Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Main content area

Dedfrydu gwerthwyr cyffuriau llinellau sirol a fasnachodd bachgen yn ei arddegau

|News, Drug offences

Mae grŵp o ddelwyr cyffuriau wedi’u dedfrydu am eu rhan yn masnachu bachgen yn ei arddegau fel rhan o weithrediad llinellau cyffuriau yn cyflenwi cyffuriau ledled Cymru a Lloegr.

Bu i’r grŵp troseddu cyfundrefnol drefnu i’r bachgen ysgol 14 oed, a oedd dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol, weithredu fel rhedwr yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn y Rhyl ac Wigan am oddeutu tair wythnos fis Chwefror 2021.

Darganfu’r ymchwilwyr negeseuon yn dangos bod gan y bachgen yn ei arddegau arian yn ddyledus iddynt a’r rheini yn rhoi pwysau arno i’w talu.

Heddiw (27 Ionawr 2023) yn Llys y Goron, Caernarfon, cafodd bob aelod o’r grŵp eu dedfrydu am eu rhan yn y drosedd.

  • Dedfrydwyd Michael Hill, 27, i 7 mlynedd a 2 fis o garchar.
  • Dedfrydwyd Wesley Hankin, 31, i 10 mlynedd a 2 fis o garchar.  
  • Dedfrydwyd Gareth Mark Jones, 40, i 7 mlynedd a 4 mis o garchar.
  • Dedfrydwyd Joshua Ellerbrook, 20, i 2 flynedd a 4 mis o garchar.
  • Dedfrydwyd Darren Courtney, 25, i 6 mlynedd ac 8 mis o garchar.
  • Dedfrydwyd Amanda Watkinson, 54, i 16 mis o garchar.
  • Dedfrydwyd Anthony Buckley-Mellor, 48, i 1 flwyddyn a 10 mis o garchar.
  • Darganfuwyd bod rhif ffôn Hankin wedi’i arbed yn ffôn y dioddefwr dan y teitl ‘main man’.  Ar y pryd, roedd Hankin yn garcharor yn CEF Portland.

Yn ystod yr ymchwiliad, cafodd swyddogion heddlu’r ymchwiliad fynediad at luniau Snapchat, a oedd yn dangos y dioddefwr yn ei arddegau yn cael ei ecsbloetio. Roedd un llun o’r dioddefwr ifanc yn cynnwys y testun ‘bando livin’ – a oedd yn cyfeirio ato yn aros mewn cartref neu gyfeiriad gwag a oedd yn cael ei ddefnyddio fel ‘tŷ cyffuriau’ i storio neu ddelio cyffuriau. Cysylltwyd y cyfeiriad hwn â Watkinson.

Pan arestiwyd Buckley-Mellor, a chyfelwyd ag ef, dywedodd ei fod wedi caniatáu i’r dioddefwr aros yn ei gartref am ddau ddiwrnod ond y dywedwyd wrtho fod y dioddefwr yn 19 oed. Cyfaddefodd yn ddiweddarach fod y dioddefwr yn edrych tua 11 oed.

Dywedodd Louisa Roberston o’r CPS: “Gweithiodd yr unigolion hyn law yn llaw i fasnachu bachgen ysgol 14 oed fel rhan o weithrediad llinellau cyffuriau sylweddol. Wrth wraidd eu gweithredoedd oedd barusrwydd.

“Roedd y dystiolaeth yn cynnwys negeseuon yn dangos hierarchaeth y grŵp, a’r rolau sydd gan bob un yn y gweithrediad i’w chwarae. Llwyddasom hefyd i gyflwyno tystiolaeth Snapchat fel rhan o’r achos a oedd yn dangos yn glir y bachgen yn ei arddegau yn cael ei ecsbloetio. 

“Caethwasiaeth fodern yw hyn – manteisiodd yr unigolion hyn ar fachgen ysgol i weithio fel rhedwr cyffuriau iddynt, heb unrhyw ystyriaeth am ei lesiant.

“Mae’r CPS yn cydnabod y niwed a achosir i gymunedau, teuluoedd a bywydau drwy rwydweithiau cyffuriau yn defnyddio plant a phobl ifanc i gyflawni eu gweithgareddau anghyfreithlon. Byddwn wastad yn ceisio erlyn dioddefwyr o’r fath lle mae tystiolaeth i wneud hynny.”

Notes to editors

  • Mae Louisa Robertson yn Uwch-erlynydd y Goron yn Uned Gwaith Achos Cymhleth CPS Cymru-Wales.
  • Plediodd Michael Hill (DG: 06/08/1995) yn euog i 2 achos o Gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A a reolir i unigolyn arall, yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977 a Chynllwynio i fasnachu plentyn (trefnu neu hwyluso cludiant), yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
  • Plediodd Wesley Hankin (DG: 03/07/1991) yn euog i 2 achos o Gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A a reolir i unigolyn arall, yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
  • Plediodd Gareth Mark Jones (DG: 08/02/1982) yn euog i 2 achos o Gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A a reolir i unigolyn arall, yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977 a Chynllwynio i fasnachu plentyn (trefnu neu hwyluso cludiant), yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
  • Plediodd Joshua Ellerbrook (DG: 23/01/2002) yn euog i 2 achos o Gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A a reolir i unigolyn arall, yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
  • Plediodd Darren Courtney (DG: 31/12/1997) yn euog i 2 achos o Gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A a reolir i unigolyn arall, yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977 a Chynllwynio i fasnachu plentyn (trefnu neu hwyluso cludiant), yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
  • Plediodd Amanda Watkinson (DG: 28/07/1968) yn euog i achos o Gynllwynio i fasnachu plentyn (trefnu neu hwyluso cludiant), yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
  • Plediodd Anthony Buckley-Mellor (DG: 21/02/1974) yn euog i achos o Gynllwynio i fasnachu plentyn (trefnu neu hwyluso cludiant), yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.

Further reading

Scroll to top