Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Ar ôl y treial - apeliadau

Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am unrhyw apeliadau yn yr achos. Bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw apeliadau. 

Os cafwyd y diffynnydd yn ‘ddieuog’, ni allwn apelio yn erbyn y dyfarniad. Y rheswm am hyn yw nad yw’r gyfraith yn rhoi’r hawl i ni apelio yn erbyn penderfyniad y rheithgor. 

Mewn amgylchiadau prin iawn, efallai y bydd modd i ni ofyn i’r llys ddileu’r rhyddfarn a gofyn am ail dreial os bydd yr heddlu’n dod o hyd i dystiolaeth ‘newydd a chryf’ nad oedd ar gael adeg y treial gwreiddiol. Fodd bynnag, mae’r achosion hyn yn brin iawn gan fod safon y dystiolaeth sydd ei hangen i orchymyn ail dreial yn uchel iawn.

Os yw’r diffynnydd yn dymuno apelio yn erbyn ei euogfarn neu ei ddedfryd

Os ceir y diffynnydd yn ‘euog’, gall apelio yn erbyn ei euogfarn – mae hyn yn golygu ei fod yn gofyn iddo gael ei wrthdroi am nad yw’n credu y dylai fod wedi’i gael yn ‘euog’.

Gall hefyd apelio yn erbyn difrifoldeb ei ddedfryd. Mae hyn yn golygu nad yw’n herio’r ffaith ei fod wedi cael ei ganfod yn ‘euog’ ond ei fod yn credu bod y gosb a roddwyd iddo yn rhy llym.

I wneud apêl, mae angen i ddiffynnydd fod â ‘seiliau’ dros apelio. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo gael rheswm cyfreithiol pam ei fod yn meddwl bod y rheithfarn yn anghywir. Er enghraifft, os yw’n dweud nad oedd y barnwr wedi cynnal y treial mewn ffordd deg neu wedi gwneud camgymeriadau cyfreithiol. Os yw diffynnydd am apelio, mae angen i farnwr o’r Llys Apêl gytuno bod ganddo ‘seiliau’ i apelio.

Os caniateir i ddiffynnydd apelio, anfonir ei achos i’r Llys Apêl, a fydd yn gallu cadarnhau’r euogfarn, gwrthdroi’r euogfarn fel y ceir y diffynnydd yn ddieuog neu wrthdroi’r euogfarn a gorchymyn bod treial newydd yn cael ei gynnal.

Apelio yn erbyn dedfryd sy’n rhy fyr (dedfrydau rhy drugarog)

Mewn rhai mathau o achosion, gan gynnwys trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol, mae gan unrhyw un hawl i ofyn am adolygu dedfryd diffynnydd os ydynt yn meddwl ei bod yn rhy drugarog (afresymol o isel). Os byddwn yn credu bod dedfryd yn rhy drugarog, byddwn yn argymell y dylid ei hadolygu.

Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, sy’n un o adrannau’r llywodraeth, sy’n gyfrifol am adolygu’r achosion hyn. Mae angen i’r sawl sydd am apelio yn erbyn y ddedfryd gysylltu â Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol cyn gynted ag y bo modd (cyn 5pm 28 diwrnod calendr ar ôl dedfrydu fan bellaf).

Os bydd Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol yn cytuno bod y ddedfryd yn rhy fyr (rhy drugarog) byddant yn anfon yr achos i’r Llys Apêl. Yna bydd y Llys Apêl yn penderfynu a ddylid clywed yr achos ai peidio. Os byddant yn clywed yr achos, byddant yn penderfynu a ydynt am gadw’r ddedfryd yr un fath neu ei chynyddu.

Gallwch ddarllen rhagor am apelio yn erbyn dedfrydau afresymol o isel ar gov.uk.

Scroll to top