Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Canllaw i ddioddefwyr trais ac ymosodiad rhywiol difrifol - Beth sy’n digwydd pan fydd achos yn dod i sylw Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae trais rhywiol yn drosedd, ni waeth pwy sy’n ei gyflawni na ble mae’n digwydd. 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr trais rhywiol. Mae’r canllaw hwn yn egluro beth y gallwch ei ddisgwyl gan y system cyfiawnder troseddol os byddwch yn penderfynu rhoi gwybod i’r heddlu am yr hyn sydd wedi digwydd. Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i bob un sydd wedi dioddef trais rhywiol – gan gynnwys menywod a merched a dynion a bechgyn. 

Os oes angen help arnoch mewn argyfwng, ffoniwch 999. 

Nodyn am dermau

Rydym wedi defnyddio’r gair dioddefwr drwy’r canllaw hwn. Pan fyddwn yn sôn am droseddu yn gyffredinol, rydym yn defnyddio’r gair dioddefwr i olygu rhywun y cyflawnwyd trosedd yn ei erbyn neu'r achwynydd mewn achos a ystyrir neu a erlynir gan y CPS. Mae hyn yn gyson â’r termau a ddefnyddir mewn dogfennau eraill fel y Cod Dioddefwyr. 

Pan fyddwn yn gweithio ar achos penodol, byddwn fel arfer yn defnyddio’r geiriau yr ‘achwynydd’ neu’r ‘tyst’ yn dibynnu ar y cyd-destun. Y rheswm am hyn yw, pan fydd achos yn dod drwy’r broses cyfiawnder troseddol, nid yw bob amser wedi’i brofi bod trosedd wedi digwydd. Achwynydd yw’r term cyfreithiol am rywun sydd wedi rhoi gwybod am drosedd, ond nad yw hyn wedi’i brofi yn y llys eto. 

Scroll to top