Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cyswllt y CPS

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro pa ddata y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn ei gasglu amdanoch chi pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwasanaeth ar-lein ‘Cyswllt’ i gwyno, rhoi adborth, gofyn am Hawl Dioddefwyr i gael Adolygiad neu i wneud ymholiad cyffredinol. Bydd yr hysbysiad hefyd yn esbonio sut gallwn ddefnyddio’r data hwnnw.

Gallwch weld yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar ddechrau'r broses ac unwaith eto ar y diwedd cyn i chi gyflwyno eich ffurflen.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu amdanoch yn cael ei gyfyngu i drin yr hyn rydych chi’n ei gyflwyno. Yn hyn o beth, dylech roi gwybodaeth sy’n berthnasol ac yn angenrheidiol i ni brosesu’r hyn rydych chi’n ei gyflwyno.

Casglu eich data personol

Os ydych chi’n cysylltu â ni ar eich rhan eich hun, mae’r data personol byddwn yn ei gasglu wedi’i gyfyngu i:

  • Eich enw;
  • Eich cyfeiriad;
  • Eich dyddiad geni;
  • Eich rhif ffôn;
  • Eich cyfeiriad e-bost;
  • Unrhyw gyfyngiadau ar ba bryd neu sut gallwn ni gysylltu â chi;
  • Gwybodaeth am y mater sydd yn yr hyn rydych chi’n ei gyflwyno.

Os ydych chi’n cysylltu â ni ar ran rhywun arall, mae’r data personol byddwn yn ei gasglu wedi’i gyfyngu i:

  • Eich perthynas â’r unigolyn rydych chi’n ei gynrychioli;
  • Eich enw a'u henw nhw;
  • Eich cyfeiriad a’u cyfeiriad nhw;
  • Eu dyddiad geni;
  • Eich rhif ffôn;
  • Eich cyfeiriad e-bost;
  • Unrhyw gyfyngiadau ar ba bryd neu sut gallwn ni gysylltu â chi;
  • Gwybodaeth am y mater sydd yn yr hyn rydych chi’n ei gyflwyno.

Gwybodaeth ddemograffig ddewisol

Efallai eich bod hefyd wedi cytuno i ddarparu data demograffig fel gwybodaeth am eich hunaniaeth o ran rhywedd, eich oed, eich ethnigrwydd ac anabledd.

Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn ein helpu i ddeall profiadau pobl o wahanol gefndiroedd o’n gwasanaeth er mwyn i ni allu gwella pethau pan fydd angen.

Mae unrhyw wybodaeth a roddwch yn yr adran hon yn gyfrinachol. Ni fydd yr wybodaeth hon ar gael i’r sawl sy’n delio â’ch mater. Ni fydd yn effeithio ar y canlyniad o gwbl.

Mae pob cwestiwn yn cynnwys dewis ‘mae’n well gennyf beidio â dweud’ felly does dim rhaid i chi roi ateb i bob cwestiwn. Sylwch fod gan y CPS ddyletswydd gyfreithiol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau bod y gwasanaethau’n diwallu anghenion pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Mae hyn yn cynnwys oed, ethnigrwydd, rhyw ac anabledd ond nid dim ond rhain. Mae monitro cydraddoldeb yn rhywbeth mae’r CPS yn ei ddefnyddio i ddadansoddi profiadau grwpiau gwahanol o bobl o’r gwasanaeth a, phan fydd angen, er mwyn gweithredu fel sy’n briodol i wella’r gwasanaethau hynny.

Defnyddio eich data personol

Byddwn yn defnyddio data personol megis:

  • enw, cyfeiriad a dyddiad geni er mwyn i ni allu cadarnhau pwy ydych chi, os ydych chi’n cysylltu â ni am achos;
  • enw a chyfeiriad er mwyn i ni allu cydnabod eich gohebiaeth a darparu ymateb;
  • rhif ffôn, e-bost a chyfyngiadau ar gyfer gohebu er mwyn i ni allu cysylltu â chi os bydd gennym ni ymholiad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnom ni;
  • Gwybodaeth ddemograffig, sy’n cael ei gwneud yn ddienw, er mwyn i ni allu monitro a gwella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Rydym yn parchu eich preifatrwydd ac ni fyddwn yn gwerthu nac yn darparu mewn unrhyw ffordd eich data personol ac eithrio pan fyddwch chi wedi gofyn yn benodol i ni wneud hynny neu pan fydd y gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny. Dim ond er mwyn prosesu eich mater byddwn yn defnyddio eich data personol er mwyn i ni allu ymateb yn briodol.

Y Sail Gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu data personol yw Erthygl 6(e) ‘angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd’. Mae prosesu’r data hwn yn caniatáu i unigolion godi cwynion, gofyn am hawl dioddefwyr i adolygu, gwneud ymholiad cyffredinol, neu roi adborth am y gwasanaeth mae’r CPS yn ei ddarparu i aelodau’r cyhoedd. Maes o law, mae hyn yn galluogi’r CPS i asesu lle gellir gwella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu a gwneud unrhyw newidiadau yn unol â hynny. Chi sydd i benderfynu a ydych chi am roi eich data personol i’r CPS.

Os bydd eich mater yn cynnwys unrhyw ddata categori arbennig fel sy’n cael ei ddiffinio yn Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU neu unrhyw ddata sy’n ymwneud ag achos troseddol, mae'r CPS yn dibynnu ar Erthygl 9(e) ‘budd sylweddol i’r cyhoedd’ am y rhesymau a nodir uchod, a drwy roi pwysau i’r pwysigrwydd bod y cyhoedd yn gallu cysylltu â ni ynghylch materion y maen nhw wedi dod ar eu traws wrth ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol.

Diogelwch eich data personol

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch a phreifatrwydd y data personol byddwch yn eu rhoi i ni. Drwy weithredu’r holl fesurau technegol a sefydliadol angenrheidiol byddwn yn diogelu rhag colli, camddefnyddio, mynediad heb awdurdod neu ddatgelu, addasu neu ddinistrio. Bydd eich data yn cael eu storio ar weinyddion sydd wedi’u hamgryptio ac ni fyddant yn cael eu rhannu y tu allan i’r CPS.

Mae mynediad at y data personol rydych chi’n ei ddarparu mewn perthynas â’ch mater wedi’i gyfyngu i’r unigolion hynny sy’n ymwneud â'i reoli, ymchwilio iddo a’i adolygu.

Cadw eich data personol

Bydd popeth a gyflwynir drwy’r system ‘Cyswllt’ yn cael ei ddileu’n awtomatig dair blynedd o’r rhyngweithio a’r datrysiad diwethaf i’ch mater.

Eich hawliau

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu defnyddio mewn perthynas â’r data rydym yn eu prosesu amdanoch chi. Os ydych chi eisiau gwybod rhagor am yr hyn sydd ar gael, ewch i dudalen Diogelu Data a’r CPS ar y wefan i gael rhagor o fanylion.

CPS yw rheolydd data unrhyw ddata personol rydych chi’n dewis eu cynnwys yn eich cyfathrebu â ni drwy'r rhaglen hon. Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data’r CPS:

 Jackie Ronchetti
 Gwasanaeth Erlyn y Goron
 102 Petty France
 Llundain SW1H 9AE

E-bost: dataprotectionofficer@cps.gov.uk

Scroll to top