DRAFFT - Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, 9fed Argraffiad - AR GYFER YMGYNGHORI
- Cyflwyniad
- Geirfa
- Egwyddorion Cyffredinol
- Y Penderfyniad i Erlyn
- Y Prawf Cod Llawn
- Datrysiadau y tu allan i’r llys
- Y Prawf Trothwy
- Dethol Cyhuddiadau
- Lleoliad Llys
- Derbyn Pledion Euog
- Ailystyried Penderfyniad yr Erlyniad
Dim ond at ddibenion yr ymgynghoriad parhaus y mae’r fersiwn drafft hwn o’r Cod ac ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau erlyniadol.
Cyflwyniad
1.1 Cyhoeddir y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron (y Cod) gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP) dan adran 10 Deddf Erlyn Troseddau 1985. Dyma nawfed argraffiad y Cod ac mae’n disodli pob fersiwn cynharach.
1.2 Y DPP yw pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), sef y prif wasanaeth erlyn cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r DPP yn gweithredu’n annibynnol, dan oruchwyliaeth y Twrnai Cyffredinol sy’n atebol i’r Senedd am waith y CPS.
1.3 Mae dau ddiben i’r Cod:
- Mae’n rhoi arweiniad i erlynwyr ar yr egwyddorion cyffredinol i’w cymhwyso wrth wneud penderfyniadau am erlyniadau a, lle bo hynny’n berthnasol, ar arfer y pwerau dim erlyn sydd ar gael i erlynwyr, pa un a ydynt yn cael eu dilyn yn gyfochrog neu fel dewis amgen yn lle erlyn. Cyhoeddir y Cod yn bennaf ar gyfer erlynwyr yn y CPS, ond mae erlynwyr eraill yn dilyn y Cod, naill ai drwy gonfensiwn neu oherwydd ei bod yn ofynnol iddynt wneud hynny yn ôl y gyfraith;
- Mae’r Cod hefyd yn hybu hyder y cyhoedd ym mhenderfyniadau’r CPS, drwy roi gwybod i’r cyhoedd am y ffordd y gwneir penderfyniadau erlyn.
Geirfa
1.4 Yn y Cod hwn:
- Defnyddir y gair “diffynnydd” i ddisgrifio unigolyn sydd wedi’i gyhuddo o drosedd neu sydd wedi’i wysio i fynychu’r llys mewn ymateb i gyhuddiad;
- Mae “achosion dim erlyn” a “phwerau dim erlyn” yn cynnwys Adfer Sifil, Cytundebau Erlyn Gohiriedig a Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol;
- Defnyddir “troseddwr” i ddisgrifio unigolyn sydd wedi cyflawni trosedd, wedi cyfaddef ei fod yn euog o gyflawni trosedd, neu sydd wedi’i gael yn euog mewn llys barn;
- Defnyddir “corff cyhoeddus” i gyfeirio at wahanol endidau cyhoeddus, gan gynnwys adrannau’r llywodraeth, asiantaethau, rheoleiddwyr a chyrff disgyblu;
- Defnyddir “unigolyn dan amheuaeth” i ddisgrifio unigolyn sy’n cael ei ystyried yn destun achos troseddol ffurfiol;
- Defnyddir “dioddefwr” i ddisgrifio unigolyn y cyflawnwyd trosedd yn ei erbyn, neu’r achwynydd mewn achos sy’n cael ei ystyried neu ei erlyn gan y CPS.
Egwyddorion Cyffredinol
2.1 Mae rheolaeth y gyfraith yn egwyddor sylfaenol mewn cymdeithas gyfiawn a theg, sy’n sicrhau nad oes neb uwchlaw’r gyfraith, bod y gyfraith yr un mor berthnasol i bawb a bod hawliau unigolion yn cael eu parchu. Mae’r CPS yn cynnal rheolaeth y gyfraith drwy wneud penderfyniadau yn unol â’r gyfraith, y dystiolaeth a budd y cyhoedd, a thrwy gymhwyso’r egwyddorion a nodir yn y Cod hwn, sydd ar gael i’r cyhoedd, yn gyson.
2.2 Mae annibyniaeth yr erlynydd yn ganolog i system cyfiawnder troseddol cymdeithas ddemocrataidd. Mae erlynwyr yn annibynnol ar bobl neu asiantaethau nad ydynt yn rhan o broses gwneud penderfyniadau’r erlyniad, gan gynnwys Senedd y DU, Senedd Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y Goron a’r farnwriaeth. Mae erlynwyr y CPS hefyd yn annibynnol ar yr heddlu ac ymchwilwyr eraill. Rhaid i erlynwyr fod yn rhydd i gyflawni eu dyletswyddau proffesiynol heb ymyrraeth wleidyddol ac ni ddylai pwysau neu ddylanwad amhriodol neu ormodol o unrhyw ffynhonnell effeithio arnynt. Mae’r annibyniaeth hon yn amddiffyn unigolion sy’n destun penderfyniadau erlyn rhag unrhyw gamddefnyddio grym.
2.3 Nid swyddogaeth y CPS yw penderfynu a yw person yn euog o drosedd, ond gwneud asesiadau ynghylch a yw’n briodol cyflwyno cyhuddiadau i’r llys troseddol eu hystyried. Nid yw asesiad y CPS o unrhyw achos mewn unrhyw ffordd yn canfod, nac yn awgrymu, unrhyw euogrwydd neu ymddygiad troseddol. Dim ond llys sy’n gallu dyfarnu bod person yn euog.
2.4 Yn yr un modd, nid yw penderfyniad i beidio â dwyn cyhuddiadau troseddol o reidrwydd yn golygu nad yw unigolyn wedi dioddef trosedd. Nid rôl y CPS yw gwneud penderfyniadau o’r fath.
2.5 Mae’r penderfyniad i erlyn neu argymell datrysiad y tu allan i’r llys, neu ddefnyddio pwerau dim erlyn, yn gam difrifol sy’n effeithio ar unigolion dan amheuaeth, dioddefwyr, tystion a’r cyhoedd yn gyffredinol, a rhaid ei gymryd gyda’r gofal mwyaf.
2.6 Dyletswydd erlynwyr yw sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir a dod â throseddwyr o flaen eu gwell lle bynnag y bo modd. Mae penderfyniadau gwaith achos a wneir yn deg, yn ddiduedd a gydag uniondeb yn helpu i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, tystion, unigolion dan amheuaeth, diffynyddion a’r cyhoedd. Rhaid i erlynwyr sicrhau bod y gyfraith yn cael ei chymhwyso’n briodol, bod tystiolaeth berthnasol yn cael ei rhoi gerbron y llys ac y cydymffurfir â rhwymedigaethau datgelu.
2.7 Er bod yn rhaid ystyried pob achos ar sail ei ffeithiau ei hun ac ar sail ei rinweddau ei hun, mae egwyddorion cyffredinol sy’n berthnasol ym mhob achos.
