Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dau ddyn yn cael eu dedfrydu am ymosodiad gan gi

|News, Violent crime

Mae’r tad a’r mab, Ian Loftus, 59 a Thomas Matthew Skillen, 29 wedi cael eu dedfrydu am droseddau o fod yn gyfrifol am gi a achosodd anaf tra roedd allan o reolaeth ac yn beryglus mewn man cyhoeddus. Cafodd Skillen ei ddedfrydu hefyd am affráe ac ymosod gan achosi gwir niwed corfforol.

Cafodd Skillen ei garcharu am ddwy flynedd a hanner, tra bod Loftus wedi'i ddedfrydu i 14 mis, wedi'i ohirio am 18 mis, gyda gofyniad gweithgaredd adsefydlu 30 diwrnod.

Digwyddodd y mater dan sylw yn nhafarn y Magpie & Stump ym Mae Cinmel, sydd wedi’i lleoli ym Mharc Gwyliau Palin’s ar 15 Medi 2023, lle bu i ‘Kilo’, sef ci rottweiler croesfrid, anafu pedwar o bobl.

Ar noson 15 Medi 2023 roedd y ddau ddiffynnydd yn bresennol yn y dafarn gyda’r ci. Tra yn y man eistedd y tu allan, gofynnwyd i Skillen atal Kilo rhag neidio ar y byrddau. Ymatebodd Skillen drwy wneud sylw ‘mae fy nghi eisiau rhoi cusan i chi’ wrth aelod benywaidd o’r staff diogelwch ac yna gadawodd yr eiddo.

Ychydig yn ddiweddarach dychwelodd Loftus a Skillen. Parhaodd Skillen i weiddi sylwadau difrïol ar y staff diogelwch. Dringodd Skillen dros y ffens yn ôl i ardd gwrw’r dafarn. Roedd Skillen yn ymosodol ac yn sarhaus tuag at y staff diogelwch a ofynnodd iddo adael dro ar ôl tro. Ceisiodd swyddog diogelwch atal Skillen, mewn ymgais i’w symud o’r eiddo, ymosododd Skillen ar y swyddog diogelwch drwy frathu ei fraich.

Erbyn hyn, roedd Loftus hefyd wedi dychwelyd i’r ardd gwrw gyda Kilo. Brathodd y ci aelod o staff gan achosi anaf i’w braich a brathodd gwsmer gan achosi anaf i’w fraich a’i gyhyryn deuben. Aeth y ci ymlaen i ymosod a brathu dau berson arall a oedd yn bresennol ar ôl iddo neidio allan o ffenestr gefn car y diffynnydd. Cawsant anafiadau trywaniad a chleisiau. O’r pedwar person a anafwyd gan y ci, roedd tri angen triniaeth yn yr ysbyty.

Ym mis Ionawr eleni, plediodd Loftus a Skillen yn euog i’r cyhuddiadau yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Dywedodd Deanne McGinty o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus i aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys plant, a oedd ar wyliau yn y parc ac i’r aelodau o staff a oedd yn gweithio yn y dafarn. Mae’r dioddefwyr wedi cael eu gadael â chreithiau parhaol, sy’n eu hatgoffa’n gyson o’r digwyddiad. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y dedfrydau a roddwyd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur iddyn nhw”.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Deanne McGinty yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
  • Thomas Matthew Skillen (Dyddiad Geni: 09/12/1994) wedi pledio’n euog i 4 cyhuddiad o fod yn gyfrifol am gi a achosodd anaf tra roedd allan o reolaeth ac yn beryglus mewn man cyhoeddus, affrâe ac ymosod gan achosi gwir niwed corfforol ar 11 Ionawr 2024 yn Llys y Goron yr Wyddgrug
  • Ian Loftus (Dyddiad Geni: 27/02/1965) wedi pledio’n euog i 4 cyhuddiad o fod yn gyfrifol am gi a achosodd anaf tra roedd allan o reolaeth ac yn beryglus mewn man cyhoeddus ar 11 Ionawr 2024 yn Llys y Goron yr Wyddgrug
  • Dedfrydwyd Thomas Matthew Skillen i gyfanswm o ddwy flynedd a hanner o garchar yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 1 Mawrth 2024
  • Dedfrydwyd Ian Loftus i 14 mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis, a gofyniad gweithgaredd adsefydlu 30 diwrnod yn yr Wyddgrug. Llys y Goron ar 1 Mawrth 2024.

Further reading

Scroll to top