Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Safonau Gwasanaeth i Ddioddefwyr: yr hyn y gall dioddefwyr ei ddisgwyl gennym ni

Rydym yn gwybod y gall y system cyfiawnder troseddol fod yn ddryslyd. Un o’n prif flaenoriaethau ni yw gwneud pethau’n haws i chi fel dioddefwr.

Mae’r dudalen hon yn egluro’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan Wasanaeth Erlyn y Goron: ein perthynas â chi, y ffordd y byddwn yn eich trin chi, a sut byddwn yn eich cynorthwyo drwy’r broses erlyniad troseddol.

I gael esboniad cam-wrth-gam o beth fydd yn digwydd pan fydd achos yn cyrraedd Gwasanaeth Erlyn y Goron, edrychwch ar ein canllawiau ar-lein i ddioddefwyr.

Darllenwch ymlaen i gael gwybodaeth am y canlynol:

  • Sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithio gyda dioddefwyr
  • Ein Safonau Gwasanaeth i Ddioddefwyr, sy’n nodi’r gwasanaeth y byddwn yn ei ddarparu i chi.
  • Y gwasanaethau a’r cynlluniau cymorth y gallwch chi eu disgwyl gennym ni.

Dioddefwyr a Gwasanaeth Erlyn y Goron: pa rôl sydd gennym ni mewn perthynas â chi?

Fel Gwasanaeth Erlyn y Goron, ein gwaith ni yw erlyn y person cywir am y drosedd gywir. Rydym yn annibynnol ar yr heddlu ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell lle bynnag y bo modd. Gallwch ddysgu mwy am ein rôl ni yn y system cyfiawnder troseddol ar ein tudalen Ynglŷn â Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Byddwn yn aml yn gofyn i ddioddefwr neu dyst ein helpu ni drwy ddweud wrth y llys beth ddigwyddodd. Mae’n bwysig nodi mai ar ran y wladwriaeth yr ydym yn erlyn achosion, yn hytrach nag ar ran pobl unigol. Mae hynny’n golygu mai nad cyfreithiwr i ddioddefwr ydym ni, yn wahanol i ddiffynnydd sydd â chyfreithiwr yr amddiffyniad. Y wladwriaeth (neu’r Goron) yw’r un sy’n ‘dod â chyhuddiad yn erbyn’ (cyhuddo’n swyddogol) y diffynnydd.

Pam mae’n gweithio fel hyn? 

Mae’n gweithio fel hyn i warantu bod gan bawb hawl i dreial teg.

  • Mae hyn yn golygu bod pobl yn cael eu hystyried yn ddieuog nes bod y llys yn profi eu bod yn euog.
  • Rhaid i’r dystiolaeth brofi hyn ‘y tu hwnt i amheuaeth resymol’ – sy’n golygu bod y llys yn sicr bod y person yn euog, yn hytrach na meddwl ei fod yn debygol o fod yn euog.
  • Gan mai erlynwyr sy’n penderfynu a ddylid erlyn rhywun ai peidio, rhaid iddynt ddilyn rheolau caeth i wneud yn siŵr bod penderfyniad yn cael ei wneud am y rhesymau cywir.
  • Mae annibyniaeth yr erlynydd yn rhan allweddol o gadw’r broses hon yn deg.

Mae ein herlynwyr wedi cael eu hyfforddi i wneud y canlynol:

  • Asesu tystiolaeth yn deg a gwneud penderfyniadau cyfreithiol yn annibynnol.
  • Penderfynu a oes digon o dystiolaeth i rywun gael ei ddyfarnu’n euog yn realistig.
  • Penderfynu a yw’r broses o erlyn rhywun er budd y cyhoedd.

Maen nhw’n gwneud hyn drwy ddefnyddio canllawiau cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron o’r enw Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. (Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein tudalen Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron).

Pam na all Gwasanaeth Erlyn y Goron drafod fy nhystiolaeth gyda mi?

  • Nid yw ein herlynwyr yn cael trafod tystiolaeth gyda chi fel dioddefwr.
  • Y rheswm am hyn yw ei bod yn bwysig mai eich tystiolaeth chi rydych chi’n ei rhoi, ac nad oes neb arall wedi dylanwadu ar y dystiolaeth honno – nac unrhyw dystiolaeth arall a ddefnyddir yn yr achos.

