Canllaw i Ddioddefwyr - Cymorth i roi ‘Mesurau Arbennig’ i’ch tystiolaeth
1. Beth yw Mesurau Arbennig a phwy all ofyn amdanynt?
2. Mesurau Arbennig sy'n newid sut a ble rydych chi'n rhoi eich tystiolaeth
3. Mesurau Arbennig sy'n cynnig cefnogaeth ychwanegol wrth i chi roi eich tystiolaeth
4. Sut mae gofyn am Fesurau Arbennig yn gweithio?
Ar ôl i chi wylio'r fideos, gallwch hefyd ddarllen y canllawiau isod.
Bydd penderfynu a ydych chi eisiau mesurau arbennig, a pha rai sy'n iawn i chi, yn wahanol i bawb. Does dim penderfyniad cywir nac anghywir.
Mae Fideo Un yn edrych ar beth yw mesurau arbennig, a phwy all ofyn amdanynt.
Nid yw Mesurau Arbennig ar gael i bawb. Gallwch ofyn am fesurau arbennig os ydych chi'n cael eich adnabod yn gyfreithiol fel rhywun sy'n agored i niwed neu dan fygythiad.
I gyd-fynd ag ystyr cyfreithiol agored i niwed, fe fyddech:
- O dan 18 oed ar adeg yr achos;
- Neu fod gennych anghenion corfforol neu feddyliol a allai effeithio arnoch chi rhag rhoi eich tystiolaeth orau pe na bai gennych fesurau arbennig.
I gyd-fynd ag ystyr cyfreithiol dan fygythiad fe fyddech:
- Yn teimlo'n ofnus neu'n ofidus iawn mewn ffordd a fydd yn effeithio arnoch chi wrth roi eich tystiolaeth orau, os na fuasai gennych chi fesurau arbennig;
- Yn ddioddefwr trosedd rhywiol neu gam-drin domestig;
- Yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern;
- Neu wedi gweld trosedd yn ymwneud â gwn neu gyllell.
Bydd y swyddog heddlu yn eich achos yn trafod mesurau arbennig gyda chi i ddeall a allai fod yn gymwys i ofyn amdanynt. Dylech ddweud wrthyn nhw os ydych chi'n meddwl y dylech chi gael eich dosbarthu fel tyst agored i niwed neu dan fygythiad.
Wrth fynd drwy'r broses cyfiawnder troseddol, mae gan ddioddefwyr ddeuddeg hawl. Fe'u nodir yn y Cod Dioddefwyr.
Mae Fideo Dau yn edrych ar y mesurau arbennig sy'n newid sut, pryd neu ble rydych chi'n rhoi eich tystiolaeth, fel eich bod chi ym mhob enghraifft yn rhoi eich tystiolaeth mewn man gwahanol i brif ystafell y llys.
Mae tri mesur yn cael eu trafod yn fideo dau:
- rhoi tystiolaeth drwy gyswllt byw,
- tystiolaeth flaenaf wedi'i recordio ar fideo, a
- croesholi wedi'i recordio ymlaen llaw (dim ond ar gael mewn achosion Llys y Goron).
Fel arfer, mae rhoi tystiolaeth yn golygu y byddai'r dioddefwr, neu'r tyst, yn mynd i mewn i'r llys ar ddiwrnod yr achos. Maen nhw'n sefyll mewn blwch tystion ac yn dweud wrth y llys beth ddigwyddodd - rydyn ni'n galw hynny'n roi tystiolaeth flaenaf.
Yna gofynnir cwestiynau iddyn nhw gan gyfreithwyr yr amddiffyniad a'r erlyniad – rydyn ni’n galw hynny'n groesholi ac ailholi.
Gall y diffynnydd eu gweld nhw, a gallant nhw weld y diffynnydd. Efallai bydd pobl (fel newyddiadurwyr, aelodau o'r cyhoedd, neu ffrindiau a theulu) yn gwylio.
