Skip to main content

Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron

Publication date: Opening date: Closing date:

This consultation is now open

Mae fersiwn Saesneg o’r dudalen hon ar gael yma.

 

 

Ynghylch yr ymgynghoriad hwn

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymgynghori’n gyhoeddus ar rifyn diwygiedig o’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron (y Cod).

Cyflwynwyd y Cod gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus o dan adran 10 Deddf Erlyn Troseddau 1985. Mae’n nodi’r egwyddorion y mae’n rhaid i erlynwyr eu dilyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid erlyn, pa gyhuddiadau i’w dwyn, a sut y dylid ymdrin ag achosion wrth iddynt fynd rhagddynt. Mae’r Cod yn cynnwys prawf cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer penderfynu a ddylid cyhuddo rhywun a ddrwgdybir o drosedd ai peidio.

Mae’r Cod hefyd yn ceisio hybu hyder y cyhoedd mewn penderfyniadau erlyn drwy egluro, mewn termau hygyrch, sut y gwneir y penderfyniadau hyn.

Er y cyflwynir y Cod yn bennaf ar gyfer Erlynwyr y Goron, fe’i defnyddir hefyd gan nifer o awdurdodau erlyn eraill, yr heddlu ac eraill ledled y system cyfiawnder troseddol.  

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn am y diwygiadau arfaethedig i’r Cod cyn ei orffen a’i gyhoeddi.

Cefndir yr adolygiad

Hwn fydd nawfed rhifyn y Cod. Mae’r rhifyn presennol, a gyhoeddwyd yn 2018, yn parhau’n weithredol ac mae ar gael ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron: www.cps.gov.uk/publication/code-crown-prosecutors.

Adolygir y Cod o bryd i’w gilydd, i sicrhau ei fod yn gywir, yn gyfredol ac yn adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith ac mewn polisi ac ymarfer erlyn.

Islaw’r Cod, ceir corff o ganllawiau a pholisïau cyfreithiol, sy’n rhoi rhagor o gymorth manwl i erlynwyr ynghylch troseddau a phynciau penodol. 

Sut i Ymateb

Byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi eich adborth gan ddefnyddio ein ffurflen ymateb ar-lein.

I gynorthwyo ein dadansoddiad, yn ddelfrydol dylai’r ymatebion fod yn gryno, gyda rhesymeg glir wedi’i rhoi ar gyfer pob sylw neu awgrym a wneir. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd angen i chi roi cyd-destun i’ch ymateb weithiau, ond ni fyddem fel arfer yn cael budd o dderbyn testun hir a digyswllt ar y gyfraith, neu wybodaeth gefndir helaeth mewn perthynas â’ch rôl neu’ch sefydliad.

Os hoffech gyflwyno eich adborth yn hytrach ar ffurf copi caled, defnyddiwch y ffurflen ymateb a dychwelwch hi erbyn yr un dyddiad at:

The Code Consultation 2026
Senior Policy Advisor, Policy Directorate
Crown Prosecution Service
10th Floor 102 Petty France
London SW1H 9EA

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen ymateb, ei llenwi, a’i dychwelyd i [email protected] erbyn hanner nos ar 8fed o Dachwedd 2026.

Os ydych yn ateb drwy e-bost, byddem yn gwerthfawrogi pe na baech yn atodi unrhyw ddogfennau ar wahân i ffurflen ymateb yr ymgynghoriad, oherwydd er mwyn gwneud y gwaith dadansoddi yn haws, byddai’n helpu pe bai eich ymateb wedi’i gynnwys ar y ffurflen. 

Dogfennau yn Gymraeg

Ceir cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad yn Gymraeg. Cliciwch ar y ddolen hon i gael gafael ar y dogfennau perthnasol:

Fformatau Amgen

Os oes angen copi o bapurau’r ymgynghoriad arnoch mewn unrhyw fformat arall, er enghraifft sain neu brint bras, cysylltwch gan ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost neu bost uchod. 

Y Camau Nesaf

Ar ôl dyddiad cau’r ymgynghoriad, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law, cyn gorffen y diwygiadau a chyhoeddi rhifyn newydd o’r Cod ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi hefyd, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.

Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich ymateb.

