Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Deliwr cyffuriau yn cael ei ddedfrydu am fasnachu bachgen yn ei arddegau

|News, Drug offences

Mae deliwr cyffuriau o Dredegar wedi cael ei ddedfrydu am drosedd caethwasiaeth fodern ar ôl recriwtio bachgen yn ei arddegau i fod yn rhan o'i weithgareddau troseddol.

Roedd Tyler Barnsley, 18 oed, yn delio cyffuriau o gyfeiriad yn Nhredegar. Ar 27 Medi 2024, aeth yr heddlu ati i gynnal cyrch ar yr eiddo ac atafaelu canabis, ffonau symudol, cloriannau, bagiau bach sy'n cau, ac arian parod.

Pan ddadansoddwyd y ffonau, daethpwyd o hyd i negeseuon a oedd yn dangos bod Barnsley yn delio â chocên a chanabis a’i fod yn defnyddio bachgen 14 oed i ddanfon cyffuriau a chasglu arian ar ei ran yn ardal Blaenau Gwent.

Dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Tyler Barnsley yn gwybod ei fod yn recriwtio plentyn i fod yn rhan o'i weithgareddau troseddol peryglus, ac ni ddangosodd dim pryder am les y plentyn, dim ond meddwl amdano’i hun a’i elw o'r cyffuriau.

“Roedd yr ymchwiliad gan Heddlu Gwent yn caniatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron gyflwyno achos cryf, gan arwain at Barnsley yn pledio'n euog.

“Mae defnyddio plant i elwa o weithgareddau troseddol yn wrthun, a bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erlyn y rheini sy’n gwneud hynny pryd bynnag y bodlonir ein prawf cyfreithiol.”

Cafodd Tyler Barnsley ei ddedfrydu i dair blynedd mewn Sefydliad Troseddwr Ifanc ar 25 Mehefin 2025 yn Llys y Goron Caerdydd.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae cyfyngiadau adrodd wedi cael eu gosod mewn perthynas â’r bachgen yn ei arddegau.
  • Daw Tyler Barnsley (Dyddiad Geni: 29/06/2006) o Dredegar ym Mlaenau Gwent
  • Plediodd Barnsley yn euog i’r tair trosedd ganlynol:
    • Ymwneud â chyflenwi cocên (1 Ionawr 2024 – 27 Tachwedd 2024)
    • Ymwneud â chyflenwi canabis (1 Ionawr 2024 – 27 Tachwedd 2024)
    • Masnachu pobl, yn groes i a. 2(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (1 Mehefin 2024 – 27 Tachwedd 2024). Mae’r drosedd hon yn ymwneud â recriwtio'r plentyn a’i ddefnyddio i gludo cyffuriau ac arian parod
  • Mae Louisa Robertson yn Erlynydd Arbenigol yn Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.

Further reading

Scroll to top