Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron
This consultation is now open
Mae fersiwn Saesneg o’r dudalen hon ar gael yma.
Ynghylch yr ymgynghoriad hwn
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymgynghori’n gyhoeddus ar rifyn diwygiedig o’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron (y Cod).
Cyflwynwyd y Cod gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus o dan adran 10 Deddf Erlyn Troseddau 1985. Mae’n nodi’r egwyddorion y mae’n rhaid i erlynwyr eu dilyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid erlyn, pa gyhuddiadau i’w dwyn, a sut y dylid ymdrin ag achosion wrth iddynt fynd rhagddynt. Mae’r Cod yn cynnwys prawf cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer penderfynu a ddylid cyhuddo rhywun a ddrwgdybir o drosedd ai peidio.
Mae’r Cod hefyd yn ceisio hybu hyder y cyhoedd mewn penderfyniadau erlyn drwy egluro, mewn termau hygyrch, sut y gwneir y penderfyniadau hyn.
Er y cyflwynir y Cod yn bennaf ar gyfer Erlynwyr y Goron, fe’i defnyddir hefyd gan nifer o awdurdodau erlyn eraill, yr heddlu ac eraill ledled y system cyfiawnder troseddol.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn am y diwygiadau arfaethedig i’r Cod cyn ei orffen a’i gyhoeddi.
Cefndir yr adolygiad
Hwn fydd nawfed rhifyn y Cod. Mae’r rhifyn presennol, a gyhoeddwyd yn 2018, yn parhau’n weithredol ac mae ar gael ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron: www.cps.gov.uk/publication/code-crown-prosecutors.
Adolygir y Cod o bryd i’w gilydd, i sicrhau ei fod yn gywir, yn gyfredol ac yn adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith ac mewn polisi ac ymarfer erlyn.
Islaw’r Cod, ceir corff o ganllawiau a pholisïau cyfreithiol, sy’n rhoi rhagor o gymorth manwl i erlynwyr ynghylch troseddau a phynciau penodol.
Sut i Ymateb
Byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi eich adborth gan ddefnyddio ein ffurflen ymateb ar-lein.
I gynorthwyo ein dadansoddiad, yn ddelfrydol dylai’r ymatebion fod yn gryno, gyda rhesymeg glir wedi’i rhoi ar gyfer pob sylw neu awgrym a wneir. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd angen i chi roi cyd-destun i’ch ymateb weithiau, ond ni fyddem fel arfer yn cael budd o dderbyn testun hir a digyswllt ar y gyfraith, neu wybodaeth gefndir helaeth mewn perthynas â’ch rôl neu’ch sefydliad.
Os hoffech gyflwyno eich adborth yn hytrach ar ffurf copi caled, defnyddiwch y ffurflen ymateb a dychwelwch hi erbyn yr un dyddiad at:
The Code Consultation 2026
Senior Policy Advisor, Policy Directorate
Crown Prosecution Service
10th Floor 102 Petty France
London SW1H 9EA
Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen ymateb, ei llenwi, a’i dychwelyd i [email protected] erbyn hanner nos ar 8fed o Dachwedd 2026.
Os ydych yn ateb drwy e-bost, byddem yn gwerthfawrogi pe na baech yn atodi unrhyw ddogfennau ar wahân i ffurflen ymateb yr ymgynghoriad, oherwydd er mwyn gwneud y gwaith dadansoddi yn haws, byddai’n helpu pe bai eich ymateb wedi’i gynnwys ar y ffurflen.
Dogfennau yn Gymraeg
Ceir cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad yn Gymraeg. Cliciwch ar y ddolen hon i gael gafael ar y dogfennau perthnasol:
Fformatau Amgen
Os oes angen copi o bapurau’r ymgynghoriad arnoch mewn unrhyw fformat arall, er enghraifft sain neu brint bras, cysylltwch gan ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost neu bost uchod.
Y Camau Nesaf
Ar ôl dyddiad cau’r ymgynghoriad, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law, cyn gorffen y diwygiadau a chyhoeddi rhifyn newydd o’r Cod ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi hefyd, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.
Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich ymateb.
Sut rydym yn ymdrin â’ch data – Datgelu ymatebion
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn anelu at fod yn dryloyw wrth ymdrin ag ymatebion yr ymgynghoriad, ac egluro sail y penderfyniadau a wnawn.
Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi neu’n datgelu rhannau o ymatebion neu ymatebion llawn, ac mae’n bosibl y byddwn yn priodoli’r rhain i sefydliadau penodol sy’n ymateb i’r ymgynghoriad. Felly, peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth yn eich ymateb na fyddech yn hapus i ni eu cyhoeddi.
Mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys rhestr o enwau sefydliadau mewn unrhyw adroddiad terfynol neu grynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad y byddwn yn eu cyhoeddi.
Yn ogystal, mae’n bosibl y byddwn yn derbyn cais i ddatgelu ymatebion neu i enwi sefydliadau sy’n ymateb, fel cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o’r fath.
Nid oes angen i ymatebwyr ddarparu eu data personol (fel enw unigolyn) wrth roi ymateb ond os ydynt yn ymateb ar ran sefydliad, dylid gwneud hyn yn glir yn yr ymateb.
Mae’n bosibl y bydd ymatebion yn cael eu rhannu ag Adrannau Llywodraeth eraill. Lle y bydd hyn yn digwydd, bydd gwybodaeth bersonol ymatebwyr unigol yn cael ei dileu o’r ymatebion a rennir.
Byddwn yn trin pob ymateb fel gwybodaeth a gofnodir yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Er gwybodaeth, byddwn yn diystyru unrhyw ddatganiadau cyfrinachedd a gynhyrchir gan system TG yn awtomatig.
I gael gwybodaeth am sut y mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn prosesu data personol gan gynnwys ein polisi cadw a gwaredu, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.
Rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gasglu safbwyntiau o ymatebion yr ymgynghoriad.
Consultation content
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Byddem yn croesawu eich barn am y diwygiadau drafft i’r Cod, yn enwedig o ran cwestiynau 1-6 isod.
Nid oes angen i chi ateb bob cwestiwn. Gall yr ymatebion ganolbwyntio ar y cwestiynau neu’r materion sydd fwyaf perthnasol i chi neu eich sefydliad.
Anghymesuredd - tuedd
Datganodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn flaenorol y byddem yn diwygio’r Cod i fynd i’r afael â’r anghymesuredd mewn penderfyniadau cyhuddo: ‘CPS sets out Action Plan to tackle disproportionality in charging decisions’ | Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Rydym wedi diwygio’r testun sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig ym mharagraff 2.8, i roi ffocws mwy eglur ym meddyliau erlynwyr ar atal unrhyw duedd neu farn bersonol rhag dylanwadu ar benderfyniadau cyhuddo.
Mae paragraff 2.8 yn gryno o reidrwydd, oherwydd mae’r Cod yn darparu arweiniad lefel uchel yn unig ac ni all fynd i’r afael yn fanwl â holl ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr ar duedd. Fodd bynnag, yn unol â’i Gynllun Gweithredu, mae’r Gwasanaeth yn gweithredu amrywiaeth o fesurau i fynd i’r afael ag unrhyw duedd wrth wneud penderfyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys:
Darparu pecynnau strategaeth ar achosion anghymesuredd i gefnogi erlynwyr i nodi tuedd, rhagdybiaethau ac anghymesuredd posibl mewn gwaith achos a mynd i’r afael â nhw, gan helpu i wella’r broses o wneud penderfyniadau, strategaeth achosion ac ansawdd cyffredinol gwaith achos.
Gweithredu cynllun monitro menter ar y cyd llofruddiaeth ac ymgais i lofruddio i wella dealltwriaeth o sut y mae menter ar y cyd yn cael ei weithredu wrth wneud penderfyniadau erlyn, cefnogi tryloywder, cysondeb a nodi themâu neu faterion sy’n dod i’r amlwg.
Lansio a dadansoddi’r ymgynghoriad ar ganllawiau erlyn “gangiau” a cherddoriaeth mewn tystiolaeth, gan gefnogi gwelliannau i ganllawiau mewn maes sensitif sy’n gysylltiedig ag anghymesuredd hiliol.
Sefydlu Bwrdd Anghymesuredd ar y Cyd rhwng Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, gan gefnogi arweinyddiaeth ar y cyd gyda phlismona ar flaenoriaethau anghymesuredd hil a rennir.
Cwestiwn 1 A oes gennych unrhyw farn am y testun ar duedd ym mharagraff 2.8?