Sut rydym yn ymdrin â’ch data – Datgelu ymatebion

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn anelu at fod yn dryloyw wrth ymdrin ag ymatebion yr ymgynghoriad, ac egluro sail y penderfyniadau a wnawn. 

Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi neu’n datgelu rhannau o ymatebion neu ymatebion llawn, ac mae’n bosibl y byddwn yn priodoli’r rhain i sefydliadau penodol sy’n ymateb i’r ymgynghoriad. Felly, peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth yn eich ymateb na fyddech yn hapus i ni eu cyhoeddi. 

Mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys rhestr o enwau sefydliadau mewn unrhyw adroddiad terfynol neu grynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad y byddwn yn eu cyhoeddi. 

Yn ogystal, mae’n bosibl y byddwn yn derbyn cais i ddatgelu ymatebion neu i enwi sefydliadau sy’n ymateb, fel cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o’r fath. 

Nid oes angen i ymatebwyr ddarparu eu data personol (fel enw unigolyn) wrth roi ymateb ond os ydynt yn ymateb ar ran sefydliad, dylid gwneud hyn yn glir yn yr ymateb. 

Mae’n bosibl y bydd ymatebion yn cael eu rhannu ag Adrannau Llywodraeth eraill. Lle y bydd hyn yn digwydd, bydd gwybodaeth bersonol ymatebwyr unigol yn cael ei dileu o’r ymatebion a rennir. 

Byddwn yn trin pob ymateb fel gwybodaeth a gofnodir yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Er gwybodaeth, byddwn yn diystyru unrhyw ddatganiadau cyfrinachedd a gynhyrchir gan system TG yn awtomatig. 

I gael gwybodaeth am sut y mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn prosesu data personol gan gynnwys ein polisi cadw a gwaredu, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gasglu safbwyntiau o ymatebion yr ymgynghoriad.

 

Consultation content

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Byddem yn croesawu eich barn am y diwygiadau drafft i’r Cod, yn enwedig o ran cwestiynau 1-6 isod. 

Nid oes angen i chi ateb bob cwestiwn. Gall yr ymatebion ganolbwyntio ar y cwestiynau neu’r materion sydd fwyaf perthnasol i chi neu eich sefydliad. 

Anghymesuredd - tuedd

  • Datganodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn flaenorol y byddem yn diwygio’r Cod i fynd i’r afael â’r anghymesuredd mewn penderfyniadau cyhuddo: ‘CPS sets out Action Plan to tackle disproportionality in charging decisions’ | Gwasanaeth Erlyn y Goron

  • Rydym wedi diwygio’r testun sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig ym mharagraff 2.8, i roi ffocws mwy eglur ym meddyliau erlynwyr ar atal unrhyw duedd neu farn bersonol rhag dylanwadu ar benderfyniadau cyhuddo. 

  • Mae paragraff 2.8 yn gryno o reidrwydd, oherwydd mae’r Cod yn darparu arweiniad lefel uchel yn unig ac ni all fynd i’r afael yn fanwl â holl ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr ar duedd. Fodd bynnag, yn unol â’i Gynllun Gweithredu, mae’r Gwasanaeth yn gweithredu amrywiaeth o fesurau i fynd i’r afael ag unrhyw duedd wrth wneud penderfyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Darparu pecynnau strategaeth ar achosion anghymesuredd i gefnogi erlynwyr i nodi tuedd, rhagdybiaethau ac anghymesuredd posibl mewn gwaith achos a mynd i’r afael â nhw, gan helpu i wella’r broses o wneud penderfyniadau, strategaeth achosion ac ansawdd cyffredinol gwaith achos. 

  • Gweithredu cynllun monitro menter ar y cyd llofruddiaeth ac ymgais i lofruddio i wella dealltwriaeth o sut y mae menter ar y cyd yn cael ei weithredu wrth wneud penderfyniadau erlyn, cefnogi tryloywder, cysondeb a nodi themâu neu faterion sy’n dod i’r amlwg. 

  • Lansio a dadansoddi’r ymgynghoriad ar ganllawiau erlyn “gangiau” a cherddoriaeth mewn tystiolaeth, gan gefnogi gwelliannau i ganllawiau mewn maes sensitif sy’n gysylltiedig ag anghymesuredd hiliol. 

