Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu Imam Abertawe am dreisio plant heb fod yn ddiweddar

|News, Sexual offences

Mae arweinydd crefyddol Mosg yn Abertawe wedi’i ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe am dreisio a cham-drin plentyn yn rhywiol bron i 20 mlynedd yn ôl.

Bu Khandaker Rahman, 67, yn cynnal gwersi Coran yn y Mosg pan gyflawnodd dri achos troseddol ar wahân yn erbyn y plentyn.

Gwadu’r troseddau wnaeth Rahman ond pan ddygwyd ef i dreial fis Mehefin 2022, oherwydd ei iechyd gwael nid oedd yn gyfreithiol addas i bledio. Felly, ni ofynnwyd i aelodau’r rheithgor ystyried pa un ai a oedd euog ai peidio, yn hytrach gofynnwyd iddynt benderfynu a oedd wedi cyflawni’r gweithredoedd corfforol ai peidio.

Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, penderfynodd y rheithgor fod Rahman wedi cyflawni’r tri achos.

Dywedodd Lucy Dowdall o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Yn yr achos hwn, mae’r dioddefwr wedi dangos dewrder aruthrol drwy ddod ymlaen, o ystyried grym Rahman yn ei gymuned.

“Ni wnaeth y cyfnod helaeth o amser sydd wedi mynd heibio nac iechyd gwael Rahman ein rhwystro ni rhag cyflwyno’r achos hwn yn y Llys a rhoi llais i’r dioddefwr.

“Diolch yn fawr iddi am y gefnogaeth gadarn y mae wedi’i rhoi i’r erlyniad hwn.”

Dedfrydwyd Khandaker Rahman i ryddhau’n llwyr.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Lucy Dowdall yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru-Wales a’r tîm Achosion Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol
  • Cafwyd Khandaker Mohammed Khalilur Rahman (dyddiad geni: 1/6/1955) yn euog o un achos o dreisio plentyn dan 13 oed, a dau achos o gam-drin yn rhywiol ar blentyn dan 13 oed rhwng 1 Ebrill 2005 a 1 Medi 2005
  • Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Medi 2022.

Further reading

Scroll to top