Tystiolaeth drwy gyswllt byw
Mae rhoi tystiolaeth drwy gyswllt byw yn newid o ble rydych chi'n rhoi eich tystiolaeth, fel y gallwch chi ddweud wrth y llys beth ddigwyddodd ac ateb cwestiynau'r cyfreithwyr o ystafell arall, i ffwrdd o'r prif lys.
Fel arfer, cyswllt teledu o ystafell breifat o fewn prif adeilad y llys yw hwn. Weithiau gallwch roi tystiolaeth o leoliad arall fel llys gwahanol yn agosach at eich cartref, ystafell wedi'i chynllunio'n arbennig mewn gorsaf heddlu, neu ganolfan sy'n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr.
Os byddwch chi'n rhoi tystiolaeth drwy gyswllt byw, byddwch chi'n gallu gweld pwy bynnag sy'n gofyn y cwestiynau i chi (y cyfreithiwr neu'r barnwr) ond fel arfer ni fyddwch chi'n gallu gweld unrhyw un arall yn yr ystafell llys.
Fodd bynnag, bydd pawb yn yr ystafell llys yn gallu eich gweld chi, gan gynnwys y diffynnydd.
Gallwn wneud cais am sgriniau ynghyd â'r ddolen fyw i atal y diffynnydd rhag eich gweld, os byddai hynny'n ddefnyddiol i chi.
Gall unrhyw un sy'n 'agored i niwed neu dan fygythiad' yn gyfreithiol ofyn am ddefnyddio cyswllt byw.
Tystiolaeth flaenaf wedi'i recordio ar fideo
Mae tystiolaeth flaenaf wedi'i recordio ar fideo yn newid sut rydych chi'n rhoi eich prif dystiolaeth i'r llys.
Yn lle dod i mewn i'r llys a dweud wrth y llys beth ddigwyddodd, caiff eich datganiad tyst ei recordio ar fideo gan yr heddlu cyn yr achos. Caiff ei chwarae yn ôl i'r llys yn ystod yr achos fel nad oes angen i chi ailadrodd holl fanylion y drosedd yn y llys.
Ar ôl i'ch tystiolaeth flaenaf wedi'i recordio ar fideo gael ei chwarae i'r llys, bydd cyfreithiwr yr erlyniad yn dal i ofyn cwestiynau ychwanegol i chi i egluro unrhyw faterion, a bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad yn eich croesholi (gofyn cwestiynau i chi am eich tystiolaeth) yn ystod yr achos.
Weithiau efallai y byddwch chi'n clywed pobl yn galw hyn yn 'VRI' sy'n golygu 'Cyfweliad wedi'i Recordio ar Fideo', neu 'ABE' sy'n golygu cyfweliad 'Cyflawni'r Dystiolaeth Orau’.
Gall unrhyw un sy'n 'agored i niwed neu dan fygythiad' yn gyfreithiol ofyn am recordio eu tystiolaeth ar fideo.
Croesholi neu ail-holi wedi'i recordio ar fideo
Dim ond os yw eich achos yn Llys y Goron y mae'r mesur arbennig hwn ar gael.
Os yw cyfweliad wedi'i recordio ar fideo yn cael ei chwarae i'r llys fel eich prif dystiolaeth, gallwn hefyd ofyn i'r barnwr a allwn recordio eich croesholi, a'ch ail-holi, ar fideo cyn i'r prif achos ddigwydd.
‘Croesholi’ yw pan fydd cyfreithiwr y diffynnydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich stori ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd. ‘Ail-holi’ yw’r hyn a alwn ni’n unrhyw gwestiynau dilynol terfynol y mae cyfreithiwr yr erlyniad yn eu gofyn i chi.
Gyda'r mesur arbennig hwn, yn lle eich bod yn ateb cwestiynau'r cyfreithiwr yn ystod y prif achos llys, rydych chi'n mynd i wrandawiad llys arall, byrrach. Rydych chi'n ateb cwestiynau'r cyfreithwyr drwy gyswllt byw, naill ai o ystafell wahanol yn y llys, neu weithiau adeilad hollol wahanol.
