Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Cymru-Wales

Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yw'r prif awdurdod erlyn yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r holl asiantaethau yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn arbennig o agos gyda'r heddlu, er mai corff annibynnol ydym. Yr heddlu sy'n ymchwilio i droseddau a'n rôl ni yw paratoi a chyflwyno achosion i'r llysoedd.

Map of CPS Cymru-WalesMae gan y CPS 14 Ardal ledled Cymru a Lloegr. CPS Cymru-Wales yw ein Hardal ni. Mae'r CPS yng Nghymru'n gwasanaethu poblogaeth o dros dair miliwn o bobl ac mae'n timau lleol yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner yn mhedair ardal yr heddlu yng Nghymru: Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.

Mae CPS Cymru-Wales yn cyflogi tua 280 aelod o staff, gan gynnwys cyfreithwyr, paragyfreithwyr a gweinyddwyr. Rydym yn gweithio o bell ar draws amryw leoliadau yng Nghymru ond mae ein tair prif swyddfa yng Nghaerdydd, yr Wyddgrug ac Abertawe.

Ein dyletswydd yw erlyn y bobl gywir am y troseddau cywir. Ein nod yw gweithredu'n broffesiynol ac rydym yn anelu at ragoriaeth, gan edrych yn gyson am ffyrdd i wella'n gwasanaeth a sut rydym yn gweithio.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn Gymraeg neu Saesneg, ar sail gyfartal.

Caiff CPS Cymru-Wales ei gefnogi gan Ganolfan Fusnes sy'n cynnwys tîm o arbenigwyr ym meysydd Cyllid, Perfformiad, Newid, Cyfleusterau, Diogelwch, Iechyd a Diogelwch, Cyfathrebu, Cynhwysiant ac Ymgysylltu â'r Gymuned ac Adnoddau Dynol.

Caiff CPS Cymru-Wales ei arwain gan Brif Erlynydd y Goron (CCP), Jenny Hopkins, sydd â'r cyfrifoldebau canlynol: cynnal erlyniadau; gosod a chynnal safonau proffesiynol a moesegol; cynrychioli'r CPS yn lleol; cyfrannu at bolisi a strategaeth genedlaethol; a sicrhau cysylltiadau cyflogaeth effeithiol.

Caiff y CCP ei gefnogi gan dîm o uwch reolwyr gydag arbenigedd mewn materion cyfreithiol a rheolaeth busnes. Ar yr ochr gyfreithiol, darperir cefnogaeth gan Ddirprwy Brif Erlynwyr y Goron Iwan Jenkins a Huw Rogers. Rhian Thomas yw Rheolwr Busnes yr Ardal dros dro gyda chyfrifoldeb dros y swyddogaethau busnes a chyflenwi gweithredol.

Jenny Hopkins, Prif Erlynydd y Goron

Jenny Hopkins is Head of the Special Crime and Counter Terrorism Division

Cafodd Jenny ei magu yng Nghymru a bu'n gyfreithiwr mewn practis preifat cyn ymuno â CPS Llundain ym 1998 fel Uwch Erlynydd y Goron.  Daeth yn Rheolwr Cyfreithiol yn CPS Llundain cyn treulio 5 mlynedd fel Pennaeth Uned yn yr Is-adran Troseddau Cyfundrefnol.  Dychwelodd i CPS Llundain fel Pennaeth Dynladdiad ac yn 2011 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Brif Erlynydd y Goron gyda chyfrifoldeb am yr Uned Gwaith Achos Cymhleth.

Rhwng 2014 a 2018 Jenny oedd Prif Erlynydd y Goron ar gyfer Ardal Dwyrain Lloegr y CPS cyn dechrau yn ei swydd fel Pennaeth yr Is-adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth.  Penodwyd Jenny yn Brif Erlynydd y Goron dros Gymru ym mis Mai 2021.

 


Iwan Jenkins, Dirprwy Brif Erlynydd y Goron

Iwan JenkinsYmunodd Iwan Jenkins â’r CPS yn 1992 wedi iddo weithio fel cyfreithiwr amddiffyn troseddau am nifer o flynyddoedd.  Mae wedi arwain amryw o dimau a llifau gwaith o fewn CPS Cymru-Wales, gan gynnwys CC, RASSO, a CCU, ar hyn o bryd mewn gweithredu fel DCCP gyda chyfrifoldeb am waith CCU a MC.

Bu Iwan yn arweinydd ardal ar gyfer amryw o brosiectau.  Yn ddiweddar, arweiniodd yr ymgysylltiad gyda Llywodraeth Cymru wrth gynllunio a gweithredu’r newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.  

Cymhwysodd Iwan fel Eiriolwr Llys Uwch yn 1999 ac wedi erlyn achosion llys yn Llys y Goron ac wedi ymddangos yn y Llys Apêl.

Yn 2019 penodwyd Iwan yn Llywydd Tribiwnlys yr Iaith Gymraeg ac mae’n gyfrannwr rheolaidd ar faterion cyfreithiol yn y cyfryngau Cymraeg.

