Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Cymorth i roi eich tystiolaeth – ‘mesurau arbennig’

Pan fydd achos yn mynd i dreial, gofynnir i chi roi tystiolaeth fel arfer.  Mae hyn yn golygu disgrifio’r hyn a ddigwyddodd i chi yn eich geiriau eich hun ac ateb cwestiynau amdano gan fargyfreithiwr yr erlyniad a chan fargyfreithiwr yr amddiffyniad.  

Gall hyn fod yn frawychus ond mae pethau y gallwn ofyn amdanynt i’ch helpu i deimlo’n fwy cyfforddus pan fyddwch yn rhoi eich tystiolaeth – ‘mesurau arbennig’ yw’r enw ar y rhain. 

Gellir eu rhoi ar waith ar gyfer sut rydych yn rhoi eich tystiolaeth yn y treial neu weithiau gallant olygu eich bod yn rhoi eich holl dystiolaeth cyn i’r treial ddigwydd.  Byddwn yn gwneud cais am y mesurau hyn ar eich rhan a bydd y barnwr yn penderfynu a ddylid eu caniatáu ai peidio.

Mae mesurau arbennig ar gael i’ch cefnogi os bydd eu hangen arnoch ond does dim rhaid i chi ofyn amdanynt os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.

Gall dioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed ac sy’n cael eu bygwth ofyn am fesurau arbennig.  

Mae dioddefwyr trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol difrifol yn cael eu hystyried dan y gyfraith fel tystion sy’n cael eu bygwth, felly mae hyn yn golygu bod gennych hawl awtomatig i ofyn am fesurau arbennig, os ydych am eu cael. 

Dim ond i ddioddefwyr a thystion agored i niwed y mae rhai mesurau arbennig ar gael ar hyn o bryd.

Byddwch yn cael eich ystyried yn dyst agored i niwed os ydych chi dan 18 oed. Byddwch hefyd yn cael eich ystyried yn dyst agored i niwed os oes gennych anabledd neu gyflwr corfforol neu feddyliol a fyddai’n effeithio ar eich gallu i roi eich tystiolaeth orau yn y llys. Dylech drafod hyn â’ch cyswllt yn yr heddlu os ydych chi’n meddwl bod hyn yn berthnasol i chi.

Mae dau fesur arbennig a all eich helpu i roi rhywfaint neu’r cyfan o’ch tystiolaeth cyn y treial.

  1. Tystiolaeth gyntaf wedi’i recordio ar fideo.
    ‘Tystiolaeth gyntaf’ yw eich disgrifiad chi o’r hyn a ddigwyddodd i chi. Mae’r mesur arbennig hwn yn caniatáu i ni recordio eich tystiolaeth ar fideo cyn y treial a’i chwarae’n ôl yn ystod y treial fel nad oes angen i chi ailadrodd holl fanylion y drosedd yn y llys. Bydd bargyfreithiwr yr erlyniad yn dal i ofyn cwestiynau ychwanegol i chi er mwyn egluro unrhyw faterion a byddwch yn cael eich croesholi (eich holi am eich tystiolaeth) gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad yn ystod y treial. Weithiau, efallai y byddwch yn clywed pobl yn galw hyn yn ‘VRI’ sef ‘Video Recorded Interview’ neu’n gyfweliad ‘ABE’ sef ‘Achieving Best Evidence’.
  2. Croesholi neu ail-holi drwy fideo wedi’i recordio.
    Mae ‘croesholi’ yn golygu pan fydd cyfreithwyr y diffynnydd yn gofyn cwestiynau i chi am yr hyn a ddigwyddodd ac ‘ail-holi’ yw’r hyn a alwn unrhyw gwestiynau dilynol terfynol y mae bargyfreithiwr yr erlyniad yn eu gofyn i chi. Mae’r mesur arbennig hwn yn caniatáu i ni gofnodi eich croesholi a’ch ail-holi cyn y treial. Ni fyddai’n rhaid i chi fynychu’r treial o gwbl a bydd eich tystiolaeth gyntaf a’ch croesholi wedi’u recordio ar fideo yn cael eu chwarae gerbron y rheithgor a’r llys yn lle hynny.

Nid yw’r mesur arbennig hwn ar gael ar gyfer holl ddioddefwyr trais ac ymosodiad rhywiol difrifol ar hyn o bryd. Bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi gwybod i chi os yw ar gael yn eich llys. Rydym yn disgwyl y bydd ar gael ym mhob Llys y Goron erbyn hydref 2022.

Gallwch fanteisio arno mewn unrhyw Lys y Goron os ydych yn cael eich ystyried yn dyst agored i niwed.