Mae'r barnwr, y cyfreithwyr, a'r diffynnydd yno, ond fel arfer nid yn yr un ystafell â chi. A does dim rheithgor.
Caiff y gwrandawiad llys byrrach hwn ei ffilmio. Yn ystod y prif achos llys, bydd y llys yn gwylio eich cyfweliad wedi'i recordio ar fideo yn gyntaf fel eich prif dystiolaeth, ac yna byddant yn gwylio'r fideo o'ch croesholi.
Mae hynny'n golygu efallai na fydd yn rhaid i chi fynychu'r prif achos o gwbl, oherwydd bydd eich tystiolaeth flaenaf a'ch croesholi wedi'u recordio ar fideo yn cael eu chwarae i'r llys yn lle hynny.
Weithiau gelwir y mesur arbennig hwn yn “adran 28”, oherwydd y darn o gyfraith y mae’n dod ohono.
Gallwch ddarllen mwy am groesholi ac ailholi yn yr adran Canllaw i Ddioddefwyr, ‘Yr hyn a ofynnir i chi.’
Mae croesholi wedi'i recordio ar fideo ar gael i bob dioddefwr a thyst sy'n agored i niwed yn gyfreithiol.
Mae hefyd ar gael i ddioddefwyr treisio neu ymosodiad rhywiol a chaethwasiaeth fodern.
Mae pum mesur arbennig pellach a all eich helpu i roi tystiolaeth yn ystod yr achos llys.
Gellir defnyddio'r mesurau arbennig hyn ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â'r mesurau eraill.
Mae'r tri cyntaf ar gael i ddioddefwyr a thystion agored i niwed a rhai dan fygythiad, a’r ddau olaf i ddioddefwyr a thystion agored i niwed yn unig.
Sgriniau (ar gael i ddioddefwyr a thystion agored i niwed a rhai dan fygythiad)
Mae sgriniau fel arfer yn golygu llenni neu baneli y mae'r llys yn eu gosod rhwng y blwch tystion a'r diffynnydd pan fyddwch chi'n rhoi tystiolaeth. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi'n gweld y diffynnydd wrth i chi roi eich tystiolaeth neu pan fyddwch chi'n cael eich croesholi. Gall y barnwr, y rheithgor a'r bargyfreithwyr eich gweld chi a gallwch chi eu gweld nhw.
Yn y rhan fwyaf o lysoedd, ni ddylai'r bobl eraill yn ystafell y llys allu eich gweld os oes gennych sgrin. Efallai nad yw hyn yn wir ym mhob llys. Gallwch siarad â rhywun o'r Gwasanaeth Tystion i gael gwybod mwy am gynllun y llys y byddwch yn mynd iddo.
Tystiolaeth a roddir yn breifat (ar gael i ddioddefwyr a thystion agored i niwed a rhai dan fygythiad)
Mae hyn yn golygu bod yr ystafell llys yn cael ei glirio o bawb nad oes angen iddynt fod yno yn gyfreithiol at ddibenion yr achos llys.
Os yw'n debygol y bydd eich achos yn denu sylw'r cyfryngau, caniateir i un aelod o'r wasg aros yn y llys. Fodd bynnag, fel gyda phob cam o'r achos, mae gennych chi anhysbysrwydd llwyr, ac ni chaniateir iddynt gyhoeddi eich enw.
Tynnu wigiau a gynau gan y barnwr a’r bargyfreithwyr (ar gael i ddioddefwyr a thystion agored i niwed a rhai dan fygythiad)
Defnyddir hyn fel arfer ar gyfer plant sy'n ddioddefwyr ac yn dystion. Nod hyn yw eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus drwy wneud i'r llys ymddangos yn llai ffurfiol.