  • Sefydlu Bwrdd Anghymesuredd ar y Cyd rhwng Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, gan gefnogi arweinyddiaeth ar y cyd gyda phlismona ar flaenoriaethau anghymesuredd hil a rennir. 

Cwestiwn 1 A oes gennych unrhyw farn am y testun ar duedd ym mharagraff 2.8?

Amseriad y penderfyniad cyhuddo a’r defnydd o gynlluniau gweithredu

  • Rydym wedi egluro y gellir cymhwyso’r Prawf Cod Llawn cyn cwblhau unrhyw linellau ymholiad rhesymol sy’n weddill, os yw’r erlynydd yn fodlon bod unrhyw dystiolaeth neu ddeunydd pellach yn annhebygol o effeithio ar gymhwysiad y Prawf Cod Llawn, boed hynny o blaid neu yn erbyn erlyniad (paragraff 4.3). Rydym hefyd wedi egluro’r defnydd cywir o gynlluniau gweithredu cyn cyhuddo ac ar ôl cyhuddo: dylai penderfyniad cyhuddo ond bod yn destun cynllun gweithredu cyn cyhuddo pan na ellir cymhwyso’r Prawf Cod Llawn heb y dystiolaeth neu’r deunydd sy’n cael eu ceisio; tra dylid defnyddio cynllun gweithredu ar ôl cyhuddo ar gyfer tystiolaeth neu ddeunydd arall sydd eu hangen (paragraff 4.4). Y bwriad yw canfod y cydbwysedd cywir rhwng penderfyniadau cyhuddo cynamserol a phenderfyniadau y gellid eu gohirio’n ddiangen. 

Cwestiwn 2 A oes gennych farn am yr eglurhad o amseriad penderfyniad cyhuddo a’r defnydd priodol o gynlluniau gweithredu ym mharagraffau 4.3-4.4?

Budd y cyhoedd – amgylchiadau’r dioddefwr

  • Rydym wedi creu adran newydd ar amgylchiadau’r dioddefwyr, sy’n nodi y dylai’r erlynwyr ystyried eu hamgylchiadau, eu barn, ac unrhyw risg sydd iddynt. 

  • Rydym felly wedi ehangu barn y dioddefwr ar effaith y drosedd i “unrhyw farn” a ddarperir gan y dioddefwr, er nad ydym yn awgrymu y dylid ceisio barn dioddefwyr yn rheolaidd ar wahân i pan fydd y Cod Dioddefwyr yn gwneud hynny’n ofynnol, fel mewn perthynas â phenderfyniad y tu allan i’r llys. 

  • Mae’r Cod yn ei gwneud yn glir o hyd nad yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithredu dros ddioddefwyr ond yn hytrach yn ystyried eu barn wrth wneud asesiad cyffredinol o fudd y cyhoedd. 

Cwestiwn 3 A ydych yn cytuno y dylai erlynwyr ystyried unrhyw farn a ddarperir gan y dioddefwr, eu hamgylchiadau ac unrhyw risg iddynt, wrth wneud penderfyniad cyhuddo? (paragraff 4.18, Cwestiwn 1, pwynt bwled 1)

Y Prawf Trothwy 

  • Mewn amgylchiadau cyfyngedig, lle na fydd y Prawf Cod Llawn yn cael ei fodloni, gellir cymhwyso’r Prawf Trothwy i gyhuddo’r sawl a ddrwgdybir. Rhaid parhau i adolygu unrhyw gyhuddiad o dan y Prawf Trothwy a rhaid cymhwyso’r Prawf Cod Llawn cyn gynted ag y derbynnir y dystiolaeth neu’r deunydd pellach a ragwelwyd. Ar hyn o bryd, mae’r Cod yn nodi, mewn achosion Llys y Goron, y dylai hyn ddigwydd fel arfer cyn gwasanaeth ffurfiol yr achos erlyn. Rydym wedi diwygio hyn i symud y dyddiad terfyn ymlaen i’r cyfnod cyn y cyflwynir y cyhuddiad. Rydym yn nodi ymhellach, os na ellir cael gafael ar y dystiolaeth neu’r deunydd o fewn yr amserlen hon neu, os oes angen, yn dilyn gohiriad byr, mae’n bosibl y bydd yn angenrheidiol dwyn yr achos i ben. (Gellir ailddechrau’r trafodion ar ddyddiad diweddarach, os bydd y dystiolaeth neu’r deunydd ychwanegol yn dod i law.) 