2.8 Rhaid i erlynwyr bob amser weithredu er budd cyfiawnder ac nid dim ond er mwyn cael euogfarn. Rhaid iddynt fod yn deg, yn wrthrychol ac yn gytbwys wrth ymdrin â phob achos. Ni ddylai unrhyw fath o ragfarn ddylanwadu ar eu penderfyniadau, boed hynny gan yr erlynydd neu gan drydydd parti. Rhaid cymryd gofal arbennig i osgoi rhagfarn mewn perthynas ag unrhyw nodwedd warchodedig (nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a nodweddion troseddau casineb o dan adran 66 o Ddeddf Dedfrydu 2020). Yn yr un modd, ni ddylai erlynwyr adael i unrhyw farn bersonol ddylanwadu ar eu penderfyniadau. Ni ddylent ychwaith gael eu hysgogi gan ystyriaethau gwleidyddol.
2.9 Mae gan erlynwyr ddyletswydd i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i ddioddefwyr, tra’n amddiffyn hawliau’r unigolion dan amheuaeth a diffynyddion.
2.10 Rhaid cymhwyso egwyddorion y Cod yn yr un modd ym mhob achos, ni waeth beth fo statws cymdeithasol, dylanwad, cyfoeth, pŵer, poblogrwydd neu enwogrwydd yr unigolyn dan amheuaeth, y diffynnydd, y dioddefwr neu unrhyw dyst, neu unrhyw gredo y gallant ei hyrwyddo neu ei gefnogi.
2.11 Mae'r CPS yn awdurdod cyhoeddus at ddibenion deddfwriaeth cydraddoldeb gyfredol a pherthnasol, ac mae’n rhwym wrth y dyletswyddau a nodir yn y ddeddfwriaeth hon.
2.12 Dylai erlynwyr fod yn gyfarwydd â’u dyletswyddau a’u rhwymedigaethau proffesiynol amrywiol, a dylent eu cyflawni. Yn benodol, rhaid iddynt weithredu mewn ffordd sy’n gydnaws â Deddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a chydymffurfio â’r Rheolau Trefniadaeth Droseddol, Cyfarwyddiadau Ymarfer Troseddol a, lle bo hynny’n berthnasol, y Rheolau Trefniadaeth Sifil. Dylai erlynwyr hefyd lynu wrth unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Twrnai Cyffredinol a gyda pholisïau a chanllawiau’r CPS, oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
2.13 Mae’r CPS yn erlyn ar ran rhai cyrff cyhoeddus eraill. Mewn achosion o’r fath, dylai erlynwyr ystyried unrhyw bolisïau gorfodi perthnasol sydd gan y cyrff cyhoeddus hynny, ond nid ydynt wedi’u rhwymo ganddynt.
2.14 Gall rhai troseddau gael eu herlyn naill ai gan y CPS neu gan erlynwyr eraill yng Nghymru a Lloegr. Wrth wneud penderfyniadau yn yr achosion hyn, gall erlynwyr y CPS, lle maent yn credu bod hynny’n briodol, ystyried unrhyw bolisi gorfodi neu bolisi erlyn perthnasol, neu god yr erlynydd arall.
2.15 Lle mae’r gyfraith yn wahanol rhwng Cymru a Lloegr, rhaid i erlynwyr gymhwyso’r Cod ac ystyried unrhyw bolisi, ganllaw neu safon cyhuddo perthnasol.
2.16 Mae’r CPS yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gyfrifol ac yn foesegol, i’w gynorthwyo yn ei waith, ond rhaid i erlynwyr wneud penderfyniadau erlyn a bod yn atebol amdanynt.
Y Penderfyniad i Erlyn
Cyfrifoldebau’r erlynydd a’r heddlu
3.1 Mewn achosion mwy difrifol neu gymhleth, bydd erlynwyr yn penderfynu a ddylid cyhuddo rhywun o drosedd ac, os felly, beth ddylai’r drosedd honno fod. Gall erlynwyr hefyd gynghori ar ddatrysiadau y tu allan i’r llys, neu eu hawdurdodi, fel dewis amgen yn lle erlyn, a gallant ddefnyddio pwerau dim erlyn fel dewis amgen, neu yn ogystal ag erlyn. Maent yn gwneud eu penderfyniadau yn unol â’r Cod hwn, Canllawiau Cyhuddo’r DPP ac unrhyw ganllawiau neu bolisïau cyfreithiol perthnasol. Mae’r heddlu’n defnyddio’r un egwyddorion wrth benderfynu a ddylid cychwyn achos troseddol yn erbyn person yn yr achosion hynny y maent yn gyfrifol amdanynt.
3.2 Nid yw’r CPS yn cynnal ymchwiliadau troseddol ac ni all erlynwyr gyfarwyddo’r heddlu nac ymchwilwyr eraill, sy’n gyfrifol am ymchwilio i unrhyw drosedd honedig ac am benderfynu sut i ddefnyddio eu hadnoddau. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau i ddechrau neu barhau ag ymchwiliad ac ar gwmpas yr ymchwiliad.
3.3 Dylai erlynwyr gynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill ynghylch llwybrau ymholi rhesymol posibl, gofynion tystiolaethol, gweithdrefnau cyn cyhuddo, rheoli datgeliadau a’r strategaeth ymchwilio gyffredinol. Gall hyn gynnwys penderfyniadau i fireinio neu gyfyngu ar gwmpas yr ymddygiad troseddol a nifer yr unigolion dan amheuaeth sy’n destun ymchwiliad. Mae cyngor o’r fath yn cynorthwyo’r heddlu ac ymchwilwyr eraill i gwblhau’r ymchwiliad o fewn cyfnod rhesymol o amser ac i adeiladu’r achos erlyn mwyaf effeithiol. Lle bo’n berthnasol, dylid hefyd rhoi ystyriaeth yn gynnar i strategaeth adennill asedau er mwyn ymchwilio, rhewi ac adennill unrhyw enillion o droseddu.
3.4 Dylai erlynwyr nodi a, lle bo modd, ceisio cywiro gwendidau o ran tystiolaeth ond, yn amodol ar y Prawf Trothwy (gweler adran 5), dylent atal achosion yn gyflym nad ydynt yn bodloni cam tystiolaethol y Prawf Cod Llawn (gweler adran 4) ac na ellir eu cryfhau drwy ymchwiliad pellach, neu lle mae’n amlwg nad oes angen erlyn er budd y cyhoedd (gweler adran 4). Er bod erlynwyr yn ystyried yn bennaf y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarperir gan yr heddlu ac ymchwilwyr eraill, gall yr unigolyn dan amheuaeth neu’r rheini sy’n gweithredu ar ei ran hefyd gyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth i’r erlynydd, cyn neu ar ôl cyhuddo, i helpu i lywio penderfyniad yr erlynydd. Mewn achosion priodol, gall yr erlynydd wahodd yr unigolyn dan amheuaeth neu ei gynrychiolydd i wneud hynny.
