon yr achos atom. Mae troseddau mwy difrifol yn cynnwys pob achos o drosedd casineb, cam-drin domestig neu unrhyw droseddau sydd â dedfryd o fwy na 6 mis yn y carchar.

Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron

Er mwyn penderfynu a ddylid cyhuddo’r sawl a amheuir ai peidio, bydd yr heddlu neu'r erlynydd yn defnyddio’r prawf dau gam a nodir yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Y cam cyntaf yw’r ‘cam tystiolaeth’. Yn y cam hwn, bydd ein herlynydd yn adolygu’r holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr heddlu ac yn gofyn y cwestiwn ‘A oes digon o dystiolaeth yn erbyn yr unigolyn a amheuir i roi siawns realistig y caiff ei ddyfarnu’n euog?’ Mae hynny’n golygu, ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth, a yw llys yn fwy tebygol na pheidio o gael y diffynnydd yn euog?

I ateb y cwestiwn hwn, rhaid iddynt ystyried a yw’r dystiolaeth y gallant ei defnyddio yn y llys yn ddibynadwy ac yn gredadwy ac a oes unrhyw ddeunydd arall a allai danseilio’r dystiolaeth honno.
Mae’r prawf hwn yn wahanol i’r prawf y mae’r llys yn ei ddefnyddio yn y treial. Pan fydd achos yn cyrraedd treial, rhaid i’r ynadon neu’r rheithgor fod yn siŵr bod diffynnydd yn euog er mwyn ei gael yn euog. Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, does dim rhaid i ni fod yn siŵr bod rhywun yn euog i fwrw ymlaen â’r achos – a dweud y gwir, nid ydym yn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch a yw rhywun yn euog ai peidio.

Os na fydd yr achos yn pasio’r cam cyntaf hwn, ni allwn symud ymlaen i’r cam nesaf, ni waeth pa mor ddifrifol neu sensitif y gallai’r achos fod.

Yr ail gam yw’r ‘prawf budd y cyhoedd’. Ar hyn o bryd, rydym yn gofyn y cwestiwn ‘A yw erlyn er budd y cyhoedd?’.

I ateb y cwestiwn hwn, rhaid i ni ystyried pethau fel difrifoldeb y drosedd, y niwed a achoswyd i’r dioddefwr, yr effaith ar gymunedau ac oedran ac aeddfedrwydd yr unigolyn a amheuir adeg y drosedd.  
 Bydd erlyniad yn mynd yn ei flaen oni bai fod erlynydd yn penderfynu bod ffactorau sy’n ymwneud â budd y cyhoedd yn erbyn erlyniad yn drech na’r rhai sydd o blaid erlyn.

Ar ôl i chi roi gwybod i’r heddlu, bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd, gan gynnwys a oes rhywun wedi cael ei gyhuddo, a fydd yr achos yn mynd i dreial ac a fydd angen i chi roi tystiolaeth.

Mynd i'r llys

Gall llysoedd ynadon wrando achosion lle maent yn penderfynu y byddai uchafswm dedfryd o 12 mis yn y carchar yn ddigonol pe bai’r diffynnydd yn cael ei ddyfarnu’n euog. Mae pob achos yn dechrau yn y llys ynadon a chynhelir y rhan fwyaf o dreialon yno.

Mewn llysoedd ynadon, gwneir penderfyniadau naill ai gan banel o ynadon (aelodau gwirfoddol o’r cyhoedd gyda chefnogaeth cynghorydd cyfreithiol) neu gan Farnwr Rhanbarth (gweithiwr proffesiynol cyfreithiol).

Os yw achos yn rhy ddifrifol i’w glywed mewn llys ynadon, bydd yr ynadon yn ei anfon i Lys y Goron.
Mae achosion Llys y Goron yn cael eu clywed gan farnwr a rheithgor. Bydd y barnwr yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut y dylai’r treial gael ei gynnal ac yn penderfynu ar unrhyw gwestiynau cyfreithiol (er enghraifft, a oes modd defnyddio mathau penodol o dystiolaeth). Bydd y rheithgor yn penderfynu a yw’r diffynnydd yn euog ai peidio. Y rheithgor yw 12 aelod o’r cyhoedd a ddewisir ar hap o’r rhestr etholiadol.

Ni fydd eich achos yn mynd i dreial os bydd y diffynnydd yn pledio’n euog.

Os bydd y diffynnydd yn pledio’n ddieuog a chithau wedi gwneud datganiad tyst i’r heddlu, efallai y cewch eich galw i roi tystiolaeth.

Os oes angen i chi roi tystiolaeth, gallwch chi gael cymorth gan y Gwasanaeth Tystion. Cyngor ar Bopeth sy’n rhedeg y gwasanaeth. Maent wedi’u lleoli yn y llys a gallant gynnig gwybodaeth a chefnogaeth cyn ac yn ystod y treial.

Cymorth i roi eich tystiolaeth – Mesurau arbennig

Mae mesurau arbennig yn bethau y gallwn eu rhoi ar waith i’ch helpu i roi eich tystiolaeth orau. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudualen mesurau arbennig am y mesurau sydd ar gael ac a ydych chi'n gymwys.