Mae dau fesur arbennig sydd ar gael i ddioddefwyr a thystion agored i niwed yn unig:
Cyfryngwyr
Cyfryngwyr yw pobl a all eich cefnogi os oes angen help arnoch i ddeall ac ateb y cwestiynau a ofynnir i chi yn llawn. Bydd cyfryngwr yn gwirio bod y cwestiynau'n cael eu gofyn mewn ffordd sy'n golygu y gallwch eu deall yn hawdd. Byddant yn eich helpu i rannu eich atebion yn glir gyda'r llys. Gallant hefyd ofyn i chi gael seibiannau wrth roi tystiolaeth, os oes eu hangen arnoch.
Gallai cyfryngwr fod o gymorth i blentyn neu berson ifanc. Gallai cyfryngwr hefyd fod o gymorth i unrhyw un sydd ag anawsterau cyfathrebu – er enghraifft os ydyn nhw'n niwrowahanol neu os oes ganddyn nhw anabledd neu gyflwr iechyd meddwl.
Cymhorthion i Gyfathrebu
Gall cymhorthion cyfathrebu gynnwys pethau fel byrddau cymorth gweledol, meddalwedd llygadrythu, doliau neu luniadau amlinell corff, byrddau cyfathrebu, neu dechnoleg gyfathrebu arbennig.
Gallwch ddefnyddio’r rhain os oes gennych anabledd sy’n golygu bod angen cymorth arnoch i’ch cynorthwyo i ddeall neu ateb. Gallant hefyd helpu plant a phobl ifanc i gyfathrebu â’r llys.
Mae Fideo Pedwar yn esbonio sut mae gofyn am fesurau arbennig yn gweithio. Mae'n broses ffurfiol, ac mae yna ychydig o gamau a sefydliadau sy'n gysylltiedig.
Cam un: penderfynu pa fesurau arbennig rydych chi am ofyn amdanynt
Pan fydd trosedd yn cael ei riportio, bydd yr heddlu'n cynnal 'asesiad anghenion dioddefwr'. Mae hyn yn golygu y byddant yn siarad â chi am gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, gan gynnwys unrhyw fesurau arbennig.
Os ydych chi'n agored i niwed yn gyfreithiol neu dan fygythiad, bydd yr heddlu, neu rywun o uned gofal tystion yr heddlu, yn egluro beth yw mesurau arbennig a sut maen nhw'n gweithio, gan ateb eich cwestiynau. Gyda'ch gilydd, byddwch chi'n penderfynu beth ydych chi am ofyn amdano neu a ydych chi eisiau unrhyw fesurau arbennig o gwbl.
Dylech esbonio i'ch swyddog heddlu, neu swyddog gofal tystion, pam eich bod chi'n credu y bydd y mesurau arbennig rydych chi'n gofyn amdanynt yn eich helpu i roi eich tystiolaeth.
Peidiwch â phoeni os bydd eich anghenion yn newid ar ôl i chi siarad â'r heddlu – rhowch wybod iddyn nhw os bydd hynny’n digwydd.
Cam dau: gwneud cais
Mae'r heddlu'n rhoi gwybod i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) pa fesurau arbennig rydych chi am ofyn amdanynt. Yna rydym yn gwneud cais ffurfiol i'r barnwr neu'r ynadon am y mesurau rydych chi wedi gofyn amdanynt. Mae'n helpu os gallwn esbonio pam rydych chi'n benodol eisiau'r mesurau arbennig rydych chi'n gofyn amdanynt.
Mae angen i ni wneud y cais cyn gynted â phosibl. Mae'n digwydd mewn gwrandawiad llys byr, a chewch wybod amdano, ond does dim rhaid i chi fod yn y llys ar ei gyfer.
Efallai y byddwch yn newid eich meddwl ynglŷn â pha fesurau arbennig rydych chi eu heisiau yn ddiweddarach. Os byddwch yn newid eich meddwl, byddwn yn gofyn i'r barnwr neu'r ynadon eto, hyd yn oed os yw'n agos at (neu ar ddiwrnod) yr achos llys.
