Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Helpwch ni i wella sut rydym yn egluro ein gwaith ar achosion o drais ac ymosodiadau rhywiol difrifol – ymgynghoriad cyhoeddus

MAE'R YMGYNGHORIAD HON YN CAU

Fel rhan o’n gwaith ar achosion o drais a throseddau rhywiol difrifol, rydym wedi ymrwymo i wella’r wybodaeth a ddarparwn i ddioddefwyr, cefnogwyr a’r cyhoedd ynghylch sut rydym yn cyhuddo ac yn erlyn yr achosion hyn.

Er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwn, rydym wedi cynhyrchu tair dogfen.

Canllaw Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol

Mae’n ganllaw cam wrth gam wedi’i gynllunio i roi lle i ddioddefwyr a’u cefnogwyr fynd i ddeall proses treial troseddol a’r hyn y gallant ei ddisgwyl ar bob cam.

Gellir ei ddarllen yn llawn ond mae hefyd yn rhoi’r opsiwn i ddioddefwyr ddewis pa gam yn yr achos y maent am gael gwybodaeth amdano.

Mae ar gael fel canllaw ar-lein ar ein gwefan, sy’n cynnwys testunau a fideos, a hefyd ar ffurf PDF y gellir ei lwytho i lawr mewn fersiynau Cymraeg e Saesneg.

Ein hymrwymiad i ddioddefwyr trais rhywiol

Dyma grynodeb byrrach o’n hymrwymiadau i ddioddefwyr trais rhywiol ynghylch sut byddwn yn eu cefnogi drwy eu hachos.

Mae ar gael fel tudalen we ac fel PDF y gellir ei lwytho i lawr mewn fersiynau Cymraeg e Saesneg

Datganiad polisi Gwasanaeth Erlyn y Goron – sut rydym yn cyhuddo ac yn erlyn achosion o dreisio

Mae hwn yn ddatganiad polisi manylach sy’n nodi sut yr ydym yn ymdrin â’n cyfrifoldebau mewn achosion o dreisio.

Rydym yn disgwyl y bydd y datganiad hwn o’r budd mwyaf i’r rheini sy’n gweithio o fewn y system cyfiawnder troseddol ac ochr yn ochr â hi – er enghraifft gwasanaethau cymorth sy’n gweithio gyda dioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol difrifol, ond gall hefyd fod o ddiddordeb i ddioddefwyr, cefnogwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae ar gael fel tudalen we ac fel PDF y gellir ei lwytho i lawr mewn fersiynau Cymraeg e Saesneg.

Ein hymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar y dogfennau hyn gan ein bod eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud pethau’n iawn – gan ddarparu gwybodaeth mewn ffordd glir sy’n diwallu anghenion ein cynulleidfaoedd.

Rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n ystyried anghenion yr holl gymunedau a fydd yn defnyddio’r dogfennau hyn – gan gynnwys pobl nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw – felly rydym wedi cynnwys cwestiwn ar hygyrchedd hefyd.

Gallwch roi adborth ar un, dau neu bob un o’r tair dogfen. Gallwch ddod o hyd i’r dolenni isod i weld y dogfennau ar-lein neu ar ffurf PD yn ogystal â’r dolenni i arolwg yr ymgynghoriad sydd ynghlwm â phob un.

DocumentVersionsFeedback

Canllaw Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol

Gweld y fersiwn ar-lein

PDF Cymraeg

 

Arolwg yr ymgynghoriad (ffurflen ar-lein)

Arolwg yr ymgynghoriad (dogfen Word)

Ein hymrwymiad i ddioddefwyr trais rhywiol

Gweld y fersiwn ar-lein

PDF Cymraeg

 

Arolwg yr ymgynghoriad (ffurflen ar-lein)

Arolwg yr ymgynghoriad (dogfen Word)

Datganiad polisi Gwasanaeth Erlyn y Goron – sut rydym yn cyhuddo ac yn erlyn achosion o dreisio

Gweld y fersiwn ar-lein

PDF Cymraeg

 

Arolwg yr ymgynghoriad (ffurflen ar-lein)

Arolwg yr ymgynghoriad (dogfen Word)

Ymateb i’r ymgynghoriad

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad drwy lenwi’r ffurflenni ar-lein uchod neu drwy lenwi’r dogfennau word a’u hanfon drwy e-bost at:

Rasso.consultation@cps.gov.uk

Neu eu postio i:

Ymgynghoriad RASSO
Y Gyfarwyddiaeth strategaeth a pholisi
Gwasanaeth Erlyn y Goron
10fed llawr 102 Petty France
Llundain SW1H 9EA

Y dyddiad car ar gyfer derbyn yr ymatebion yw 23 Rhagfyr.

Y camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad

Wedi i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn ystyried pob ymateb a gawn. Byddwn yn defnyddio eich adborth i wella’r tair dogfen lle mae angen i ni wneud hynny a byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ein gwefan.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, anfonwch nhw at: rasso.consultation@cps.gov.uk

Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb.

Scroll to top