Os bydd ein herlynydd yn penderfynu nad yw’r achos yn pasio ein prawf dau gam, ac nad oes unrhyw dystiolaeth bellach y gallai’r heddlu chwilio amdani a fyddai’n newid hyn, ni fydd modd iddynt gyhuddo’r sawl a amheuir. Gelwir hyn hefyd yn benderfyniad i gynghori ‘dim camau pellach’ (NFA).
Os byddwn yn penderfynu peidio ag erlyn yr achos, byddwn yn egluro’r rhesymau am hynny – fel arfer, eich cyswllt heddlu fydd yn esbonio’r penderfyniad hwn i chi, ond mewn rhai mathau o achosion bydd ein herlynydd yn anfon llythyr atoch.
Os ydych chi’n anhapus â’r penderfyniad, mae gennych hawl i ofyn i ni edrych ar ein penderfyniad eto. Gelwir hyn yn ‘Hawl Dioddefwyr i Adolygiad’.
Nid oes proses ffurfiol y mae angen i chi ei dilyn i ofyn am adolygiad o’ch achos – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni yr hoffech i ni edrych ar ein penderfyniad eto.
Os hoffech chi, gallwch gynnwys gwybodaeth ynghylch pam yr hoffech i ni adolygu’r achos neu pam eich bod yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, ond nid oes angen i chi wneud hyn – mae’n ddigon dweud wrthym eich bod am i ni adolygu’r penderfyniad.
Os hoffech wneud cais am adolygiad, dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl i ni roi gwybod i chi am ein penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â’ch achos ac, yn ddelfrydol, dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith (pythefnos) yn ddiweddarach. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gallwn dderbyn ceisiadau a wneir dros dri mis ar ôl y penderfyniad – er enghraifft, os na ddywedwyd wrthych ar y pryd am eich hawl i gael adolygiad.
Os byddwch yn gofyn am adolygiad, bydd erlynydd newydd o’r tu mewn i Ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron yn adolygu’r holl dystiolaeth ac yn defnyddio ein prawf dau gam eto i ddod i’w benderfyniad ei hun yn yr achos. Efallai y bydd yn penderfynu bod y prawf cyfreithiol wedi’i fodloni a bod modd cyhuddo’r sawl a amheuir neu efallai y bydd yn cytuno â’r penderfyniad na ddylid cymryd camau pellach.
Ar ôl iddo gwblhau’r adolygiad hwn, bydd yn ysgrifennu atoch i esbonio’i benderfyniad. Bydd hefyd yn cynnig siarad â chi dros y ffôn neu wyneb yn wyneb i drafod yr achos os byddai hynny o gymorth i chi. Os ydych chi wedi darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’ch cais am adolygiad – er enghraifft, gwybodaeth ynghylch pam rydych chi’n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, bydd yr erlynydd yn mynd i’r afael ag unrhyw bwyntiau rydych chi wedi’u codi yn ei esboniad.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr erlynydd yn dweud wrthych beth yw ei benderfyniad o fewn 30 diwrnod gwaith (tua chwe wythnos). Os yw’r adolygiad yn debygol o gymryd mwy o amser na hyn, er enghraifft os oes llawer o dystiolaeth i’w hystyried, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint o amser y mae’r adolygiad yn debygol o’i gymryd ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd.
Os nad ydych chi’n hapus â phenderfyniad yr erlynydd newydd, gallwch ofyn am adolygiad pellach o’r achos. Bydd hyn yn cael ei wneud gan ein Huned Apeliadau ac Adolygu. Byddant yn adolygu’r holl dystiolaeth ac yn defnyddio ein prawf dau gam i ddod i’w penderfyniad ei hunain yn yr achos. Byddant yn ysgrifennu atoch i esbonio eu penderfyniad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.