Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Carchar am oes i ddyn a laddodd fenyw yn ei chartref ei hun

|News, Violent crime

Mae dyn a dorrodd i mewn i eiddo yn y Rhyl a lladd menyw 69 oed wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Caernarfon.

Torrodd Dean Mears, 34 oed, i mewn i’r tŷ ar Ffordd Cefndy yn y Rhyl yn hwyr y nos ar 24 Hydref 2024.

Ar ôl ymgais aflwyddiannus i fynd i mewn drwy’r drws, torrodd Mears y ffenestr flaen a dringo drwyddi. Gadawodd ychydig funudau’n ddiweddarach ar ôl lladd Catherine Flynn, a oedd yn byw yno. 

Yn ei dreial, cyfaddefodd Mears ei fod wedi lladd Catherine Flynn ond honnodd fod ganddo gyfrifoldeb lleiedig. Clywodd y rheithgor dystiolaeth fod gan Mears getamin, canabis a chocên yn ei system, a’i fod wedi defnyddio grym pŵl (anafu’r corff heb dorri’r croen) i achosi anafiadau difrifol i ben wyneb a gwddf Catherine, a oedd yn angheuol yn y pen draw. 

Roedd y dystiolaeth feddygol a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn disgrifio’r anafiadau fel trawma grym nerthol sy’n gallu bod yn arwydd ei fod wedi stampio sawl gwaith yn galed.

Clywodd y rheithgor hefyd fod Mears wedi ceisio cael gwared ar ddillad, mewn sawl lleoliad, ond bod yr heddlu wedi llwyddo i adfer yr eitemau. 

Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth yn yr achos, gan gynnwys tystiolaeth seiciatryddol, cafodd y rheithgor Mears yn euog o lofruddiaeth.  

Dywedodd Deanne Mcginty o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Ymosododd Dean Mears yn greulon ar Catherine Flynn yn ei chartref ei hun, lle dylai hi fod wedi bod yn ddiogel. 

“Yna gwnaeth ymdrech i guddio ei ôl drwy geisio cael gwared ar dystiolaeth.

“Gwrthododd y rheithgor ei honiad o gyfrifoldeb lleiedig ar ôl gwrando ar yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

“Arweiniodd gweithredoedd Mears at farwolaeth drasig, ac mae teulu a ffrindiau Catherine yn teimlo’r golled honno’n ddwys. 

“Byddwn yn parhau i feddwl amdanynt.”

Dedfrydwyd Mears i garchar am oes ar 20 Mehefin 2025, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf 27 mlynedd a 128 diwrnod.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Dean Mark Albert Mears (dyddiad geni: 27/12/1990) o Fae Cinmel. 
  • Bu farw Catherine Flynn ar 25 Hydref 2024 yn 69 oed.
  • Mae Deanne Mcginty yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
     

Further reading

Scroll to top