Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Aelodau Gang Troseddau Cyfundrefnol wedi’u dedfrydu am droseddau’n ymwneud â chyffuriau a chryptoarian

|News, Drug offences

Mae deuddeg o bobl wedi’u dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a chuddio’r enillion gan ddefnyddio cryptoarian.

Ar sail cyffuriau a atafaelwyd gan yr heddlu, ynghyd ag offer torri, mae swyddogion cyffuriau arbenigol yn credu bod y grŵp wedi masnachu mwy na 40kg o gocên, yr amcangyfrifir bod ei werth ar y stryd oddeutu £4.6 miliwn.

Hefyd, darganfu’r heddlu fod Amir Khan, 30, yn cyflenwi cetamin ac MDMA (ecstasi).

Mewn ymdrech i geisio cuddio maint yr ymgyrch a’r enillion anghyfreithlon, trefnodd Khan a Joshua Billingham, 26, i bartneriaid, cyfeillion ac aelodau o’u teulu wyngalchu’r arian tra’r oedd y ddau yn y carchar, gan ddefnyddio system cryptoarian Coinbase.

Medd Millie Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae’r ymchwiliad trylwyr wedi dangos bod rhai o’r diffynyddion yn delio mewn cyffuriau ar raddfa enfawr.

“Mewn ymdrech i guddio symiau sylweddol o arian rhag swyddogion gorfodi’r gyfraith, cafodd eu cyfeillion ac aelodau o’u teulu eu recriwtio i symud cryptoarian o gyfrif i gyfrif.

“Arweiniodd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron at bledion euog, a llwyddwyd i ddod â gang troseddau cyfundrefnol o flaen eu gwell.”

Cynhaliwyd y gwrandawiad dedfrydu ar 27 a 28 Gorffennaf 2023 pan roddwyd y dedfrydau canlynol.

  • Joshua Billingham (dyddiad geni: 4/4/1997) – 20 mlynedd a saith mis o garchar.
  • Amir Khan (dyddiad geni: 24/3/1993) – 15 mlynedd o garchar.
  • Leon Sullivan (dyddiad geni: 15/6/1997) – Un flwyddyn ar ddeg a phedwar mis o garchar.
  • Darryl Skym (dyddiad geni: 6/4/1995) – Deng mlynedd o garchar.
  • Joshua Collins (dyddiad geni: 15/10/1996) – Saith mlynedd ac wyth mis o garchar.
  • Callum Richards (dyddiad geni: 28/6/1997) – Naw mlynedd a chwech mis o garchar.
  • Matthew Dean (dyddiad geni: 10/8/1987) – Pedwar blynedd a thri mis o garchar.
  • Ian Kidley (dyddiad geni: 13/4/1999) – Dwy flynedd o garchar.
  • Sidra Khan (dyddiad geni: 8/7/1995) – 18 mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis a gorchmynnwyd iddo hefyd gwblhau 150 awr o waith di-dâl a mynychu 15 diwrnod o weithgarwch adsefydlu.
  • Stacey Challenger (dyddiad geni: 31/8/1993) – Un flwyddyn o garchar.
  • Sami Rehman (dyddiad geni: 1/8/1994) – Deunaw mis o garchar.
  • Caitlin De Jager (dyddiad geni: 21/4/1999) – Pedwar blynedd a phedwar mis o garchar.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Millie Davies yn Uwch-erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru-Wales.
    Plediodd Matthew Edward Dean (dyddiad geni: 10/8/1987), Ian Kidley (dyddiad geni: 13/4/1999), Amir Khan (dyddiad geni: 24/3/1993), Joshua Collins (dyddiad geni: 15/10/1996), Leon Sullivan (dyddiad geni: 15/6/1997), Joshua Billingham (dyddiad geni: 4/4/1997), Darryl Skym (dyddiad geni: 6/4/1995) a Callum Richards (dyddiad geni: 28/6/1997) yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffur a reolir, yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
  • Plediodd Stacey Challenger (dyddiad geni: 31/8/1993) yn euog i gyfrannu at drefniant gwyngalchu arian neu fod yn gysylltiedig â threfniant gwyngalchu arian, yn groes i adran 328(1) Deddf Enillion Troseddau 2002. Plediodd Joshua Billingham (dyddiad geni: 4/4/1997) yn euog i feddu ar gyffur a reolir Dosbarth C gyda’r bwriad o’i gyflenwi, yn groes i adran 5(3) Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Plediodd Stacey Challenger (dyddiad geni: 31/8/1993), Sidra Khan (dyddiad geni: 8/7/1995), Sami Rehman (dyddiad geni: 1/8/1994), Amir Khan (dyddiad geni: 24/3/1993), Joshua Billingham (dyddiad geni: 4/4/1997), Joshua Collins (dyddiad geni: 15/10/1996) a Caitlin De Jager (dyddiad geni: 21/4/1999) yn euog i gynllwynio i drosi eiddo troseddol, yn groes i adran 1(1) Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
  • Yn sgil yr ymchwiliad trylwyr a gynhaliwyd gan yr heddlu, bu modd i’r Goron brofi bod rhai o’r diffynyddion a ddedfrydwyd heddiw yn gyfrifol am gyflenwi symiau enfawr o gocên. Fe elwodd yr 8 diffynnydd a gynllwyniodd i gyflenwi cocên ar eu hymddygiad troseddol. Er mwyn cuddio’r symiau enfawr o arian, aethant ati i recriwtio eu cyfeillion ac aelodau o’u teulu i fuddsoddi mewn cryptoarian a’i symud rhwng gwahanol gyfrifon er mwyn ei gwneud hi’n anodd olrhain yr arian.

Further reading

Scroll to top