Dyn o Abertawe’n cael ei ddedfrydu am fynd i mewn i ystafelloedd gwely tra bo’r preswylwyr yn cysgu
Mae dyn a aeth i mewn i dri chartref yn Abertawe, chwilota drwy ddroriau a dinoethi ei hun, wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
Aeth Evan Powell, 21 oed, i mewn i’r cartrefi yn ardal Brynmill, yn ystod oriau mân 31 Hydref 2024.
Deffrôdd y fenyw a oedd yn byw yn un o’r cyfeiriadau am tua 5am a gweld Powell yn sefyll yn ei hystafell wely, cyn iddo fynd i lawr y grisiau a gadael yr eiddo. Daeth y fenyw i wybod wedyn fod Powell wedi bod yn ystafell wely ei phlentyn hefyd, ac wedi edrych drwy’r droriau.
Tua awr yn ddiweddarach, aeth Powell i mewn i ail eiddo gerllaw. Deffrôdd y fenyw a oedd yn cysgu yno a dod o hyd i Powell yn sefyll drosti gyda’i organau rhywiol yn y golwg. Cafodd ei erlid o’r tŷ a galwyd yr heddlu.
Aeth Powell i mewn i drydydd eiddo hefyd, gan ddeffro’r preswylydd drwy agor drws yr ystafell wely, cyn rhedeg allan o’r tŷ.
Canfu ymholiadau a wnaed gan yr heddlu fod Powell wedi ceisio mynd i mewn i bedwerydd eiddo ond ei fod wedi bod yn aflwyddiannus.
Dywedodd Carolina Mayorga-Williams o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae’n rhaid bod deffro a gweld dieithryn yn eich ystafell wely chi neu yn ystafell wely eich plentyn yn brofiad brawychus, ac mae’n ymyrryd â hawl rhywun i deimlo’n ddiogel yn ei gartref ei hun.
“Rydyn ni’n cymryd pob honiad o droseddu rhywiol o ddifrif. Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi arwain at y rheithgor yn dyfarnu Powell yn euog ac wedi dod ag ef gerbron y llys.”
Cafodd Evan Powell ei ddedfrydu ar 3 Gorffennaf 2025 i bum mlynedd o garchar gyda chyfnod trwydded estynedig o bedair blynedd, ynghyd â gorchymyn atal 10 mlynedd a gorchmynnwyd iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am oes.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Evan Powell (dyddiad geni: 1/6/2004) o Frynmill yn Abertawe
- Ar ôl treial, cafwyd Powell yn euog o dair trosedd o dresmasu gyda’r bwriad o gyflawni trosedd rhywiol, ac un drosedd o geisio tresmasu gyda’r bwriad o gyflawni trosedd rhywiol
- Mae Carolina Mayorga-Williams yn Uwch Erlynydd y Goron yn nhîm Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.