3.5 Ni ddylai erlynwyr ddechrau na pharhau ag erlyniad os ydynt o’r farn ei bod yn debygol iawn y bydd llys yn dyfarnu bod erlyniad cyfwerth â chamddefnyddio ei broses ac yn atal yr achos.
3.6 Mae erlynwyr yn adolygu pob achos a dderbyniant gan yr heddlu neu ymchwilwyr eraill. Mae adolygu’n broses barhaus a rhaid i erlynwyr ystyried unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n digwydd wrth i’r achos ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys yr hyn a ddaw’n hysbys am achos yr amddiffyniad, unrhyw drywydd ymholi rhesymol pellach y dylid ei ddilyn, a derbyn unrhyw ddeunydd nas defnyddiwyd a allai danseilio achos yr erlyniad neu gynorthwyo achos yr amddiffyniad, i’r graddau y dylid newid neu ddileu’r cyhuddiadau, neu na ddylai’r erlyniad fwrw ymlaen. Os bydd achos yn cael ei atal, dylid bod yn ofalus wrth ddewis y dull terfynu, gan y gall hyn effeithio ar sefyllfa’r dioddefwr o dan y cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad. Ble bynnag y bo modd, dylai erlynwyr ymgynghori â’r ymchwilydd wrth ystyried newid y cyhuddiadau neu atal yr achos. Mae erlynwyr ac ymchwilwyr yn cydweithio’n agos, ond y CPS sy’n bennaf gyfrifol am benderfynu a ddylai achos fynd rhagddo ai peidio.
Achosion sydd angen cydsyniad
3.7 Mae’r Senedd wedi penderfynu mai dim ond gyda chydsyniad y DPP y dylid mynd â nifer cyfyngedig o droseddau i’r llys, a gall Erlynydd y Goron roi’r cydsyniad hwn. Mewn amgylchiadau prin iawn, rhaid i’r DPP gydsynio’n bersonol â’r erlyniad. Ym mhob achos “cydsyniad” o’r fath, mae’r erlynydd neu’r DPP yn defnyddio’r Cod wrth benderfynu a ddylid cydsynio i erlyniad.
3.8 Yn ogystal, mae rhai troseddau penodol na ellir mynd â nhw i’r llys heb gydsyniad y Twrnai Cyffredinol. Rhaid i erlynwyr ddilyn canllawiau cyfredol wrth gyfeirio unrhyw achosion o’r fath at y Twrnai Cyffredinol.
3.9 Mae angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dechrau erlyniad ar gyfer rhai troseddau. Rhaid i erlynwyr gael cydsyniad o’r fath cyn cyhuddo, a chymhwyso unrhyw ganllawiau perthnasol yn yr achosion hyn.
Goruchwyliaeth y Twrnai Cyffredinol
3.10 Bydd y Twrnai Cyffredinol yn cael gwybod am rai achosion fel rhan o’i oruchwyliaeth o’r CPS a’i atebolrwydd i’r Senedd am ei weithredoedd.
Y Prawf Cod Llawn
4.1 Dim ond ar ôl i’r achos basio dau gam y Prawf Cod Llawn y dylai erlynwyr ddechrau neu barhau ag erlyniad. Yr eithriad yw pryd y gellir cymhwyso’r Prawf Trothwy (gweler adran 5).
4.2 Mae dau gam i’r Prawf Cod Llawn:
- Y cam tystiolaethol - A oes digon o dystiolaeth i roi siawns realistig o gael euogfarn? wedi’i ddilyn gan
- Y cam budd y cyhoedd - A oes angen erlyniad er budd y cyhoedd?
Mae’r camau hyn yn cael eu hegluro’n fanwl ym mharagraffau 4.7 i 4.18.
4.3 Dylid defnyddio’r Prawf Cod Llawn:
- Pan fydd pob trywydd ymholi rhesymol sy’n weddill wedi’i ddilyn; neu
- Cyn cwblhau'r llinellau ymholi rhesymol sy’n weddill, os yw’r erlynydd yn fodlon bod unrhyw dystiolaeth neu ddeunydd pellach yn annhebygol o effeithio ar gymhwyso’r Prawf Cod Llawn, boed hynny o blaid neu yn erbyn erlyniad.
4.4 Ni ddylai penderfyniad ynghylch cyhuddo fod yn destun cynllun gweithredu cyn cyhuddo, oni bai nad oes modd defnyddio’r Prawf Cod Llawn heb y dystiolaeth neu’r deunydd a geisir. Dylid defnyddio cynllun gweithredu ar ôl cyhuddo ar gyfer tystiolaeth neu ddeunydd arall sy’n ofynnol.
4.5 Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond ar ôl ystyried a oes digon o dystiolaeth i erlyn y dylai erlynwyr ystyried a yw erlyniad er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, bydd achosion lle mae’n amlwg, cyn adolygu’r holl dystiolaeth, nad oes angen erlyniad er budd y cyhoedd. Yn yr achosion hyn, gall erlynwyr benderfynu na ddylai’r achos fynd ymhellach, neu y dylid ystyried pwerau dim erlyn.
4.6 Ni ddylai erlynwyr wneud penderfyniad o’r fath oni bai eu bod yn fodlon bod graddau cyffredinol y troseddoldeb wedi’i bennu a’u bod yn gallu gwneud asesiad cwbl wybodus o fudd y cyhoedd. Os nad oes gan erlynwyr ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad o’r fath, dylai’r ymchwiliad barhau, a dylid gwneud penderfyniad yn ddiweddarach yn unol â’r Prawf Cod Llawn a nodir yn yr adran hon.
Y Cam Tystiolaethol
4.7 Rhaid i erlynwyr fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i ddarparu siawns realistig o gael euogfarn yn erbyn pob unigolyn dan amheuaeth ar bob cyhuddiad (at ddibenion y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, mae “euogfarn” yn cynnwys canfyddiad bod “yr unigolyn wedi cyflawni’r weithred neu wedi gwneud yr anwaith” mewn amgylchiadau lle mae’r unigolyn yn debygol o gael ei ddyfarnu’n ddieuog ar sail gorffwylledd). Rhaid iddynt ystyried beth allai achos yr amddiffyniad fod, a sut mae’n debygol o effeithio ar y tebygolrwydd o gael euogfarn. Ni chaiff achos nad yw’n pasio’r cam tystiolaethol fynd yn ei flaen, waeth pa mor ddifrifol neu sensitif ydyw. Pan nad yw achos yn pasio’r cam tystiolaethol, dylai erlynwyr ystyried defnyddio pwerau dim erlyn ac, mewn achosion priodol, a ddylid dychwelyd yr achos i’r corff a gyfeiriodd yr achos, neu ystyried unrhyw gorff cyhoeddus arall a allai gymryd camau, e.e. corff rheoleiddio neu sifil.
