Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Tri dyn yn euog o droseddau o dwyll a chaffael eiddo troseddol

|News, Fraud and economic crime

Heddiw, mae tri dyn a gafwyd yn euog o dwyll a chaffael eiddo troseddol mewn cysylltiad â dofednod, a oedd wedi arwain at golledion o £318,347, wedi cael eu dedfrydu i gyfnod o garchar.

Roedd Rana Dhaia, perchennog Townsend Poultry yn Wolverhampton, ynghyd â Darren Williams ac Elliot SMITH, Rheolwyr Dosbarthu a gyflogid gan y 2 Sisters Food Group yn Llangefni, wedi dod at ei gilydd i gyflawni twyll.

Yn ystod archwiliad yn y 2 Sisters Food Group, daeth i’r amlwg bod Williams ac SMITH yn cyflenwi cywion ieir i Townsend Poultry. Nid oedd Townsend Poultry yn gwsmer i'r 2 Sisters Food Group, ac nid oedd cofnodion o unrhyw ddanfoniadau. Yn dilyn ymholiadau â’r cludwyr lleol a ddefnyddid gan y 2 Sisters Food Group, cafwyd cadarnhad bod 84 o ddanfoniadau wedi cael eu gwneud i Townsend Poultry, a oedd yn werth cannoedd o filoedd o bunnoedd. Roedd Williams ac SMITH wedi dinistrio cofnodion y danfoniadau hynny.

Mae Rana Dhaia wedi cael ei ddedfrydu i dreulio cyfnod o garchar am pedwar blynedd a tri mis.

Mae Darren Williams wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar wedi’i ohirio am dwy flynedd gyda gofyniad i wneud 300 awr o waith di-dâl.

Mae Elliot Smith wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar wedi’i ohirio am dwy flynedd gyda gofyniad i wneud 250 awr o waith di-dâl.

Dywedodd Emmalyne Downing, Eiriolwr y Goron: “Roedd y tri diffynnydd wedi camddefnyddio eu swyddi o fewn y cwmnïau i dwyllo’r 2 Sisters Food Group. Gall achosion o dwyll fod yn gymhleth, a gweithiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn agos gyda’r Uned Troseddau Economaidd yn Heddlu Gogledd Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru i lunio achos cryf yn erbyn y diffynyddion. O ganlyniad i’r dystiolaeth a gyflwynwyd, cafwyd pob un o’r tri yn euog”.

Dywedodd David Hall, y Ditectif Gwnstabl o Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru: “Ar ôl cyd-weithio gyda phartneriaid o’r Asiantaeth Safonau Bwyd, rydym yn falch iawn o’r canlyniad heddiw, a chafwyd Williams, Smith a Dhaia yn euog.

“Nid yn unig yr oedd y troseddau hyn wedi costio miloedd o bunnoedd i'r 2 Sisters Food Group, ond gallent hefyd fod wedi achosi goblygiadau pellgyrhaeddol oherwydd problemau olrhain pe bai’r diffynyddion heb gael eu dal.

“Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Erlyn y Goron am eu cyfraniad at yr ymchwiliad, sydd wedi arwain at y canlyniad heddiw.”

Dywedodd Andrew Quinn, Pennaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd: "Rydym yn croesawu'r dedfrydau hyn, gan fod hyn yn anfon neges gref i atal y rhai hynny sy'n ystyried cyflawni troseddau bwyd. Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu Gogledd Cymru am eu gwaith rhagorol yn sicrhau'r euogfarnau hyn.  Gyda'n gilydd, rydym yn gryfach yn y frwydr yn erbyn twyll bwyd a pharhawn i weithio gyda phartneriaid i helpu i sicrhau y caiff defnyddwyr eu gwarchod.

"Gall unrhyw un sy'n amau y cyflawnwyd trosedd bwyd roi gwybod amdani i'r NFCU yn ddiogel a chyfrinachol. Gallwch roi gwybod ar-lein am drosedd bwyd neu dros radffôn ar 0800 028 1180. Ar gyfer ffonau symudol nad ydynt yn rhai'r DU neu alwadau o dramor, defnyddiwch 0207 276 8787."

Nodiadau i olygyddion

  • Ar 9 Mawrth 2023 yn Llys Ynadon Caernarfon, plediodd Darren WILLIAMS (Dyddiad Geni: 15/11/1956) o Ynys Môn, yn Euog i Dwyll drwy gamddefnyddio ei swydd, am wneud Enillion o droseddau, a throsglwyddo eiddo troseddol.
  • Ar 9 Mawrth 2023 yn Llys Ynadon Caernarfon, plediodd Elliot SMITH (Dyddiad Geni: 22/03/1991) o Ynys Môn, yn euog i Dwyll drwy gamddefnyddio ei swydd.
  • Ar 26 Hydref 2023 yn Llys y Goron Caernarfon, plediodd Rana DHAIA (Dyddiad Geni: 21/09/1966) o Wolverhampton, yn Ddieuog i gaffael eiddo troseddol ac fe’i cafwyd yn euog ar ôl y treial.
  • Mae Emmalyne Downing yn Eiriolwr y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.

Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

  • Swyddogaeth benodedig o'r Asiantaeth safonau Bwyd yw'r NFCU i orfodi'r gyfraith. Rhydd yr Uned arweinyddiaeth ar droseddau bwyd ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 
  • Sefydlwyd yr NFCU yn 2015 yn dilyn adolygiad o'r digwyddiad yn 2013 yn ymwneud â chig ceffyl. Diben yr NFCU yw gwarchod defnyddwyr a'r diwydiant bwyd rhag troseddau bwyd mewn cadwyni cyflenwi bwyd.

Rhoi gwybod am droseddau bwyd

  • Gall aelodau o'r cyhoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y sector bwyd a diodydd godi eu llais am droseddau bwyd trwy Food Crime Confidential.
  • Gall unrhyw un sy'n amau y cyflawnwyd trosedd bwyd roi gwybod amdani i'r NFCU yn ddiogel a chyfrinachol.
  • Gallwchroi gwybod ar-lein am drosedd bwyd  neu dros radffôn ar 0800 028 1180. Ar gyfer ffonau symudol nad ydynt yn rhai'r DU neu alwadau o dramor, defnyddiwch 0207 276 8787.

Further reading

Scroll to top