Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Carcharu myfyriwr Prifysgol Caerdydd am dreisio

|News, Sexual offences

Mae myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, a gariodd menyw feddw yn ôl i’w lety wedi noson allan yng Nghanol Dinas Caerdydd, a’i threisio, wedi’i garcharu.  

Deffrodd y dioddefwr yn ystafell Preet Vikal y bore canlynol, heb unrhyw gof o gyrraedd yno, na beth ddigwyddodd ychwaith, ond gan fod Gwasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu De Cymru wedi dod at ei gilydd mor fuan yn y broses, llwyddwyd i gasglu tystiolaeth hollbwysig ynghylch gweithredoedd y treisiwr i ddod â hi i’w ystafell.

Cytunodd yr heddlu a’r erlynwyr mewn cyfarfod cynghori a drefnwyd yn gynnar yn y broses, yn fuan wedi’r digwyddiad, er nad oedd gan y dioddefwr lawer o gof, y gellid cryfhau’r achos drwy gaffael yn syth fideo Teledu Cylch Cyfyng o’r strydoedd cyfagos oriau cyn y treisio, a chyn y gellid ei ddileu. 

Yn y fideo, gwelwyd Vikal, a oedd yn 19 oed ar y pryd, yn gwylio’r dioddefwr a’i ffrindiau y tu allan i glwb nos yng Nghaerdydd.  Gwelwyd y dioddefwr yn gwahanu oddi wrth y grŵp ac yn ddiweddarach gwelwyd Vikal yn ei chario yn ôl i’w ystafell. 

Mae’r achos hwn yn enghraifft o’r ffordd mae erlynwyr a’r heddlu yn gweithio fwyfwy gyda’i gilydd gyda dull newydd o ymdrin ag achosion o dreisio, sy’n ffurfio rhan o Fodel Gweithredu Cenedlaethol Gwasanaeth Erlyn y Goron, y bwriedir ei gyflwyno mis nesaf.

Dywedodd Catherine Miles, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Datblygwyd yr achos cryf hwn o ganlyniad i’r heddlu ac erlynwyr yn canolbwyntio’r ymchwiliad ar weithredoedd y sawl dan amheuaeth yn gynnar iawn yn y broses i oresgyn unrhyw heriau cychwynnol gyda’r dystiolaeth.

“Daeth yn amlwg wrth edrych ar y dystiolaeth bod Vikal wedi dod ar draws y dioddefwr ar ei ffordd adref a’i fod wedi’i gwylio tra’r oedd hithau yng nghwmni ei ffrindiau.

“Ni ellid bod unrhyw awgrym y byddai’r dioddefwr wedi bod mewn unrhyw sefyllfa i gytuno i gyfathrach rywiol. Roedd fideo’r Teledu Cylch Cyfyng yn ei gwneud hi’n amlwg y byddai Vikal wedi bod yn ymwybodol o hynny, ac o ganlyniad i’r dystiolaeth hon, plediodd yn euog.”

Plediodd Vikal yn euog ar ddiwrnod cyntaf y prawf ac ar 15 Mehefin, fe’i dedfrydwyd i chwe blynedd a naw mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc yn Llys y Goron Caerdydd.

Ychwanegodd Catherine Miles: “Mae’r ffaith bod y dioddefwr wedi cysylltu â’r heddlu yn gynnar wedi’r digwyddiad yn hollbwysig, ac fe ganiatodd hynny i Wasanaeth Erlyn y Goron weithio gyda’r heddlu i ddilyn y prif linellau ymholi a sicrhau’r dystiolaeth a arweiniodd at yr euogfarnu. Diolchwn iddi am ei chydweithrediad a’i dewrder."

Nodiadau i olygyddion

  • Plediodd Preet Vikal (dyddiad geni: 19/3/2003) yn euog i un achos o dreisio, yn groes i adran 1(1) Deddf Troseddau Rhywiol 2003.
  • Mae Catherine Miles yn Uwch Erlynydd y Goron yn uned Achosion Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
  • Bydd model gweithredu cenedlaethol newydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cael ei lansio ar draws Cymru a Lloegr ar 4 Gorffennaf 2023 ar y cyd â model cenedlaethol yr heddlu.
  • Bydd y model gweithredu cenedlaethol yn rhoi hwb i’r newid diwylliannol a gweithredol ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron drwy osod safon sylfaenol ar gyfer sut caiff achosion trais oedolion eu herlyn.
  • O ganlyniad i waith ar y cyd rhwng erlynwyr a’r heddlu, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweld mwy o achosion yn cael eu hatgyfeirio, mwy o bobl dan amheuaeth yn cael eu cyhuddo, a phenderfyniadau yn cael eu gwneud yn gynt. Mae gwelliannau amlwg hefyd i’w gweld mewn perthynas â chyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol.

Further reading

Scroll to top