Mewn rhai achosion, bydd angen i’r heddlu edrych ar wybodaeth sydd gan bobl neu sefydliadau eraill amdanoch chi. Weithiau, mae hyn yn cael ei alw’n ‘ddeunydd trydydd parti’.  
Er enghraifft, efallai y bydd angen iddynt edrych ar gofnodion meddygol os ydych wedi siarad â'ch meddyg am y digwyddiad.  
Dim ond os bydd ganddynt reswm dros gredu y gallai fod yn berthnasol i’ch achos y bydd yr heddlu yn edrych ar y math hwn o wybodaeth.
Er enghraifft, ni all yr heddlu ofyn am gael gweld eich cofnodion meddygol ‘rhag ofn’ y gallai fod rhywbeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad. Ni allant ofyn am gael gweld gwybodaeth dim ond am eu bod yn ymchwilio i drosedd rhywiol chwaith.
Cyn gofyn am wybodaeth gan drydydd parti, rhaid i’r heddlu ystyried a oes ffordd arall y gallent gael gafael ar yr wybodaeth sy’n berthnasol yn eu barn hwy, er enghraifft drwy siarad â thyst.  
Os bydd yr heddlu’n penderfynu bod angen iddynt ofyn am wybodaeth gan drydydd parti, byddant yn gwneud yn siŵr bod eu cais yn canolbwyntio ar yr wybodaeth a allai, yn eu barn hwy, fod yn berthnasol i’r achos. Er enghraifft, os oeddent yn gofyn am eich cofnodion meddygol, gallent ofyn am gael gweld cofnodion mis penodol yn hytrach na’ch cofnod meddygol llawn.
Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad a dylech roi gwybod iddynt os oes gennych gwestiynau neu bryderon am unrhyw un o’r mathau o dystiolaeth y gallent chwilio amdanynt.