Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu cwpwl a oedd yn gweithio mewn bwyty poblogaidd am gyflawni twyll

|News, Fraud and economic crime

Mae menyw a dwyllodd bwyty The Hardwick yn y Fenni, gan guddio rhywfaint o’r arian yng nghyfrif ei gŵr, wedi cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd Nicola Nightingale, 47, yn gweithio ym mwyty’r pen-cogydd, Stephen Terry, fel gweinyddwr yn talu anfonebau a gweithwyr. Fodd bynnag, canfuwyd ei bod wedi creu trafodion ffug yn talu arian iddi hi ei hun a’i gŵr.

Mewn gwrandawiad blaenorol, plediodd Nicola Nightingale yn euog i dwyll a oedd yn dod i gyfanswm o £150,234.63.

Roedd ei gŵr, Simon Nightingale, 50, a oedd hefyd yn gweithio yn y bwyty, yn gwadu caffael eiddo troseddol, sef £46,741.57 a dalwyd i mewn i’w gyfrif, ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor wedi iddynt glywed yr holl dystiolaeth.

Dywedodd Millie Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Cymerodd Nicola Nightingale fantais ar ei safle o ymddiriedaeth o fewn y busnes, gan ddefnyddio’r cyfle er ei budd ei hun.

"Cyflwynodd Wasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth yn dangos y bu 55 trafodyn i mewn i gyfrif Simon Nightingale.

“Yn hytrach na bod yr arian wedi mynd tuag at gostau busnes dilys, fe aeth i lenwi pocedi dau weithiwr anonest sydd heddiw wedi dod o flaen eu gwell."

Dedfrydwyd Nicola Nightingale i ddwy flynedd o garchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd a'i gorchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl a chwblhau 12 diwrnod o weithgarwch adsefydlu.

Dedfrydwyd Simon Nightingale i ddwy flynedd o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd a chafodd orchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Millie Davies yn un o Uwch-erlynwyr y Goron CPS Cymru-Wales
    Plediodd Nicola Nightingale (dyddiad geni: 16/4/1975) yn euog i dwyll yn groes i adran 1 o Ddeddf Twyll 2006
    Cafwyd Simon Nightingale (dyddiad geni: 22/6/1972) yn euog o gaffael eiddo troseddol yn groes i adran 329(1) o Ddeddf Enillion Troseddau 2002.

Further reading

Scroll to top