Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘euog’ i’r cyhuddiadau i gyd, gall y barnwr rhanbarth neu’r ynadon ddedfrydu’r diffynnydd ar unwaith neu gallant anfon yr achos i Lys y Goron os ydynt yn credu bod y diffynnydd yn haeddu dedfryd hirach nag y mae ganddynt y pŵer i’w rhoi. Gallant hefyd ohirio’r gwrandawiad dedfrydu i ofyn am fwy o wybodaeth i'w helpu i benderfynu beth ddylai'r ddedfryd fod.
Gall hyn gynnwys adroddiad ‘cyn-dedfrydu’, a ysgrifennir gan y gwasanaeth prawf, sy’n darparu asesiad annibynnol o’r troseddwr a’r risgiau a berir ganddo.
Byddwn hefyd yn rhoi eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ i’r llys os ydych wedi darparu un. Bydd yr heddlu’n gofyn i chi a hoffech chi ddarparu un yn ystod yr ymchwiliad – dyma eich cyfle chi i egluro sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi.
Os hoffech ddarllen eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ yn uchel i’r llys, yna gallwn wneud cais i’r llys i chi gael gwneud hyn. Fel arall, gall yr erlynydd ei ddarllen yn uchel neu bydd y Barnwr Rhanbarth neu’r ynadon yn ei ddarllen drostynt eu hunain.
Yna bydd y Barnwr Rhanbarth neu’r ynadon yn defnyddio’r wybodaeth honno i benderfynu pa ddedfryd y bydd y diffynnydd yn ei derbyn yn unol â’r canllawiau dedfrydu ar gyfer y drosedd y mae wedi’i gael yn euog ohoni.
Pennir canllawiau dedfrydu gan y Cyngor Dedfrydu yn unol â chyfraith y DU.