Eich hawliau chi fel dioddefwr

Nid yw’r broses ar gyfer treial teg yn golygu eich bod chi, fel dioddefwr trosedd, yn cael eich gadael allan. Mae eich profiad yn bwysig dros ben i ni ac i bob asiantaeth cyfiawnder troseddol.

Mae gan ddioddefwyr ddeuddeg hawl sy’n egluro sut y dylent gael eu trin gan asiantaethau’r system cyfiawnder troseddol. Darllenwch am yr hawliau hyn ar dudalen Cod Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r Cod Dioddefwyr hefyd yn nodi pwy sy’n gyfrifol am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar bob cam o’r achos.

Gall dioddef trosedd fod yn brofiad anodd i unrhyw un. Dewch o hyd i gymorth i’ch helpu i ymdopi ag effaith trosedd ar wefan Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gallwch hefyd gael gafael ar gwnsela a therapïau seicolegol eraill gan y GIG. Does dim angen oedi cyn cael therapi neu gwnsela am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol neu erlyniad. Os ydych chi’n teimlo y byddai’n helpu, mae’n bwysig cael gafael arno cyn gynted â phosibl. 

Y gwasanaeth y byddwn yn ei ddarparu i chi

Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron dair Safon Gwasanaeth i Ddioddefwyr, sy’n nodi lefel y gwasanaeth rydym wedi ymrwymo i’w ddarparu’n gyson i ddioddefwyr.

Byddwn yn cyfathrebu gydag empathi.

  • Byddwn yn trin pawb ag urddas a pharch.
  • Byddwn yn cyfathrebu â chi mewn ffordd glir ac empathig.
  • Rydym yn gwybod bod pawb yn wahanol; byddwn yn sensitif i’ch anghenion ac yn eu hystyried lle bynnag y bo modd.
  • Byddwn yn gwrando arnoch ac yn eich hatgyfeirio at wasanaethau cymorth priodol.

Byddwn yn rhoi esboniadau clir i chi o’n penderfyniadau.

  • Byddwn yn agored ac yn onest am ein penderfyniadau ac yn rhoi’r wybodaeth sydd arnoch ei hangen i ddeall y penderfyniadau hynny. Os na allwn ddarparu’r wybodaeth honno, byddwn yn egluro’r rhesymau dros hynny.
  • Bydd ein hiaith yn hawdd ei deall, gan ddefnyddio termau syml.
  • Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi mewn ieithoedd neu fformatau eraill os bydd ei hangen arnoch.
  • Mae dioddef trosedd yn golygu eich bod yn debygol o ddod i gysylltiad â nifer o wahanol sefydliadau. Bydd rhai o’r sefydliadau’n darparu gwasanaeth yn uniongyrchol i chi, fel darparu gwybodaeth neu gymorth, a bydd sefydliadau eraill yn cysylltu â chi oherwydd eich bod yn cymryd rhan mewn achos llys.
  • Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau hyn i sicrhau eich bod yn cael un ffynhonnell o wybodaeth gyson.

Byddwn yn gwrando ar eich adborth ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella ein gwasanaethau.

  • Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf a gwneud pethau’n iawn.
  • Gallwch roi adborth pan fyddwn yn gwneud pethau da, neu gyflwyno cwyn pan fydd ein gwasanaeth yn ddiffygiol. Byddwn yn defnyddio eich adborth i ddysgu a gwella ein gwasanaeth.
  • Os byddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn yn cymryd cyfrifoldeb drosto ac yn ymddiheuro.
  • Dyma sut gallwch chi gysylltu â ni: ar-lein, dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy’r post.
  • Mae’r manylion cyswllt ar gyfer yr holl Ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gael ar dudalen Ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron

Yr hyn y mae gennych hawl iddo

Fel dioddefwr trosedd, mae gennych hawl i’r gwasanaethau a’r cynlluniau cymorth canlynol gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Cael atebion i’ch cwestiynau pan fyddwch yn mynd i’r llys i roi tystiolaeth 

Efallai y bydd gofyn i chi ddod i ddweud wrth y llys beth rydych chi’n ei wybod am y trosedd (er enghraifft, beth oeddech chi wedi’i weld neu ei glywed yn digwydd). Os bydd gofyn i chi wneud hyn, byddwch yn cael eich galw’n ‘dyst’ – mae hyn yn golygu eich bod yn rhywun (ar wahân i’r diffynnydd) sydd angen rhoi tystiolaeth yn y llys. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’r holl ddioddefwyr y gofynnir iddynt wneud hyn yn cael eu galw’n dystion, a dyna pam ei bod yn bosibl i chi gael eich disgrifio fel un.

