Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Canllawiau Adborth a Chwynion: Sut i roi adborth neu wneud cwyn i Wasanaeth Erlyn y Goron

Tachwedd 2020

Polisi Adborth a Chwynion

Cyflwyniad

Nod Gwasanaeth Erlyn y Goron yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf a gwneud pethau’n iawn. Fodd bynnag, bydd adegau pan na fyddwn yn cyrraedd y safonau hyn. Mae’r daflen hon yn amlinellu sut mae rhoi adborth neu gwyno am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth. Ein nod yw gwrando, cydnabod pryderon a datrys pethau pan fydd hi’n bosibl ac yn briodol gwneud hynny.

Ein hymrwymiad

Rôl a phwrpas Gwasanaeth Erlyn y Goron yw dod â throseddwyr o flaen eu gwell, helpu i leihau troseddu a lleihau ofn pobl o droseddau, hyrwyddo hyder y cyhoedd a darparu cefnogaeth effeithiol i ddioddefwyr a thystion.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant o ragoriaeth drwy osod safonau clir ynghylch y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gennym a rhoi cyfle i chi ddweud wrthym a ydym wedi bodloni’r safonau hynny ai peidio. Mae’r ffordd rydym yn delio â chwynion yn seiliedig ar ein gwerthoedd, sef:

  • Bod yn annibynnol ac yn deg;
  • Bod yn onest ac yn agored;
  • Trin pawb â pharch;
  • Ymddwyn yn broffesiynol ac ymdrechu am ragoriaeth.

Mae Safon Trin Cwynion Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau ac Egwyddorion yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ar gyfer Delio â Chwynion yn amlinellu ansawdd y gwasanaeth y mae gennych hawl i’w ddisgwyl gan Wasanaeth Erlyn y Goron. Rydym yn cael ein dal i gyfrif wrth gyflawni’r safonau hyn ac rydym wedi ymrwymo i ddelio’n brydlon ac yn agored â chwynion am ein penderfyniadau a’r gwasanaeth a ddarparwn. Mae’r Asesydd Cwynion Annibynnol (IAC) yn craffu’n allanol ar y broses gwyno er mwyn ein helpu i gyrraedd y safonau gwasanaeth uchaf.

Ein Cydlynwyr Cwynion, sydd wedi cael hyfforddiant arbennig, fydd yn trin â phob cwyn a byddant yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol. Byddwn yn ymateb yn effeithiol i gwynion ac yn delio â nhw’n sensitif, yn deg ac yn drwyadl. Ni fyddwn yn trin unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn llai ffafriol ar sail eu rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hil neu eu hethnigrwydd, eu hanabledd neu eu crefydd neu gred. Ni fyddwn chwaith yn trin cwynion gan ddiffynyddion yn llai ffafriol na chwynion gan ddioddefwyr a thystion.

Beth mae'r polisi'n ei gynnwys?

Mae’r polisi’n berthnasol i adborth a chwynion am y gwasanaeth a ddarperir gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Adborth

Rydym yn annog adborth cadarnhaol a negyddol ar ein polisïau, ein gweithdrefnau, ein gwasanaethau a’n perfformiad. Rydym yn croesawu eich barn am eich profiad o ddelio â ni neu eich barn am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth.


Enghreifftiau o adborth

Mae Ms Potts yn gweithio gyda dioddefwyr troseddau; mae hi’n anfon e-bost at Wasanaeth Erlyn y Goron i’w ganmol am lansio polisi newydd.

Mae Mr Cram yn anfodlon â chanlyniad achos a gafodd ei erlyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron a ddarllenodd amdano yn y papur newydd lleol. Mae’n ysgrifennu at Wasanaeth Erlyn y Goron yn mynegi ei anfodlonrwydd.


Gall unrhyw un roi adborth i Wasanaeth Erlyn y Goron, ac nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.  Bydd yr holl adborth yn cael ei gydnabod, ei gofnodi a’i ddadansoddi er mwyn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’r cyhoedd.

Cwynion

Rydym o'r farn bod cwyn yn fynegiant o anfodlonrwydd am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth gan aelod o'r cyhoedd sydd wedi ymwneud yn uniongyrchol â’r gwasanaeth y gwnaethpwyd cwyn amdano.

