Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Cymorth i roi eich tystiolaeth – ‘mesurau arbennig’

Pan fydd achos yn mynd i dreial, gofynnir i chi roi tystiolaeth fel arfer.  Mae hyn yn golygu disgrifio’r hyn a ddigwyddodd i chi yn eich geiriau eich hun ac ateb cwestiynau amdano gan fargyfreithiwr yr erlyniad a chan fargyfreithiwr yr amddiffyniad.  

Gall hyn fod yn frawychus ond mae pethau y gallwn ofyn amdanynt i’ch helpu i deimlo’n fwy cyfforddus pan fyddwch yn rhoi eich tystiolaeth – ‘mesurau arbennig’ yw’r enw ar y rhain. 

Gellir eu rhoi ar waith ar gyfer sut rydych yn rhoi eich tystiolaeth yn y treial neu weithiau gallant olygu eich bod yn rhoi eich holl dystiolaeth cyn i’r treial ddigwydd.  Byddwn yn gwneud cais am y mesurau hyn ar eich rhan a bydd y barnwr yn penderfynu a ddylid eu caniatáu ai peidio.

Mae mesurau arbennig ar gael i’ch cefnogi os bydd eu hangen arnoch ond does dim rhaid i chi ofyn amdanynt os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.

Pwy sy’n gallu cael gafael ar y cymorth hwn

Gall dioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed ac sy’n cael eu bygwth ofyn am fesurau arbennig.  

Byddwch yn cael eich ystyried yn dyst agored i niwed:

  • os ydych chi o dan 18 oed

neu

  • os oes gennych anabledd neu gyflwr corfforol neu feddyliol a fyddai’n effeithio ar eich gallu i roi eich tystiolaeth orau yn y llys. (Gallai hyn gynnwys anawsterau dysgu neu anawsterau gweithredu cymdeithasol.)

Byddwch yn cael eich ystyried yn dyst dan fygythiad:

  • Os ydych yn ofnus neu’n ofidus ynghylch rhoi tystiolaeth ac mae hyn yn debygol o effeithio ar eich gallu i roi eich tystiolaeth orau yn y llys.
  • Os ydych chi’n ddioddefwr trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol
  • Os ydych chi’n ddioddefwr caethwasiaeth fodern
  • Os ydych chi’n ddioddefwr neu’n dyst i droseddau penodol sy’n ymwneud â gynnau neu gyllyll.

Bydd yr heddwas yn eich achos yn trafod mesurau arbennig gyda chi i ddeall a allech fod yn gymwys i ofyn amdanynt. Dylech ddweud wrthynt os ydych chi’n credu y dylech gael eich ystyried yn dyst agored i niwed neu dan fygythiad.

Pa gymorth sydd ar gael

Mae dau fesur arbennig a all eich helpu i roi rhywfaint neu’r cyfan o’ch tystiolaeth cyn y treial. 

Mae’r rhain ar gael ar hyn o bryd i ddioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed. 

Maent hefyd ar gael i ddioddefwyr trais neu ymosodiadau rhywiol a chaethwasiaeth fodern mewn rhai Llysoedd y Goron. Bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi gwybod i chi os yw ar gael yn eich llys. Rydym yn disgwyl y bydd ar gael ym mhob Llys y Goron erbyn hydref 2022. 

Tystiolaeth gyntaf wedi’i recordio ar fideo

‘Tystiolaeth gyntaf’ yw eich disgrifiad chi o’r hyn a ddigwyddodd i chi. Mae’r mesur arbennig hwn yn caniatáu i ni recordio eich tystiolaeth ar fideo cyn y treial a’i chwarae’n ôl yn ystod y treial fel nad oes angen i chi ailadrodd holl fanylion y drosedd yn y llys.  

Bydd bargyfreithiwr yr erlyniad yn dal i ofyn cwestiynau ychwanegol i chi er mwyn egluro unrhyw faterion a byddwch yn cael eich croesholi (eich holi am eich tystiolaeth) gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad yn ystod y treial. Weithiau, efallai y byddwch yn clywed pobl yn galw hyn yn ‘VRI’ sef ‘Video Recorded Interview’ neu’n gyfweliad ‘ABE’ sef ‘Achieving Best Evidence’.

Croesholi neu ail-holi drwy fideo wedi’i recordio

Mae ‘croesholi’ yn golygu pan fydd bargyfreithiwr y diffynnydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich cyfrif chi o’r hyn a ddigwyddodd ac ‘ail-holi’ yw’r hyn a alwn unrhyw gwestiynau dilynol terfynol y mae bargyfreithiwr yr erlyniad yn eu gofyn i chi. 

Mae’r mesur arbennig hwn yn caniatáu i ni gofnodi eich croesholi a’ch ail-holi cyn y treial.  Ni fyddai’n rhaid i chi fynychu’r treial o gwbl a bydd eich tystiolaeth gyntaf a’ch croesholi wedi’u recordio ar fideo yn cael eu chwarae gerbron y llys yn lle hynny.  Efallai y bydd angen i chi fynd i lys i recordio eich croesholi, ond byddech yn rhoi eich tystiolaeth o ystafell breifat i dystion yn hytrach nag mewn ystafell llys.

