Dedfrydu tresmaswr a dreisiodd menyw a’i merch
Mae dyn a dresmasodd i mewn i dŷ yng Nghaerdydd ac yna treisio menyw a’i merch, wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron Casnewydd.
Aeth Joshua Carney, 28, i mewn i’r tŷ wrth i’r fenyw baratoi i fynd i’r gwaith. Agorodd y drws wedi iddi glywed synau anarferol y tu allan a daeth Carney tuag ati a’i hatal rhag cau’r drws a gwthio’i ffordd i mewn.
Llwyddodd ei merch i alw’r heddlu tra yr oedd Carney yn y tŷ o hyd a chafodd ei arestio wrth iddo adael yr eiddo a phlediodd yn euog i dair trosedd ar ddeg.
Dywedodd Kelly Huggins o’r CPS: “Roedd hwn yn achos dychrynllyd lle cyflawnodd Carney drosedd ofnadwy ar ei ddioddefwyr.
“Er gwaethaf troseddau treisiol a hynod ddifriol Carney, ymatebodd y dioddefwyr yn eithriadol o ddewr a sicrhaodd i ni gasglu tystiolaeth eithriadol o gadarn, ac a alluogodd y CPS i gyflwyno achos cryf a arweiniodd at bledion o euogrwydd.
Ni all unrhyw droi’r cloc yn ôl ond gobeithiwn fod canlyniad yr achos Llys yn cynnig ychydig o gysur i’r dioddefwyr wrth iddynt ailgydio yn eu bywydau.”
Cafodd Joshua Carney ei ddedfrydu i garchar am oes ar 22 Awst 2022 a’i orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw am oes.
Notes to editors
- Mae Kelly Huggins yn Erlynydd y Goron Rhanbarthol yn nhîm RASSO (Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol) CPS Cymru-Wales.
- Plediodd Joshua Carney (Dyddiad geni: 29/11/1993) yn euog i 6 x achos o dreisio, yn groes i Ddeddf Troseddau Rhywiol (SOA) 2003; 2 x ymosodiad drwy dreiddiad, yn groes i SOA 2003; 2 x gwir niwed corfforol, yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861; ymgais i dreisio, yn groes i Ddeddf Ymgeisiau Troseddol 1981; troseddu gyda’r bwriad i gyflawni trosedd rywiol, yn groes i SOA 2003.