Gall cwynion fod yn rhai:

  • Cyfreithiol - Cwynion yw'r rhain sy'n ymwneud â phenderfyniadau cyfreithiol a wneir gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
  • Gwasanaeth - Cwynion yw'r rhain sy'n ymwneud â'r ffordd rydym wedi ymddwyn.
  • Cymysg - Mae'r rhain yn gwynion sy'n cynnwys materion cyfreithiol a gwasanaethau.

Enghraifft o gŵyn gyfreithiol

Ymosodwyd ar Mr Singh pan roedd ar ei ffordd adref o’r gwaith. Mae’n ysgrifennu at Wasanaeth Erlyn y Goron am ei fod yn anhapus ynghylch penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyhuddo ei ymosodwr o ymosodiad cyffredin.

Enghraifft o gŵyn am wasanaeth

Roedd Mrs Jones wedi dioddef aflonyddwch ac ni chafodd gyfle i ddarllen ei Datganiad Personol Dioddefwr yn uchel yn y llys.

Enghraifft o gŵyn gymysg

Mae Mr King yn anhapus ynghylch penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i newid y cyhuddiad yn erbyn ei ymosodwr o ladrad i ddwyn. Mae hefyd yn bryderus na gafodd lythyr yn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad.


Nid yw anghytundebau proffesiynol o fewn fframwaith y polisi cwynion. Er enghraifft, rhwng heddwas ac erlynydd, neu rhwng cwnsler yr amddiffyniad a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Beth nad yw'r polisi yn ei gynnwys?

Hawl Dioddefwr I Gael Adolygiad Achos

Mae gan ddioddefwyr sy’n anhapus ynghylch penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â dwyn unrhyw gyhuddiadau, neu i ddod ag achos i ben, hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad dan Gynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad (VRR).

Datblygwyd y cynllun mewn ymateb i ddyfarniad y Llys Apêl yn achos Killick [R v Christopher Killick [2011] EWCA Crim 1608]. lle penderfynodd y llys fod gan ddioddefwyr troseddau hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniadau Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag erlyn neu i ddod ag achos i ben. Penderfynodd y Llys hefyd na ddylid ystyried bod ceisiadau o’r fath yn gwynion.

Nid cwynion yw ceisiadau Hawl Dioddefwyr i Gael Adolygiad ac felly nid ydynt o fewn cylch gwaith y polisi cwynion. Ni chaiff dioddefwyr sy’n anfodlon â chanlyniad eu cais Hawl Dioddefwyr i Gael Adolygiad gyflwyno cwyn gyfreithiol dan y polisi cwynion.

Ceisiadau Neu Apeliadau Amddiffyniad

Nid yw ein trefn gwyno yn ffordd i ddiffynyddion mewn achosion sy’n parhau geisio sicrhau bod yr achosion yn eu herbyn yn cael eu gollwng, nac yn ffordd i unigolion sydd wedi’u dyfarnu’n euog geisio cael eu heuogfarn wedi’i wrthdroi. Cofnodir gohebiaeth o’r math hwn fel adborth ac ni chaiff ei hystyried fel rhan o’r drefn gwyno. Dylai diffynyddion ac unigolion sydd wedi’u dyfarnu’n euog yn y sefyllfaoedd hyn gael cyngor cyfreithiol annibynnol.

Cwynion Achosion Cyfreithiol Sy'n Parhau Neu Arfaethedig

Pan fydd cwyn yn ymwneud ag achos cyfreithiol sy’n parhau neu sy’n arfaethedig, efallai mai dim ond gwybodaeth gyfyngedig y byddwn yn gallu ei darparu. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd angen gohirio ystyried cwyn os gallai gwneud hynny niweidio’r achos.

Hawliadau Sivil

Pan fydd achwynydd yn nodi ei fod yn bwriadu, neu eisoes wedi cychwyn achos sifil yn erbyn Gwasanaeth Erlyn y Goron, bydd ystyried cwyn ac unrhyw faterion sydd heb eu datrys yn dod i ben a gellir eu hystyried ar lefel briodol y drefn gwyno ar ôl i unrhyw achos sifil ddod i ben.