Amseriad y penderfyniad cyhuddo a’r defnydd o gynlluniau gweithredu
Rydym wedi egluro y gellir cymhwyso’r Prawf Cod Llawn cyn cwblhau unrhyw linellau ymholiad rhesymol sy’n weddill, os yw’r erlynydd yn fodlon bod unrhyw dystiolaeth neu ddeunydd pellach yn annhebygol o effeithio ar gymhwysiad y Prawf Cod Llawn, boed hynny o blaid neu yn erbyn erlyniad (paragraff 4.3). Rydym hefyd wedi egluro’r defnydd cywir o gynlluniau gweithredu cyn cyhuddo ac ar ôl cyhuddo: dylai penderfyniad cyhuddo ond bod yn destun cynllun gweithredu cyn cyhuddo pan na ellir cymhwyso’r Prawf Cod Llawn heb y dystiolaeth neu’r deunydd sy’n cael eu ceisio; tra dylid defnyddio cynllun gweithredu ar ôl cyhuddo ar gyfer tystiolaeth neu ddeunydd arall sydd eu hangen (paragraff 4.4). Y bwriad yw canfod y cydbwysedd cywir rhwng penderfyniadau cyhuddo cynamserol a phenderfyniadau y gellid eu gohirio’n ddiangen.
Cwestiwn 2 A oes gennych farn am yr eglurhad o amseriad penderfyniad cyhuddo a’r defnydd priodol o gynlluniau gweithredu ym mharagraffau 4.3-4.4?
Budd y cyhoedd – amgylchiadau’r dioddefwr
Rydym wedi creu adran newydd ar amgylchiadau’r dioddefwyr, sy’n nodi y dylai’r erlynwyr ystyried eu hamgylchiadau, eu barn, ac unrhyw risg sydd iddynt.
Rydym felly wedi ehangu barn y dioddefwr ar effaith y drosedd i “unrhyw farn” a ddarperir gan y dioddefwr, er nad ydym yn awgrymu y dylid ceisio barn dioddefwyr yn rheolaidd ar wahân i pan fydd y Cod Dioddefwyr yn gwneud hynny’n ofynnol, fel mewn perthynas â phenderfyniad y tu allan i’r llys.
Mae’r Cod yn ei gwneud yn glir o hyd nad yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithredu dros ddioddefwyr ond yn hytrach yn ystyried eu barn wrth wneud asesiad cyffredinol o fudd y cyhoedd.
Cwestiwn 3 A ydych yn cytuno y dylai erlynwyr ystyried unrhyw farn a ddarperir gan y dioddefwr, eu hamgylchiadau ac unrhyw risg iddynt, wrth wneud penderfyniad cyhuddo? (paragraff 4.18, Cwestiwn 1, pwynt bwled 1)
Y Prawf Trothwy
Mewn amgylchiadau cyfyngedig, lle na fydd y Prawf Cod Llawn yn cael ei fodloni, gellir cymhwyso’r Prawf Trothwy i gyhuddo’r sawl a ddrwgdybir. Rhaid parhau i adolygu unrhyw gyhuddiad o dan y Prawf Trothwy a rhaid cymhwyso’r Prawf Cod Llawn cyn gynted ag y derbynnir y dystiolaeth neu’r deunydd pellach a ragwelwyd. Ar hyn o bryd, mae’r Cod yn nodi, mewn achosion Llys y Goron, y dylai hyn ddigwydd fel arfer cyn gwasanaeth ffurfiol yr achos erlyn. Rydym wedi diwygio hyn i symud y dyddiad terfyn ymlaen i’r cyfnod cyn y cyflwynir y cyhuddiad. Rydym yn nodi ymhellach, os na ellir cael gafael ar y dystiolaeth neu’r deunydd o fewn yr amserlen hon neu, os oes angen, yn dilyn gohiriad byr, mae’n bosibl y bydd yn angenrheidiol dwyn yr achos i ben. (Gellir ailddechrau’r trafodion ar ddyddiad diweddarach, os bydd y dystiolaeth neu’r deunydd ychwanegol yn dod i law.)
