Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol Trais Rhywiol rhwng yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) - diweddariad 2022

|Publication, Sexual offences

Cynnwys

Rhagair

Mae trais rhywiol yn drosedd wirioneddol ddinistriol sy'n newid bywyd. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr achosion sy’n mynd i’r llys yn sylweddol a chynnal hynny o flwyddyn i flwyddyn. Rydym yn benderfynol o weld cyfiawnder i fwy o ddioddefwyr1 trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol, ac fel arweinwyr rydym yn addo bod yn weladwy, yn atebol ac yn dryloyw wrth i ni weithio tuag at y nod hwn.

Pan gafodd ei lansio ym mis Ionawr 2021, nododd y Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol (JNAP) ymrwymiad clir, ar y cyd rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), i gydweithio er mwyn sicrhau gwelliannau o ran sut mae achosion trais rhywiol yn cael eu hymchwilio a’u herlyn. Roedd yn gam hollbwysig yn ein taith. Mae'r JNAP yn sylfaen allweddol o ran sut y byddwn yn cyrraedd ein model gweithredu newydd ar gyfer ymchwilio i droseddau trais rhywiol a'u herlyn, a gyflawnwyd o dan Ymgyrch Soteria.

Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau a nifer y cyhuddiadau ers lansio'r JNAP. Ers mis Ionawr 20212 rydym wedi gweld cynnydd o 53% mewn atgyfeiriadau trais rhywiol gan oedolion (mae hyn yn cynnwys atgyfeiriadau ar gyfer cyngor cynnar neu ar gyfer penderfyniad cyhuddo) gan yr heddlu i’r CPS, a chynnydd o 58% yn nifer y cyhuddiadau trais rhywiol gan oedolion. Egni ac ymdrech ein cydweithwyr sydd wedi achosi’r newid hwn. Rydym eisiau achub ar y cyfle hwn i gydnabod a diolch i'n pobl am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus. Gwyddom na fydd newid bob amser yn llinol, a byddwn yn parhau i fonitro ein data i sicrhau bod y trywydd hwn yn cael ei gynnal wrth i ni barhau tuag at ein nod strategol i gynyddu nifer yr achosion sy’n mynd i’r llys yn sylweddol.

Mae’r gwelliannau hyn wedi’u hadeiladu ar bartneriaethau cryf ar bob lefel o’n sefydliadau a rhannu arfer gorau, sgiliau ac arbenigedd ar draws y CPS a phlismona ac, yn hollbwysig, y sector cymorth i ddioddefwyr, yn fwyaf nodedig gwasanaethau’r Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA).

Ond mae angen i ni fynd ymhellach. Mae'r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir i ni. Cam ar daith a fydd yn cymryd amser i adfer ac ailadeiladu hyder y cyhoedd ac, yn enwedig, hyder dioddefwyr i adrodd am drais rhywiol a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi i barhau â’r broses cyfiawnder troseddol, gyda’r cymorth cywir ar gael iddynt.

Ers lansio’r JNAP, rydym ni wedi gwneud penderfyniadau sydd wedi gyrru gwelliannau:

  • Blaenoriaethu cyngor cynnar a pherthnasoedd gwell rhwng ein sefydliadau yn gynharach yn y llinell amser achos er mwyn adeiladu achosion cryf cyn gynted â phosibl;
    Cyflawni gwelliannau o ran y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â dioddefwyr, a lansio cynlluniau uchelgeisiol i gyflwyno cynnig ymgysylltu newydd a gwell ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol;
    Mabwysiadu agwedd meddwl beirniadol at ddata trwy sefydlu cyfarfodydd ar y cyd i adolygu data lleol a nodi meysydd sydd angen ffocws o'r newydd;
    Cyflawni gwaith i gryfhau ymhellach y berthynas hanfodol rhwng yr heddlu, rôl y CPS ac ISVA i ddarparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr trwy lansio fframwaith cenedlaethol ISVA.

Trwy’r JNAP, rydym ni wedi datblygu polisïau a chanllawiau blaengar sy’n adlewyrchu’r ddealltwriaeth gyfredol o faterion cymdeithasol sy’n ymwneud â thrais rhywiol, rydym yn profi gwahanol ddulliau o gydweithio ac mae’r cam nesaf yn ymwneud â rhoi polisi ar waith yn gyson ar draws ardaloedd daearyddol gwahanol drwy lansio ein model gweithredu newydd. Rydym yn canolbwyntio ar wreiddio’r newidiadau hyn, gan sicrhau bod gennym y diwylliant cywir i wneud y gwaith hwn yn dda a chymhwyso’r polisïau yr ydym wedi’u creu. Byddwn yn cyflawni hyn ochr yn ochr â chanolbwyntio ar sut y gallwn adeiladu achosion cryfach cyn gynted â phosibl trwy ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd o dan amheuaeth. Rydym eisiau dysgu oddi wrth y mewnwelediad academaidd annibynnol cyfoethog sydd ar gael trwy Ymgyrch Soteria yn y CPS a phlismona, a thrwy beilota a gwerthuso dulliau newydd o weithio. Wrth i ni wneud hynny, byddwn yn parhau i ymgysylltu â’n partneriaid a’r trydydd sector i rannu gwybodaeth, nodi arfer da a chael ein dwyn i gyfrif am ein gwaith, gan nodi cyfleoedd i wella ymhellach.

Rydym wedi dod at ein gilydd i fyfyrio ar yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu, sut rydym wedi cyflawni gwelliannau a’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma, gydag ymrwymiad o’r newydd i ddyfnhau ein gwaith partneriaeth i wella ein gwasanaeth i ddioddefwyr y troseddau mwyaf dinistriol hyn ac i fynd ar drywydd cyfiawnder ym mhob achos posibl.

Ein Uwch Swyddogion sy’n gyfrifol am y Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol (JNAP) 

Baljit Ubhey, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi, Gwasanaeth Erlyn y Goron

Rwy’n falch iawn bod y CPS a’n cydweithwyr ym maes plismona wedi gwneud trais rhywiol yn flaenoriaeth strategol ac wedi buddsoddi adnoddau i wella ein hymateb ar y cyd i drais rhywiol.

Rydym yn gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl ac mae cydnabod braint enfawr y gwaith a wnawn yn bwysig iawn.

Mae gwaith arloesol fel y canllaw digidol i ddioddefwyr a’n canllawiau diwygiedig ar chwedlau ac ystrydebau trais rhywiol yn dangos ein bod yn awyddus i gefnogi dioddefwyr trais rhywiol a gwella deilliannau. Gwyddom fod gennym lawer o waith i’w wneud o hyd i ennill ymddiriedaeth y cyhoedd yn y maes pwysig hwn, ac rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’n gwaith trawsnewidiol yn y maes hwn.

Fy ymrwymiad i ddioddefwyr

Gwn nad yw cefnogi erlyniad yn gam hawdd ac rydym yn gwbl ymrwymedig i fod yn glir ac yn yn agored am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl. Byddwn yn parhau i weithio gydag asiantaethau cymorth ehangach i sicrhau bod gennych y cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch.

Prif Gwnstabl Sarah Crew, Arweinydd Troseddau Rhywiol Oedolion, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu

Rwy'n benderfynol o sicrhau newid trawsnewidiol yn y ffordd y mae plismona yn cefnogi dioddefwyr ac yn ymchwilio i drais rhywiol. Yn aml, mae arloesiadau gwych a llamau ymlaen yn digwydd yn ystod y cyfnodau tywyllaf. Gwelsom hyn gyda'r Rhaglen Frechu yn ystod pandemig angheuol. Rydym yn defnyddio'r un dull o fynd i'r afael â'r her dyngedfennol hon i'n System Cyfiawnder Troseddol (CJS), trwy ddod ag academyddion, ymchwilwyr ac erlynwyr blaenllaw ynghyd mewn cynghrair unigryw sy'n gweithio ar y cyd o dan y teitl Ymgyrch Soteria Bluestone. Rwy'n credu’n gryf bod gennym gyfle unigryw i sicrhau newid parhaol, cyfiawnder i ddioddefwyr a chymunedau mwy diogel.

