Skip to main content

Safonau Gwasanaeth i Ddioddefwyr: yr hyn y gall dioddefwyr ei ddisgwyl gennym ni

Rydym yn gwybod y gall y system cyfiawnder troseddol fod yn ddryslyd. Un o’n prif flaenoriaethau ni yw gwneud pethau’n haws i chi fel dioddefwr.

Mae’r dudalen hon yn egluro’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan Wasanaeth Erlyn y Goron: ein perthynas â chi, y ffordd y byddwn yn eich trin chi, a sut byddwn yn eich cynorthwyo drwy’r broses erlyniad troseddol.

I gael esboniad cam-wrth-gam o beth fydd yn digwydd pan fydd achos yn cyrraedd Gwasanaeth Erlyn y Goron, edrychwch ar ein canllawiau ar-lein i ddioddefwyr.

Darllenwch ymlaen i gael gwybodaeth am y canlynol:

  • Sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithio gyda dioddefwyr
  • Ein Safonau Gwasanaeth i Ddioddefwyr, sy’n nodi’r gwasanaeth y byddwn yn ei ddarparu i chi.
  • Y gwasanaethau a’r cynlluniau cymorth y gallwch chi eu disgwyl gennym ni.

 

Safonau Gwasanaeth Dioddefwyr - Darllen Hawd

Rydym wedi gwneud fersiwn Hawdd ei Ddeallen o'r dudalen hon.

Gweler y fersiwn Hawdd ei Ddeallen