Os byddwch chi’n dod i’r llys ar ddiwrnod y treial fel tyst, bydd rhywun o’r tîm erlyn – cyn i’r treial ddechrau – yn cyflwyno ei hun i chi. Bydd yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am y broses, gan gynnwys beth i’w ddisgwyl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran hon o’n canllaw i ddioddefwyr, o dan ‘diwrnod cyntaf y treial’.

Treuliau tystion: Mae gennych hawl i hawlio’n ôl unrhyw dreuliau penodol, fel costau teithio, prydau bwyd, aros dros nos, gofal plant a gofal oedolion. Nod Gwasanaeth Erlyn y Goron yw talu’r holl hawliadau am dreuliau sydd wedi’u cwblhau’n gywir o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl eu derbyn. Gallwch hawlio’r rhain drwy lenwi’r ffurflen treuliau tystion ar GOV.UK ar ôl i chi ddod i’r llys.

Gofyn am gymorth i roi eich tystiolaeth: ‘mesurau arbennig’

Gwyddom fod rhoi tystiolaeth yn y llys yn gallu bod yn frawychus. Ar gyfer dioddefwyr sy’n gyfreithiol ‘agored i niwed’ neu ‘dan fygythiad’ (eglurhad isod), mae pethau y gallwn ofyn yn ffurfiol i’r llys amdanynt i’ch helpu chi i deimlo’n fwy cyfforddus. Gelwir y rhain yn fesurau arbennig, a gallant gynnwys pethau fel gosod sgrin fel nad ydych chi’n gallu gweld y diffynnydd; neu roi eich tystiolaeth yn rhywle ar wahân i ystafell y llys drwy ‘gysylltiad byw’, sy’n debyg i alwad fideo. Mae mesurau arbennig yn eich helpu i ‘roi eich tystiolaeth orau’, er mwyn i chi fod yn gallu dweud wrth y llys beth ddigwyddodd yn y ffordd orau bosibl.

Dyma beth fydd yn rhaid i chi ei fodloni i gyd-fynd ag ystyr gyfreithiol ‘agored i niwed’:  

  • Bod dan 18 oed ar adeg y gwrandawiad llys; 
  • Neu fod ag anghenion corfforol neu feddyliol a allai effeithio arnoch chi’n rhoi eich tystiolaeth orau heb fesurau arbennig. 

Dyma beth fydd yn rhaid i chi ei fodloni i gyd-fynd ag ystyr gyfreithiol ‘dan fygythiad’:   

  • Teimlo’n ofnus neu’n ypsét iawn mewn ffordd a fydd yn effeithio arnoch chi wrth roi eich tystiolaeth orau; 
  • Neu ddioddef trosedd rhywiol neu gam-drin domestig; 
  • Neu’n ddioddefwr caethwasiaeth fodern; 
  • Neu wedi bod yn dyst i drosedd yn ymwneud â gwn neu gyllell.

Mae rhagor o wybodaeth am fesurau arbennig ar gael yn yr adran hon o’n canllaw i ddioddefwyr.

Cael gwasanaeth ychwanegol fel dioddefwr sydd wedi cael ei dreisio neu wedi dioddef troseddau rhywiol difrifol

Siarad â’ch Swyddog Cyswllt Dioddefwyr: Dylai dioddefwyr sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef troseddau rhywiol difrifol gael cyfeiriad e-bost uniongyrchol Swyddog Cyswllt Dioddefwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron. Y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr fydd eich pwynt cyswllt penodol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, a gall ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am faterion sy’n ymwneud â Gwasanaeth Erlyn y Goron yn uniongyrchol. Os yw’n berthnasol, byddwn hefyd yn rhoi cyfeiriad e-bost y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr i’ch cynghorydd annibynnol ar drais rhywiol.