Fy ymrwymiad i ddioddefwyr:

Rhaid i ddewrder ac empathi fod wrth wraidd popeth a wnawn – wrth ryngweithio â dioddefwyr; wrth wraidd pob ymchwiliad ac yn ein hymdrechion di-baid i sicrhau cyfiawnder. Rwy'n ymroddedig i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod dioddefwyr y troseddau mwyaf dinistriol hyn yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, yn rhan o’r achos, yn wybodus, wedi’u grymuso, yn cael eu parchu ac, yn anad dim, bod ganddynt y cyfle gorau posibl o weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni.

Sue Hemming, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Gwasanaeth Erlyn y Goron

Rwy'n hynod falch o'n pobl a'u hymrwymiad diwyro, eu proffesiynoldeb a'u hangerdd am yr hyn y maent yn ei wneud. Trwy heriau’r pandemig, maent wedi gweithio’n galed i wella’r ffordd yr ydym ni, a’r system cyfiawnder troseddol ehangach, yn ymdrin ag achosion o drais rhywiol. Mae'n bwysig nad yw eu gwaith da yn mynd rhagddo heb i neb sylwi.

Rydym wedi datblygu strategaethau a chynlluniau gweithredu uchelgeisiol, ac wedi diweddaru ein hyfforddiant a’n canllawiau cyfreithiol, er mwyn gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn cyfathrebu â dioddefwyr. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd, ond ni allwn gyflawni’r newid sydd ei angen heb waith caled ac ymroddiad ein pobl.

Fy ymrwymiad i ddioddefwyr:

Rwyf am i ddioddefwyr a goroeswyr wybod ein bod yn eu clywed a'n bod yn poeni amdanynt. Rydym ni eisiau i chi deimlo eich bod yn cael eich cefnogi - mae'n anodd dod ymlaen a gall y broses sy'n dilyn deimlo'n oer ac yn anghynnes. Rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid i adeiladu achosion cryf ac i wella'r gwasanaeth a ddarparwn i chi.

Datganiad Arweinyddiaeth

Credwn fod arweinyddiaeth ardderchog yn ymwneud â bod yn agored, yn onest ac yn atebol. Mae’n ymwneud â hwyluso arloesedd a diwygio trwy osod y diwylliant a’r foeseg iawn ar gyfer ein pobl, a darparu’r offer a’r amgylchedd cywir iddynt fod yn llwyddiannus. Gyda’n gilydd, rydym yn benderfynol o ysgogi cynnydd a dylanwadu arno.

Mae ein pobl yn cyflawni newid o ddydd i ddydd, yn ymchwilio ac yn erlyn achosion sy’n aml yn gymhleth ac yn heriol, gan fynd ar drywydd cyfiawnder yn ddiflino a byw yn ôl gwerthoedd ein sefydliadau i amddiffyn a gwasanaethu’r cyhoedd a chyflawni erlyniadau annibynnol a theg. Diolchwn iddynt am yr holl waith a wnânt ac ailddatganwn ein hymrwymiad i’w cefnogi yn eu gwaith bob dydd a’r arfer myfyriol y gwyddom sydd mor bwysig i fabwysiadu dull gwaith beirniadol o ran sut i ymchwilio i droseddau trais rhywiol a’u herlyn.

Fel arweinwyr yn y system cyfiawnder troseddol, rydym wedi ymrwymo i wrando a dysgu – gan gydnabod bod gwahanol sefydliadau a phobl yn dod â’u gwybodaeth a’u profiadau unigryw at y gwaith. Mae'n ymwneud â chydnabod na fydd gennym ni fel sefydliadau unigol yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wella'r gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus.

Trwy gydweithio, gallwn ddarparu system cyfiawnder troseddol y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni ac yn un y mae gan y cyhoedd hyder ynddi.

Ymgyrch Soteria

Mae’r JNAP yn rhan o fenter drawsnewid ehangach i wella’r ffordd yr ydym yn ymchwilio i achosion o drais rhywiol ac yn eu herlyn. Mae'n ymdrech ar draws y system i wella'r ffordd yr ydym yn ymdrin â'r achosion hyn.

Mae Ymgyrch Soteria yn rhaglen uchelgeisiol o waith i drawsnewid y ffordd y caiff ymchwiliadau ac erlyniadau trais rhywiol eu trin a’u datblygu, gan ganolbwyntio ar y sawl a ddrwgdybir yn hytrach na’r dioddefwr.

Mae'n rhaglen ar y cyd rhwng y Swyddfa Gartref, NPCC, CPS a thîm o academyddion enwog. Yn wreiddiol, fe wnaethom lansio Ymgyrch Soteria mewn pum Ardal CPS a phum ardal heddluoedd braenaru. Rydym bellach wedi ehangu'r gwaith arloesol hwn i gwmpasu 19 ardal heddlu a naw Ardal CPS. Mae Ymgyrch Soteria yn dod ag ymarferwyr yr heddlu a CPS ac arbenigwyr academaidd ynghyd i lywio datblygiad y model gweithredu cenedlaethol newydd hwn. Gan ganolbwyntio i ddechrau ar yr ymateb plismona, bydd y tîm academaidd yn awr yn gweithio'n agos ar y cyd ag academyddion a gomisiynwyd gan y CPS i weithio ar adeiladu achosion a chyflwyno achosion. Un o’r pethau craidd y gellir ei gyflawni yw datblygu model gweithredu newydd ar gyfer ymchwilio i achosion o drais rhywiol a’u herlyn erbyn mis Mehefin 2023.

Mae diweddariad JNAP yn darparu sylfaen i adeiladu’r model gweithredu cenedlaethol newydd arni, trwy gydweithio rhwng yr heddlu a’r CPS mewn ffordd sy’n wirioneddol gydweithredol ac wedi’i llywio a’i gwerthuso gan academyddion blaenllaw yn eu priod feysydd.

Ein gwaith ar y cyd a gyflawnwyd drwy'r Cynllun Gweithredu hwn

Rydym yn parhau i gael ein hannog gan y cynnydd cyson mewn atgyfeiriadau a chyhuddiadau o drais rhywiol ers i ni gyhoeddi ein JNAP ym mis Ionawr 2021.


Mae gan yr heddlu a'r CPS rolau angenrheidiol a gwahanol yn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r heddlu’n gyfrifol am ymchwilio i adroddiadau o drais rhywiol ac am gasglu tystiolaeth. Mae'r CPS yn gyfrifol am adolygu'r dystiolaeth mewn achosion a anfonir atynt gan yr heddlu a phenderfynu a allwn ddwyn erlyniad. Mae'r rolau hyn yn unigryw ac yn wahanol, ond i weithio mae angen iddynt ategu ei gilydd a chael eu hadeiladu ar bartneriaethau lleol cryf. Mae hyn yn cychwyn yn gynnar yn ystod taith achos.

Mae’r adran hon yn manylu ar ein gwaith allweddol hyd yma o dan y JNAP, ac mae Atodiad sy’n cyd-fynd ag ef yn rhestru’n fanylach yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma.