Weithiau, efallai y byddwch yn clywed pobl yn galw’r mesur arbennig hwn yn ‘adran 28’, oherwydd dyna’r adran o’r gyfraith ar roi tystiolaeth sy’n egluro hynny. Gallwch ddarllen mwy am groesholi ac ail-holi yn yr adran ‘Beth fydd yn cael ei ofyn i chi?’.

Mae chwe mesur arbennig a all eich helpu i roi tystiolaeth yn ystod y treial. Mae’r pedwar cyntaf ar gael i dystion bregus a thystion dan fygythiad, ac mae'r ddau olaf ond ar gael i ddioddefwyr a thystion agored i niwed.

Sgriniau

Fel arfer, llenni neu baneli yw sgriniau y mae’r llys yn eu gosod rhwng y blwch tystion a’r diffynnydd pan fyddwch yn rhoi tystiolaeth. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gweld y diffynnydd pan fyddwch yn rhoi eich tystiolaeth na phan fyddwch yn cael eich croesholi.  Gall y barnwr, y rheithgor a’r bargyfreithwyr eich gweld chi a gallwch chi eu gweld nhw.

Tystiolaeth drwy gyswllt byw

Fel arfer, cyswllt teledu yw hwn o ystafell breifat ym mhrif adeilad y llys ond weithiau gallwch roi tystiolaeth o leoliad arall fel llys gwahanol yn nes at eich cartref, ystafell bwrpasol mewn gorsaf heddlu.

Os byddwch yn rhoi tystiolaeth drwy gyswllt byw, byddwch yn gallu gweld pwy bynnag sy’n gofyn y cwestiynau i chi (y bargyfreithwyr neu’r barnwr) ond fel arfer, ni fyddwch yn gallu gweld neb arall yn ystafell y llys. Fodd bynnag, bydd pawb yn ystafell y llys yn gallu eich gweld chi, gan gynnwys y diffynnydd.  Gallwn wneud cais am sgriniau ynghyd â’r cyswllt byw i atal y diffynnydd rhag eich gweld, os byddai hynny o gymorth i chi.

Rhoi tystiolaeth yn breifat

Mae hyn yn golygu bod ystafell y llys yn cael ei chlirio o bawb nad oes angen iddynt fod yno yn ôl y gyfraith at ddibenion y treial.  Os yw eich achos yn debygol o ddenu sylw’r cyfryngau, caniateir i un aelod o’r wasg aros yn y llys ond, fel gyda phob cam o’r achos, rydych chi’n cael bod yn gwbl ddienw, ac ni chaniateir iddynt gyhoeddi eich enw.

Y barnwr a’r bargyfreithwyr yn tynnu wigiau a gynau

Defnyddir hwn fel arfer ar gyfer plant sy’n ddioddefwyr a thystion. Nod hyn yw eu helpu i deimlo’n fwy cyfforddus drwy wneud i’r llys ymddangos yn llai ffurfiol.

Dyma ddau fesur arbennig sydd ond ar gael i ddioddefwyr a thystion agored i niwed ar hyn o bryd:

Cyfryngwyr

Mae cyfryngwyr yn bobl sy’n gallu eich cefnogi os oes angen help arnoch i ddeall ac ateb y cwestiynau sy’n cael eu gofyn i chi.  Bydd cyfryngwr yn gwneud yn siŵr bod y cwestiynau’n cael eu gofyn mewn ffordd sy’n golygu eich bod yn gallu eu deall yn rhwydd. Byddant hefyd yn eich helpu i rannu eich atebion yn glir gyda’r llys.

Cymhorthion Cyfathrebu

Gall cymhorthion cyfathrebu gynnwys pethau fel byrddau cymorth gweledol, meddalwedd a reolir â’r llygaid, doliau neu luniadau amlinell o’r corff. Gallwch ddefnyddio’r rhain os oes gennych anabledd sy’n golygu bod angen cymorth arnoch i’ch helpu i ddeall neu ateb cwestiynau.

Sut gallwch chi gael gafael ar y cymorth hwn

Bydd yr heddlu’n siarad â chi am ba fesurau arbennig fyddai’n eich helpu i roi eich tystiolaeth. Gallwch hefyd ofyn iddynt am y peth os hoffech chi ei drafod ar unrhyw adeg.

Byddant yn rhoi gwybod i ni pa fesurau arbennig rydych wedi’u dewis a pham a byddwn yn gwneud cais i’r llys am ganiatâd i’w defnyddio. Byddwn yn esbonio i’r barnwr neu’r ynadon pam rydym yn meddwl y byddai’n eich helpu i roi eich tystiolaeth orau.

Yna bydd y barnwr neu’r ynadon yn penderfynu pa fesurau arbennig i’w cymeradwyo. Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi beth maen nhw wedi’i benderfynu. 

Scroll to top