Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Ar ôl i ddiffynnydd gael ei gyhuddo – Y gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon

Y llys ynadon

Ceir gwahanol fathau o lysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae pob achos troseddol yn dechrau gyda gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon.

Mewn llysoedd ynadon, gwneir penderfyniadau naill ai gan banel o ynadon neu gan Farnwr Rhanbarth. 

Mae ynadon yn wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant i ymgymryd â’r rôl hon ond nid ydynt yn weithwyr cyfreithiol proffesiynol. Fe’u cefnogir gan gynghorydd cyfreithiol sy’n gyfreithiwr neu fargyfreithiwr hyfforddedig a’i rôl yw darparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i’r ynadon. 

Mae Barnwyr Rhanbarth yn weithwyr cyfreithiol proffesiynol hyfforddedig a fydd wedi ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr cyn dod yn farnwr.

Penderfynu ble y bydd achos yn cael ei glywed

Defnyddir y gwrandawiad cyntaf weithiau i benderfynu a ddylai achos aros yn y llys ynadon neu a ddylid ei anfon i Lys y Goron. 

Mae’r penderfyniad hwn fel arfer yn seiliedig ar ddifrifoldeb y trosedd.  

Fel arfer, mae ond yn bosibl rhoi troseddau llai difrifol fel troseddau moduro neu droseddau trefn gyhoeddus ar brawf mewn llys ynadon.  Mae’r rhain yn cael eu galw’n droseddau ‘diannod yn unig’. 

Dim ond yn Llys y Goron y gellir rhoi’r troseddau mwyaf difrifol fel trais rhywiol neu lofruddiaeth ar brawf. Mae’r rhain yn cael eu galw’n droseddau 'ditiadwy yn unig'.  

Mae troseddau sydd rywle yn y canol yn cael eu galw’n droseddau ‘neillffordd’ a bydd y Barnwr Rhanbarth neu’r ynadon yn penderfynu a ddylai’r achos aros yn y llys ynadon neu gael ei anfon i Lys y Goron.  

Byddant yn gwneud hyn drwy adolygu’r achos a phenderfynu a fyddai ganddynt y pŵer i roi dedfryd briodol ar gyfer yr achos pe bai’r diffynnydd yn cael ei ddyfarnu’n euog. 

Os ceir diffynnydd yn euog mewn llys ynadon, gellir ei ddedfrydu i uchafswm o 6 mis yn y carchar am un trosedd neu uchafswm o 12 mis yn y carchar am ddau neu ragor o droseddau. Felly, pe bai’r diffynnydd yn cael dedfryd uwch na’r ddedfryd pe bai’n cael ei ddyfarnu’n euog, bydd yr achos yn cael ei anfon i Lys y Goron.

Pennir canllawiau dedfrydu gan y Cyngor Dedfrydu yn unol â chyfraith y DU. 

Mewn troseddau ‘neillffordd’, mae gan y diffynnydd hefyd yr opsiwn i ddewis i’w hachos gael ei glywed yn Llys y Goron, gerbron rheithgor.

Mechnïaeth

Yn y gwrandawiad cyntaf, bydd y llys ynadon yn penderfynu a ddylid rhyddhau’r diffynnydd ar fechnïaeth. 

Ystyr mechnïaeth yw pan benderfynir nad oes angen cadw’r diffynnydd yn y carchar cyn y treial. Os caiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, mae’n dal yn ofynnol iddo ddod i’r llys ar bob cam o’r broses ond ni fydd yn cael ei gadw yn y carchar rhwng gwrandawiadau. 

Os na chaiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa (yn y carchar) tan y treial.

Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron a thwrnai’r amddiffyniad yn cyflwyno dadleuon i’r llys ynghylch a ddylid caniatáu mechnïaeth i’r diffynnydd. Mater i’r llys wedyn fydd gwneud y penderfyniad hwn.  
 
Os caiff diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth, bydd y llys yn aml yn nodi rhai amodau y mae’n rhaid i’r diffynnydd eu bodloni er mwyn cael caniatâd i aros ar fechnïaeth. Bydd yr heddlu’n esbonio i chi a oes unrhyw amodau y mae’n rhaid i’r diffynnydd eu dilyn a beth maen nhw’n ei olygu’n ymarferol. Gallai amodau mechnïaeth gynnwys pethau fel y diffynnydd yn ildio’i basbort neu’n cael gorchymyn i beidio â chysylltu â chi neu fynd i’r ardal lle rydych chi’n byw.
 
Os bydd diffynnydd yn torri unrhyw un o’r amodau hyn, efallai y caiff ei gadw yn y ddalfa (ei anfon i garchar) cyn y treial. Os oes gennych unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu bod diffynnydd wedi torri un o’r amodau hyn neu os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl, dylech gysylltu â’r heddlu cyn gynted ag y bo modd.
 
Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yn y gwrandawiad hwn.

Scroll to top