Huw Rogers, Dirprwy Brif Erlynydd y Goron

Huw RogersYmunodd Huw â'r CPS yn 2004 ar ôl sawl blwyddyn mewn practis preifat lle bu'n bennaeth adran droseddol y cwmni.  Bu'n Bennaeth Gwaith Achos Cymhleth a RASSO yn y De Orllewin cyn iddo ymuno â CPS Cymru yn 2018. 

Mae gan Huw brofiad o erlyn achosion yn Llysoedd y Goron a Llysoedd yr Ynadon, ac fe yw Dirprwy Brif Erlynydd y Goron sy'n gyfrifol am ein gwaith yn y Llysoedd Ynadon.

 

 

 

Rhian Thomas, MBE, Rheolwr Busnes Ardal

Rhian ThomasMae Rhian Thomas yn gweithredu fel Rheolwr Busnes Ardal. Prif swyddogaeth Rhian yw Pennaeth y Ganolfan Fusnes Ardal a bu’n gwneud y gwaith hwnnw ers dyfodiad y Canolfannau Busnes ledled y CPS yn 2011.

Ers ymuno â’r CPS yn 1989, cafodd Rhian amryw o rolau gweithredol cyn ei swydd HOBC. Mae Rhian yn rhugl yn y Gymraeg.  

Dyfarnwyd MBE i Rhian am ei gwasanaeth i’r System Cyfiawnder Troseddol.

Mae Uned y Llys Ynadon yn erlyn amrywiaeth eang o droseddau ble nad yw'r ddedfryd hiraf ar gyfer pob trosedd yn hwy na chwe mis o garchar neu flwyddyn os oes dwy drosedd perthnasol neu ragor yn cael eu hystyried.  Mae pob achos yn cychwyn yn y llys ynadon.

Mae Uned Llys y Goron yn ymdrin ag achosion mwy difrifol a'r sawl sy'n debygol o dderbyn cosbau uwch.   Mae ein Huned Llys y Goron yn cynnwys timau sy'n ymdrin â gwaith achos cymhleth a thrais a throseddau rhywiol difrifol.

Gweithio gyda chi

Mae Cymru yn wlad fywiog ac amrywiol gyda hunaniaeth unigryw.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru wedi ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn gwella'n gwasanaethau ac rydym eisiau darparu gwasanaeth deg i bawb.

Mae'n bwysig bod pobl yn deall sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a sut rydym yn gwneud ein penderfyniadau.Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwybod pwy ydym neu'n deall beth rydym yn ei wneud/ Mae'r CPS yng Nghymru wedi ymrwymo at newid hyn a chael presenoldeb gweladwy.

Ledled Cymru, ein nod yw gweithio gyda phob grwp a chymuned er mwyn sicrhau bod polisïau newydd a fabwysiedir gan y CPS yn adlewyrchu'r gymuned amrywiol rydym yn byw ynddi a bod ein gweithrediadau'n cael eu hysbysu gan anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae gennym sawl ffordd o geisio cynnwys cymunedau lleol yn sut rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno ein gwasanaethau.

    Paneli Craffu ac Ymgysylltu Lleol

    Mae Paneli Craffu ac Ymgysylltu Lleol (LSIPs) yn fecanwaith allweddol a ddefnyddir gennym i ymrwymo gyda chymunedau lleol a'u cynrychiolwyr. Yn benodol, y cymunedau hynny gyda nodweddion gwarchodedig mewn perthynas ag oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd, cred, hil neu rhywioldeb.

    Mae tri LSIP. Un ar gyfer ardal heddlu De Cymru a Gwent; un ar gyfer heddlu Gogledd Cymru ac un ar gyfer heddlu Dyfed Powys. Nod y Paneli yw: 

    • Sicrhau bod CPS Cymru-Wales yn ystyried barn cymunedau er mwyn adnabod pryderon lleol. 
    • Craffu ar achosion o Droseddau Casineb, Trais yn erbyn Menywod ac achosion o ddiddordeb lleol er mwyn gwella perfformiad yn lleol a chefnogi dioddefwyr a thystion mewn modd effeithiol. 
    • Ymgynghori â chymunedau lleol ar strategaethau a chynlluniau gan gyfeirio'n benodol at wella polisi, gwaith achos, cyfflogaeth a hyfforddiant.

    Lansio Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth newydd ar gyfer Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru

    Mwy o wybodaeth am y Cynllun Gweithredu gwrth-Hiliaeth

    Dioddefwyr a Thystion

    Rydym wedi ymrwymo at ymdrin â Dioddefwyr a Thystion â pharch.  Deallwn fod bod yn ddioddefwr neu'n dyst i drosedd yn gallu bod yn anodd a bod rhai pobl yn gallu deimlo'n fregus yn ei sgil.  Byddwn yn eu cefnogi trwy'r broses er mwyn iddynt allu rhoi eu tystiolaeth orau yn y llys.

    Rydym yn erlyn achosion ar ran bob cymuned ac eisiau i gymunedau barhau i gael hyder yn eu system cyfiawnder troseddol, i gredu bod eu buddion yn cael eu cynrychioli'n deg a'u bod yn gallu gweld bod cyflawnder yn digwydd.

    Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfartal yn Gymraeg neu Saesneg.