4.8 Mae’r canfyddiad bod gobaith realistig o gael euogfarn yn seiliedig ar asesiad gwrthrychol yr erlynydd o’r dystiolaeth, gan gynnwys effaith unrhyw amddiffyniad a ddatganwyd neu a ragwelir yn rhesymol, ac unrhyw wybodaeth arall y mae’r unigolyn dan amheuaeth wedi’i darparu neu y gallai ddibynnu arni. Mae’n golygu bod rheithgor, mainc ynadon neu farnwr gwrthrychol, diduedd a rhesymol sy’n gwrando ar achos, ac sydd wedi’u cyfarwyddo’n briodol ac yn gweithredu’n unol â’r gyfraith, yn fwy tebygol na pheidio o gael yr unigolyn dan amheuaeth yn euog o’r cyhuddiad honedig. Mae hwn yn brawf gwahanol i’r un y mae’n rhaid i’r llysoedd troseddol eu hunain ei ddefnyddio. Dim ond os yw’n sicr bod y diffynnydd yn euog y gall llys ei euogfarnu.
4.9 Wrth benderfynu a oes digon o dystiolaeth i erlyn, fel rhan o’u hystyriaethau, dylai erlynwyr ofyn y cwestiynau canlynol iddynt eu hunain:
Cwestiwn 1 - A oes digon o dystiolaeth mewn perthynas â phob elfen o’r drosedd?
Dylai erlynwyr nodi holl elfennau’r drosedd y mae angen eu profi, sefydlu pa rai sy’n debygol o fod yn destun anghydfod neu y mae angen rhoi sylw mwy llawn iddynt, a sicrhau bod digon o dystiolaeth ar gyfer pob elfen.
Cwestiwn 2 - A ellir defnyddio’r dystiolaeth yn y llys?
Dylai erlynwyr ystyried a oes unrhyw gwestiwn ynghylch derbynioldeb tystiolaeth benodol. Wrth wneud hynny, dylai erlynwyr asesu:
- Y tebygolrwydd y bydd y dystiolaeth honno’n cael ei dal fel tystiolaeth annerbyniol gan y llys;
- Pwysigrwydd y dystiolaeth honno mewn perthynas â’r dystiolaeth yn ei chyfanrwydd.
Cwestiwn 3 - A yw’r dystiolaeth yn ddibynadwy?
Dylai erlynwyr ystyried a oes unrhyw resymau dros gwestiynu pa mor ddibynadwy yw’r dystiolaeth, gan gynnwys ei chywirdeb neu ei huniondeb.
Cwestiwn 4 - A yw’r dystiolaeth yn gredadwy?
Dylai erlynwyr ystyried a oes unrhyw resymau dros amau hygrededd y dystiolaeth, er mwyn sicrhau ei bod yn rhesymol gredadwy.
Cwestiwn 5 - A oes unrhyw ddeunydd arall a allai effeithio ar ddigonolrwydd y dystiolaeth?
Rhaid i erlynwyr ystyried ar y cam hwn, a thrwy gydol yr achos, a oes unrhyw ddeunydd a allai effeithio ar asesu digonolrwydd y dystiolaeth, gan gynnwys deunydd wedi’i archwilio a heb ei archwilio sydd ym meddiant yr heddlu, a deunydd y gellir ei gael drwy ddulliau ymholi rhesymol pellach.
Cam Budd y Cyhoedd
Yr egwyddorion allweddol
4.10 Nid yw erioed wedi bod yn rheol y bydd erlyniad yn digwydd yn awtomatig ar ôl i’r cam tystiolaethol gael ei fodloni. O ganlyniad, ym mhob achos lle mae digon o dystiolaeth i gyfiawnhau erlyniad, rhaid i erlynwyr fynd ymlaen i ystyried a oes angen erlyn er budd y cyhoedd ai peidio.
4.11 Fodd bynnag, bydd erlyniad fel arfer yn digwydd oni bai fod yr erlynydd yn fodlon bod budd y cyhoedd yn tueddu yn erbyn erlyniad, a bod hyn yn drech nag unrhyw fudd y cyhoedd sy’n tueddu o’i blaid.
4.12 Ble mae'n ymddangos bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, er na fyddai hynny o reidrwydd yn mynd cyn belled ag erlyniad, mae’n bosibl y byddai modd cyflawni budd y cyhoedd yn briodol trwy gynnig cyfle i’r troseddwr ddatrys y mater y tu allan i’r llys, yn hytrach na dwyn erlyniad.
4.13 Dylai erlynwyr hefyd ystyried defnyddio pwerau dim erlyn, y gellir eu defnyddio yn ychwanegol at neu fel dewis amgen i erlyniad neu ddatrysiad y tu allan i’r llys, ac, mewn achosion priodol, a ddylid cyfeirio’r achos at y corff cyhoeddus perthnasol. Mater i’r corff cyhoeddus fydd pa gamau, os o gwbl, i’w cymryd: yr hyn y mae’n rhaid i’r erlynydd roi sylw iddo yw a yw’r atgyfeiriad hwnnw’n cyflawni budd y cyhoedd.
4.14 Os na fodlonir unrhyw ofynion ar gyfer datrysiad y tu allan i’r llys, ac nad oes unrhyw ddatrysiad addas arall, dylai erlynwyr ailystyried a fyddai budd y cyhoedd yn cael ei wasanaethu’n well gan erlyniad neu trwy beidio â chymryd camau pellach.
Asesu budd y cyhoedd
4.15 Wrth benderfynu a yw erlyniad er budd y cyhoedd, dylai erlynwyr ystyried pob un o’r pum cwestiwn a nodir isod ym mharagraff 4.18, er mwyn nodi a phenderfynu ar y ffactorau budd y cyhoedd perthnasol sy’n tueddu i fod o blaid erlyniad ac yn erbyn erlyniad. Dylai’r ffactorau hyn, ynghyd ag unrhyw ffactorau budd y cyhoedd a nodir mewn canllawiau neu bolisïau perthnasol a gyhoeddir gan y DPP, alluogi erlynwyr i ffurfio asesiad cyffredinol o fudd y cyhoedd. Lle bo’n berthnasol, dylai erlynwyr hefyd ystyried polisi gorfodi’r corff cyhoeddus perthnasol.
4.16 Mae’r testun esboniadol o dan y pum cwestiwn ym mharagraff 4.18 yn rhoi arweiniad i erlynwyr wrth fynd i’r afael â phob cwestiwn a phenderfynu a yw’n nodi ffactorau budd y cyhoedd o blaid neu yn erbyn erlyniad. Nid yw’r cwestiynau yn gynhwysfawr, ac mae’n bosibl na fydd pob un ohonynt yn berthnasol ym mhob achos. Bydd pa mor bwysig y dylid ystyried pob un o'r cwestiynau hyn, a'r ffactorau a nodir, hefyd yn amrywio yn ôl ffeithiau a rhinweddau pob achos.
