Dau yn cael eu dedfrydu am glwyfo person ifanc yn ei arddegau drwy saethu dryll drwy flwch llythyrau
Mae dau ddyn a deithiodd o Fryste i Gaerdydd gyda dryll, ac a saethodd berson ifanc yn ei arddegau drwy flwch llythyrau, wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Aeth Efekan Karahan, 18, ac Ashley Corbin, 21, i’r cyfeiriad yn Pontprennau, Caerdydd, gyda dryll dau-faril wedi’i lenwi. Rhoddodd Karahan y dryll drwy'r blwch llythyrau a’i danio ddwywaith.
Tarodd beledi'r dryll goesau person ifanc yn ei arddegau oedd yn yr eiddo, gan achosi anafiadau, ond nid amdano ef oedd y ddau yn chwilio. Rhedodd Karahan i ffwrdd, ynghyd â Corbin oedd wedi bod yn aros gerllaw.
Cafodd Karahan a Corbin eu harestio ym Mryste ar 16 Mehefin 2025 mewn cerbyd oedd wedi’i ddwyn.
Dywedodd Leighton Mawer o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y ddau ddiffynnydd wedi cynllunio eu troseddau ymlaen llawn, gan gynnwys defnyddio arf tanio, a arweiniodd at anafu person yn ddifrifol.
“Pan fo arfau tanio’n cael eu rhyddhau, mae’r canlyniadau yn aml yn angheuol, ond yn ffodus iawn, nid dyna oedd y canlyniad yn yr achos hwn.
“Arweiniodd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron at bleon euog, ac at ddwyn y troseddwyr gerbron y Llys.”
Cafodd y ddau ddiffynnydd eu dedfrydu ar 13 Chwefror 2026. Cafodd Efekan Karahan ei ddedfrydu i wyth mlynedd a phedwar mis o ddalfa mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc gyda chyfnod trwydded estynedig o 18 mis.
Cafodd Ashley Corbin ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar gyda chyfnod trwydded estynedig o dair blynedd.
Nodiadau i olygyddion
- Mae cyfyngiadau adrodd yn berthnasol yn yr achos hwn. Holwch y Llys.
- Daw Efekan Karahan (Dyddiad Geni: 9/12/2007) o Fryste.
- Daw Ashley Corbin (Dyddiad Geni: 10/8/2004) o Fryste.
- Plediodd Karahan yn euog o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd, bod â dryll wedi’i lenwi mewn man cyhoeddus a chlwyfo’n anghyfreithlon.
- Plediodd Corbin yn euog o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi ofn trais, bod â dryll wedi’i lenwi mewn man cyhoeddus a chlwyfo’n anghyfreithlon.
- Cyflawnwyd y troseddau ar 7 Mehefin 2025.
- Mae Leighton Mawer yn Uwch Erlynydd y Goron yn Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.