Cwynion Camdriniol Neu Barhaus

Efallai y byddwn yn gwrthod delio â chwynion sy’n gamdriniol, gohebiaeth sy’n afresymol o barhaus neu gwynion lle mae ein trefn gwyno ffurfiol wedi cael ei rhoi ar waith yn llawn.

Cwynion Am Sefydliadau Eraill

Nid yw’r polisi hwn yn berthnasol i gwynion nac adborth am sefydliadau partner megis yr heddlu, y llysoedd na’r farnwriaeth. Dylid cyfeirio cwynion ac adborth am wasanaethau a ddarperir gan sefydliadau eraill yn uniongyrchol at y sefydliadau hynny. Darperir manylion cyswllt mudiadau cyfiawnder troseddol eraill ar ddiwedd y canllaw hwn..

Cwynion Am Arferion Cyflogi Neu Recriwtio Gwasanaeth Erlyn y Goron

Nid yw cwynion am ganlyniad ymgyrchoedd recriwtio nac arferion cyflogi Gwasanaeth Erlyn y Goron yn rhan o gylch gwaith y polisi hwn. Ymdrinnir â chwynion o’r fath yn unol â pholisi recriwtio Gwasanaeth Erlyn y Goron a deddfwriaeth gyflogi berthnasol.

Gweithdrefn Rhoi Adborth

Sut mae rhoi adborth?

Gall unrhyw un roi adborth i Wasanaeth Erlyn y Goron, ac nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.

Gallwch roi adborth i ni yn y ffyrdd canlynol:

Gwefan: Gallwch roi adborth drwy ein gwefan drwy'r ffurflen Adborth ar-lein.

E-bost: Gellir llwytho’r ffurflen Adborth a Chwynion i lawr o’n gwefan a’i hanfon dros e-bost i’r Ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron berthnasol. Mae cyfeiriadau e-bost holl ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gael ar ein gwefan.

Post: Gellir darparu adborth yn ysgrifenedig neu drwy lenwi’r ffurflen Adborth a Chwynion y gellir ei llwytho i lawr oddi ar ein gwefan. Mae cyfeiriadau postio holl ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gael ar ein gwefan.

Dros y ffôn: Gellir darparu adborth dros y ffôn. Mae rhifau ffôn holl ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gael ar ein gwefan.

Sut bydd fy adborth yn cael ei ddefnyddio?

Bydd yr holl adborth yn cael ei gydnabod, ei gofnodi a’i ddadansoddi’n ffurfiol er mwyn canfod gwelliannau i ddatblygu ein gwasanaethau fel eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion y cyhoedd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu safonau gwasanaeth rhagorol a byddwn yn defnyddio adborth i ganfod a datblygu arferion da.

Y Drefn Gwyno

Pwy all wneud cwyn?

Gall yr unigolyn dan sylw wneud cwyn yn uniongyrchol neu gall cynrychiolydd enwebedig wneud cwyn ar ei ran, fel aelod o’r teulu neu ffrind, grŵp cymorth, twrnai neu weithiwr proffesiynol arall. Os byddwch chi'n enwebu cynrychiolydd i gwyno ar eich rhan, bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig i'r cynrychiolydd hwnnw weithredu ar eich rhan. Byddwn yn cysylltu â’r cynrychiolydd ac yn ei drin fel yr achwynydd.

Mae tri cham i’r drefn gwyno. Mae Cam Un a Cham Dau yn berthnasol i Gwynion Cyfreithiol a Gwasanaeth. Mae Cam Tri yn berthnasol i Wasanaeth neu elfen gwasanaeth Cwynion Cymysg.

Beth yw’r camau yn y drefn gwyno?

Datrys yn Gynnar

Mae llawer o unigolion sy’n anfodlon â’r gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu eisiau i rywun adolygu eu pryderon cyn gynted â phosibl. Y cam cyntaf yw cysylltu â swyddfa leol Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn datrys y gŵyn yn anffurfiol. Efallai y bydd modd datrys achos yr anfodlonrwydd ar unwaith a byddwn yn ceisio gwneud hynny drwy ddarparu esboniad, ymddiheuriad neu ganlyniad priodol arall o fewn tri diwrnod gwaith.