4.17 Mae’n eithaf posibl y gall un ffactor budd y cyhoedd yn unig fod yn bwysicach na nifer o ffactorau eraill sy’n tueddu i’r cyfeiriad arall. Er y gallai fod ffactorau budd y cyhoedd sy’n tueddu yn erbyn erlyniad mewn achos penodol, dylai erlynwyr ystyried a ddylai erlyniad fynd yn ei flaen, serch hynny, a’r ffactorau hynny sy’n cael eu cyflwyno i’r llys i’w hystyried pan gaiff dedfryd ei phasio.
4.18 Dylai erlynwyr ystyried pob un o’r cwestiynau canlynol:
Cwestiwn 1 - Beth yw amgylchiadau’r dioddefwr?
- Dylai erlynwyr ystyried amgylchiadau’r dioddefwr, unrhyw farn a roddir gan y dioddefwr, gan gynnwys effaith y drosedd arnynt, ac unrhyw asesiad risg mewn perthynas â’r dioddefwr.
- Fodd bynnag, nid yw’r CPS yn gweithredu ar ran dioddefwyr na’u teuluoedd yn yr un ffordd ag y mae cyfreithwyr yn gweithredu ar ran eu cleientiaid, a rhaid i erlynwyr lunio barn gyffredinol am fudd y cyhoedd.
- Po fwyaf agored i niwed yw sefyllfa’r dioddefwr, neu po fwyaf yw bregusrwydd canfyddedig y dioddefwr, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyn. Mae hyn yn cynnwys ble mae sefyllfa o ymddiriedaeth neu awdurdod yn bodoli rhwng yr unigolyn dan amheuaeth a’r dioddefwr.
- Mae erlyniad yn fwy tebygol os cyflawnwyd y drosedd yn erbyn dioddefwr sy’n weithiwr brys, person mewn gwasanaeth cyhoeddus neu rywun sy’n gwasanaethu’r cyhoedd, a oedd adeg y drosedd yn gweithredu felly, neu y cyflawnwyd y drosedd yn ei erbyn oherwydd ei fod yn berson o’r fath.
- Ar gyfer pob trosedd casineb, mae budd cryf i’r cyhoedd mewn erlyn, a bydd erlyniad fel arfer yn dilyn pan fodlonir y prawf tystiolaeth.
- Mae angen i erlynwyr hefyd ystyried a yw erlyniad yn debygol o gael effaith andwyol ar iechyd corfforol neu feddyliol y dioddefwr, gan gofio bob amser ddifrifoldeb y drosedd, argaeledd mesurau arbennig a’r posibilrwydd o erlyniad heb gyfranogiad y dioddefwr.
Cwestiwn 2 - Pa mor ddifrifol yw’r drosedd?
- Po fwyaf difrifol yw’r drosedd, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyn.
- Wrth asesu difrifoldeb trosedd, dylai erlynwyr gynnwys yn eu hystyriaeth y ffactorau a restrir yn a) a b) isod mewn perthynas â lefel beiusrwydd yr unigolyn dan amheuaeth ac unrhyw niwed a achoswyd gan y drosedd, y bwriadwyd i’r drosedd ei hachosi neu y gallai’r drosedd fod wedi’i hachosi.
a) Beiusrwydd
- Po fwyaf yw lefel beiusrwydd yr unigolyn dan amheuaeth, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyn.
- Mae beiusrwydd yn debygol o gael ei bennu gan:
- lefel cyfranogiad yr unigolyn dan amheuaeth;
- i ba raddau yr oedd y troseddu wedi’i ragfwriadu a/neu ei gynllunio;
- i ba raddau y mae’r unigolyn dan amheuaeth wedi elwa o ymddygiad troseddol;
- a oes gan yr unigolyn dan amheuaeth euogfarnau troseddol blaenorol a/neu ddatrysiadau y tu allan i’r llys ac unrhyw droseddu tra ar fechnïaeth neu tra’n destun gorchymyn llys;
- a oedd y troseddu’n debygol o barhau, ailadrodd neu waethygu;
- oedran ac aeddfedrwydd yr unigolyn dan amheuaeth (gweler Cwestiwn 3 isod).
- Gall unigolyn dan amheuaeth, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, fod â lefel is o feiusrwydd os yw’r unigolyn dan amheuaeth wedi cael ei gymell, ei orfodi neu ei ecsbloetio, yn enwedig os yw’n ddioddefwr trosedd sy’n gysylltiedig â’i droseddu.
- Dylai erlynwyr hefyd ystyried a yw’r unigolyn dan amheuaeth yn cael ei effeithio, neu a oedd yn cael ei effeithio adeg y drosedd, gan unrhyw:
- salwch corfforol neu anabledd;
- salwch, anabledd neu anhwylder meddwl, gan gynnwys anhwylder niwroddatblygiadol.
Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn olygu ei bod yn llai tebygol y bydd angen erlyniad. Fodd bynnag, dylai erlynwyr hefyd ystyried yr angen i ddiogelu’r cyhoedd neu’r rhai sy’n darparu gofal i unigolion o’r fath.
b) Niwed
- Po fwyaf difrifol yw’r niwed, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad.
- Gall niwed gael ei achosi nid yn unig i unigolion ond hefyd, er enghraifft, i gymuned, y wladwriaeth, yr economi, iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, lles y cyhoedd, yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
- Mae niwed yn cynnwys anaf corfforol, niwed seicolegol a cholled ariannol.
- Po fwyaf yw effaith y troseddu ar y gymuned, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad. Er enghraifft, gall cymuned gael ei niweidio’n benodol gan fynychder trosedd neu oherwydd bod trosedd benodol yn arwain at ofn, trallod neu ymdeimlad o ansicrwydd cyffredin. Nid yw cymuned wedi’i chyfyngu i gymunedau a ddiffinnir gan leoliad, a gall ymwneud â grŵp o bobl sy’n rhannu nodweddion, profiadau neu gefndiroedd penodol, gan gynnwys grŵp galwedigaethol. Gellir cael tystiolaeth o’r effaith ar gymuned drwy Ddatganiad Effaith ar y Gymuned.
Cwestiwn 3 - Beth oedd oedran ac aeddfedrwydd yr unigolyn dan amheuaeth adeg y drosedd?
- Mae’r system cyfiawnder troseddol yn trin plant a phobl ifanc yn wahanol i oedolion, a rhaid rhoi pwys sylweddol ar oedran yr unigolyn dan amheuaeth os yw’n blentyn neu’n berson ifanc dan 18 oed.