Ein pobl

Mae ein gwaith yn dechrau gyda’n pobl, sy’n ymroddedig i weithio i sicrhau cyfiawnder mewn achosion o drais rhywiol ac sydd angen y cymorth, yr hyfforddiant a’r llesiant cywir i ffynnu yn eu rolau. Gwyddom fod y berthynas rhwng ymchwilwyr ac erlynwyr yn hollbwysig o ran sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr trais rhywiol a phrofiad y dioddefwyr hynny o’r system gyfiawnder.

Ymdrinnir â phob achos o drais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol a gyfeirir at y CPS gan erlynwyr tra hyfforddedig sy'n gweithio mewn unedau arbenigol. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu adnoddau yn y maes hwn er mwyn cyflawni ein nod strategol o weld mwy o achosion yn cael eu hymchwilio, eu cyhuddo a'u herlyn. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae staff yn ein hunedau Trais a Throseddau Rhywiol (RASSO) yn y CPS wedi cynyddu 20% (o 360 i 433 FTE), ac rydym wedi ymrwymo i recriwtio 194 o staff RASSO ychwanegol yn 2022/2023.

Bydd Rhaglen Ymgodiad yr Heddlu yn dod ag ugain mil o swyddogion ychwanegol i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr erbyn diwedd mis Mawrth 2023, gan greu’r cyfle i ailadeiladu capasiti a gallu arbenigol mewn ymchwiliadau RASSO. Mae Ymgyrch Soteria yn helpu i ddiffinio siâp a maint y buddsoddiad sydd ei angen.

Mae datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant yn hanfodol wrth ymchwilio i droseddau trais rhywiol a'u herlyn. Mae’n cefnogi pwysigrwydd arbenigedd yn yr achosion hynod gymhleth hyn, ac yn dangos ein hymrwymiad i staff sy’n gweithio ar y rheng flaen i sicrhau cyfiawnder yn yr achosion hyn. Gwyddom, er ei bod yn iawn i’n sefydliadau gael eu rhaglenni hyfforddi penodol eu hunain, mae llawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd, ac mae ein pobl yn elwa o ddysgu gyda’i gilydd.

Mae Ardaloedd CPS a heddluoedd lleol yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i rannu dysgu, hyrwyddo arfer da a rhannu myfyrdodau ar sut y gallwn barhau i wella ein harferion gweithio ar y cyd. Yn Ardal CPS De Orllewin Lloegr yn 2021, cynhaliwyd cynhadledd fyfyriol ar y cyd i archwilio a thrafod sut mae’r CPS a’r heddlu yn gweithio gyda’i gilydd, ystyried y rhwystrau i gydweithio, a chytuno ar yr ymrwymiadau sydd eu hangen i gryfhau perthnasoedd rhwng yr heddlu a’r CPS. Roedd hyn yn cynnwys grwpiau ffocws i swyddogion, sesiynau dwy awr o hyd ar feysydd pwnc penodol, a rhannu fideos dysgu, sydd bellach yn orfodol ym mhob heddlu ar gyfer holl swyddogion heddlu RASSO. Ym mis Rhagfyr 2021, dilynwyd hyn gan hyfforddiant ar y cyd i swyddogion a chyfreithwyr ar ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd o dan amheuaeth.

CPS De Orllewin Lloegr a Heddlu Avon a Gwlad yr Haf

Vicky Gleave, Uwch Erlynydd Rhanbarthol y Goron, CPS De Orllewin Lloegr:

“Roedd ffocws cynnar ar fuddsoddi mewn perthnasoedd; gwella'r partneriaethau ar lefel strategol ac, yn hollbwysig, yn weithredol fesul achos. Dechreuodd hyn gyda phrynhawn i ffwrdd gyda swyddogion heddlu a chyfreithwyr yn bresennol, yn ogystal ag arweinwyr, i fyfyrio ar rai o’r heriau sy’n ein hwynebu, beth oedd y rhwystrau i’n perthynas waith a pha ymrwymiadau yr oeddem am eu gwneud i’n gilydd wrth symud ymlaen. Roedd yn ddigwyddiad cadarnhaol o ran dangos pa mor galed y mae pawb yn gweithio a sut y dylem ddefnyddio hynny i dynnu i’r un cyfeiriad yn hytrach nag ar wahân. Ar ôl hynny, rydym wedi rhoi blaenoriaeth i feithrin ein perthnasoedd. Rydym yn mynychu cyfarfodydd timau ein gilydd, yn trefnu hyfforddiant ar y cyd, ac yn cynnal cyfarfodydd cyngor cynnar wyneb yn wyneb ar Teams i sicrhau bod y cysylltiad rhwng yr erlynydd a'r swyddog yn amlwg o'r rhyngweithiad cyntaf hwnnw.

“Rydym wedi dechrau sefydlu diwylliant gwirioneddol o adborth agored, boed hynny drwy baneli craffu NFA ar y cyd, sesiynau ymarfer myfyriol ar achosion byw neu adolygiadau ôl-achos ar rai a gwblhawyd. Mae gennym gylchlythyrau a bwletinau ar y cyd. Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheoli / perfformiad rheolaidd ac yn rhoi gwybod i'n gilydd am heriau allweddol a pherfformiad cyfredol. Dim ond rhai o’r enghreifftiau yw’r rhain o sut yr ydym wedi buddsoddi mewn gweithio’n dda gyda’n gilydd, ac ni fyddwn yn stopio. O ran y llwyddiannau hyd yn hyn, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau i’r CPS gan yr heddlu ac mae hyn yn dechrau trosi’n niferoedd cynyddol sy’n mynd ymlaen i’r llys.”

Ditectif Uwch-arolygydd Ed Yaxley, Uwch Swyddog Cyfrifol Ymgyrch Bluestone Heddlu Avon a Gwlad yr Haf:

“Yn Avon a Gwlad yr Haf, rydym wedi cydnabod ers tro bod angen newid o ran y ffordd y caiff achosion o drais rhywiol eu hymchwilio, ond amlygodd y gwaith manwl hynny ymhellach. Mae trylwyredd y gwaith ymchwil, a phrofiad helaeth y tîm academaidd, yn golygu bod gennym sylfaen dystiolaeth fanwl, cynllun gweithredu clir, a dull cadarn o werthuso ffyrdd newydd o weithio wrth iddynt gael eu cyflwyno’n weithredol. Mae ein tîm ymchwilio arbenigol newydd, Ymgyrch Bluestone, yn ffurfio ac mae pob cam yn cael ei lywio gan waith Ymgyrch Soteria. Mae egin glas yn dechrau dod i'r amlwg, ac rydym yn benderfynol o'u meithrin yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Sarah O’Leary, Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Cymorth Safe Link ISVA:

“Roedd gallu rhannu'r hyn yr oedd goroeswyr yn ei ddweud wrthym ni am sut yr oeddent yn cael eu trin gyda'r Heddlu a'r CPS yn arwydd o newid yn Heddlu Avon a Gwlad yr Haf a CPS De Orllewin Lloegr. O'r pwynt hwn ymlaen, mae ein perthynas waith, sydd wedi'i hadeiladu ar onestrwydd, ymddiriedaeth ac ymrwymiad i wella ymateb y CJS i oroeswyr, wedi golygu bod llais y dioddefwyr wedi bod yn ganolog o ran rhoi newid ar waith. Mae partneriaethau gwell a ddatblygwyd o dan y JNAP yn golygu ein bod bellach yn bartner allweddol o ran hysbysu paneli craffu dioddefwyr, adolygiadau o achosion ymarfer myfyriol, datblygu llythyrau cyswllt y CPS ac ymgysylltu rhwng dioddefwyr a’r Heddlu. Mae gennym lwybrau cyswllt o fewn y CPS a’r Heddlu, sy’n golygu y gallwn ddiweddaru dioddefwyr yn gyflym ac uwchgyfeirio unrhyw bryderon yn uniongyrchol. Mae gennym dipyn o ffordd i fynd o hyd, ond mae adborth cychwynnol gan oroeswyr am y gofal, dealltwriaeth, parch a charedigrwydd gwell a gawsant wedi bod yn rhyfeddol, ac rydym yn gweld cynnydd mewn adrodd a chyhuddo CPS o ganlyniad.”

