Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Beth mae angen i chi ei wneud cyn y treial

Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am y treial, proses y treial a’ch rôl chi fel tyst.

Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt yr achos a gallwch ofyn iddynt am yr wybodaeth ddiweddaraf ar unrhyw adeg. Byddant yn rhoi gwybod i chi pa ddyddiad y disgwylir i’r treial ddechrau a pha bryd y mae’n debygol o ddod i ben. Byddant hefyd yn rhoi gwybod i chi a fydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys a pha bryd y bydd angen i chi gyrraedd.

Bydd y llys yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y treial yn dechrau’n brydlon, ond weithiau gellir gohirio dechrau eich treial – er enghraifft os bydd treial arall yn rhedeg yn hwyr mewn ystafell llys. Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch beth sy’n digwydd.

Gwylio eich tystiolaeth fideo wedi’i recordio

Cyn y treial, bydd yr heddlu’n cytuno ar amser gyda chi i chi wylio eich tystiolaeth fideo wedi’i recordio. Mae hyn er mwyn rhoi cyfle i chi roi proc i’ch cof cyn i’r treial ddechrau. Os oes gennych chi Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol, fe all ddod gyda chi os hoffech chi hynny. Gallwch hefyd ddod â ffrind neu aelod o’r teulu gyda chi cyn belled na fyddant yn dyst yn y treial.

Ymweld â’r llys

Gall y Gwasanaeth Tystion drefnu i chi ymweld â’r llys cyn y treial. Yn ystod yr ymweliad, bydd tîm y Gwasanaeth Tystion yn trafod beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod y treial ac yn dangos i chi sut mae’r ystafelloedd llys yn edrych i’ch helpu i deimlo’n fwy cyfforddus ar y diwrnod.

Os ydych chi’n nerfus ynghylch gweld y diffynnydd neu ei ffrindiau neu ei deulu yn y llys ar y diwrnod, rhowch wybod i’r heddlu neu’r Gwasanaeth Tystion. Efallai y bydd yn gallu trefnu i chi fynd i mewn i adeilad y llys drwy fynedfa ochr breifat neu drefnu eich amseroedd cyrraedd fel eich bod chi’n gallu osgoi’r diffynnydd.

Ar ôl i chi ymweld â’r llys, efallai y byddwch am newid unrhyw fesurau arbennig sydd wedi cael eu rhoi ar waith ar eich cyfer. Mae hynny’n iawn – mae hyn yn beth cyffredin iawn. Bydd angen i chi roi gwybod i swyddog yr heddlu pa newidiadau yr hoffech eu gwneud cyn gynted â phosibl. Yna byddwn yn gwneud cais i’r barnwr newid eich trefniadau mesurau arbennig.

Rhowch wybod i’r heddlu os oes angen i chi ddefnyddio tacsi, trên neu awyren i fynd i’r llys neu os ydych chi’n byw mor bell i ffwrdd fel eich bod angen llety dros nos i wneud yn siŵr y gallwch gyrraedd y llys mewn pryd. Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth hon i ni a bydd ein tîm yn trefnu eich teithiau a/neu lety i chi.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gostau teithio is eraill, mae fel arfer yn haws defnyddio ffurflen treuliau tystion y byddwn yn ei rhoi i chi yn y llys. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i hawlio costau teithio yn ôl yn ogystal â gofal plant a cholli enillion hyd at symiau penodol. Mae ein canllawiau ar gael yn canllaw ar ad-dalu costau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am gostau teithio neu dreuliau, rhowch wybod i’ch cyswllt yn yr heddlu.

Scroll to top