- Rhaid ystyried budd gorau a lles y plentyn neu’r person ifanc, gan gynnwys a yw erlyniad yn debygol o gael effaith andwyol ar ei ragolygon ar gyfer y dyfodol sy’n anghymesur â difrifoldeb y troseddu.
- Rhaid i erlynwyr ystyried prif nod y system cyfiawnder ieuenctid, sef atal plant a phobl ifanc rhag troseddu.
- Dylai erlynwyr ystyried aeddfedrwydd yr unigolyn dan amheuaeth, yn ogystal â’i oedran cronolegol, gan y bydd oedolion ifanc yn parhau i aeddfedu hyd at ganol eu hugeiniau.
- Fel man cychwyn, po ieuengaf yw’r unigolyn dan amheuaeth, y lleiaf tebygol ydyw bod angen erlyniad.
- Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, er gwaethaf y ffaith bod yr unigolyn dan amheuaeth dan 18 oed neu heb aeddfedu’n llawn, gall difrifoldeb y drosedd neu ffactorau eraill olygu bod erlyniad er budd y cyhoedd.
- Os oedd yr unigolyn dan amheuaeth dan 18 oed adeg y drosedd, ond y bydd yn 18 oed neu’n hŷn erbyn dyddiad unrhyw euogfarn a dedfryd, ac felly’n cael ei ddedfrydu fel oedolyn, dylai erlynwyr ystyried a allai erlyniad arwain at ganlyniad anghyfiawn, yn enwedig lle bydd cyfnod hir rhwng y drosedd ac unrhyw ddedfryd.
Cwestiwn 4 - A yw erlyniad yn ymateb cymesur?
- Wrth ystyried a yw erlyniad yn gymesur â’r canlyniad tebygol, gall y canlynol fod yn berthnasol:
- y gost i’r CPS a’r system cyfiawnder troseddol ehangach, er na ddylai erlynwyr benderfynu ar fudd y cyhoedd ar sail y ffactor hwn yn unig;
- y gosb debygol, yn enwedig cosb enwol;
- egwyddorion rheoli achos effeithiol. Er enghraifft, mewn achos sy’n cynnwys nifer o unigolion dan amheuaeth, efallai y bydd erlyniad yn cael ei neilltuo ar gyfer y prif gyfranogwyr er mwyn osgoi achosion rhy hir a chymhleth;
- argaeledd datrysiadau addas eraill a allai fodloni budd y cyhoedd.
Cwestiwn 5 - A fyddai erlyniad yn achosi niwed neu’n peri risg o niwed?
- Dylid cymryd gofal arbennig wrth ddechrau neu barhau ag erlyniad lle mae tystiolaeth gref o risg o niwed i fudd cyhoeddus pwysig, gan gynnwys niwed i ffynonellau gwybodaeth, ymchwiliadau parhaus, cysylltiadau rhyngwladol neu ddiogelwch cenedlaethol; neu risg o niwed difrifol neu farwolaeth person. Mae’n hanfodol bod achosion o’r fath yn cael eu hadolygu’n barhaus.
Datrysiadau y tu allan i’r llys
5.1 Gall datrysiad y tu allan i’r llys ddisodli erlyniad os yw’n ymateb priodol i’r troseddwr a/neu ddifrifoldeb a chanlyniadau’r troseddu, fel bod budd y cyhoedd yn cael ei wasanaethu’n briodol drwy benderfyniad o’r fath.
5.2 Rhaid i erlynwyr sicrhau bod y gofynion ar gyfer datrysiad y tu allan i’r llys yn cael eu bodloni, gan gynnwys cyfaddefiad clir o euogrwydd, bod unrhyw ganllawiau perthnasol yn cael eu dilyn a, lle bo hynny’n ymarferol, bod safbwyntiau’r dioddefwr yn cael eu casglu a’u hystyried.
Y Prawf Trothwy
6.1 Mewn amgylchiadau prin, lle na fodlonir y Prawf Cod Llawn, gellir defnyddio’r Prawf Trothwy i gyhuddo unigolyn dan amheuaeth. Rhaid i ddifrifoldeb neu amgylchiadau’r achos gyfiawnhau gwneud penderfyniad ar unwaith i gyhuddo, a rhaid cael sail sylweddol dros wrthwynebu mechnïaeth.
6.2 Rhaid archwilio pum amod y Prawf Trothwy yn drylwyr, er mwyn sicrhau mai dim ond pan fo angen y caiff ei gymhwyso, ac nad yw achosion yn cael eu cyhuddo’n gynamserol. Rhaid bodloni’r pum amod cyn y gellir defnyddio’r Prawf Trothwy. Pan na fydd unrhyw un o’r amodau’n cael eu bodloni, nid oes angen ystyried unrhyw un o’r amodau eraill, gan na ellir defnyddio’r Prawf Trothwy ac ni ellir cyhuddo'r unigolyn dan amheuaeth.
Yr amod cyntaf - Mae sail resymol dros amau bod yr unigolyn sydd i’w gyhuddo wedi cyflawni’r drosedd
6.3 Rhaid i erlynwyr fod yn fodlon, ar ôl cynnal asesiad gwrthrychol o’r dystiolaeth, bod sail resymol dros amau bod yr unigolyn sydd i’w gyhuddo wedi cyflawni’r drosedd. Rhaid i’r asesiad ystyried effaith unrhyw amddiffyniad neu wybodaeth y mae’r unigolyn dan amheuaeth wedi’i chyflwyno neu y gallai ddibynnu arni.
6.4 Wrth benderfynu a oes sail resymol dros amau, rhaid i erlynwyr ystyried yr holl ddeunydd neu wybodaeth sydd ar gael, boed hynny mewn fformat tystiolaethol neu fel arall. Rhaid i erlynwyr fod yn fodlon bod y deunydd y dibynnir arno ar y cam hwn:
- Yn gallu cael ei roi mewn fformat derbyniol i’w gyflwyno yn y llys;
- Yn ddibynadwy;
- Yn gredadwy.
Yr ail amod - Gellir cyrchu rhagor o dystiolaeth i roi siawns realistig o gael euogfarn
6.5 Rhaid i erlynwyr fod yn fodlon bod sail resymol dros gredu y bydd yr ymchwiliad sy’n parhau yn darparu rhagor o dystiolaeth, o fewn cyfnod rhesymol o amser, fel y bydd modd, pan fydd yr holl dystiolaeth yn cael ei hystyried gyda’i gilydd, gan gynnwys deunydd a all bwyntio oddi wrth unigolyn dan amheuaeth penodol, yn ogystal â thuag ato, sefydlu posibilrwydd realistig o gael euogfarn yn unol â’r Prawf Cod Llawn.