Costau

Gwasanaeth Erlyn y Goron sy’n gyfrifol am dalu lwfansau a threuliau i dystion a elwir i roi tystiolaeth mewn erlyniadau a gynhelir gan Wasanaeth Erlyn y Goron. Gall hyn gynnwys arian tuag at gostau teithio, colli enillion, prydau bwyd a lluniaeth, a chostau gofal plant. Byddwn yn rhoi ffurflen hawlio i chi pan fyddwch yn dod i’r llys.

Bydd y swm y gallwch ei hawlio yn cael ei phennu gan y Twrnai Cyffredinol, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y symiau sydd ar gael a sut i wneud hawliad ar ein tudalen treuliau.

Siarter Tystion

Mae'r Siarter Tystion  yn nodi pa wybodaeth a chymorth y dylai tystion eu disgwyl gan yr asiantaethau cyfiawnder troseddol, gan gynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r llysoedd.

Ar ôl y treial

Ar ôl y treial, bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad eich achos. 
Os ceir y diffynnydd:

  • Yn ddieuog: mae hyn yn golygu na ellid profi’r cyhuddiad yn erbyn y diffynnydd y tu hwnt i amheuaeth resymol.
  • Yn euog: bydd yr ynadon neu’r barnwr yn defnyddio’r wybodaeth honno i benderfynu pa ddedfryd y bydd y diffynnydd yn ei derbyn yn unol â’r canllawiau dedfrydu ar gyfer y drosedd y mae wedi’i gael yn euog ohoni. Caiff y canllawiau dedfrydu eu gosod gan y Cyngor Dedfrydu yn unol â’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr.
Dedfryd rhy drugarog

Mewn rhai mathau o achosion, gan gynnwys trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol, mae gan unrhyw un hawl i ofyn am adolygu dedfryd diffynnydd os ydynt yn meddwl ei bod yn rhy drugarog (afresymol o isel). Os byddwn yn credu bod dedfryd yn rhy drugarog, byddwn yn argymell y dylid ei hadolygu.

Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, sy’n un o adrannau’r llywodraeth, sy’n gyfrifol am adolygu’r achosion hyn. Mae angen i’r sawl sydd eisiau i’r ddedfryd gael ei hadolygu gysylltu â Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol cyn gynted ag y bo modd (cyn 5pm 28 diwrnod calendr ar ôl dedfrydu fan bellaf).

Os bydd Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol yn cytuno bod y ddedfryd yn afresymol o fyr (rhy drugarog) byddant yn cyfeirio’r achos at y Llys Apêl. Yna bydd y Llys Apêl yn penderfynu a ddylid clywed yr achos ai peidio. Os byddant yn clywed yr achos, byddant yn penderfynu a ydynt am gadw’r ddedfryd yr un fath neu ei chynyddu.

Gallwch ddarllen rhagor am apelio yn erbyn dedfrydau afresymol o isel ar wefan y twrnai cyffredinol.

Apeliadau

Os ceir y diffynnydd yn ‘euog’, gall apelio yn erbyn ei euogfarn – mae hyn yn golygu ei fod yn gofyn iddo gael ei wrthdroi am nad yw’n credu y dylai fod wedi’i gael yn ‘euog’.

Gall hefyd apelio yn erbyn difrifoldeb ei ddedfryd. Mae hyn yn golygu nad yw’n herio’r ffaith ei fod wedi cael ei ganfod yn ‘euog’ ond ei fod yn credu bod y gosb a roddwyd iddo yn rhy llym.

Mae gan ddiffynyddion sydd wedi’u cael yn euog ar ôl treial yn y llys ynadon hawl awtomatig i apelio, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Os bydd diffynnydd yn apelio, bydd barnwr a phanel o ynadon yn gwrando eto ar yr achos unwaith eto yn Llys y Goron. Weithiau, bydd hyn yn golygu y bydd gofyn i chi roi tystiolaeth eto. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr heddlu’n esbonio hyn i chi.

Er mwyn apelio ar ôl treial yn Llys y Goron, mae angen i ddiffynnydd gael ‘sail’ dros apelio. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo gael rheswm cyfreithiol pam ei fod yn meddwl bod y rheithfarn yn anghywir. Er enghraifft, os yw’n dweud nad oedd y barnwr wedi cynnal y treial mewn ffordd deg neu wedi gwneud camgymeriadau cyfreithiol.  Os yw diffynnydd am apelio, mae angen i farnwr o’r Llys Apêl gytuno bod ganddo ‘seiliau’ i apelio.

Os caniateir i ddiffynnydd apelio, anfonir ei achos i’r Llys Apêl, a fydd yn gallu cadarnhau’r euogfarn, gwrthdroi’r euogfarn fel y ceir y diffynnydd yn ddieuog neu wrthdroi’r euogfarn a gorchymyn bod treial newydd yn cael ei gynnal.

Gwneud cwyn

Dylech gael eich trin â pharch a dealltwriaeth drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol. Os ydych yn teimlo bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi eich siomi, defnyddiwch ein ffurflen gwyno i ddweud wrthym am eich profiad er mwn i ni allu cywiro pethau.

Scroll to top