Mae’r maes hwn wedi gweld gwelliant yn ei ddata ers lansio’r JNAP, gyda nifer yr achosion y mae’r heddlu’n eu hanfon at y CPS am benderfyniad cyhuddo yn cynyddu o 19 yn Ch4 2020/2021 i 59 yn Ch1 2022/2023 a nifer yr unigolion o dan amheuaeth a gafodd eu cyhuddo yn cynyddu o 10 yn Ch4 2020/2021 i 34 yn Ch1 2022/2023

Mae’r CPS a’r NPCC wedi creu dwy weminar yn ddiweddar, un yn canolbwyntio ar drywyddau ymholi rhesymol yn ymwneud â dyfeisiau digidol, a’r ail ar gymhwyso trywyddau ymholi rhesymol i ddeunydd trydydd parti. Mae'r cynhyrchion hyn wedi'u lansio ymhlith holl ymchwilwyr ac erlynwyr RASSO. Y llynedd, cynhaliwyd cynadleddau ar y cyd ar draws y CPS a phlismona yng Nghymru, Gogledd-ddwyrain Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr, ochr yn ochr ag ystod o ddigwyddiadau dysgu lleol a fynychwyd ar y cyd gan y CPS a'r heddlu. Ym mis Mehefin, daethom at ein gilydd mewn Cynhadledd Trais Rhywiol cenedlaethol yr Heddlu a’r CPS, a fynychwyd gan 250 o gydweithwyr o bob rhan o blismona, y CPS a darparwyr ISVA.

Bydd Ymgyrch Soteria, a gwerthusiad academaidd o gydrannau plismona a CPS y rhaglen arloesol hon, yn ffurfio sail dysgu yn y dyfodol. Mae digwyddiadau’r Rhwydwaith Dysgu Cenedlaethol wedi’u cynnal, yn amlinellu’r themâu a’r mewnwelediadau o’r holl waith academaidd manwl a gwblhawyd gan academyddion Ymgyrch Soteria / Bluestone, gyda’r allbynnau dysgu hyn yn cael eu rhannu ar draws plismona a’r CPS i lywio arfer da.

Wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y gwaith o gyflawni’r JNAP byddwn yn mynd ymhellach yn y maes hwn, gyda’r CPS yn cyflwyno rhaglen 12 mis o ddysgu cymhwysol mewn meysydd fel defnyddio tystiolaeth cymeriad drwg, dysgu o Hawl Dioddefwyr i Adolygiad ac ymgysylltu gyda dioddefwyr. Yn dilyn gwerthusiad academaidd o Soteria, byddwn hefyd yn darparu mwy o becynnau hyfforddi ar y cyd ar y canfyddiadau, gan wreiddio’r dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd o dan amheuaeth ymhellach mewn ymchwiliadau ac erlyniadau.

Ein gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn

Effaith: Rydym yn ymrwymo i ddysgu a datblygu parhaus er mwyn gwella ein harfer a’n sylfaen dystiolaeth, gan alluogi meddwl beirniadol ac ymarfer myfyriol.

GweithgareddYn y 3 mis nesafYn y 6 mis nesafYn y 9 mis nesafYn y 12 mis nesaf
Rhaglen dysgu a datblygu 12 mis o hyd, wedi'i chyflwyno ar draws y CPS i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus i'n pobl.   
  • Cynnal 12 sesiwn dysgu.  
  • Cynhyrchu adroddiad gwerthuso.
Datblygu canllawiau gwersi a ddysgwyd ar draws ein sefydliadau i’w cynnwys mewn prosesau sicrhau ansawdd i alluogi dysgu o achosion, gan gynnwys achosion sydd wedi mynd yn dda, ac ymgorffori pwyntiau myfyrio i gynorthwyo dysgu a datblygu.

 

  • Datblygu adroddiad canlyniadau andwyol cenedlaethol ar gyfer Ardaloedd CPS i gynorthwyo â dadansoddi a gwneud y mwyaf o werth yr adborth a dderbynnir gan eiriolwyr.
  • Canllawiau ar y cyd wedi'u cynhyrchu rhwng y CPS a Phlismona ac wedi'u halinio â strwythurau newydd JOIM i gefnogi arfer myfyriol a rhannu arfer gorau.
  • Cwblhau adolygiad cenedlaethol blynyddol o adroddiadau canlyniadau andwyol mewn achosion o drais rhywiol ac ymrwymo i ledaenu’r hyn a ddysgwyd o’r adroddiadau hynny.
Cyflawni gwaith mewn partneriaeth rhwng y CPS a gwaith NPCC i wella ansawdd data ar nodweddion gwarchodedig er mwyn galluogi mewnwelediad dyfnach a gwelliant parhaus ar draws ein sefydliadau
  • Presenoldeb y CPS yng ngweithgor yr NPCC ar nodweddion gwarchodedig a mewnbwn i ganllawiau newydd yr heddlu ar ddata nodweddion gwarchodedig.
  
  • Cwmpasu a chychwyn gwaith ymchwil pellach i anghenion dioddefwyr bregus a chroestoriadedd.
Parhau i gynnal trafodaethau chwarterol gyda’r Uwch Swyddogion Cyfrifol a’r Comisiynydd Dioddefwyr, y Comisiynydd Cam-drin Domestig a Chomisiynwyr Dioddefwyr Llundain - fel y gall uwch randdeiliaid lywio a chraffu ar ein gwaith.   
  • Cynnal pob cyfarfod.
Cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Gweithgor Trais Rhywiol Cenedlaethol yr heddlu a grŵp ymgynghori allanol y CPS i lywio a chraffu ar ein gwaith.    
  • Cynnal pob cyfarfod.

Adeiladu achos cryf cyn gynted â phosibl

Mae partneriaethau o ansawdd rhwng y CPS a phlismona, a ffurfiwyd yn gynnar trwy gyrchu a darparu cyngor cynnar, yn helpu i sicrhau bod achosion cryf yn cael eu hadeiladu'n gynnar a bod achosion o ansawdd uchel yn cael eu cyfeirio gan yr heddlu at y CPS am benderfyniad cyhuddo.

Gyda’i gilydd, lansiodd yr heddlu a’r CPS Femorandwm Dealltwriaeth Cyngor Cynnar ym mis Gorffennaf 2021, sy'n nodi'r dull o gael a darparu cyngor cynnar ac yn amlinellu sut y bydd y CPS ac ymchwilwyr yr heddlu yn cydweithio'n agosach. Mae’r model cyngor cynnar yn hyrwyddo cydweithio agosach yn ystod y broses ymchwilio ac rydym yn profi modelau cyngor cynnar pellach drwy Ymgyrch Soteria, cyn cyflwyno model gweithredu cenedlaethol.

Mae cyngor cynnar, trafodaethau achos cynnar a chynllunio rhwng yr heddlu a’r CPS yn allweddol i ymchwiliad ac erlyniad teg a sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gofynion ymchwiliad a hawl unigolyn i breifatrwydd drwy gytuno ar drywyddau ymholi rhesymol.

