Cymru-Wales
Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yw'r prif awdurdod erlyn yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r holl asiantaethau yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn arbennig o agos gyda'r heddlu, er mai corff annibynnol ydym. Yr heddlu sy'n ymchwilio i droseddau a'n rôl ni yw paratoi a chyflwyno achosion i'r llysoedd.
Map of CPS Cymru-WalesMae gan y CPS 14 Ardal ledled Cymru a Lloegr. CPS Cymru-Wales yw ein Hardal ni. Mae'r CPS yng Nghymru'n gwasanaethu poblogaeth o dros dair miliwn o bobl ac mae'n timau lleol yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner yn mhedair ardal yr heddlu yng Nghymru: Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.
Gweithio gyda chi
Mae Cymru yn wlad fywiog ac amrywiol gyda hunaniaeth unigryw.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru wedi ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn gwella'n gwasanaethau ac rydym eisiau darparu gwasanaeth deg i bawb.
Mae'n bwysig bod pobl yn deall sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a sut rydym yn gwneud ein penderfyniadau.Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwybod pwy ydym neu'n deall beth rydym yn ei wneud/ Mae'r CPS yng Nghymru wedi ymrwymo at newid hyn a chael presenoldeb gweladwy.
Ledled Cymru, ein nod yw gweithio gyda phob grwp a chymuned er mwyn sicrhau bod polisïau newydd a fabwysiedir gan y CPS yn adlewyrchu'r gymuned amrywiol rydym yn byw ynddi a bod ein gweithrediadau'n cael eu hysbysu gan anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae gennym sawl ffordd o geisio cynnwys cymunedau lleol yn sut rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno ein gwasanaethau.
Paneli Craffu ac Ymgysylltu Lleol
Mae Paneli Craffu ac Ymgysylltu Lleol (LSIPs) yn fecanwaith allweddol a ddefnyddir gennym i ymrwymo gyda chymunedau lleol a'u cynrychiolwyr. Yn benodol, y cymunedau hynny gyda nodweddion gwarchodedig mewn perthynas ag oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd, cred, hil neu rhywioldeb.
Mae tri LSIP. Un ar gyfer ardal heddlu De Cymru a Gwent; un ar gyfer heddlu Gogledd Cymru ac un ar gyfer heddlu Dyfed Powys. Nod y Paneli yw:
- Sicrhau bod CPS Cymru-Wales yn ystyried barn cymunedau er mwyn adnabod pryderon lleol.
- Craffu ar achosion o Droseddau Casineb, Trais yn erbyn Menywod ac achosion o ddiddordeb lleol er mwyn gwella perfformiad yn lleol a chefnogi dioddefwyr a thystion mewn modd effeithiol.
- Ymgynghori â chymunedau lleol ar strategaethau a chynlluniau gan gyfeirio'n benodol at wella polisi, gwaith achos, cyfflogaeth a hyfforddiant.
Dioddefwyr a Thystion
Rydym wedi ymrwymo at ymdrin â Dioddefwyr a Thystion â pharch. Deallwn fod bod yn ddioddefwr neu'n dyst i drosedd yn gallu bod yn anodd a bod rhai pobl yn gallu deimlo'n fregus yn ei sgil. Byddwn yn eu cefnogi trwy'r broses er mwyn iddynt allu rhoi eu tystiolaeth orau yn y llys.
Rydym yn erlyn achosion ar ran bob cymuned ac eisiau i gymunedau barhau i gael hyder yn eu system cyfiawnder troseddol, i gredu bod eu buddion yn cael eu cynrychioli'n deg a'u bod yn gallu gweld bod cyflawnder yn digwydd.
Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfartal yn Gymraeg neu Saesneg.
Hawl Dioddefwyr i Adolygiad (VRR)
Mae cynllun VRR yn ei gwneud yn haws i ddioddefwyr geisio adolygiad o benderfyniad y CPS i beidio â ddwyn cyhuddiad neu i roi terfyn ar brawf.
Os ydych yn ddioddefwr yn ceisio arfer eich hawl i wneud cais am adolygiad o benderfyniad y CPS i beidio â dwyn cyhuddiad, i roi terfyn ar brawf neu i gynnig dim tystiolaeth mewn achos, cliciwch yma.
Pwynt cyswllt Cymru-Wales ar gyfer ymholiadau Hawl Dioddefwyr i Adolygiad:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 02920 803966 - nodwch y dylid defnyddio'r rhif hwn ar gyfer ymholiadau VRR YN UNIG
Nodwch fod y cynllun yn berthnasol mewn perthynas â phenderfyniadau cymwys a wnaed ar neu ar ôl 5 Mehefin 2013.