Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Ar ôl i ddiffynnydd gael ei gyhuddo – Y gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon

 

Ceir gwahanol fathau o lysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae pob achos troseddol yn dechrau gyda gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon.

Mewn llysoedd ynadon, gwneir penderfyniadau naill ai gan banel o ynadon neu gan farnwr rhanbarth.

Mae ynadon yn wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant i ymgymryd â’r rôl hon ond nid ydynt yn weithwyr cyfreithiol proffesiynol. Fe’u cefnogir gan gynghorydd cyfreithiol sy’n gyfreithiwr neu fargyfreithiwr hyfforddedig a’i rôl yw darparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i’r ynadon.

Mae barnwyr rhanbarth yn weithwyr cyfreithiol proffesiynol hyfforddedig a fydd wedi ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr cyn dod yn farnwr.

Defnyddir y gwrandawiad cyntaf weithiau i benderfynu a ddylai achos aros yn y llys ynadon neu a ddylid ei anfon i Lys y Goron. Mae achosion o dreisio ac ymosodiad rhywiol difrifol mor ddifrifol fel y bydd y llys ynadon bob amser yn eu hanfon i Lys y Goron i’w clywed gerbron rheithgor.

Bydd achosion trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol sy’n ymwneud â diffynyddion dan 18 oed (nad ydynt wedi’u cyhuddo ar y cyd ag oedolyn) yn cael eu hanfon yn gyntaf i’r llys ieuenctid yn hytrach na’r llys ynadon. Bydd yr ynadon neu’r Barnwr Rhanbarth yn y llys ieuenctid wedyn yn penderfynu a ddylai’r achos aros yno neu a ddylid ei anfon i Lys y Goron. Fel arfer, bydd yr achosion hyn yn aros yn y llys ieuenctid gan fod rheolau gwahanol ar gyfer achosion sy’n cynnwys troseddwyr ifanc.

Mechnïaeth

Yn y gwrandawiad cyntaf, bydd y llys ynadon yn penderfynu a ddylid rhyddhau’r diffynnydd ar fechnïaeth.

Ystyr mechnïaeth yw pan benderfynir nad oes angen cadw’r diffynnydd yn y carchar cyn y treial. Os caiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, mae’n dal yn ofynnol iddo ddod i’r llys ar bob cam o’r broses ond ni fydd yn cael ei gadw yn y carchar rhwng gwrandawiadau.

Os na chaiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa (yn y carchar) tan y treial.

Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron a thwrnai’r amddiffyniad yn cyflwyno dadleuon i’r llys ynghylch a ddylid caniatáu mechnïaeth i’r diffynnydd. Mater i’r llys wedyn fydd gwneud y penderfyniad hwn.

Os caiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, bydd y llys yn aml yn nodi rhai amodau y mae’n rhaid i’r diffynnydd eu bodloni er mwyn cael caniatâd i aros ar fechnïaeth. Bydd yr heddlu’n esbonio i chi a oes unrhyw amodau y mae’n rhaid i’r diffynnydd eu dilyn a beth maen nhw’n ei olygu’n ymarferol. Gallai amodau mechnïaeth gynnwys pethau fel y diffynnydd yn ildio’i basbort neu’n cael gorchymyn i beidio â chysylltu â chi neu fynd i’r ardal lle rydych chi’n byw.

Os bydd diffynnydd yn torri unrhyw un o’r amodau hyn, efallai y caiff ei gadw yn y ddalfa (ei anfon i garchar) cyn y treial. Os oes gennych unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu bod diffynnydd wedi torri un o’r amodau hyn neu os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl, dylech gysylltu â’r heddlu cyn gynted ag y bo modd.

Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yn y gwrandawiad hwn.

I ddiffynnydd sy’n oedolyn, y cam nesaf yw gwrandawiad cyntaf yr achos yn Llys y Goron.

Scroll to top