Cwestiwn 4 Mewn achosion a gyhuddir o dan y Prawf Trothwy, a ydych yn cytuno â symud y dyddiad terfyn ymlaen ar gyfer gweithredu’r Prawf Cod Llawn cyn y cyflwynir y cyhuddiad? (paragraff 6.11)

Mynd i’r afael ag ôl-groniad Llys y Goron – Dewis cyhuddiadau

  • Yn unol â diwygiadau diweddar i ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron, rydym yn annog erlynwyr i ystyried a yw’n fwy addas ymdrin â throseddu yn y llys ynadon nag yn Llys y Goron, cyhyd â bod y cyhuddiad yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd ac yn rhoi pwerau dedfrydu digonol i’r llys. Gwnaed diwygiadau i’r adran ar ddewis cyhuddiadau, fel y gall yr erlynwyr ystyried effaith ataliol, cost ac oedi wrth ddewis cyhuddiadau. 

Cwestiwn 5 A oes gennych farn am y dull neu’r testun ym mharagraff 7.2, sy’n caniatáu i erlynwyr ystyried effaith ataliol, cost ac oedi wrth ddewis cyhuddiadau?

Pwerau Enillion Troseddau a dim erlyn

  • Darperir canllawiau drwy’r Cod cyfan ar y defnydd o bwerau dim erlyn, fel Adfeddiannu Sifil, Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol a Chytundebau Erlyniad Gohiriedig. Gan ddibynnu ar y pŵer, gellir defnyddio’r rhain fel dull amgen neu yn ychwanegol at erlyniad. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol gwaith dim erlyn ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron. 

  • Rydym hefyd wedi diwygio’r adrannau ar Ddewis Cyhuddiadau a Derbyn Pledion Euog i annog erlynwyr i feddwl am a yw’r sawl a ddrwgdybir wedi cael budd yn sgil ymddygiad troseddol penodol yn unig neu ymddygiad troseddol cyffredinol, i sicrhau y byddai’r cyhuddiad a ddewisir neu’r ple a gynigir yn sbarduno’r gyfundrefn atafaelu ehangach, lle y bo’n briodol. 

Cwestiwn 6 A oes gennych unrhyw farn am gynnwys testun, neu unrhyw ran o’r testun penodol, ar bwerau a gweithdrefnau dim erlyn yn y Cod? (paragraffau 1.4, 2.5, 3.1, 4.5, 4.7 a 4.13) 

Diwygiadau arfaethedig eraill i’r Cod 

Mae’r rhain yn cynnwys:

Rheolaeth y gyfraith a statws y sawl a ddrwgdybir, y diffynnydd, y dioddefwr neu’r tyst
  • Rydym wedi cyflwyno paragraffau newydd sy’n ymwneud â rheolaeth y gyfraith. Mae paragraff 2.1 yn egluro sut y mae rheolaeth y gyfraith yn cael ei chynnal gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac mae’n nodi’r egwyddor nad yw neb uwchlaw’r gyfraith a bod yn gyfraith yn cael ei chymhwyso’n gyfartal i bawb. Mae paragraff 2.10 yn egluro bod yn rhaid cymhwyso egwyddorion y Cod yn yr un ffordd ym mhob achos, waeth beth fo statws cymdeithasol, dylanwad, cyfoeth, pŵer, poblogrwydd, neu enwogrwydd y sawl a ddrwgdybir, y diffynnydd, y dioddefwr neu unrhyw dyst, neu unrhyw achos y gallent ei hyrwyddo neu ei gefnogi.

Budd y cyhoedd
  • Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i gam budd y cyhoedd y prawf Cod Llawn, fel:

  • Gwneud yn glir mai’r opsiynau sydd ar gael i erlynydd wrth adolygu achos yw: erlyn; penderfyniad y tu allan i’r llys; trafodion dim erlyn Gwasanaeth Erlyn y Goron; atgyfeiriad i gorff cyhoeddus perthnasol; neu dim gweithredu pellach (paragraffau 4.10-4.14). 