Mae cael dogfennau a dulliau datgelu cyflenwol ar draws ein sefydliadau yn hollbwysig o ran hyder y cyhoedd. Ym mis Rhagfyr 2020, cyflwynodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) y Ddogfen Rheoli Ymchwiliad (IMD), sy'n dogfennu ac yn egluro'r trywyddau ymholi rhesymol a'r strategaeth ddigidol ar ddechrau'r ymchwiliad. Mae’r CPS yn defnyddio’r IMD i lywio’r Ddogfen Rheoli Datgeliad (DMD). Mae Dogfennau Rheoli Datgeliad yn amlinellu strategaeth a dull gwaith yr erlyniad o ran datgelu, ac yn nodi sut mae cyfrifoldebau datgelu wedi'u rheoli, pa drywyddau ymholi sydd wedi cael eu dilyn, ac yn amlinellu amserlenni datgelu ac unrhyw ddeunydd trydydd parti. Mae'r dogfennau hyn yn ddogfennau byw sy'n cael eu diweddaru yn ystod oes achos, ac yn galluogi ac yn cefnogi proses deg a chyfiawn.

CPS Merswy-Swydd Gaer a Gwnstabliaeth Swydd Gaer

Adroddodd merch yn ei harddegau wrth Gwnstabliaeth Swydd Gaer fod dyn yn ei bumdegau wedi ymosod yn rhywiol arni. Roedd y dioddefwr yn ifanc ac yn agored i niwed, felly'r ffocws i'r heddlu a'r CPS oedd datrys yr achos hwn mor gyflym â phosib.

Cafodd yr heddlu a'r CPS drafodaeth strategol am y trywyddau ymchwilio angenrheidiol pan aeth yr heddlu at y CPS i gael cyngor cynnar ym mis Ionawr 2022. Cytunwyd ar set gryno o gamau i gryfhau'r achos a chwblhawyd y rhain yn gyflym gyda'r diffynnydd yn ymddangos yn y llys ym mis Ebrill 2022, lle plediodd yn euog i ymosodiad rhywiol.

Jo Lazzari, Pennaeth Trais a Throseddau Rhywiol, CPS Merswy-Swydd Gaer:

“Rydym ni bob amser yn ymwybodol o'r effaith y mae trais a throseddau rhywiol difrifol yn ei chael ar y dioddefwyr rydym ni'n gweithio gydag, a dyna pam mae ein ffocws ar ddod ag achosion i ben mor gyflym ag y gallwn ni.

“Roedd hynny'n arbennig o wir yn yr achos hwn, lle roedden ni'n gwybod bod y dioddefwr yn agored i niwed ac eisiau i'r achos gael ei ddatrys yn gyflym. Gyda'r heddlu, gwnaethom y penderfyniad i ganolbwyntio ar set gryno iawn o gamau a fyddai'n cryfhau'r achos ac yn ein galluogi i ddod â'r erlyniad gerbron y llys mewn cyfnod byr iawn o amser.

“Arweiniodd ein dull cydweithredol a deinamig at y diffynnydd yn pledio'n euog, gan arbed y baich ychwanegol i'r dioddefwr o aros am dreial, a mynd i’r llys. Dyma un o lawer o enghreifftiau o'n erlynwyr arbenigol yn gweithio ar y cyd â'r heddlu i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr y troseddau erchyll hyn.”

Ditectif Uwch-arolygydd Myra Ball, Arweinydd RASSO, Cwnstabliaeth Swydd Gaer:

“Mae'n hanfodol bod ditectifs a chyfreithwyr yn deall yn iawn sut mae prydlondeb archwiliadau a'r penderfyniadau y maent yn eu gwneud yn effeithio'n uniongyrchol ar ddioddefwyr.

“Mae'r astudiaeth achos hon yn tynnu sylw at fanteision JNAP, gan ddangos sut, trwy reoli achosion yn effeithiol, sgwrsio a chydweithio â CPS Merswy-Swydd Gaer, gallwn sicrhau bod dioddefwyr yn flaenllaw o ran ein penderfyniadau ac mae mynd ar drywydd troseddwyr yn ddi-baid yn golygu bod cyfiawnder yn digwydd yn gyflym.”

CPS Cymru a Heddlu De Cymru

Yng Nghymru, nod y CPS yw darparu cyngor cynnar ar achosion o fewn 24 awr ar ôl i'r heddlu ofyn amdano. Mae'r ymgysylltiad cynnar hwn yn helpu i gryfhau partneriaethau gwaith rhwng yr heddlu a'r CPS, ac mae'n golygu y gellir gosod trywyddau ymholi rhesymol o'r cychwyn cyntaf, gellir adeiladu achosion cryfach, a gellir gwneud penderfyniad cyhuddo yn gyflym.

Janine Davies, Pennaeth Uned Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol CPS Cymru:

“Rydym yn hyderus y bydd ein partneriaeth â Heddlu De Cymru yn ein helpu i adeiladu achosion cryfach, sy'n dod i mewn i'r system yn gyflymach i ddioddefwyr ar draws Cymru. Cafwyd llawer o fuddion o berthnasoedd gwaith cryfach o'r cychwyn cyntaf ac, ers lansio'r JNAP, mae nifer yr ymgynghoriadau cyngor cynnar a gwblhawyd mewn achosion sy'n ymwneud â thrais rhywiol oedolion yn CPS Cymru-Wales wedi cynyddu bron i wyth gwaith, wrth gymharu Ch4 2020/2021 gyda Ch1 2022/2023.”

Ditectif Uwch-arolygydd Phil Sparrow, Heddlu De Cymru (SWP):

“Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau posibl i ddioddefwyr trais a throseddau rhywiol. Mae'r buddsoddiad gan y CPS o ran darparu cyfreithwyr ychwanegol i weithio ar achosion trais rhywiol wedi cael ei gyfateb gan SWP, sydd wedi gwneud buddsoddiad tebyg o ran timau ymroddedig o swyddogion i ymchwilio i'r troseddau hyn. Mae effaith y JNAP a'r perthnasoedd gwaith agosach rhwng SWP a CPS, ynghyd â'r ymrwymiad i gyngor cynnar, y broses well i leihau oedi, a'r cynnig i ddioddefwyr i gwrdd â chyfreithiwr CPS, yn ddatblygiadau cadarnhaol iawn. Mae'r datblygiadau cadarnhaol hyn yn sicrhau ymchwiliadau cadarn, sy'n canolbwyntio ar y rheini a ddrwgdybir, ac yn darparu'r cyfle gorau posibl o sicrhau canlyniadau llwyddiannus.”

Yn ogystal â'r ymrwymiad cyngor cynnar, penodwyd Swyddog Datblygu Achos i fonitro a rheoli achosion cyn-cyhuddo i sicrhau bod unrhyw faterion yn cael eu huwchgyfeirio a, lle bo hynny'n bosibl, eu datrys yn gyflym. Mae'r gwaith hwn yn helpu ymchwiliadau i symud ymlaen yn fwy diwyd trwy'r system a lleihau oedi rhwng adrodd a chyhuddo.
 
Mae lles dioddefwyr hefyd wedi cael blaenoriaeth uchel. Er mwyn cefnogi dioddefwyr ymhellach, o fis Rhagfyr 2021, mae pob dioddefwr trais rhywiol wedi cael cynnig cyfarfod gyda chyfreithiwr CPS fel y gallant ofyn cwestiynau am broses y llys. Gallant godi unrhyw bryderon a thrafod a allai mesurau arbennig - fel sgriniau i olygu na allant weld ei hymosodwr yn y llys - eu helpu i ddarparu eu tystiolaeth orau.

