Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu cyn-heddwas a wnaeth gamddefnyddio’i bwerau

|News

Mae cyn-Gwnstabl Heddlu De Cymru wedi cael ei ddedfrydu/garcharu am gyfathrebu’n amhriodol â dioddefwyr troseddau yn ogystal â chael perthynas rywiol â nhw.

Roedd Richard Helling, 49 oed, wedi camddefnyddio ei swydd wrth weithio ar achosion pedair menyw a oedd yn ddioddefwyr troseddau. Roedd dwy ohonynt wedi dioddef cam-drin domestig.

Cysylltodd Helling â’r dioddefwyr o’i rif ffôn personol a cheisio eu denu i gymryd rhan mewn sgyrsiau awgrymog.

Ar ôl i un dioddefwr anfon delweddau o gleisiau i ardal ei bron er mwyn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliadau, cysylltodd Helling â hi 268 gwaith o fewn cyfnod o bedair wythnos. Mewn un neges, roedd yn canmol y cafn rhwng ei bronnau gyda dau emoji o ddwylo’n clapio.

Pan ddywedodd dioddefwr cam-drin domestig arall wrtho ei bod wedi gorfod dod allan o’r bath er mwyn ateb galwad i’w chartref gan swyddog lles, anfonodd Helling neges yn ôl yn dweud trueni nad fi wnaeth dy gael allan o’r bath (“Pity it wasn’t me that got you out of the bath”). Yna, anfonodd GIF ati o Julia Roberts yn y bath mewn golygfa o’r ffilm Pretty Woman.

Ar ôl i ddioddefwr arall glywed bod ei hachos wedi'i ohirio am saith wythnos, dywedodd Helling wrthi y byddai’n rhaid aros yn hirach nawr cyn y gallai pethau ddireidus ddigwydd (“Going to have to wait even longer now to get naughty with you!”)

Hefyd, cafodd Helling berthynas rywiol gyda dioddefwr arall a barodd rai misoedd. Yn ddiweddarach, gofynnodd i’r dioddefwr ddileu’r holl gyswllt rhyngddynt, mewn ymgais i guddio’r holl dystiolaeth o’u perthynas a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cyflawnwyd y troseddau hyn rhwng mis Hydref 2020 a mis Hydref 2022, gan gynnwys mynd i mewn i system gyfrifiadurol yr heddlu heb reswm cyfreithlon.

Cafodd ei ddal ar ôl archwiliad rhagweithiol rheolaidd a gynhelir ar holl ffonau symudol Heddlu De Cymru, a ddangosodd bod Helling wedi rhoi ei rif ffôn personol i ddioddefwr trosedd.

Heddiw (dydd Gwener, 18 Awst 2023) cafodd ei ddedfrydu 15 mis o garchar yn Llys y Goron Abertawe. Yn flaenorol, roedd wedi pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o arfer pwerau a breintiau’r heddlu yn amhriodol, dau gyhuddiad o fynediad heb awdurdod at ddeunydd cyfrifiadurol, ac un cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dywedodd Ceri Evans, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Fe wnaeth Richard Helling gam-fanteisio ar ei swydd fel Cwnstabl yr Heddlu gan dargedu menywod a ddioddefodd drosedd er ei foddhad personol ei hun. I ddechrau, byddai’n gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus cyn datgelu ei wir amcanion.

“Roedd rhai o’r dioddefwyr hyn mewn sefyllfaoedd bregus ac yn ofni pe na fydden nhw’n ymateb i’w ensyniadau rhamantaidd, yna byddai eu hachosion yn dioddef o ganlyniad. Mae hynny’n gwbl annerbyniol ac mae’n erydu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn swyddogion heddlu.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i erlyn y rheini sy’n torri’r gyfraith ni waeth pwy ydyn nhw na beth yw eu proffesiwn. Gobeithio y bydd yr euogfarn a’r ddedfryd hon yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a’r dioddefwyr yn yr achos hwn nad oes neb uwchlaw’r gyfraith ac y bydd pob troseddwr yn cael ei ddal yn atebol.”

Nodiadau i olygyddion

  • Richard Helling (Dyddiad Geni: 17/05/1974) o Bencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 
  • Mae Ceri Evans yn Erlynydd Rhanbarth y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.
  • Plediodd Richard Helling yn euog i 4 cyhuddiad o arfer pwerau a breintiau’r heddlu yn amhriodol yn groes i adran 26(1) a (2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015, 2 gyhuddiad o fynediad heb awdurdod i ddeunydd cyfrifiadurol, yn groes i Adran 1 (1) Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990, ac 1 cyhuddiad o gyflawni gweithred gyda’r bwriad a’r amcan o wyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus.

Further reading

Scroll to top