Fodd bynnag, mae'n well yn gyffredinol os gofynnwn yn gynharach, fel bod gennym ddigon o amser i ddweud wrth y barnwr neu'r ynadon bopeth sydd angen iddynt ei wybod. Mae hyn yn arbennig o wir am groesholiad wedi'i recordio ymlaen llaw, oherwydd ei fod yn digwydd cyn y prif achos ac felly'n cymryd mwy o amser i'w drefnu.
Cam tri: y penderfyniad
Y barnwr neu'r ynadon sy'n penderfynu a allwch chi gael mesurau arbennig ai peidio.
Yn gyntaf, bydd y barnwr neu'r ynadon yn gwirio a allwch ofyn am fesurau arbennig - os ydych chi'n "agored i niwed" neu "dan fygythiad" yn gyfreithiol.
Os ydych chi, bydd y barnwr neu'r ynad yn ystyried a yw'r mesurau arbennig rydych chi wedi gofyn amdanynt yn debygol o'ch helpu i roi eich tystiolaeth orau, ac a all y cyfreithwyr barhau i ofyn unrhyw gwestiynau sydd eu hangen arnynt am eich tystiolaeth, er mwyn sicrhau ei fod yn achos teg i bawb. Mae angen iddyn nhw hefyd fod yn siŵr eich bod chi wedi deall popeth rydych chi'n gofyn amdano.
Os yw'r barnwr yn teimlo y bydd y mesurau arbennig rydych chi wedi gofyn amdanynt yn eich helpu i roi eich tystiolaeth orau, ac yn deg i bawb, byddant yn cytuno i chi eu cael.
Os nad yw'r barnwr neu'r ynad yn credu y bydd mesur arbennig yn eich helpu i roi eich tystiolaeth orau, efallai y byddant yn cytuno i un gwahanol yn lle hynny, neu efallai y byddant yn dweud na ellir defnyddio unrhyw fesurau arbennig.
Rydyn ni'n gwybod y gallai hynny fod yn siomedig. Mae'n rhaid i'r barnwr neu'r ynad gydbwyso'ch anghenion â'ch tystiolaeth ag â thegwch yr achos, fel bod y penderfyniad maen nhw'n ei wneud yn un cywir ar gyfer yr achos. Hyd yn oed os na chewch chi'r mesurau arbennig rydych chi eu heisiau, bydd y barnwr neu'r ynad yn dal i sicrhau eich bod chi'n cael eich trin yn deg ac â pharch.
Cymorth ar gael i bawb
Os nad oes mesurau arbennig ar gael i chi, mae pethau eraill a all eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus wrth roi eich tystiolaeth.
Mae'r gefnogaeth hon yn cynnwys 'addasiadau rhesymol' yn y llys, ar gyfer pobl ag anableddau sydd angen cefnogaeth, neu rywbeth gwahanol a ddarperir i'w helpu. Mae rhai enghreifftiau o addasiadau rhesymol yn cynnwys pethau fel dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), canllawiau mewn fformatau amgen gan gynnwys Sain a Darllen Hawdd, a ffurflenni mewn print bras.
Mae mathau eraill o gefnogaeth yn cynnwys cymryd seibiannau pan fyddwch chi'n rhoi tystiolaeth, trefnu camau i osgoi gweld y diffynnydd yn yr adeilad, neu ystyried eich cyfrifoldebau gofalu lle bo modd, wrth drefnu amseroedd a dyddiadau gwrandawiadau llys.
Gall pob dioddefwr a thyst hefyd drefnu i ymweld â'r llys cyn yr achos llys. Mae hyn yn gadael i chi weld sut olwg fydd ar roi tystiolaeth, gan gynnwys unrhyw fesurau arbennig a allai fod gennych, ar y diwrnod. Gallwch ddarllen am ymweliadau â'r llys yn ein canllaw i ddioddefwyr 'beth sydd angen i chi ei wneud cyn yr achos llys'.
Siaradwch â'r heddlu neu'r Gwasanaeth Tystion os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch. Gallwch hefyd ymweld â gwefan y Gwasanaeth Tystion.