Os na allwn ddatrys eich pryderon mewn modd boddhaol, efallai y byddwch yn dymuno bwrw ymlaen â chwyn ffurfiol.

Cam Un

Bydd cwynion yng Ngham Un yn cael eu cofnodi'n ffurfiol a'u rheoli gan swyddfa leol Gwasanaeth Erlyn y Goron lle tarddodd y gŵyn. Bydd y gŵyn yn cael ei chyfeirio at y rheolwr perthnasol sy’n gyfrifol am destun y gŵyn. Bydd yn ymchwilio i'ch cwyn ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Lle nad yw'n bosibl cwblhau'r ymchwiliad, a darparu ymateb o fewn yr amserlen honno, byddwn yn ysgrifennu atoch yn nodi erbyn pa ddyddiad y gobeithiwn ymateb.

Cam Dau

Os ydych chi’n dal yn anfodlon â’r ymateb a gawsoch yng Ngham Un, gallwch gyfeirio’ch cwyn at y Dirprwy Brif Erlynydd y Goron perthnasol neu Ddirprwy Bennaeth yr Adran Gwaith Achos perthnasol o fewn mis o gael yr ateb. Rhowch fanylion pam rydych yn dal yn anfodlon. Bydd Dirprwy Brif Erlynydd y Goron neu Ddirprwy Bennaeth yr Adran Gwaith Achos yn adolygu eich cwyn ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.  Lle nad yw'n bosibl cwblhau'r ymchwiliad, a darparu ymateb o fewn yr amserlen honno, byddwn yn ysgrifennu atoch yn nodi erbyn pa ddyddiad y gobeithiwn ymateb.

Dyma fydd diwedd y broses ar gyfer cwynion sy'n ymwneud â phenderfyniadau cyfreithiol.

Cam Tri - Asesydd Cwynion Annibynnol

Os yw eich cwyn yn cyfeirio at y ffordd rydym wedi ymddwyn (cwyn am wasanaeth), a'ch bod yn dal yn anfodlon ar ôl Camau Un a Dau, gallwch gyfeirio'ch cwyn at yr Asesydd Cwynion Annibynnol (IAC) i'w hadolygu o fewn mis o gael ateb yng Ngham Dau. Mae'r IAC yn gweithredu'n annibynnol ar Wasanaeth Erlyn y Goron, ac mae'n gyfrifol am adolygu cwynion gan aelodau o'r cyhoedd yng nghyswllt ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan Wasanaeth Erlyn y Goron a'n hymlyniad wrth ein gweithdrefn gwynion sydd wedi'i chyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth am rôl yr IAC ar gael ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Bydd Swyddfa’r IAC yn rhoi gwybod pan fyddant wedi cael eich cwyn a bydd yr IAC yn darparu ymateb llawn o fewn 40 diwrnod gwaith i dderbyn y gŵyn [Gall dyddiad derbyn y cwyn fod yn wahanol i ddyddiad cael y cwyn oherwydd efallai y bydd angen cynnal ymholiadau i benderfynu a yw’r achos o fewn cylch gwaith yr IAC]. Os nad yw’n bosibl cwblhau’r ymchwiliad a rhoi ymateb o fewn yr amser hwnnw, bydd Swyddfa’r IAC yn cysylltu â chi i esbonio pam fod oedi, a byddant yn darparu dyddiad erbyn pryd maent yn gobeithio rhoi ymateb. Os nad yw’r IAC yn derbyn cwyn, er enghraifft am nad yw’n ymwneud â chwyn am wasanaeth neu am nad yw wedi bod drwy Gamau Un a Dau yn y broses gwyno, byddwch yn cael gwybod am y rheswm dros wrthod o fewn pum diwrnod gwaith o wneud y penderfyniad.