Gofyn am gyfarfod gyda’r tîm erlyn: Cyn i’r treial gael ei gynnal, bydd oedolion sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef troseddau rhywiol difrifol yn cael cynnig cyfarfod gydag aelod o dîm erlyn Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae’r cyfarfod hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y treial sydd ar y gweill, yn ogystal â’r cymorth y gallwn ni ei ddarparu. Bydd eich Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn cysylltu â chi i gynnig y cyfarfod cyn y treial, gan ystyried eich anghenion a’ch dewisiadau penodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran hon o’n canllaw i ddioddefwyr, o dan ‘Cynnig i gael cyfarfod gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron’.

Cael gwasanaeth ychwanegol fel aelod o deulu mewn profedigaeth

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth ychwanegol i deuluoedd mewn profedigaeth sydd wedi colli rhywun mewn achosion fel llofruddiaeth, dynladdiad a marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Byddwn yn cynnig cwrdd â chi i egluro’r penderfyniadau cyfreithiol rydym wedi’u gwneud, a pham ein bod wedi gwneud hynny. Os byddwn wedi penderfynu erlyn, byddwn yn cynnig y cyfarfod hwn yn fuan cyn neu ar ôl i’r diffynnydd gael ei gyhuddo, gan roi gwybod i chi beth i’w ddisgwyl ym mhob cam o’r broses.

Byddwn hefyd yn cynnig cwrdd â chi ar ôl i’r diffynnydd gael ei ddyfarnu’n euog neu’n ddieuog o’r drosedd – er mwyn trafod y camau nesaf ac i ateb cwestiynau.

Does dim rhaid i chi gwrdd â ni os nad ydych chi eisiau. Gallwch hefyd newid eich meddwl p’un a ydych chi eisiau cwrdd â ni ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen gwybodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion, o dan ‘Gwasanaeth Erlyn y Goron Gwasanaeth i Deuluoedd mewn Profedigaeth’.

Cael gwybod am ein penderfyniadau

Byddwn yn rhoi gwybod ichi pryd byddwn ni’n gwneud penderfyniad i:

  • Atal neu “derfynu” cyhuddiad;
  • Newid neu “addasu” cyhuddiad – sy’n golygu y bydd y cyhuddiad yn llai neu’n fwy difrifol (ac yn effeithio ar y ddedfryd fwyaf y gallai’r diffynnydd ei chael pe bai’n cael ei ddyfarnu’n euog yn y llys).

Byddwn yn gwneud hyn mor glir â phosibl, gan egluro unrhyw delerau cyfreithiol er mwyn i chi ddeall pam ein bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.

Amserlen: Mae gennych chi hawl i glywed gennym ni o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl i ni wneud y penderfyniad.

Os ydych chi wedi dioddef trosedd difrifol iawn, wedi cael eich targedu’n gyson, neu’n agored i niwed yn gyfreithiol, yna mae gennych chi hawliau ychwanegol. Mae hyn yn golygu bod gennych chi hawl i glywed gennym ni o fewn un diwrnod gwaith ar ôl i ni wneud y penderfyniad. (Rydym wedi egluro beth mae ‘agored i niwed’ yn gyfreithiol yn ei olygu o dan yr adran uchod ‘Gofyn am gymorth i roi eich tystiolaeth’. I gael esboniadau o’r hyn sy’n cyfrif fel trosedd difrifol iawn, edrychwch ar y Cod Dioddefwyr.)

Gwneud datganiad personol dioddefwr

Yn ystod yr ymchwiliad cychwynnol, bydd yr heddlu’n gofyn i chi a hoffech chi ysgrifennu datganiad personol dioddefwr. Dyma eich cyfle chi i egluro sut mae’r trosedd wedi effeithio arnoch chi.Os hoffech gael arweiniad ar beth i’w gynnwys yn eich datganiad personol dioddefwr, gallwch fynd i dudalen Datganiad Personol Dioddefwr GOV.UK.

Os ceir y diffynnydd yn euog, byddwn yn rhannu eich datganiad personol dioddefwr â’r llys – gan bwysleisio sut mae’r trosedd hwn wedi effeithio arnoch chi fel y dioddefwr.

