Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘euog’ i’r cyhuddiadau i gyd, gall y barnwr naill ai ddedfrydu’r diffynnydd ar unwaith neu gall ohirio’r gwrandawiad dedfrydu i ofyn am ragor o wybodaeth i’w helpu i benderfynu beth ddylai’r ddedfryd fod.
Gall hyn gynnwys adroddiad ‘cyn-dedfrydu’, a ysgrifennir gan y gwasanaeth prawf, sy’n darparu asesiad annibynnol o’r troseddwr a’r risgiau a berir ganddo.
Byddwn hefyd yn rhoi eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ i’r llys os ydych wedi ysgrifennu un. Bydd yr heddlu’n gofyn i chi a hoffech chi ysgrifennu un yn ystod yr ymchwiliad – dyma eich cyfle chi i egluro sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi.
Os hoffech ddarllen eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ yn uchel i’r llys, yna gallwn wneud cais i’r llys i chi gael gwneud hyn. Fel arall, bydd yr erlynydd yn ei ddarllen i’r llys ar eich rhan. Os byddwch yn darllen eich ‘datganiad personol dioddefwr’ i’r llys eich hun, mae gennych hawl i gael mesurau arbennig i wneud hynny.
Yna bydd y barnwr yn defnyddio’r wybodaeth honno i benderfynu pa ddedfryd y bydd y diffynnydd yn ei derbyn yn unol â’r canllawiau dedfrydu ar gyfer y drosedd y mae wedi’i gael yn euog ohoni.
Pennir canllawiau dedfrydu gan y cyngor dedfrydu yn unol â chyfraith y DU. Gallwch ddarllen rhagor am ddedfrydu ar eu gwefan.