Manylion Cyswllt Yr IAC

Asesydd Annibynnol Cwynion ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron, 102 Petty France, Llundain SW1H 9EA

Cyfeiriad e-bost: IAComplaints@cps.gov.uk

Ffôn - Cynorthwyydd i'r IAC: 020 3357 0893 (10am-4pm o dydd Llun i ddydd Gwener)

Cyfeirio Cwynion at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd

Gall dioddefwyr gyfeirio eu cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd, drwy Aelod Seneddol, yn dilyn adolygiad yr IAC lle maent yn dal o’r farn bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi methu â chyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau (y Cod Dioddefwyr). Bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu a oes angen unrhyw ymchwiliad pellach o ystyried canfyddiadau’r IAC, a gall ystyried unrhyw ddulliau gwneud iawn a gynigir gan Wasanaeth Erlyn y Goron. Ni all yr Ombwdsmon ystyried materion nad ydynt yn ymwneud ag achosion o dorri’r Cod Dioddefwyr.

Mae manylion cyswllt yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ar gael yn yr adran cysylltiadau isod.

Sut bydd fy nghwyn yn cael ei thrin a beth fydd y canlyniad?

Byddwn yn delio â phob cwyn yn sensitif, yn deg ac yn gyfrinachol, a byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw eich cwyn wedi cael ei chadarnhau, naill ai’n llwyr neu’n rhannol, neu heb ei chadarnhau.

Os oes cyfiawnhad dros eich cwyn, byddwn yn ymddiheuro, yn ceisio unioni’r mater lle bynnag y bo modd ac yn cymryd camau i sicrhau nad yw’n digwydd eto. Mewn achosion eithriadol, lle bu gwall ar ein rhan ni a bod tystiolaeth glir o golli deunydd heb ei yswirio neu ofid difrifol a achoswyd gan gamweinyddu neu wasanaeth gwael, efallai bydd taliad cysur gweddol fach yn cael ei gynnig.

Sut alla i wneud cwyn?

Gellir gwneud cwyn yn y ffyrdd canlynol:

Gwefan: Gallwch wneud cwyn ar ein gwefan drwy'r ffurflen Gwyno ar-lein

E-bost: Gellir llwytho’r ffurflen Adborth a Chwynion i lawr o’n gwefan a’i hanfon dros e-bost i’r Ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron berthnasol. Mae cyfeiriadau e-bost holl ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gael ar ein gwefan.

Post: Gallwch wneud cwyn yn ysgrifenedig neu drwy lenwi’r ffurflen Adborth a Chwynion y gellir ei llwytho i lawr oddi ar ein gwefan. Mae cyfeiriadau postio holl ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gael ar ein gwefan.

Dros y ffôn: Cysylltwch â’r Ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron leol lle tarddodd y gwyn. Mae rhifau ffôn holl ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gael ar ein gwefan. Byddwn yn ceisio datrys eich cwyn dros y ffôn, ond efallai y byddwn yn gofyn i chi gyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig (er enghraifft, os na allwn ddeall natur eich cwyn dros y ffôn neu os yw eich cwyn yn un gymhleth). Os na allwch gyflwyno’ch cwyn yn ysgrifenedig, byddwn yn anfon copi o’n nodyn o’r sgwrs atoch er mwyn i chi gytuno arno.

Fel arfer, dylid darparu pob cwyn a gyfeirir at yr Asesydd Annibynnol yng Ngham Tri yn y drefn gwyno yn ysgrifenedig naill ai dros e-bost neu drwy’r post.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau bod y broses gwyno neu roi adborth ar ein gwasanaeth yn hawdd i bawb. Os na allwch ddefnyddio unrhyw un o’r opsiynau a nodwyd, byddwn yn fodlon cael eich cwyn mewn fformat arall.

Pa wybodaeth fydd angen i mi ei darparu?

Er mwyn sicrhau bod modd delio â’ch cwyn yn gyflym ac yn effeithlon, darparwch y wybodaeth ganlynol:

  • enw llawn;
  • dyddiad geni;
  • cyfeiriad post;
  • cyfeiriad e-bost os oes gennych un;
  • manylion cyswllt (gan gynnwys manylion eich cynrychiolydd enwebedig, lle bo hynny’n berthnasol);
  • manylion llawn y gwyn ac a ydych yn ddioddefwr, yn dyst neu’n achwynydd arall;
  • y dull gorau o gysylltu â chi (llythyr, e-bost, ffôn);
  • tystiolaeth o gydsyniad neu atwrneiaeth, os ydych chi’n gweithredu ar ran rhywun.