6.6 Rhaid bod yr erlynydd yn gallu nodi’r dystiolaeth bellach debygol, ac ni ddylai fod yn ddamcaniaethol yn unig.
6.7 Wrth wneud y penderfyniad hwn, rhaid i erlynwyr ystyried y canlynol:
- Natur, graddau a derbynioldeb unrhyw dystiolaeth bellach debygol, a’r effaith y bydd yn ei chael ar yr achos;
- Y cyhuddiadau y bydd yr holl dystiolaeth yn eu cefnogi;
- Y rhesymau pam nad yw’r dystiolaeth eisoes ar gael;
- Yr amser sydd ei angen i gyrchu’r dystiolaeth bellach, gan gynnwys a ellid ei chael o fewn unrhyw gyfnod cadw sydd ar gael;
- A yw’r oedi cyn defnyddio’r Prawf Cod Llawn yn rhesymol yn yr holl amgylchiadau.
Y trydydd amod - Mae difrifoldeb neu amgylchiadau’r achos yn cyfiawnhau gwneud penderfyniad ar unwaith ynghylch cyhuddo
6.8 Dylid asesu difrifoldeb ac amgylchiadau’r achos mewn perthynas â’r troseddu honedig, a dylid eu cysylltu â lefel y risg sy’n cael ei chreu drwy ganiatáu mechnïaeth.
Y pedwerydd amod - Mae sail sylweddol yn parhau dros wrthwynebu mechnïaeth, yn unol â Deddf Mechnïaeth 1976 ac yn holl amgylchiadau’r achos mae’n briodol gwneud hynny
6.9 Rhaid i’r penderfyniad hwn fod yn seiliedig ar asesiad risg priodol, sy’n datgelu nad yw’r unigolyn dan amheuaeth yn addas i’w roi ar fechnïaeth, hyd yn oed gydag amodau sylweddol: er enghraifft, unigolyn dan amheuaeth peryglus sy’n peri risg ddifrifol o niwed i unigolyn penodol neu’r cyhoedd, neu unigolyn dan amheuaeth sy’n peri risg ddifrifol o ddianc neu ymyrryd â thystion. Ni ddylai erlynwyr dderbyn, heb ymchwiliad gofalus, unrhyw honiadau di-sail neu anghyfiawn ynghylch risg pe bai rhyddhau ar fechnïaeth yn digwydd.
Y pumed amod - Mae er budd y cyhoedd i gyhuddo’r unigolyn dan amheuaeth
6.10 Rhaid i erlynwyr gymhwyso cam budd y cyhoedd y Prawf Cod Llawn yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael bryd hynny.
Adolygu’r Prawf Trothwy
6.11 O dan y Prawf Trothwy, rhaid parhau i adolygu penderfyniad i gyhuddo. Dylai’r erlynydd fod yn rhagweithiol i gaffael gan yr heddlu'r dystiolaeth neu ddeunydd arall sy’n weddill a nodwyd, yn unol ag amserlen y cytunwyd arni. Rhaid asesu’r dystiolaeth yn rheolaidd i sicrhau bod y cyhuddiad yn dal yn briodol a bod cyfiawnhad dros barhau i wrthwynebu mechnïaeth. Rhaid defnyddio’r Prawf Cod Llawn cyn gynted ag y derbynnir y dystiolaeth neu’r deunydd ychwanegol disgwyliedig. Mewn achosion yn Llys y Goron, dylai hyn ddigwydd cyn cyflwyno’r ditiad. Os na ellir cyrchu’r dystiolaeth neu’r deunydd o fewn yr amserlen hon neu, os oes angen, yn dilyn gohiriad byr, efallai y bydd angen dod â’r achos i ben.
Dethol Cyhuddiadau
7.1 Dylai erlynwyr ddethol cyhuddiadau sy’n:
- Adlewyrchu difrifoldeb a graddau'r troseddu;
- Rhoi digon o bwerau i’r llys ddedfrydu a gosod gorchmynion ar ôl euogfarn priodol;
- Galluogi cyflwyno’r achos mewn ffordd glir a syml.
7.2 Mae hyn yn golygu na fydd erlynwyr bob amser yn dewis nac yn parhau â’r cyhuddiad mwyaf difrifol lle mae dewis, a bod buddiannau cyfiawnder yn cael eu diwallu drwy ddethol y cyhuddiad llai difrifol. Gall hyn gynnwys dewis cyhuddiad:
- Y gellir delio ag ef yn gynt yn y llys ynadon, er mwyn sicrhau effaith ataliol cyflym;
- Sy’n osgoi’r gost, yr oedi neu’r effaith andwyol ar unrhyw ddioddefwr neu dyst, a allai godi yn sgil achos yn Llys y Goron.
7.3 Lle bo’n berthnasol, dylai erlynwyr ddewis cyhuddiadau sy’n caniatáu i orchymyn atafaelu priodol gael ei wneud, yn dibynnu ar a ddylai fod yn seiliedig ar fudd o ymddygiad troseddol penodol neu ymddygiad troseddol cyffredinol.
7.4 Ni ddylai erlynwyr byth fwrw ymlaen â mwy o gyhuddiadau nag sy’n angenrheidiol, dim ond er mwyn annog diffynnydd i bledio’n euog i rai ohonynt. Yn yr un modd, ni ddylent byth fwrw ymlaen â chyhuddiad mwy difrifol, dim ond er mwyn annog diffynnydd i bledio’n euog i un llai difrifol.
7.5 Ni ddylai erlynwyr newid y cyhuddiad, dim ond oherwydd y penderfyniad a wnaed gan y llys neu’r diffynnydd ynghylch ble y gwrandewir ar yr achos.
7.6 Rhaid i erlynwyr ystyried unrhyw newid perthnasol mewn amgylchiadau wrth i’r achos fynd rhagddo ar ôl cyhuddo.
Lleoliad Llys
8.1 Rhaid i erlynwyr ystyried y canllawiau ar ddedfrydu a dyrannu wrth wneud cyflwyniadau i’r llys ynadon ynghylch ble y dylid rhoi’r diffynnydd ar brawf.
8.2 Ni ddylai cyflymder byth fod yr unig reswm dros ofyn i achos aros yn y llys ynadon. Fodd bynnag, dylai erlynwyr ystyried effaith unrhyw oedi tebygol os anfonir achos i Lys y Goron, gan gynnwys yr effaith bosibl ar unrhyw ddioddefwr neu dyst.
8.3 Dylai erlynwyr gofio, os oes angen achosion atafaelu, mai dim ond yn Llys y Goron y gellir cynnal y rhain. Gellir cynnal achos diannod at y diben hwnnw, lle bo hynny’n briodol.