Weithiau, efallai y byddwch yn clywed pobl yn galw’r mesur arbennig hwn yn ‘adran 28’, oherwydd dyna’r adran o’r gyfraith ar roi tystiolaeth sy’n egluro hynny.

Mae chwe mesur arbennig a all eich helpu i roi tystiolaeth yn ystod y treial. Mae’r pedwar cyntaf ar gael i dystion agored i niwed a thystion sy’n cael eu bygwth, sy’n cynnwys pob dioddefwr trais ac ymosodiad rhywiol difrifol, a dim ond i ddioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed y mae’r ddau olaf ar gael.

  1. Sgriniau. Fel arfer, llenni neu baneli yw sgriniau y mae’r llys yn eu gosod rhwng y blwch tystion a’r diffynnydd pan fyddwch yn rhoi tystiolaeth. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gweld y diffynnydd pan fyddwch yn rhoi eich tystiolaeth na phan fyddwch yn cael eich croesholi. Gall y barnwr, y rheithgor a’r bargyfreithwyr eich gweld chi a gallwch chi eu gweld nhw.

  2. Tystiolaeth drwy gyswllt byw. Fel arfer, cyswllt teledu yw hwn o ystafell breifat ym mhrif adeilad y llys ond weithiau gallwch roi tystiolaeth o leoliad arall fel llys gwahanol yn nes at eich cartref, ystafell bwrpasol mewn gorsaf heddlu neu Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC).

    Os byddwch yn rhoi tystiolaeth drwy gyswllt byw, byddwch yn gallu gweld pwy bynnag sy’n gofyn y cwestiynau i chi (y bargyfreithwyr neu’r barnwr) ond fel arfer, ni fyddwch yn gallu gweld neb arall yn ystafell y llys. Fodd bynnag, bydd pawb yn ystafell y llys yn gallu eich gweld chi, gan gynnwys y diffynnydd. Gallwn wneud cais am sgriniau ynghyd â’r cyswllt byw i atal y diffynnydd rhag eich gweld, os byddai hynny o gymorth i chi.

  3. Rhoi tystiolaeth yn breifat. Mae hyn yn golygu bod ystafell y llys yn cael ei chlirio o bawb nad oes angen iddynt fod yno yn ôl y gyfraith at ddibenion y treial. Os yw eich achos yn debygol o ddenu sylw’r cyfryngau, caniateir i un aelod o’r wasg aros yn y llys ond, fel gyda phob cam o’r achos, rydych chi’n cael bod yn gwbl ddienw mewn unrhyw gyhoeddiadau, felly ni chaniateir i’r cyfryngau gyhoeddi eich enw.

  4. Y barnwr a’r bargyfreithwyr yn tynnu wigiau a gynau. Defnyddir hwn fel arfer ar gyfer plant sy’n ddioddefwyr a thystion. Nod hyn yw eu helpu i deimlo’n fwy cyfforddus drwy wneud i’r llys ymddangos yn llai ffurfiol.

Dyma ddau fesur arbennig sydd ond ar gael i ddioddefwyr a thystion agored i niwed ar hyn o bryd:

  1. Cyfryngwyr. Mae cyfryngwyr yn bobl sy’n gallu eich cefnogi os oes angen help arnoch i ddeall ac ateb y cwestiynau sy’n cael eu gofyn i chi. Bydd cyfryngwr yn gwneud yn siŵr bod y cwestiynau’n cael eu gofyn mewn ffordd sy’n golygu eich bod yn gallu eu deall yn rhwydd. Byddant hefyd yn eich helpu i rannu eich atebion yn glir gyda’r llys.

  2. Cymhorthion Cyfathrebu. Gall cymhorthion cyfathrebu gynnwys pethau fel byrddau cymorth gweledol, meddalwedd a reolir â’r llygaid, doliau neu luniadau amlinell o’r corff. Gallwch ddefnyddio’r rhain os oes gennych anabledd sy’n golygu bod angen cymorth arnoch i’ch helpu i ddeall neu ateb cwestiynau.

Bydd yr heddlu’n siarad â chi am ba fesurau arbennig fyddai’n eich helpu i roi eich tystiolaeth. Gallwch hefyd ofyn iddynt am y peth os hoffech chi ei drafod ar unrhyw adeg.

Byddant yn rhoi gwybod i ni pa fesurau arbennig rydych wedi’u dewis a pham a byddwn yn gwneud cais i’r llys am ganiatâd i’w defnyddio. Byddwn yn esbonio i’r barnwr pam rydym yn meddwl y byddant yn eich helpu i roi eich tystiolaeth orau.

Yna bydd y barnwr yn penderfynu pa fesurau arbennig i’w cymeradwyo. Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi beth mae’r barnwr wedi’i benderfynu.

Scroll to top