Skip to main content

Sut rydym yn penderfynu beth i’w wneud yn eich achos chi

Pan fydd yr heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, byddant yn trosglwyddo’r achos i Wasanaeth Erlyn y Goron. Byddwn yn adolygu’r dystiolaeth ac yn ystyried a allwn erlyn. 

Os nad yw’r heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, ni fyddant yn trosglwyddo’r achos i ni ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y sawl dan amheuaeth. 

Os bydd hynny’n digwydd, bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn esbonio pam, pa gymorth sydd ar gael i’ch helpu ac a oes unrhyw gamau eraill y gallant eu cymryd yn erbyn yr unigolyn dan amheuaeth.  Os bydd yr heddlu’n penderfynu peidio ag anfon eich achos atom, gallwch ofyn i’r heddlu adolygu’r penderfyniad hwnnw – gelwir hyn yn Hawl Dioddefwr i Adolygiad. Gall eich cyswllt yn yr heddlu roi gwybod i chi sut i wneud hyn. 

Mae’r adran hon yn egluro beth fydd yn digwydd pan fydd yr heddlu’n anfon yr achos atom, gan gynnwys sut rydym yn penderfynu beth i’w wneud ym mhob achos, beth fydd yn digwydd nesaf os penderfynwn gyhuddo rhywun a amheuir a beth yw eich hawliau os penderfynwn beidio â chyhuddo’r unigolyn a amheuir.