Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu dyn am anfon trydariad hiliol sarhaus at un o gyn-chwaraewyr Dinas Abertawe

|News

Mae dyn a drydarodd neges hiliol sarhaus ynghylch chwaraewr pêl-droed wedi cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Abertawe.

Anfonodd Josh Phillips, 26, y neges ddifrïol mewn ymateb i drydariad gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn cyhoeddi bod y chwaraewr, Michael Obafemi, yn cael ei drosglwyddo ar fenthyciad i Glwb Pêl-droed Burnley.

Yn ei gyfweliad gyda’r heddlu, dywedodd Phillips ei fod wedi gwneud y sylw yn ei ffolineb ar ôl yfed, a’i fod wedi’i ddileu ychydig wedi hynny. Disgrifiodd y gair fel un atgas, gan ddweud wrth yr heddlu ei fod wedi ei siomi yn ei weithredoedd ei hun.

Dywedodd Matthew Henson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae troseddau casineb yn bethau ffiaidd dros ben ac maen nhw’n cael effaith niweidiol iawn ar ddioddefwyr a’r gymuned ehangach.

“Mae’r CPS wedi ymrwymo i fynd i’r afael â throseddau casineb o bob ffurf pan fydd achosion yn pasio ei brawf cyfreithiol, ac mae’n pryderu’n ofnadwy am bawb sydd wedi bod yn destun trosedd gasineb.”

Cafodd Phillips ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar wedi'i ohirio am 18 mis, gyda gorchymyn cymunedol am 18 mis i gynnwys 160 awr o waith di-dâl.  Fe wnaeth y llys hefyd osod gorchymyn gwahardd pêl-droed am 3 blynedd.

Dywedodd Douglas Mackay, Dirprwy Brif Erlynydd y Goron Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Phrif Erlynydd Chwaraeon y CPS: “Mae’r CPS yn chwarae rhan hynod bwysig wrth fynd i’r afael â’r troseddau hyn a gwneud pêl-droed yn ddiogel i’w wylio a’i chwarae. Does dim lle i weithredoedd troseddol atgas mewn pêl-droed, ac mae digwyddiadau fel y rhain yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ddioddefwyr.

“Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r heddlu, yr awdurdodau pêl-droed a grwpiau cefnogwyr i gael gwared ar hyn a sicrhau bod pêl-droed yn gêm i bawb, a ddim yn un sy’n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un. Rydyn ni’n annog cefnogwyr pêl-droed i roi gwybod i’r clybiau pêl-droed neu’r heddlu am unrhyw droseddau casineb sy’n digwydd.”

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Matthew Henson yn Erlynydd y Goron Rhanbarthol yn CPS Cymru-Wales.
    Plediodd Josh Phillips (dyddiad geni: 9/2/1997) yn euog i drosedd o anfon neges hynod sarhaus, anweddus, anllad neu fygythiol ar rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus, yn groes i a.127(1)(a) a (3) Deddf Cyfathrebiadau 2003.
    Cafodd ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Abertawe ar 31 Mawrth 2023.

Further reading

Scroll to top