Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Y treial

 

Faint o amser fydd hi’n ei gymryd i’r treial ddigwydd ar ôl i’r diffynnydd gael ei gyhuddo?

Mae pob achos yn wahanol ac nid oes un ateb i’r cwestiwn hwn. Cyn gynted ag y penderfynir cynnal treial, bydd y llys yn ei restru cyn gynted ag y bo modd. Efallai y bydd rhai achosion yn fwy syml, tra bydd gan eraill lawer o dystiolaeth y mae angen ei pharatoi cyn y treial. 

Yn anffodus, mae achosion wedi ôl-gronni yn system y llysoedd ar hyn o bryd. Mae’r llysoedd yn gwneud eu gorau i weithio drwy hyn cyn gynted ag y bo modd, ond gall olygu y gall y treial yn eich achos chi gymryd peth amser i ddigwydd. 

Mae gennych yr hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am y treial a bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd. 

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod wrth i chi aros i’r treial gael ei gynnal. Mae cymorth ar gael i chi drwy gydol y broses hon a gallwch benderfynu gofyn am gymorth ar unrhyw adeg. 

Diwrnod cyntaf y treial

Pan fyddwch yn cyrraedd y llys, bydd y swyddogion diogelwch yn eich tywys i ystafell aros y Gwasanaeth Tystion. Os ydych chi wedi trefnu gyda’r Gwasanaeth Tystion i ddod i mewn i’r llys drwy fynedfa ochr breifat, yna dylech ddilyn y cyfarwyddiadau y maent wedi’u rhoi i chi. 

Gwirfoddolwyr Cyngor Ar Bopeth sy’n rhedeg y Gwasanaeth Tystion. Gall y gwirfoddolwyr esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod y dydd a byddant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y treial. Lle bo’n bosibl, bydd y Gwasanaeth Tystion yn ceisio darparu mannau aros ar wahân ar gyfer tystion yr erlyniad a thystion yr amddiffyniad. Siaradwch â’ch cyswllt yn yr heddlu neu’r Gwasanaeth Tystion os ydych chi’n poeni am weld y diffynnydd neu unrhyw un arall yn y llys. 
Cyn i’r treial ddechrau, bydd rhywun o dîm yr erlyniad yn cyflwyno’i hun i chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses a beth i’w ddisgwyl. Gallai hyn fod yn weithiwr paragyfreithiol o Wasanaeth Erlyn y Goron, erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron neu fargyfreithiwr yr erlyniad. Fel arfer, bydd yr erlynydd yn y treial yn fargyfreithiwr annibynnol a fydd yn cyflwyno eich achos ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron. 

Bydd hefyd yn egluro beth fydd yn digwydd yn y llys ac yn cadarnhau pa fesurau arbennig sydd wedi cael eu rhoi ar waith ar eich cyfer. Mae ein hadran ar fesurau arbennig.
 
Bydd hefyd yn siarad â chi am natur gyffredinol achos yr amddiffyniad. Mae hyn yn golygu beth mae’r amddiffyniad yn debygol o’i ddweud am ein cyfrif ni o’r digwyddiad.

 Pwy ’di pwy yn ystafell y llys

Mewn llys ynadon, mae’r dystiolaeth yn cael ei chlywed gan banel o ynadon neu gan farnwr rhanbarth. Byddant yn penderfynu a yw’r diffynnydd yn ‘Euog’ neu’n ‘Ddieuog’ ac os ydynt yn cael y diffynnydd yn ‘Euog’, byddant hefyd yn penderfynu ar y ddedfryd y bydd y diffynnydd yn ei chael.

Yn Llys y Goron, bydd y dystiolaeth yn cael ei chlywed gan farnwr a rheithgor. Mae’r rheithgor yn cynnwys 12 aelod o’r cyhoedd a ddewisir ar hap o’r rhestr etholiadol. Yn Llys y Goron, y rheithgor sy’n penderfynu a yw’r diffynnydd yn ‘euog’ neu’n ‘ddieuog’. Os bydd y rheithgor yn canfod y diffynnydd yn ‘euog’, bydd y barnwr wedyn yn penderfynu pa ddedfryd y bydd y diffynnydd yn ei derbyn.

Os ydych chi'n rhoi tystiolaeth yn y llys, byddwch yn aros yn yr ystafell aros nes i chi gael eich galw i mewn. Ni fyddwch yn gallu gwylio'r treial tan ar ôl i chi roi eich tystiolaeth.  

Os nad ydych chi’n rhoi tystiolaeth yn y llys, cewch eistedd yn yr oriel gyhoeddus i wylio’r treial. 