Cwestiwn 4 Mewn achosion a gyhuddir o dan y Prawf Trothwy, a ydych yn cytuno â symud y dyddiad terfyn ymlaen ar gyfer gweithredu’r Prawf Cod Llawn cyn y cyflwynir y cyhuddiad? (paragraff 6.11)
Mynd i’r afael ag ôl-groniad Llys y Goron – Dewis cyhuddiadau
Yn unol â diwygiadau diweddar i ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron, rydym yn annog erlynwyr i ystyried a yw’n fwy addas ymdrin â throseddu yn y llys ynadon nag yn Llys y Goron, cyhyd â bod y cyhuddiad yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd ac yn rhoi pwerau dedfrydu digonol i’r llys. Gwnaed diwygiadau i’r adran ar ddewis cyhuddiadau, fel y gall yr erlynwyr ystyried effaith ataliol, cost ac oedi wrth ddewis cyhuddiadau.
Cwestiwn 5 A oes gennych farn am y dull neu’r testun ym mharagraff 7.2, sy’n caniatáu i erlynwyr ystyried effaith ataliol, cost ac oedi wrth ddewis cyhuddiadau?
Pwerau Enillion Troseddau a dim erlyn
Darperir canllawiau drwy’r Cod cyfan ar y defnydd o bwerau dim erlyn, fel Adfeddiannu Sifil, Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol a Chytundebau Erlyniad Gohiriedig. Gan ddibynnu ar y pŵer, gellir defnyddio’r rhain fel dull amgen neu yn ychwanegol at erlyniad. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol gwaith dim erlyn ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Rydym hefyd wedi diwygio’r adrannau ar Ddewis Cyhuddiadau a Derbyn Pledion Euog i annog erlynwyr i feddwl am a yw’r sawl a ddrwgdybir wedi cael budd yn sgil ymddygiad troseddol penodol yn unig neu ymddygiad troseddol cyffredinol, i sicrhau y byddai’r cyhuddiad a ddewisir neu’r ple a gynigir yn sbarduno’r gyfundrefn atafaelu ehangach, lle y bo’n briodol.
Cwestiwn 6 A oes gennych unrhyw farn am gynnwys testun, neu unrhyw ran o’r testun penodol, ar bwerau a gweithdrefnau dim erlyn yn y Cod? (paragraffau 1.4, 2.5, 3.1, 4.5, 4.7 a 4.13)
Diwygiadau arfaethedig eraill i’r Cod
Mae’r rhain yn cynnwys:
Rheolaeth y gyfraith a statws y sawl a ddrwgdybir, y diffynnydd, y dioddefwr neu’r tyst
Rydym wedi cyflwyno paragraffau newydd sy’n ymwneud â rheolaeth y gyfraith. Mae paragraff 2.1 yn egluro sut y mae rheolaeth y gyfraith yn cael ei chynnal gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac mae’n nodi’r egwyddor nad yw neb uwchlaw’r gyfraith a bod yn gyfraith yn cael ei chymhwyso’n gyfartal i bawb. Mae paragraff 2.10 yn egluro bod yn rhaid cymhwyso egwyddorion y Cod yn yr un ffordd ym mhob achos, waeth beth fo statws cymdeithasol, dylanwad, cyfoeth, pŵer, poblogrwydd, neu enwogrwydd y sawl a ddrwgdybir, y diffynnydd, y dioddefwr neu unrhyw dyst, neu unrhyw achos y gallent ei hyrwyddo neu ei gefnogi.
Budd y cyhoedd
Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i gam budd y cyhoedd y prawf Cod Llawn, fel:
Gwneud yn glir mai’r opsiynau sydd ar gael i erlynydd wrth adolygu achos yw: erlyn; penderfyniad y tu allan i’r llys; trafodion dim erlyn Gwasanaeth Erlyn y Goron; atgyfeiriad i gorff cyhoeddus perthnasol; neu dim gweithredu pellach (paragraffau 4.10-4.14).
Dylai erlynwyr ystyried a allai erlyniad arwain at ganlyniad anghyfiawn lle bo’r sawl a ddrwgdybir o dan 18 oed ar adeg y drosedd ond bydd yn 18 oed neu’n hŷn erbyn dyddiad unrhyw euogfarn a dedfryd, ac felly fe’i dedfrydir fel oedolyn, yn enwedig lle bydd cyfnod hir rhwng y drosedd ac unrhyw ddedfryd (paragraff 4.18, Cwestiwn 3, pwynt bwled 7).
Cwestiwn 7 A oes gennych unrhyw farn arall am y Cod drafft?