Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod gyntaf

Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, ni sy’n gyfrifol am erlyn achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr. Mewn achosion o dreisio neu ymosodiad rhywiol difrifol, mae hyn yn golygu ein bod yn penderfynu pryd y gellir cyhuddo rhywun a amheuir o drosedd ac rydym yn cyflwyno’r achos yn eu herbyn yn y llys.

Eich hawliau fel dioddefwr

 

Mae’r Cod Dioddefwyr a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn egluro’r safon sylfaenol o gymorth y mae’n rhaid i asiantaethau cyfiawnder troseddol ei darparu i ddioddefwyr.

Gellir crynhoi’r safon gofal hon fel 12 hawl:

  1. I allu deall a chael eich deall
  2. I gael cofnodi manylion y drosedd heb oedi digyfiawnhad
  3. I dderbyn gwybodaeth pan ydych yn adrodd wrth yr heddlu am y drosedd
  4. I gael eich atgyfeirio at wasanaethau sy’n cefnogi dioddefwyr a chael gwasanaethau a chefnogaeth wedi eu teilwra i’ch anghenion
  5. I dderbyn gwybodaeth am iawndal
  6. I dderbyn gwybodaeth am yr ymchwiliad a’r erlyniad
  7. I wneud datganiad personol dioddefwr
  8. I dderbyn gwybodaeth am y treial, proses y treial a’ch rôl fel tyst
  9. I dderbyn gwybodaeth am ganlyniad yr achos ac unrhyw apeliadau
  10. I dderbyn treuliau a chael eich eiddo yn ôl
  11. I dderbyn gwybodaeth am y troseddwr yn dilyn euogfarn
  12. I wneud cwyn am Hawliau sydd heb eu diwallu

Cynlluniwyd y canllaw hwn i’n helpu i fodloni eich hawliau drwy eich helpu i’w deall a thrwy ddarparu gwybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ym mhob cam o’r broses cyfiawnder troseddol.

Mae’r Comisiynydd Dioddefwyr hefyd wedi creu taith Dioddefwyr ar ei gwefan sy’n egluro beth sy’n digwydd ar wahanol gamau yn y broses a’ch hawliau dan y Cod Dioddefwyr.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiad

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am drais rhywiol neu ymosodiad rhywiol difrifol i’r heddlu, byddant yn cynnal ymchwiliad. Mae hyn yn golygu y byddant yn chwilio am yr holl dystiolaeth y gallant ei chael i ddeall beth ddigwyddodd.

Bydd yr heddlu’n cofnodi eich disgrifiad o’r hyn a ddigwyddodd. Gall hyn fod ar ffurf datganiad tyst ysgrifenedig ond fel arfer bydd hyn ar ffurf recordiad fideo ohonoch yn dweud beth ddigwyddodd wrth swyddog heddlu sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.

Fel rhan o’u hymchwiliad bydd yr heddlu hefyd yn cymryd datganiadau gan unrhyw un arall a welodd beth ddigwyddodd neu a all ddarparu gwybodaeth i helpu’r ymchwiliad. Mae hyn yn cynnwys cyfweliad gan yr heddlu gyda’r person, neu bobl, yr ydych chi wedi adrodd eu bod wedi eich treisio neu wedi ymosod arnoch chi – ar hyn o bryd, fe’u gelwir yn berson(au) dan amheuaeth.

Bydd ymchwiliad yr heddlu hefyd yn cynnwys chwilio am fathau eraill o dystiolaeth fel tystiolaeth feddygol, tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng neu dystiolaeth ddigidol fel negeseuon testun neu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Os bydd yr heddlu angen casglu tystiolaeth o’ch dyfeisiau, byddant yn gofyn am eich caniatâd i wneud hyn. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein hadran ar ddefnyddio tystiolaeth ddigidol

Pan fydd yr heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, byddant yn trosglwyddo’r achos i ni yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron. Os yw’r heddlu wedi cwblhau eu hymchwiliad ond nad ydynt yn credu bod digon o dystiolaeth, ni fyddant yn trosglwyddo’r achos i ni. Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn esbonio eu penderfyniad i chi ac yn rhoi gwybod i chi pa opsiynau sydd gennych.

Unwaith y bydd yr heddlu’n trosglwyddo’r achos i ni, byddwn yn adolygu’r dystiolaeth ac yn ystyried a allwn erlyn – mae hyn yn golygu cyhuddo’r unigolyn a amheuir o drosedd a dod ag ef i’r llys.

Rydym yn gwneud y penderfyniad hwn drwy ddefnyddio’r prawf dau-gam a nodir yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein hadran ar wneud ein penderfyniad.

Nid ydym yn ymchwilio i droseddau ac ni allwn adolygu achos os na chaiff ei anfon atom gan yr heddlu.

Fodd bynnag, mewn achosion o dreisio neu ymosodiad rhywiol difrifol, rydym yn cynnig ‘cyngor cynnar’ i’r heddlu. Mae hyn yn golygu, os byddant yn gofyn am gyngor gennym, ein bod yn gweithio gyda nhw cyn gynted â phosibl i’w cynghori ynghylch pa fath o dystiolaeth i chwilio amdani i’w helpu i adeiladu’r achos. Mae gweithio gyda’n gilydd yn ein helpu i adeiladu achosion cryf mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl.

Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am yr ymchwiliad a’r erlyniad. Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd yn eich achos ar bob cam – gan gynnwys os neu pryd y bydd angen i chi fynd i’r llys. 

Bydd yr heddlu’n neilltuo swyddog i’ch achos. Efallai y bydd y swyddog yn cael ei alw’n ‘OIC’ weithiau hefyd, sy’n fyr ar gyfer Officer in the Case yn Saesneg, sef Swyddog yn yr Achos.  Bydd yr heddlu hefyd yn rhoi gwybod i chi pwy y gallwch gysylltu â nhw os oes gennych gwestiynau ar unrhyw adeg. Weithiau swyddog heddlu fydd hwn ac weithiau bydd yn staff arbenigol i gefnogi dioddefwyr fel Swyddog Gofal Tystion. Bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn trafod â chi sut a phryd y bydd yn cysylltu â chi er mwyn i chi allu cytuno ar yr hyn sy’n gweithio i chi. Bydd hefyd yn dweud wrthych chi sut mae cysylltu os oes gennych chi gwestiynau ar unrhyw adeg. Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth mewn ffordd sy’n hawdd ei deall – os ydych chi’n ei chael hi’n anodd deall unrhyw beth mae’r swyddog yn ei ddweud wrthych, cofiwch ddweud hynny, a bydd yn gwneud yn siŵr ei fod yn egluro pethau mewn ffordd y gallwch ei deall. 

Os oes gennych chi Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA), gall eich cefnogi yn eich cyswllt â’r heddlu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi’n uniongyrchol os byddai’n well gennych chi hynny. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gynghorwyr Annibynnol yn ein hadran ar ba gymorth sydd ar gael i’ch helpu. 

Fel arfer, ni fyddwch yn siarad â rhywun o Wasanaeth Erlyn y Goron yn ystod camau cynnar eich achos. Fel arfer, dim ond yn y llys neu mewn amgylchiadau lle bu’n rhaid i ni newid y cyhuddiadau neu stopio’r achos y byddwn yn cwrdd â dioddefwyr. Byddwn yn dal i weithio ar eich achos felly gallwch roi gwybod i’r heddlu neu i’ch Cynghorydd Annibynnol os oes gennych chi unrhyw gwestiynau i’r erlynydd. 

Mae treisio ac ymosodiad rhywiol difrifol yn droseddau dinistriol ac mae ein herlynwyr yn gweld bob dydd yr effaith barhaol a gânt ar ddioddefwyr. Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol, mae'n bwysig cofio nad chi oedd ar fai. Mae trais rhywiol yn drosedd, ni waeth pwy sy’n ei gyflawni na ble mae’n digwydd. Mae’r wybodaeth yn y canllaw hwn yn berthnasol i bob un sydd wedi dioddef trais rhywiol – gan gynnwys menywod a merched a dynion a bechgyn.

Rydym yn gwybod y gall mynd drwy’r broses cyfiawnder troseddol deimlo weithiau fel ei bod yn ychwanegu mwy o heriau, ond rydym eisiau gwneud pethau mor syml â phosibl i chi. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i ddioddefwyr trais a throseddau rhywiol difrifol, sy’n egluro sut y byddwn yn delio â’ch achos, beth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a beth yw eich hawliau.

Mae pob achos o dreisio a throseddau rhywiol difrifol yn cael eu hadolygu gan ein herlynwyr ‘trais a throseddau rhywiol difrifol’ arbenigol (RASSO). Maent wedi’u hyfforddi’n arbennig i ddeall cymhlethdodau achosion o drais a throseddau rhywiol a’r mythau a’r stereoteipiau sydd o’u cwmpas.

Weithiau, efallai bod y digwyddiad rydych chi wedi rhoi gwybod amdano i’r heddlu wedi digwydd amser maith yn ôl. Byddwn yn trin yr achosion hyn yn yr un ffordd ag y byddem yn trin unrhyw achos arall ac nid oes terfyn amser ar ba mor hir ar ôl y drosedd y gallwch chi roi gwybod amdani, er y gallai’r troseddau y gallwn ni gyhuddo rhywun ohonynt fod yn wahanol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn erlyn yr achosion hyn. Mae’n cynnwys fideos gan rai o’n herlynwyr yn egluro sut maent wedi cefnogi dioddefwyr ac wedi gweithio gyda’n partneriaid cyfiawnder troseddol i ddod ag achosion cymhleth i’r llys.

Mae addewid ein Herlynydd hefyd yn nodi’r hyn y gallwch chi, fel dioddefwr trosedd, ei ddisgwyl gennym ni.

Fel rhywun sydd wedi dioddef trosedd rhywiol, mae gennych hawl awtomatig i fod yn ddienw gydol eich oes yn y wasg neu mewn unrhyw gyhoeddiad arall. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anghyfreithlon i’r cyfryngau, neu unrhyw un arall, gyhoeddi eich enw neu unrhyw beth sy’n nodi eich bod wedi dioddef trosedd rhywiol. Mae hyn yn cynnwys rhannu eich enw ar gyfryngau cymdeithasol.

Os byddwch yn dod yn ymwybodol ar unrhyw adeg bod eich hunaniaeth wedi cael ei rhannu ar-lein neu wedi’i chyhoeddi yn y cyfryngau, gallwch roi gwybod i’r heddlu am hyn a byddant yn cymryd camau.

Scroll to top