CPS Dwyrain Lloegr a Heddlu Essex

Roedd yr achos hwn yn ymwneud â dyn ifanc a oedd yn gwneud cyswllt parhaus â merched o dan oed, llawer ohonynt â gwendidau sylweddol, trwy Snapchat. Defnyddiodd y nodwedd map i olrhain y merched, a oedd yn byw yn lleol. Yna, aeth ati i gyflawni troseddau ar-lein a throseddau wyneb yn wyneb yn erbyn llawer o ferched. Parhaodd i droseddu ar ôl iddo gael ei arestio am y tro cyntaf, gan ddefnyddio dyfais newydd, a daeth yr heddlu'n ymwybodol bod ei ymddygiad troseddol yn parhau cyn ei arestio yn derfynol a'i gadw yn y ddalfa.

Gweithiodd y cyfreithiwr adolygu a'r swyddog achos gyda'i gilydd i ddatblygu strategaeth achos ac i gytuno ar drywyddau ymholi rhesymol yn y cam cyngor cynnar. Cytunwyd y byddai'r unigolyn a oedd o dan amheuaeth yn cael ei arestio, gyda chynhadledd wythnos cyn y dyddiad arestio i sicrhau bod yr achos wedi'i baratoi'n llawn. Cadwodd y cyfreithiwr adolygu a'r swyddog mewn cysylltiad rheolaidd wrth i'r achos ddatblygu fel y gallai'r cyfreithiwr ymateb yn gyflym i ddatblygiadau. Rhoddodd hyn hyder i'r cyfreithiwr o ran cynnydd yr ymchwiliad, ac amser i baratoi ar gyfer penderfyniad cyhuddo blaenoriaethol hir ar ddiwrnod yr arestio, o flaen llaw. 

Roedd yr achos hwn yn cynnwys cryn dipyn o ddeunydd trydydd parti yr oedd angen ei drin yn gymesur ac yn deg; roedd angen strategaeth gadarn ac roedd arweiniad y cyfreithiwr adolygu yn hanfodol i ddarparu fframwaith ar gyfer cael ac adolygu'r deunydd hwnnw a'i gofnodi ar y dogfennau datgelu perthnasol. Roedd cydgysylltiad â'r ISVA i gefnogi'r achwynwyr a pharatoi ar gyfer gwrandawiadau Adran 28. Cyn i'r rhain ddigwydd, cynigiodd y diffynnydd bledion derbyniol oherwydd cryfder y dystiolaeth yn ei erbyn, a chafodd ddedfryd o 20 mlynedd - 12 mlynedd wedi'i hymestyn gan 8, o dan y darpariaethau peryglusrwydd.

Mae'r gwaith ar y cyd cadarnhaol a arddangosir yn yr achos hwn yn adlewyrchu'r berthynas ragorol rhwng yr heddlu a’r CPS yng ngwaith Ardal RASSO, a ddatblygwyd dros bron i bedair blynedd o lywodraethiant trwy Fwrdd Llywodraethiant Strategol RASSO a'r Bwrdd Gweithredol. Mae hyn yn cael ei ailadrodd ar bob lefel, gydag Erlynwyr Dosbarth y Goron RASSO yn darparu cefnogaeth i arolygwyr heddlu trwy glinigau cynnydd achos misol a mewnbynnau hyfforddi a chyfarfod cyfreithwyr gydag OICs i gael cyngor cynnar. Yn ogystal, mae gan yr Ardal grŵp cyswllt ISVA lle rydym yn hyrwyddo ac yn cefnogi cyd-ddealltwriaeth rhwng y CPS ac ISVAs ac yn darparu fforwm i ISVAs gwrdd â'r erlynwyr sy'n delio ag achosion y maent wedi cael eu neilltuo i weithio arnynt.

Ymgyrch Garnet – CPS De Ddwyrain Lloegr a Heddlu Surrey

erbyniodd yr heddlu adroddiad yn ymwneud â pherthynas dreisgar lle honnir bod troseddau o drais rhywiol, ymosod ac ymddygiad rheolaethol a gorfodol wedi digwydd. Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y troseddwr, dadansoddwyd ffonau'r diffynnydd a helpodd i dystiolaethu'r ymddygiadau hyn. Nodwyd dioddefwyr ychwanegol, a dangosodd ymddygiad rheibus y tramgwyddwr y risg a gyflwynodd i fenywod yn Surrey. Lansiwyd Ymgyrch Garnet, a darparodd y CPS gyngor cynnar trwy glinig cynnydd achos cyn-cyhuddo. Elwodd yr achos hwn o ymgynghoriad cynnar ag erlynydd CPS mewn perthynas â chyhuddiadau newydd posibl yn deillio o'r ymchwiliadau helaeth hyn.

Cydweithiodd yr heddlu a'r CPS gyda'i gilydd i ddatblygu strategaeth i arwain yr ymchwiliad, a oedd yn cynnwys ceisiadau cymesur am wybodaeth yn ymwneud â data digidol a deunydd trydydd parti, yn ogystal â'r strategaeth o gyfuno'r cyhuddiadau ychwanegol oedd yn ymwneud â dioddefwyr eraill â'r materion oedd yn ymwneud â'r achwynydd cyntaf. Rhwng y CPS a phlismona, cytunwyd ar strategaeth ddigidol ar y cyd fel y gallai swyddog ymroddedig / technegydd fforensig digidol ddelio â'r holl lawrlwythiadau digidol. Roedd y cyfarfodydd hyn, a phenodiad strategydd heddlu, yn hanfodol wrth gyflwyno'r achos hwn yn y llys. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr heddlu a'r un cyfreithiwr CPS, a oedd wedi'i neilltuo i'r achos i lywio'r ymchwiliad ymhellach cyn i'r achos gael ei gyhuddo. Ystyriodd cyfarfodydd strategaeth ar y cyd y ffordd orau o gyflwyno tystiolaeth ddigidol, gan arwain at ddarparu iPads yn y llys i gynorthwyo'r rheithgor. Cafwyd y diffynnydd yn euog o 18 trosedd, gan gynnwys trais rhywiol, ymosod a achosodd niwed corfforol gwirioneddol, ac ymddygiad rheolaethol a gorfodol. Mae'r achos hwn yn enghraifft dda o’r heddlu'n nodi achos a fyddai'n elwa o gyngor cynnar yn gynnar ac, wedi hynny, gwaith cydweithredol rhagorol.

Ein gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn

Effaith: Bydd yr heddlu ac erlynwyr yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithio ar y cyd o'r camau cynharaf, gan arwain at fwy o hyder yn y system gyfiawnder.

GweithgareddYn y 3 mis nesafYn y 6 mis nesafYn y 9 mis nesafYn y 12 mis nesaf
Cyngor cynnar a chynadleddau achos i ddigwydd ar draws heddluoedd ac Ardaloedd CPS i yrru ein hymrwymiad i adeiladu achosion cryf mor gynnar â phosibl. 
  • Lansio cyfres ‘Day in the life of’ i gefnogi gwell perthnasoedd ymhlith ymchwilwyr ac erlynwyr.
  • Lansio podlediad dysgu ar gyngor cynnar fel rhan o ddatblygiad model gweithredu cenedlaethol newydd ar draws plismona a’r CPS.
 
Adolygu’r derminoleg a'r broses ymhellach i leihau nifer yr achosion yn sylweddol sy’n aros am ymateb ac archwilio pellach (PRFI) yn dilyn cynllun gweithredu.
  • Adolygu ffigurau yn dilyn dadgyfuno atgyfeiriadau ar gyfer penderfyniad cyhuddo llawn i ystyried taflwybr PRFI ar gyfer yr atgyfeiriadau hynny ar gyfer penderfyniad cyhuddo llawn.
  • Rhannu arfer gorau o ran lleihau nifer yr achosion PRFI cenedlaethol.
  

