Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu rhieni am ddynladdiad yn sgil esgeulustod difrifol o’u merch yn ei harddegau

|News

Dedfrydu rhieni am ddynladdiad yn sgil esgeulustod difrifol o’u merch yn ei harddegau.

Mae mam a thad a adawodd i iechyd eu merch anabl ddirywio i’r fath raddau y bu hi farw, wedi eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.

Methodd Sarah Lloyd-Jones, 40, ac Alun Titford, 45 yn eu dyletswydd i ofalu am eu merch 16 mlwydd oed, Kaylea, a oedd yn dioddef o’r cyflwr spina bifida.  Roedd eu diffyg gofal am ei hanghenion sylfaenol, megis maeth a glendid, mor wael, nes dyfarnwyd hynny’n drosedd.

Plediodd mam Kaylea, Sarah Lloyd-Jones, yn euog yn flaenorol o ddynladdiad yn sgil esgeulustod difrifol mewn gwrandawiad cynharach, ond cafwyd ei thad, Alun Titford, yn euog yn dilyn achos llys, lle honodd nad ef oedd prif ofalwr y plentyn ac nad oedd yn ymwybodol o’r amodau aflan, er ei fod yn byw yn yr un tŷ.

Dywedodd Dean Quick o’r CPS: “Mae hwn yn achos dychrynllyd o ddiffyg ymddiriedaeth, lle methodd y rhieni i ofalu’n briodol am eu merch anabl i’r fath raddau fe achosodd hynny iddi farw cyn ei hadeg.  Ni ddylai yr un plentyn orfod dioddef y fath amodau byw neu’r lefel ddifrifol o ddioddefaint a brofodd Kaylea.

“Mae’r lefel o esgeulustod yn yr achos hwn ymysg y gwaethaf a brofodd CPS Cymru-Wales erioed.”

Dedfrydwyd Alun Titford i saith a hanner mlynedd o garchar, tra dedfrydwyd Sarah Lloyd-Jones i chwech mlynedd o garchar.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Dean Quick yn Uwch Erlynydd y Goron yn Rhanbarthol ac yn Bennaeth yr Uned Achosion Cymhleth yn CPS Cymru-Wales.
    Dedfrydwyd Alun Titford (Dyddiad Geni: 05/08/1977) am Ddynladdiad yn sgil esgeulustod difrifol.
    Plediodd Sarah Lloyd-Jones (Dyddiad Geni: 15/07/1982) yn euog o Ddynladdiad yn sgil esgeulustod difrifol.
    Bu farw Kaylea Titford rhwng 8 ac 11 Hydref 2020 yn 16 mlwydd oed.

Further reading

Scroll to top