Skip to main content

Beth mae angen i chi ei wneud cyn y treial

Mae gennych yr hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am y treial, proses y treial a’ch rôl chi fel tyst.

Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt yr achos a gallwch ofyn iddynt am yr wybodaeth ddiweddaraf ar unrhyw adeg. Byddant yn rhoi gwybod i chi pa ddyddiad y disgwylir i’r treial ddechrau a pha bryd y mae’n debygol o ddod i ben. Byddant hefyd yn rhoi gwybod i chi a fydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys a pha bryd y bydd angen i chi gyrraedd.

Bydd y llys yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y treial yn dechrau’n brydlon, ond weithiau gellir gohirio dechrau eich treial – er enghraifft os bydd treial arall yn rhedeg yn hwyr mewn ystafell llys. Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch beth sy’n digwydd.