Lleoliad ar gyfer Treial mewn Achosion sy’n Cynnwys Plant a Phobl Ifanc
8.4 Rhaid i erlynwyr gofio y dylai plant a phobl ifanc (dan 18 oed) gael eu rhoi ar brawf yn y llys ieuenctid lle bynnag y bo modd. Dyma’r llys sydd wedi’i gynllunio orau i ddiwallu eu hanghenion penodol. Gellir cynnal achosion am droseddau difrifol yn y llys ieuenctid, gyda’r pŵer i draddodi at ddiben dedfrydu os oes angen. Dylid neilltuo treial o blentyn neu berson ifanc yn Llys y Goron ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol yn unig, neu lle mae budd cyfiawnder yn ei gwneud yn ofynnol i blentyn neu berson ifanc gael ei roi ar brawf ar y cyd ag oedolyn.
Derbyn Pledion Euog
9.1 Gall diffynyddion gynnig pledio’n euog i rai o’r cyhuddiadau, ond nid pob un ohonynt. Fel arall, efallai y byddant yn cynnig pledio’n euog i gyhuddiad gwahanol, llai difrifol o bosibl, oherwydd mai dim ond rhan o’r drosedd y maent yn cyfaddef.
9.2 Fodd bynnag, ni ddylai erlynwyr byth dderbyn ple euog dim ond am ei fod yn gyfleus. Fel arfer, ni ddylid newid y troseddau sydd i’w herlyn, a dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol y dylai erlynwyr dderbyn ple’r diffynnydd:
- Bodlonir y Prawf Cod Llawn mewn perthynas ag unrhyw gyhuddiad gwahanol a awgrymir gan yr amddiffyniad;
- Bodlonir buddiannau cyfiawnder drwy dderbyn ple’r diffynnydd;
- Gall y llys roi dedfryd sy’n cyfateb i ddifrifoldeb y troseddu, yn enwedig lle ceir nodweddion gwaethygol;
- Mae’n rhoi digon o bwerau i’r llys osod gorchmynion ategol eraill, gan gofio y gellir gwneud y rhain gyda rhai troseddau ond nid gydag eraill.
9.3 Rhaid bod yn arbennig o ofalus wrth ystyried pledion a fyddai’n galluogi’r diffynnydd i osgoi bod yn destun dedfryd fyrraf orfodol.
9.4 Lle bo’n berthnasol, dylai erlynwyr hefyd ystyried a fyddai’r ple a gynigir yn caniatáu i orchymyn atafaelu priodol gael ei wneud, yn dibynnu ar a ddylai fod yn seiliedig ar fudd o ymddygiad troseddol penodol neu ymddygiad troseddol cyffredinol.
9.5 Wrth ystyried a yw’r pledion a gynigir yn dderbyniol, dylai erlynwyr sicrhau bod buddiannau a, lle bo modd, barn y dioddefwr, neu mewn achosion priodol farn teulu’r dioddefwr, yn cael eu hystyried wrth benderfynu a yw derbyn y ple er budd cyfiawnder. Fodd bynnag, yr erlynydd fydd yn gwneud y penderfyniad.
9.6 Rhaid ei gwneud yn glir i’r llys ar ba sail y cyflwynir ac y derbynnir unrhyw ble. Mewn achosion lle mae diffynnydd yn pledio’n euog i’r cyhuddiadau ond ar sail ffeithiau sy’n wahanol i achos yr erlyniad, a lle gallai hyn effeithio’n sylweddol ar y ddedfryd, dylid gwahodd y llys i wrando ar dystiolaeth i benderfynu beth ddigwyddodd, ac yna dedfrydu ar y sail honno.
9.7 Pan fydd diffynnydd wedi nodi’n flaenorol y bydd yn gofyn i’r llys ystyried trosedd wrth ddedfrydu, ond wedyn yn gwrthod cyfaddef y drosedd honno yn y llys, bydd erlynwyr yn ystyried a oes angen erlyn am y drosedd honno. Dylai erlynwyr egluro i adfocad yr amddiffyniad a’r llys y gallai erlyn y drosedd honno fod yn destun adolygiad pellach, mewn ymgynghoriad â’r heddlu neu ymchwilwyr eraill lle bynnag y bo modd.
Ailystyried Penderfyniad yr Erlyniad
10.1 Dylai pobl allu dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan y CPS. Fel arfer, os bydd y CPS yn dweud wrth unigolyn dan amheuaeth neu ddiffynnydd na fydd erlyniad, neu fod yr erlyniad wedi’i atal, ni fydd yr achos yn dechrau eto. Ond mae hawliau a disgwyliadau’r unigolyn dan amheuaeth neu’r diffynnydd yn cael eu cydbwyso â hawliau a disgwyliadau’r dioddefwr a’r budd cyhoeddus ehangach o ddod â throseddwyr o flaen eu gwell. O ganlyniad, o bryd i’w gilydd mae achosion lle bydd y CPS: yn gwrthdroi penderfyniad i beidio ag erlyn; yn gwrthdroi penderfyniad i ddelio ag achos drwy ddatrysiad y tu allan i’r llys; neu’n ailddechrau’r erlyniad, yn enwedig os yw’r achos yn ddifrifol.
10.2 Mae’r mathau o achosion a allai arwain at ailystyried penderfyniad yr erlyniad yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Achosion lle mae adolygiad pellach o’r penderfyniad gwreiddiol yn dangos ei fod yn anghywir ac, er mwyn cynnal hyder yn y system cyfiawnder troseddol, dylid dwyn erlyniad er gwaethaf y penderfyniad cynharach;
- Achosion sy’n cael eu hatal fel bod modd casglu a pharatoi rhagor o dystiolaeth a ragwelir, sy’n debygol o fod ar gael yn y dyfodol gweddol agos. Yn yr achosion hyn, bydd yr erlynydd yn dweud wrth y diffynnydd y gallai’r erlyniad ddechrau eto;
- Achosion nad ydynt yn cael eu herlyn neu sy’n cael eu hatal oherwydd diffyg tystiolaeth, ond lle deuir o hyd i dystiolaeth fwy sylweddol yn ddiweddarach;
- Achosion lle tynnir achosion yn ôl yn y llys ynadon ac mae adolygiad pellach yn dod i’r casgliad bod y Prawf Cod Llawn wedi’i fodloni a’i bod yn briodol ailgyflwyno’r achos;
- Achosion sy’n ymwneud â marwolaeth, lle mae adolygiad yn dilyn gohirio neu ganfyddiadau cwest yn dod i’r casgliad y dylid dwyn erlyniad, er gwaethaf unrhyw benderfyniad cynharach i beidio ag erlyn.
10.3 Gall dioddefwyr ofyn am adolygiad o rai o benderfyniadau’r CPS i beidio â dechrau erlyniad neu i atal erlyniad, o dan y cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad. Mae’r cynllun yn fesur diogelu pwysig mewn perthynas â rheolaeth y gyfraith. Bydd dioddefwyr yn cael gwybod ac yn cael esboniad am unrhyw benderfyniad o’r fath, ac yn cael gwybod am eu hawl i adolygiad. Os oes angen penderfyniad newydd, efallai y bydd yn briodol dechrau neu ailgychwyn achos troseddol.