Mae’n debygol y bydd ffrindiau neu deulu’r diffynnydd yn eistedd yn yr oriel gyhoeddus hefyd. Os nad ydych chi eisiau eistedd yn yr un lle â nhw na chael eich gweld ganddynt, efallai y bydd modd i chi drefnu i wylio’r treial o rywle arall yn ystafell y llys gyda chaniatâd y barnwr. Os felly, gallwch roi gwybod i’r Gwasanaeth Tystion a byddant yn eich helpu i wneud cais am hyn. 

Mae’r gwasanaeth llysoedd (GLlTEM) wedi llunio esboniad byr o bwy yw pwy mewn llys ynadon: ac mewn Llys y Goron.

Rôl bargyfreithiwr yr amddiffyniad

Mae rôl bargyfreithiwr yr amddiffyniad yn wahanol i rôl bargyfreithiwr yr erlyniad. 

Rôl bargyfreithiwr yr erlyniad yw profi, ar sail y dystiolaeth, fod y diffynnydd yn euog. Mewn cymhariaeth, nid oes angen i fargyfreithiwr yr amddiffyniad brofi bod y diffynnydd yn ddieuog. Ei rôl yw tynnu sylw at unrhyw broblemau neu dyllau yn achos yr erlyniad i ddangos i’r ynadon neu’r rheithgor na allant fod yn sicr bod y diffynnydd yn euog.

Proses y treial

Bydd bargyfreithiwr yr erlyniad yn agor yr achos drwy nodi’r cyhuddiadau yn erbyn y diffynnydd a ffeithiau cyffredinol yr achos.  

Weithiau, efallai y bydd angen i’r ynadon neu’r barnwr a’r bargyfreithwyr drafod rhai pwyntiau cyfreithiol cyn i’r treial ddechrau. Mae hyn yn beth arferol, felly peidiwch â phoeni os oes rhaid i chi aros ychydig yn hwy na’r disgwyl i’r treial ddechrau. Bydd y Gwasanaeth Tystion yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch beth sy’n digwydd.

Eich tystiolaeth

Mae’n debyg mai chi fydd y prif dyst felly mae’n debyg y gofynnir i chi roi eich tystiolaeth yn gyntaf.

Bydd sut y byddwch yn rhoi eich tystiolaeth yn dibynnu ar ba fesurau arbennig a roddwyd i chi gan y llys:  

  • Os ydych chi’n rhoi tystiolaeth y tu ôl i sgrin, bydd yn barod i chi cyn i chi ddod i’r llys.  
  • Os ydych chi’n rhoi tystiolaeth o gyswllt teledu yn adeilad y llys, bydd tywysydd y llys yn dod â chi i’r ystafell pan fydd hi’n amser i chi roi eich tystiolaeth.
  • Os ydych chi’n rhoi tystiolaeth o leoliad y tu allan i’r llys dros gyswllt fideo, bydd clerc y llys yn eich ‘gwahodd’ yn ddigidol i ystafell y llys ar yr adeg briodol. Bydd rhywun o’r llys yno i’ch helpu gyda hyn. 
  • Os oes angen cyfieithydd arnoch, byddwn wedi trefnu i un fod yno i chi.  

Os cafodd eich prif dystiolaeth ei recordio ar fideo, bydd hynny’n cael ei chwarae i’r llys yn gyntaf fel nad oes rhaid i chi fynd drwy’r digwyddiad cyfan yn llawn eto. 

Efallai y bydd bargyfreithiwr Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gofyn mwy o gwestiynau i chi i egluro’r hyn rydych wedi’i ddweud ac wedyn bydd bargyfreithiwr yr amddiffyniad yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i chi hefyd – gelwir hyn yn groesholi. 

Yna, os bydd angen iddo wneud hynny, bydd bargyfreithiwr Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gofyn rhai cwestiynau terfynol i chi – gelwir hyn yn ail-holi. 

Gwrandewch ar bob cwestiwn yn ofalus. Gallwch ofyn am glywed y cwestiwn eto, ac os nad ydych yn deall cwestiwn, gallwch ofyn i’r bargyfreithiwr ei aralleirio neu ei egluro cyn i chi ateb. 

Gall rhai o’r cwestiynau fod yn anodd eu hateb ond canolbwyntiwch ar ddweud y gwir. Os nad ydych chi’n gwybod yr ateb i gwestiwn neu os nad ydych chi’n cofio, mae’n iawn i chi ddweud hynny.

Gallwch ofyn am seibiant unrhyw bryd. 

Beth fydd yn cael ei ofyn i chi

Rôl tîm yr amddiffyniad yw cyflwyno fersiwn y diffynnydd o’r digwyddiadau a herio’r hyn rydych chi’n ddweud a ddigwyddodd.  Gallai hyn fod drwy ddweud eich bod yn dweud celwydd neu eich bod yn camgymryd. 