  • Dylai erlynwyr ystyried a allai erlyniad arwain at ganlyniad anghyfiawn lle bo’r sawl a ddrwgdybir o dan 18 oed ar adeg y drosedd ond bydd yn 18 oed neu’n hŷn erbyn dyddiad unrhyw euogfarn a dedfryd, ac felly fe’i dedfrydir fel oedolyn, yn enwedig lle bydd cyfnod hir rhwng y drosedd ac unrhyw ddedfryd (paragraff 4.18, Cwestiwn 3, pwynt bwled 7).

Cwestiwn 7 A oes gennych unrhyw farn arall am y Cod drafft?


 

Ymgynghoriad Cod 2026

Ydych chi’n ymateb ar ran sefydliad?
Oes gennych chi unrhyw farn am y testun ar ragfarn ym mharagraff 2.8?
Oes gennych chi unrhyw farn am egluro amseriad y penderfyniad ynghylch cyhuddo a’r defnydd priodol o gynlluniau gweithredu ym mharagraffau 4.3-4.4?
A ydych yn cytuno y dylai erlynwyr ystyried unrhyw farn a ddarperir gan y dioddefwr, eu hamgylchiadau ac unrhyw risg iddynt, wrth wneud penderfyniad cyhuddo? (paragraff 4.18, Cwestiwn 1, pwynt bwled 1)
Mewn achosion a gyhuddir o dan y Prawf Trothwy, a ydych yn cytuno â symud y dyddiad terfyn ymlaen ar gyfer gweithredu’r Prawf Cod Llawn cyn y cyflwynir y cyhuddiad? (paragraff 6.11) 
A oes gennych farn am y dull neu’r testun ym mharagraff 7.2, sy’n caniatáu i erlynwyr ystyried effaith ataliol, cost ac oedi wrth ddewis cyhuddiadau?
A oes gennych unrhyw farn am gynnwys testun, neu unrhyw ran o’r testun penodol, ar bwerau a gweithdrefnau dim erlyn yn y Cod? (paragraffau 1.4, 2.5, 3.1, 4.5, 4.7 a 4.13)  
Oes gennych chi unrhyw safbwyntiau eraill am y Cod drafft?
CAPTCHA
Solve this simple math problem and enter the result. E.g. for 1+3, enter 4.
This question is for testing whether or not you are a human visitor and to prevent automated spam submissions.

Related Publications

DRAFFT - Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, 9fed Argraffiad - AR GYFER YMGYNGHORI

CPS operational information Business Information Policy and Guidance

Responses: Confidentiality and disclaimer

The information you send us may be passed to colleagues within the CPS, the Government or related agencies. Furthermore, information provided in response to this consultation, including personal information, may be published or disclosed in accordance with the access to information legislation including the Freedom of Information Act 2000 (FOIA).

If you want the information that you provide to be treated as confidential, please be aware that, under FOIA, there is a statutory Code of Practice with which public authorities must comply and which deals, amongst other things, with obligations of confidence. In view of this it would be helpful if you could briefly explain to us why you regard the information you have provided as confidential.

If we receive a request for disclosure of the information we will take full account of your explanation, but we cannot give an assurance that confidentiality can be maintained in all circumstances. An automatic confidentiality disclaimer generated by your IT system will not be regarded as binding on the CPS.

Please ensure your response is marked clearly if you wish your response and name to be kept confidential. Confidential responses will be included in any statistical summary of numbers of comments received and views expressed. The CPS will process your personal data in accordance with the Data Protection Act 2018 - in the majority of circumstances this will mean that your personal data will not be disclosed to third parties.

CPS Consultations

We want to hear your views about our prosecution policy. You can help us to be better informed, fairer and more representative by participating in our consultations. We welcome your feedback.

Alternative formats

If you require a copy of the consultation papers in any other format, for example, large print or Braille, please contact the e-mail or postal addresses above.

How to respond to consultations

Visit the consultation page
Read the consultation documents
Respond to the consultation using the online form, by email or by post
Make sure you submit your response by the closing date

Government Consultation Principles

The Consultation Principles 2016 are available from the Cabinet Office website.

View all consultations