    Hawl Dioddefwyr i Adolygiad (VRR)

    Mae cynllun VRR yn ei gwneud yn haws i ddioddefwyr geisio adolygiad o benderfyniad y CPS i beidio â ddwyn cyhuddiad neu i roi terfyn ar brawf.

    Os ydych yn ddioddefwr yn ceisio arfer eich hawl i wneud cais am adolygiad o benderfyniad y CPS i beidio â dwyn cyhuddiad, i roi terfyn ar brawf neu i gynnig dim tystiolaeth mewn achos, cliciwch yma.

    Pwynt cyswllt Cymru-Wales ar gyfer ymholiadau Hawl Dioddefwyr i Adolygiad:
    E-bost: VictimLiaison.Cymru-Wales@cps.gov.uk
    Ffôn: 02920 803966 - nodwch y dylid defnyddio'r rhif hwn ar gyfer ymholiadau VRR YN UNIG
    Nodwch fod y cynllun yn berthnasol mewn perthynas â phenderfyniadau cymwys a wnaed ar neu ar ôl 5 Mehefin 2013.

    Cysylltwch â ni

    Pencadlys Ardal CPS Cymru-Wales a Swyddfa Caerdydd
    20fed Llawr, Capital Tower
    Ffordd Greyfriars
    Caerdydd 
    CF10 3PL
    Ffôn: 02920 803800

    Swyddfa'r Wyddgrug
    Ty Glyndwr (Uned 19)
    Parc Busnes yr Wyddgrug
    Ffordd Wrecsam
    Yr Wyddgrug 
    CH7 1XP
    Ffôn: 01352 918000

    Swyddfa Abertawe
    Y Ganolfan Ddinesig
    Heol Ystumllwynarth
    Abertawe
    SA1 3SN
    Ffôn: 01792 452900

    Canolfan Newyddion

    Am ymholiadau cyfryngau lleol a rhanbarthol, cysylltwch â

    Rheolwr Cyfathrebu Ardal
    Richard Paull

    Ffôn: 0292 080 3950
    Ebost: wales.communications@cps.gov.uk

    Os ydych chi'n aelod o'r cyfryngau cenedlaethol, ffoniwch Swyddfa'r Wasg CPS ar 020 3357 0906 neu anfonwch e-bost at cps.pressoffice@cps.gov.uk

    Allan o oriau: 020 3357 0913 ar gyfer ymholiadau brys yn unig.

    Gwybodaeth cyswllt ar gyfer yr Amddiffyniad

    Os oes gyfrif e-bost cjsm.net gyda chi, defnyddiwch y canlynol:

    Ar gyfer achosion yn Llysoedd Gogledd Cymru, Aberystwyth a Llandrindod: NorthWalescps@cps.gov.uk.cjsm.net

    Ar gyfer achosion yn Ne Ddwyrain Cymru: SEastWalescps@cps.gov.uk.cjsm.net

    Ar gyfer achosion yn Llysoedd Abertawe: SWestWalescps@cps.gov.uk.cjsm.net

    Ar gyfer achosion sy'n cael eu trin gan yr Uned Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol: CymruWalesRASSO@cps.gov.uk.cjsm.net

    Canolfan Twyll yr Ardal - 029 20 923734
    Canolfan Twyll yr Ardal e-bost: CymruWales.fraudcentre@cps.gov.uk.cjsm.net

    Sylwch nad yw'r cyfeiriadau e-bost cjsm.net hyn yn hygyrch i'r cyhoedd - maent yn gyfeiriadau diogel yw defnyddio yn y system cyfiawnder troseddol.

    Os nad oes gyfrif cjsm.net gyda chi, fe allech chi ddefnyddio'r cyfeiriadau canlynol, ond cofiwch efallai na fydd y rhain yn ddiogel ac felly na ddylid eu defnyddio i anfon deunydd achos sensitif.

    Ar gyfer achosion yn Llysoedd Gogledd Cymru, Aberystwyth a Llandrindod: NorthWalescps@cps.gov.uk

    Ar gyfer achosion yn Ne Ddwyrain Cymru: SEastWalescps@cps.gov.uk

    Ar gyfer achosion yn Llysoedd Abertawe: SWestWalescps@cps.gov.uk

    Ar gyfer achosion sy'n cael eu trin gan yr Uned Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol: CymruWalesRASSO@cps.gov.uk

    Canolfan Twyll yr Ardal - 029 20 923734
    Canolfan Twyll yr Ardal e-bost: CymruWales.fraudcentre@cps.gov.uk

    E-bostiwch wales.communications@cps.gov.uk os hoffech ragor o wybodaeth am waith y CPS yng Nghymru, ond gofynnir ichi nodi:

    • Nid ydym yn darparu cyngor cyfreithiol. 
    • Os oes gennych adborth neu gwyn, defnyddiwch y ddolen gwynion. 
    • Gofynnir ichi beidio â chynnwys atodiadau yn eich e-bost. 
    • Nid ydym yn cynnig gwaith gwirfoddol, interniaethau neu leoliadau cysgodi swydd yn CPS Cymru-Wales. 
    Scroll to top