Gall rhai o’r cwestiynau fod yn anodd ond mae’n bwysig eich bod yn canolbwyntio ar ddweud y gwir. Dylech wrando’n ofalus ar yr hyn y mae bargyfreithiwr yr amddiffyniad yn ei ddweud ac ateb ei gwestiynau’n glir. Os ydych chi’n anghytuno â rhywbeth mae’n ei ddweud, dylech ddweud hynny. 

Os yw’n berthnasol i’r achos, efallai y bydd bargyfreithiwr yr erlyniad neu’r amddiffyniad yn gofyn i chi am unrhyw gyswllt a gawsoch gyda’r diffynnydd cyn a/neu ar ôl i’r drosedd ddigwydd. Gall hyn gynnwys negeseuon testun neu negeseuon e-bost.  

Yn ystod y treial, bydd y barnwr yn gwrando’n ofalus ar yr holl gwestiynau ac os bydd yn penderfynu bod cwestiwn yn amhriodol, ni fydd yn gadael iddo gael ei ofyn. Os byddwn ni’n credu bod cwestiwn yn amhriodol, gallwn ninnau hefyd wrthwynebu a gofyn i’r barnwr ei atal rhag cael ei ofyn.

Os byddwch angen cymryd saib ar unrhyw adeg, gallwch ofyn i’r barnwr. Mae hyn yn iawn a bydd y llys yn deall bod angen i chi gael ychydig funudau i chi'ch hun.

Tystion eraill a thystiolaeth y diffynnydd

Ar ôl i chi roi eich tystiolaeth, byddwn wedyn yn galw cyfres o dystion i roi tystiolaeth. 

Gallai’r rhain gynnwys:

  • Llygad-dystion a welodd rywbeth yn digwydd. 
  • Swyddogion yr heddlu sy’n gallu disgrifio’r dystiolaeth maent wedi dod o hyd iddi. 
  • Tystion arbenigol a fydd yn rhoi tystiolaeth yn ymwneud â’u maes arbenigedd. Er enghraifft, gallai meddyg roi tystiolaeth am unrhyw anafiadau a gawsoch, neu gallai arbenigwr tocsicoleg roi tystiolaeth am alcohol neu gyffuriau a oedd yn eich llif gwaed. 

Bydd bargyfreithiwr yr erlyniad yn gofyn cwestiynau i’r tystion am y dystiolaeth sy’n cefnogi’r achos. Yna bydd bargyfreithiwr yr amddiffyniad yn cael cyfle i ofyn cwestiynau iddynt hefyd – gelwir hyn yn groesholi. 
 
Unwaith y bydd bargyfreithiwr yr erlyniad wedi galw ei holl dystion, bydd y treial yn newid drosodd a bydd bargyfreithiwr yr amddiffyniad yn galw ei dystion.  Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i bob un o dystion yr amddiffyniad drwy eu croesholi.

Nid oes rhaid i’r diffynnydd roi tystiolaeth ac mae’n eithaf cyffredin i ddiffynnydd ddewis peidio â rhoi tystiolaeth yn y llys. Os bydd diffynnydd yn dewis peidio â rhoi tystiolaeth, ni allwn ei groesholi.

Fodd bynnag, bydd trawsgrifiad o’r cyfweliad a roddwyd gan y diffynnydd yng ngorsaf yr heddlu fel arfer yn cael ei ddarllen i’r llys fel rhan o achos yr erlyniad. Gall y llys wedyn ystyried yr hyn a ddywedodd y diffynnydd pan ofynnwyd iddo am y digwyddiad. 

Unwaith y bydd yr holl dystion wedi rhoi eu tystiolaeth ac wedi cael eu croesholi, bydd bargyfreithiwr Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gwneud araith gloi yn crynhoi holl bwyntiau allweddol ein tystiolaeth. Yna bydd bargyfreithiwr yr amddiffyniad yn gwneud araith gloi yn nodi lle mae’n credu bod diffygion yn achos yr erlyniad.   
 
Mewn llys ynadon, bydd yr ynadon neu’r barnwr rhanbarth wedyn yn mynd i ystafell breifat i ystyried eu tystiolaeth a phenderfynu ar eu rheithfarn.

Mewn Llys y Goron, bydd y barnwr yn crynhoi prif bwyntiau’r dystiolaeth ac yn rhoi ‘cyfarwyddiadau’ i’r rheithgor ynghylch y gyfraith. Mae hyn yn golygu y bydd yn esbonio pethau fel yr hyn y mae’n rhaid i’r erlyniad fod wedi’i brofi er mwyn i’r rheithgor gael y diffynnydd yn euog.  Bydd y rheithgor yn mynd i ystafell breifat i drafod y dystiolaeth a phenderfynu ar eu rheithfarn.   

Scroll to top