Mewn rhai achosion, bydd yr heddlu’n gofyn am gael edrych ar eich dyfeisiau digidol, fel eich ffôn symudol, gliniadur neu gyfrifiadur tabled, fel rhan o’u hymchwiliad. Er enghraifft, efallai y bydd negeseuon neu luniau ar eich dyfais a all helpu i brofi dyddiadau, amseroedd neu rannau pwysig eraill o’r achos. Gall y deunydd hwn ein helpu i lunio’r achos cryfaf posibl.
Cyn gofyn am eich dyfais, bydd yr heddlu bob amser yn ystyried a oes ffordd arall o gasglu’r dystiolaeth, er enghraifft drwy edrych ar ddyfais yr unigolyn dan amheuaeth. Mewn llawer o achosion, bydd yr heddlu’n trafod hyn â ni a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr mai dim ond pan fydd hynny’n gyfreithiol angenrheidiol y byddwn yn gofyn am gael edrych ar eich dyfeisiau.
Os oes angen casglu tystiolaeth o’ch dyfais, bydd yr heddlu’n gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd a fydd yn esbonio pam mae angen eich dyfais arnynt, beth y byddant yn chwilio amdano (a beth na fyddant) ar eich dyfais a phwysigrwydd y dystiolaeth hon i’r ymchwiliad. Byddant hefyd yn egluro’r effaith bosibl ar erlyniad os na fyddwch yn rhoi eich dyfais iddynt.
Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r achos y bydd yr heddlu’n edrych arni. Mae pob achos yn wahanol, a bydd y penderfyniad ynghylch beth sy’n berthnasol yn dibynnu ar y ffeithiau unigryw yn eich achos.
Pan fo’n bosibl, bydd yr heddlu’n ystyried a ydynt yn gallu tynnu sgrinluniau yn hytrach na chadw gafael ar eich dyfeisiau a byddant bob amser yn ceisio eu dychwelyd atoch cyn gynted â phosibl. Os bydd angen i’r heddlu ddal gafael ar eich ffôn am gyfnod, gallant gynnig dyfais arall i chi yn y cyfamser. Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael unrhyw eiddo a gymerwyd fel tystiolaeth yn ôl cyn gynted ag y bo modd.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut byddwn ni’n defnyddio'r dystiolaeth a gesglir oddi ar eich dyfais, gallwch ofyn i’ch cyswllt yn yr heddlu a bydd yn fodlon ateb eich cwestiynau.