Os yw eich cwyn yn ymwneud ag achos, dylech hefyd gynnwys:

  • enw(au) y diffynnydd/diffynyddion [Cofiwch fod angen enw(au) y diffynnydd/diffynyddion arnom er mwyn adnabod yr achos];
  • Cyfeirnod Unigryw’r achos, os ydych yn ei wybod;
  • natur a dyddiad(au) unrhyw drosedd(au);
  • y man lle digwyddodd y drosedd/troseddau;
  • y gwasanaeth heddlu a ymchwiliodd i’r drosedd/troseddau;
  • y llys(oedd) a ddeliodd â’r achos (os aeth yr achos i’r llys).

Os ydych eisoes wedi ceisio datrys eich pryderon yn anffurfiol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, rhowch fanylion yr aelod staff Gwasanaeth Erlyn y Goron a’ch cynorthwyodd.

Faint o amser sydd gennyf i wneud cwyn?

Dylid gwneud cwyn o fewn chwe mis i’r mater rydych yn gwneud cwyn amdano. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd cwynion a geir y tu allan i'r cyfnod hwn yn cael eu hystyried, er enghraifft os daethoch yn ymwybodol o'r mater y cwynir amdano fwy na chwe mis ar ôl iddo ddigwydd.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon ar ôl cael ateb i’ch cwyn, gallwch uwchgyfeirio eich cwyn i’r cam nesaf. Rhaid gwneud hyn o fewn un mis o gael yr ateb. Os na allwch gadw at yr amserlen hon, cysylltwch â’ch swyddfa Gwasanaeth Erlyn y Goron leol cyn gynted ag y bo modd i esbonio’r rheswm/rhesymau dros yr oedi.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd cwynion a geir y tu allan i’r amserlen hon yn cael eu hystyried.

Pryd fydda i’n cael ymateb i fy nghwyn?

  • Byddwn yn cydnabod eich cwyn ar bob cam o’r broses gwyno o fewn tri diwrnod gwaith o’i chael.
  • Byddwn yn ymateb i gwynion yng Ngham Un a Dau o fewn 20 diwrnod gwaith o’i gael.
  • Bydd yr IAC yn ymateb i gwynion o fewn 40 diwrnod gwaith i dderbyn cyfeirio’r gwyn.

Os nad yw’n bosibl darparu ymateb o fewn yr amserlenni hyn, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio pam ac yn rhoi gwybod i chi erbyn pa ddyddiad rydym yn gobeithio rhoi ymateb.

Manylion Cyswllt

Cysylltiadau Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae manylion cyswllt holl swyddfeydd Ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Adrannau Gwaith Achos ar gael ar ein gwefan.

Uned Seneddol a Chwynion Gwasanaeth Erlyn y Goron
Desg Gymorth Ymholiadau y Cyhoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron
Ffôn: 020 3357 0899, 020 3357 0000 (9am – 5pm, o dydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost: enquiries@cps.gov.uk

Cysylltiadau eraill

Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd
Ffôn: 0345 015 4033
Gwefan: www.ombudsman.org.uk/home

Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol
Ffôn: 020 7271 2492
E-bost: correspondence@attorneygeneral.gov.uk
Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/attorney-generals-office

Y Swyddfa Gartref
Ffôn: 020 7035 4848
E-bost: public.enquiries@homeoffice.gov.uk
Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/home-office

Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu
Ffôn: 0300 020 0096
E-bost: enquiries@policeconduct.gov.uk
Gwefan: www.policeconduct.gov.uk/

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Ffôn: 020 3334 3555
E-bost: general.queries@justice.gov.uk
Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/ministry-of-justice

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion
Gwefan: https://www.victimandwitnessinformation.org.uk/

Cymorth i Ddioddefwyr
Ffôn: 08 08 16 89 111
Gwefan: www.victimsupport.org.uk

Cyngor ar Bopeth
Dod o hyd i’ch Cyngor Ar Bopeth lleol: www.citizensadvice.org.uk/index/getadvice
Gwefan: www.citizensadvice.org.uk

Scroll to top