Ein gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn

Effaith: Gwreiddio dull gwaith sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd o dan amheuaeth yng nghanol model gweithredu newydd ar gyfer RASSO.

GweithgareddYn y 3 mis nesafYn y 6 mis nesafYn y 9 mis nesafYn y 12 mis nesaf
Ehangu cyflenwi a dysgu o ran y dull gwaith sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd o dan amheuaeth trwy Ymgyrch Soteria.
  • Cynefino Ardaloedd CPS a heddluoedd newydd fel rhan o lywodraethiant Soteria.
  • Rhannu gwybodaeth trwy banel eiriolwyr chwarterol ar bolisïau, hyfforddiant ac achosion newydd.
  
Profi a datblygu'r model gweithredu cenedlaethol newydd trwy Ymgyrch Soteria.
  • Cyhoeddi canfyddiadau terfynol yr ymchwil a gynhaliwyd yn yr heddluoedd craidd sy'n cymryd rhan yn Ymgyrch Soteria.
  • Rhyddhau papur safle interim academaidd Ymgyrch Soteria y CPS.
  • Y CPS i gynnal digwyddiadau dysgu ac ymgysylltu academaidd er mwyn cyflwyno’r canfyddiadau i randdeiliaid.
  • Rhyddhau Cam 1 Adroddiad Briffio Academaidd Soteria (CPS).
  • Y model gweithredu cenedlaethol newydd ar gyfer ymchwilio ac erlyn trais rhywiol oedolion ar gael.
 
Ymgorffori cymwysiadau cymeriad gwael ymhellach mewn deunyddiau hyfforddi a datblygu ar draws ein sefydliadau.  
  • Cyflenwi rhaglen ddysgu sy’n cynnwys cymeriad gwael fel rhan o’r rhaglen ddysgu 12 mis.
  • Podlediad amharu fel rhan o adeiladu strategaeth achos sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd o dan amheuaeth, gyda ffocws ar atal.
Diweddaru Protocol Cenedlaethol ar y Cyd yr Heddlu a CPS ar ymchwilio ac erlyn achosion trais rhywiol a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r arweiniad safon ffeil berthnasol er mwyn hyrwyddo cysondeb o ran mynd i’r afael ag achosion trais rhywiol ac erlyniadau ledled Cymru a Lloegr.   
  • Diweddaru a lledaenu’r protocol.
Gwella dealltwriaeth a defnydd tystiolaeth fforensig mewn achosion trais rhywiol, gan gynnwys trwy ddatblygu pecyn cymorth tystiolaeth fforensig a mwy o ymgysylltiad rhwng y tîm erlyn a’r archwilwyr meddygol fforensig.
  • Cynhyrchu a lledaenu pecyn cymorth tystiolaeth fforensig.
  
  • Datblygu strategaeth treial fforensig er mwyn gyrru cynnydd o ran ymgysylltiad cynnar rhwng y tîm erlyn a’r archwilwyr meddygol fforensig mewn achosion o drais rhywiol.
Cyflawni gwaith pellach i ddiweddaru canllawiau, hyfforddiant a chydymffurfiaeth i adlewyrchu canllawiau'r Twrnai Cyffredinol ar ddatgelu a gwella cymhwysiad ymarferol yr egwyddorion ochr yn ochr â chynhyrchu taflen wybodaeth ar gyfer dioddefwyr ar y mater pwysig hwn.
  • Llywodraethiant JNAP i ddatblygu rhaglen gydymffurfiaeth.
  
  • Cynhyrchu gwell gwybodaeth i ddioddefwyr ar ddatguddiadau.

Cydweithio i wella ein hymgysylltiad â dioddefwyr

Rydym yn gwybod bod y ffordd y mae dioddefwyr yn profi'r system cyfiawnder troseddol yn hanfodol i hyder y cyhoedd. Rydym yn gwella'r ffordd y mae ein sefydliadau'n ymgysylltu'n uniongyrchol â dioddefwyr, gan ei wneud yn symlach, gan gynnwys sut rydym yn gweithio gydag ISVAs, sy’n chwarae rôl mor hanfodol wrth gefnogi dioddefwyr trwy'r daith i gyfiawnder. Er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, mae angen i'r berthynas rhwng ISVA, ymchwilwyr yr heddlu ac erlynwyr weithio'n dda a chael ei hadeiladu ar ymddiriedaeth. Rydym ni wedi lansio fframwaith newydd ar gyfer y ffordd rydym ni'n gweithio gydag ISVAs. Mae'r fframwaith yn cynnwys ystod o safonau gofynnol, gan gynnwys pwyntiau cyswllt sengl ar draws yr heddlu, CPS ac asiantaethau ISVA, i greu perthnasoedd gwaith cryfach a chyfathrebu di-dor rhwng partneriaid.

Mae Ymgyrch Soteria yn defnyddio'r cysyniad o gyfiawnder gweithdrefnol i ddatblygu a dylunio sut y bydd y model gweithredu newydd yn cynnwys, hysbysu, grymuso a gwasanaethu dioddefwyr trwy eu taith cyfiawnder troseddol. Mae cynhyrchion peilot ar gyfer profi a mireinio eisoes yn cael eu defnyddio o fewn heddluoedd braenaru ac maent yn dangos gwelliant amlwg o ran ymgysylltiad a boddhad dioddefwyr.

Mae'r CPS yn darparu rhaglen dri cham sylweddol o waith i wella cyfathrebu â dioddefwyr a fydd yn darparu cynnig gwell a gwahaniaethol i ddioddefwyr trais rhywiol. Yn y cam cyntaf, mae hyn wedi arwain at: 

  • lythyrau newydd, cyn-cyhuddo ac ar y pwynt o gyhuddo, i gyflwyno'r erlynydd, i egluro'r gwaith sydd ar y gweill a sicrhau bod y dioddefwr yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael a beth yw ei hawliau o dan God y Dioddefwyr; 
  • canllaw i ddioddefwyr i’w helpu nhw i ddeall beth i'w ddisgwyl trwy gydol eu taith CJS a pha gefnogaeth sydd ar gael iddynt, sy'n cael ei diweddaru ar hyn o bryd yn dilyn cyfnod ymgynghori. Mae'r canllaw hon yn cynnwys rhestr o'r mesurau arbennig sydd ar gael i helpu i gefnogi dioddefwyr ac egluro pa ddarpariaethau a allai fod ar gael i'w helpu i roi eu tystiolaeth orau yn y llys; 
  • ‘Cyfarfodydd Ymgyfarwyddo’ i ddioddefwyr trais rhywiol pan gyflwynir ple ‘dieuog’ yn cael eu peilota o dan Ymgyrch Soteria. Mae'r rhain yn adeiladu ar gyfarfodydd mesurau arbennig ac yn rhoi cyfle i'r dioddefwr gwrdd â’r tîm erlyn, trafod mesurau arbennig, codi unrhyw gwestiynau a allai fod gan ddioddefwyr am y broses, a rhannu unrhyw bryderon sydd ganddynt am roi tystiolaeth. 