Gallwch ddarllen y datganiad personol dioddefwr i’r llys eich hun, neu gallwch ofyn i ni wneud hynny ar eich rhan. Gallai rhiant neu ofalwr wneud hynny ar eich rhan hefyd.

Os hoffech chi ddarllen y datganiad eich hun, gallwn ofyn i’r llys am fesurau arbennig i’ch helpu i wneud hynny (gweler uchod). Gallwch hefyd hawlio unrhyw dreuliau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran hon o’n canllaw i ddioddefwyr o dan ‘os ceir diffynnydd yn euog’.

Gofyn i ni adolygu ein penderfyniad i beidio â chyhuddo unigolyn sydd dan amheuaeth

Os byddwn yn penderfynu peidio ag erlyn yr achos, byddwn yn egluro’r rhesymau dros hynny. Fel arfer, gwneir hyn drwy eich cyswllt yn yr heddlu, ond mewn rhai mathau o achosion bydd ein herlynydd yn anfon llythyr atoch.

Os ydych chi’n anhapus â’r penderfyniad, mae gennych hawl i ofyn i ni ailystyried y penderfyniad hwnnw gan ddefnyddio ein cynllun ‘Hawl Dioddefwyr i Adolygiad’. Mae’n syml gofyn i ni wneud hyn: does dim rhaid i chi roi rhesymau penodol – mae’n ddigon i ddweud wrthym eich bod chi am i ni adolygu’r penderfyniad. Yn ddelfrydol, dylech ofyn i ni wneud hyn cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl i chi gael gwybod. Gallwch wneud hyn yn hawdd ar-lein, neu ein ffonio ni os yw’n well gennych.

Bydd erlynydd newydd yn adolygu’r penderfyniad a wnaed am eich achos – fel arfer o fewn 30 diwrnod gwaith. Bydd yn ysgrifennu atoch i egluro pam ei fod naill ai wedi penderfynu cadarnhau neu newid y penderfyniad a wnaed gan yr erlynydd blaenorol. Os ydych chi’n meddwl y bydd yn helpu, byddant yn cynnig sgwrsio gyda chi a thrafod yr achos naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Os ydych chi’n anhapus â phenderfyniad yr erlynydd newydd, gallwch ofyn am adolygiad pellach o’r achos. Bydd hyn yn cael ei wneud gan ein huned Apeliadau ac Adolygu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran hon o’n canllaw i ddioddefwyr o dan ‘Os penderfynwn ni beidio â chyhuddo – a’ch hawl i gael adolygiad’.

Rhoi adborth i ni neu wneud cwyn

Rydym eisiau gwybod a yw ein gwasanaeth yn ddiffygiol er mwyn i ni fod yn gallu cywiro pethau a dysgu ohono. Rydym hefyd eisiau gwybod a ydyn ni wedi gwneud rhywbeth yn dda er mwyn i ni fod yn gallu rhannu arferion gorau a pharhau i wneud hynny.

Gallwch gwyno am un neu’r ddau o’r canlynol:

  • Y penderfyniadau cyfreithiol rydym wedi’u gwneud
  • Ein gwasanaeth (y ffordd rydym wedi eich trin chi)

Cysylltwch â ni ar-lein, drwy e-bost, drwy’r post, neu dros y ffôn o fewn chwe mis ar ôl y mater. Mae’r manylion cyswllt priodol ar gael ar y dudalen hon sy’n rhestru Ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron.  

Os byddwch yn cyflwyno cwyn, byddwn yn ateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Os ydych chi’n anhapus â’n hymateb, gallwch chi ofyn i’ch cwyn gael ei rhoi i uwch reolwr o Wasanaeth Erlyn y Goron, a ddylai ymateb gyda chanlyniad i’ch cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os ydych chi wedi cwyno am ein gwasanaeth i chi, a’ch bod yn dal yn anfodlon â chanlyniad eich cwyn, gallwch anfon eich cwyn at yr Asesydd Cwynion Annibynnol i ymchwilio i’r mater. Mae’r Asesydd Cwynion Annibynnol yn annibynnol ar Wasanaeth Erlyn y Goron.

Os hoffech chi roi adborth am eich profiad, naill ai adborth cadarnhaol neu negyddol, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg. Does dim cyfyngiadau amser.

Scroll to top