Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dyn o Ynys Môn wedi’i ddedfrydu am lofruddio ei bartner

|News, Violent crime , Domestic abuse

Mae dyn 52 mlwydd oed o Ynys Môn wedi’i ddedfrydu i oes o garchar yn Llys y Goron Caernarfon/Yr Wyddgrug am lofruddio ei bartner.

Yn yr achos llys, clywodd y rheithgor sut y credai Colin Milburn fod ei bartner, Buddug Jones, yn cael perthynas gyda rhywun arall a bu’n cysgu yn ei gerbyd dros y dyddiau cyn ei marwolaeth. Ar 22 Ebrill y llynedd aeth i’w cartref a’i lladd yn ei gwely.

O’r dystiolaeth fforensig canfuwyd bod llecyn o waed y dioddefwr wedi ei ysgeintio dros ei ddillad ef.

Dywedodd Andrew Slight o’r CPS: “Roedd Colin Milburn yn grediniol fod ei bartner yn cael perthynas gyda rhywun arall ac fe ymosododd yn ffiaidd arni.

“Bu’r anafiadau catastrophig a achosodd i’w phen yn angheuol.

“Cyflwynwyd tystiolaeth gref gan y CPS i ddangos mai Milburn oedd yn gyfrifol a chafodd ei ddedfrydu yn sgil hynny.
“Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Buddug sydd wedi dioddef colled drom.”

Dedfrydwyd Colin Milburn ar 6 Ionawr 2023 i garchar am oes a gorchmynwyd iddo fod dan glo am 20 o flynyddoedd o leiaf.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Andrew Slight yn Uwch Erlynydd y Goron yn CPS Cymru-Wales
  • Dyfarnwyd Colin Milburn (DOB: 15/3/1970) yn euog o lofruddiaeth yn dilyn achos llys
  • Bu farw Buddug Jones ar 22 Ebrill 2022 yn 48 mlwydd oed.

Further reading

Scroll to top