Beth mae angen i chi ei wneud cyn y treial
Cyn y treial, bydd yr heddlu’n cytuno ar amser gyda chi i chi wylio eich tystiolaeth fideo wedi’i recordio. Mae hyn er mwyn rhoi cyfle i chi roi proc i’ch cof cyn i’r treial ddechrau. Os oes gennych chi Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol, fe all ddod gyda chi os hoffech chi hynny. Gallwch hefyd ddod â ffrind neu aelod o’r teulu gyda chi cyn belled na fyddant yn dyst yn y treial.
Gall y Gwasanaeth Tystion drefnu i chi ymweld â’r llys cyn y treial. Yn ystod yr ymweliad, bydd tîm y Gwasanaeth Tystion yn trafod beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod y treial ac yn dangos i chi sut mae’r ystafelloedd llys yn edrych i’ch helpu i deimlo’n fwy cyfforddus ar y diwrnod.
Os ydych chi’n nerfus ynghylch gweld y diffynnydd neu ei ffrindiau neu ei deulu yn y llys ar y diwrnod, rhowch wybod i’r heddlu neu’r Gwasanaeth Tystion. Efallai y bydd yn gallu trefnu i chi fynd i mewn i adeilad y llys drwy fynedfa ochr breifat neu drefnu eich amseroedd cyrraedd fel eich bod chi’n gallu osgoi’r diffynnydd.
Ar ôl i chi ymweld â’r llys, efallai y byddwch am newid unrhyw fesurau arbennig sydd wedi cael eu rhoi ar waith ar eich cyfer. Mae hynny’n iawn – mae hyn yn beth cyffredin iawn. Bydd angen i chi roi gwybod i swyddog yr heddlu pa newidiadau yr hoffech eu gwneud cyn gynted â phosibl. Yna byddwn yn gwneud cais i’r barnwr newid eich trefniadau mesurau arbennig.
Rhowch wybod i’r heddlu os oes angen i chi ddefnyddio tacsi, trên neu awyren i fynd i’r llys neu os ydych chi’n byw mor bell i ffwrdd fel eich bod angen llety dros nos i wneud yn siŵr y gallwch gyrraedd y llys mewn pryd. Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth hon i ni a bydd ein tîm yn trefnu eich teithiau a/neu lety i chi.
Ar gyfer y rhan fwyaf o gostau teithio is eraill, mae fel arfer yn haws defnyddio ffurflen treuliau tystion y byddwn yn ei rhoi i chi yn y llys. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i hawlio costau teithio yn ôl yn ogystal â gofal plant a cholli enillion hyd at symiau penodol. Mae ein canllawiau ar gael yn canllaw ar ad-dalu costau.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am gostau teithio neu dreuliau, rhowch wybod i’ch cyswllt yn yr heddlu.