Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Cyn-weithiwr yr heddlu a’i chariad wedi’u carcharu

|News

Mae gweinyddwr yr heddlu a drosglwyddodd wybodaeth gyfrinachol i’w chariad, sy’n ddeliwr cyffuriau, wedi cael ei charcharu yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd Lucy Langmead, 44 oed, wedi bod yn gweithio i Heddlu De Cymru am flynyddoedd cyn iddi ddechrau perthynas gyda Daniel Cozens, 37 oed, yn 2020.

Rhwng mis Mai 2021 a mis Chwefror 2022, roedd Langmead wedi cyrchu system gyfrifiadurol yr heddlu sawl gwaith ac wedi trosglwyddo neu anfon gwybodaeth gyfrinachol at Cozens am ei gysylltiadau, ynglŷn â’r guddwybodaeth roedd gan yr heddlu amdanynt.

Hefyd, canfu’r ymchwiliad achosion rhwng mis Mai 2020 a mis Mawrth 2022, lle’r oedd Langmead wedi defnyddio system gyfrifiadurol yr heddlu at ddibenion nad oeddent yn ymwneud â gwaith yr heddlu i gael gwybodaeth am aelodau o’r teulu a chysylltiadau.

Cafodd y ddau eu harestio ac fe wnaethant bledio’n euog i’r troseddau, a oedd yn cynnwys cynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Dywedodd John Griffiths o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd cyflogwr Lucy Langmead yn ymddiried yn llwyr ynddi o ran cael mynediad at wybodaeth sensitif, ac fe wnaeth hi fradychu’r ymddiriedaeth honno.

“Gallai ei gweithredoedd fod wedi rhoi ymchwiliadau troseddol mewn perygl.

“Defnyddiodd Daniel Cozens ei berthynas â Langmead i geisio cael y llaw uchaf ar yr heddlu yn ei ymddygiad troseddol.

“Fodd bynnag, fe wnaeth y trywydd archwilio ar systemau cyfrifiadurol yr heddlu arwain yr ymchwilwyr atyn nhw, ac ynghyd â thystiolaeth arall, roedd hyn wedi galluogi Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyflwyno achos cryf i’r Llys a sicrhau bod y diffynyddion hyn yn cael eu dwyn gerbron y llys.”

Cafodd y ddau ddiffynnydd eu dedfrydu ar 3 Mehefin 2025. Dedfrydwyd Lucy Langmead i ddwy flynedd ac 11 mis o garchar, a dedfrydwyd Daniel Cozens i flwyddyn ac 8 mis o garchar.

Nodiadau i olygyddion

  • Lucy Langmead (DOB: 22/3/1981) is from Tonteg, Pontypridd.
  • Daniel Cozens (DOB: 30/7/1987) is from Treforest, Pontypridd.
  • Lucy Langmead pleaded guilty to 13 offences of Securing unauthorised access to computer material, and 5 offences of Unlawful disclosure of personal data.
  • Daniel Cozens pleaded guilty to Being concerned in the supply of a controlled drug of class C (Benzodiazepines); Being concerned in the supply of a controlled drug of class C (Pregablins) and Possession of a controlled drug of class C (Cannabis).
  • Langmead and Cozens both pleaded guilty to Conspiracy to commit misconduct in public office between 23 May 2021 and 25 February 2022. 
  • All the offending took place between 11 May 2020 and 1 March 2022).
  • John Griffiths is a Senior Crown Prosecutor in the CPS Cymru-Wales Complex Casework Unit. 

Further reading

Scroll to top