Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu dyn am lofruddio menyw hŷn a grwydrodd i'w dŷ

|News, Violent crime

Dedfrydwyd un o breswylwyr Abermaw a laddodd fenyw a gamgymerodd ei dŷ am Wely a Brecwast am lofruddiaeth/dynladdiad yn Llys y Goron Caernarfon.

Roedd David Redfern, 46 oed, yn ei gartref ar Rodfa’r Môr ar 10 Gorffennaf 2022 pan ddaeth o hyd i Margaret Barnes, 71 mlwydd oed, yn eistedd ar ei wely. Roedd wedi mynd i mewn i’r tŷ pum llawr gyda’i chês bychan, gan feddwl mai gwesty Gwely a Brecwast gydag ystafelloedd gwag yr oedd perthynas wedi ei argymell oedd y tŷ.

Taflodd Redfern hi allan o’r eiddo trwy rym, gan lusgo’r fenyw wrth ei fferau i lawr y grisiau ac allan i’r stryd.  Ar ryw adeg, pan oedd ar y llawr, roedd Redfern wedi ei chicio/sathru arni.

Dywedodd Rhian Jones o’r CPS: “Roedd ymateb David Redfern i’r camgymeriad yn un na ellid ei gyfiawnhau ac yn hollol anghymesur â’r sefyllfa.

“Arweiniodd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan y CPS at yr euogfarn hon, a chyfiawnder i Margaret Barnes.

“Bydd ei theulu a’i ffrindiau yn dal i deimlo’r golled ar ei hôl, ac rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â nhw, ond rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos yn eu helpu yn eu galar.”

Dedfrydwyd David Redfern i garchar am oes a gorchmynnwyd y bydd yn y carchar am o leiaf 14 mlynedd.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Rhian Jones yn Uwch-erlynydd y Goron yn CPS Cymru-Wales.
    Dyfarnwyd David Redfern (Dyddiad Geni: 21/2/1977) yn euog o lofruddiaeth yn dilyn achos llys.
    Bu farw Margaret Barnes ar 11 Gorffennaf 2022 yn 71 oed.

Further reading

Scroll to top