Roedd yr ail gam, rhwng mis Medi 2021 a mis Rhagfyr 2021, yn cynnwys gwaith ymchwil annibynnol helaeth, gan weithio gyda dioddefwyr, eu cefnogwyr, staff y CPS a phartneriaid cyfiawnder troseddol, i ddeall yn well yr hyn y mae dioddefwyr ei eisiau a'i angen gan y CPS i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth, gwybodaeth ac ymgysylltiad gwell. Mae'r CPS wedi cyhoeddi canfyddiadau'r gwaith ymchwil ochr yn ochr â chynlluniau ar gyfer ailgynllunio’r gwasanaeth, a byddant yn profi model gwell newydd o gefnogaeth i ddioddefwyr trais rhywiol o fis Hydref 2022. Fel rhan o'r gwaith i wella ein hymgysylltiad a'n cefnogaeth i ddioddefwyr, mae'n bwysig bod gwasanaethau yn ddiwylliannol sensitif ac yn rhydd o ragfarn. Mae hon wedi bod yn thema sy'n cael ei bwydo yn ôl i'r system cyfiawnder troseddol a byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid a'n grwpiau yn y sector gwirfoddol sy'n cynrychioli dioddefwyr o grwpiau amrywiol i wella ein harfer yn y maes hwn.

Mae sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi i roi eu tystiolaeth orau yn hanfodol i'n gwaith o dan y JNAP. Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y CPS a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu Daflen Wybodaeth Adran 25 ar gyfer ISVAs a’r heddlu ar gynyddu ymwybyddiaeth i glirio’r oriel gyhoeddus. Wrth i ni symud i gam nesaf y JNAP, byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu cyfweliadau o ansawdd uchel ar ‘Gyflawni’r Dystiolaeth Orau’ (ABE) ar gyfer dioddefwyr trais a throseddau rhywiol difrifol. Bydd hyn yn adeiladu ar waith yr ydym eisoes wedi'i ddechrau o dan y JNAP, yn peilota dulliau newydd o gyfweliadau ABE a arweinir gan seicoleg, mewn partneriaeth â Lighthouse.

Cytundeb rhannu gwybodaeth

Mae cytundeb rhannu gwybodaeth wedi’i ddatblygu rhwng CPS Dwyrain Canolbarth Lloegr, Heddlu Swydd Nottingham, Heddlu Swydd Northampton, Cwnstabliaeth Swydd Derby, Heddlu Swydd Lincoln, Heddlu Caerlŷr, Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) ac ISVAs Plant a Phobl Ifanc (CHISVAs) er mwyn sicrhau pan fydd adroddiad yn cael ei wneud i'r heddlu, bod yr heddlu'n cynnig cefnogaeth ISVA yn awtomatig ac yn rhannu'r manylion cyswllt hyn â'r CPS wrth atgyfeirio am benderfyniad cyhuddo. Mae hyn yn golygu y gall y CPS gysylltu â'r ISVA / CHISVA a'u gwahodd i gyfarfodydd mesurau arbennig, ceisio eu cyngor a'u cefnogaeth ynghylch unrhyw gyfathrebu dioddefwyr ychwanegol sydd ei angen, a defnyddio eu sgiliau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r dioddefwr yn y ffordd orau bosibl.

Ein gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn

Effaith: Dioddefwyr yn profi lefel uwch o gefnogaeth.

GweithgareddYn y 3 mis nesafYn y 6 mis nesafYn y 9 mis nesafYn y 12 mis nesaf
Lansio a gwerthuso cynllun peilot ar gasglu tystiolaeth o anaf seicolegol. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o fodolaeth anaf seicolegol yn gynnar yn yr ymchwiliad i lywio’r ffordd y caiff achosion eu hadeiladu a gwneud penderfyniadau.   
  • Gorffen darparu’r cynllun peilot.
  • Cynhyrchu adroddiad ar effaith yr adroddiad newydd ar anaf seicolegol ar wahanol gamau'r broses cyfiawnder troseddol.
Dylunio a darparu cynnig cyfathrebu newydd a gwell i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol difrifol.
  • Peilota cynnig gwasanaeth CPS newydd i ddioddefwyr trais rhywiol o fis Hydref 2022.
  • Cychwyn gwaith ymchwil ar brofiadau ac adborth dioddefwyr.
  • Nodi datblygiad proses ar gyfer cyfathrebu diweddariadau i ddioddefwyr ar ganlyniadau cymwysiadau cyfreithiol cyn-treial sensitif, gan gynnwys Adran 41 YJCEA 1999 (tystiolaeth neu gwestiynau am hanes rhywiol achwynydd).
  
Cynllun peilot i werthuso dulliau newydd i wella ansawdd cyfweliadau ABE.  
  • Gwaith parhaus ar ddarparu gwahanol ddulliau o gyfweliadau ABE (cyfweliadau ABE a arweinir gan seicoleg y Lighthouse Project, Cynllun Peilot ABE Gogledd Orllewin Lloegr a Phrosiect PIPPA).
  • Cynhyrchu papur dysgu interim o'r prosiectau.
  • Cynnal digwyddiad Dysgu Gweithredol ar ABEs.
Peilota, profi a gwerthuso defnydd cyfarfodydd Ymgyfarwyddo Dioddefwyr.
  • Peilota gwasanaeth newydd i ddioddefwyr trais rhywiol o fis Hydref 2022.
  • Rhyddhau Cam 1 Adroddiad Briffio Academaidd Soteria (CPS).
  

Ymrwymiad ar y cyd i graffu ar ein penderfyniadau a'n dysgu

Mae adolygu penderfyniadau ac agor y penderfyniadau hyn i graffu yn rhoi cyfle i ddysgu i'n dau sefydliad.

Ffocws penodol o graffu yw lle mae ein sefydliadau wedi gwneud y penderfyniad anodd i beidio â chyhuddo na symud ymlaen ymhellach gydag achos. Gall y penderfyniad hwn gael ei wneud gan yr heddlu neu gan y CPS. Efallai y bydd yr heddlu'n gwneud y penderfyniad cyn i unrhyw beth gael ei rannu gyda'r CPS, neu ar ôl ceisio cyngor cynnar. Mae'r ddau sefydliad yn gwahodd craffu ar eu penderfyniadau Dim Gweithredu Pellach (NFA) oddi wrth ei gilydd, ymarferwyr arbenigol, ac aelodau o'r gymuned. Mae craffu NFA yn digwydd ym mhob Ardal CPS ac ym mhob heddlu, ac mae dulliau newydd o graffu yn cael eu peilota gan heddluoedd ac Ardaloedd CPS sy’n rhan o Ymgyrch Soteria. Yn dilyn gwerthusiad annibynnol, bydd craffu NFA yn rhan o'n model gweithredu cenedlaethol newydd o fis Mehefin 2023.

Ochr yn ochr â chraffu ar benderfyniadau NFA, mae'n bwysig ein bod yn craffu ar ein data ac yn gweithio'n rhagweithiol i wella ansawdd data i alluogi mewnwelediadau pellach a mwy craff. Yn dilyn adolygiad helaeth a gynhaliwyd gan y Coleg Plismona, y CPS a NPCC ym mis Chwefror 2022, lansiwyd Cyfarfodydd Gwelliant Gweithredol ar y Cyd (JOIMs). Mae JOIMs yn creu cyfle i Ardaloedd a heddluoedd adfywio strwythurau llywodraethiant lleol presennol ac i weithio i wella perfformiadau gwaith achos trwy berthnasoedd gwaith cryf, rhannu a datrys materion a thrafod arferion da. Bydd pob Ardal a'u heddluoedd yn nodi blaenoriaethau ac yn gyrru strategaethau i sicrhau gwelliannau yn seiliedig ar gyd-destun lleol. Mae JOIMs penodol i drais rhywiol wedi'u creu ac yn cael eu hymgorffori. 

Paneli Craffu

Yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, mae paneli craffu aml-randdeiliaid yn cael eu cynnal i graffu ar benderfyniadau NFA sydd wedi eu gwneud gan yr heddlu a'r CPS Mynychir y paneli hyn gan y CPS, plismona, Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r trydydd sector.

Yn CPS De Orllewin Lloegr, mae paneli craffu yn cael eu cynnal gyda Dyfnaint a Chernyw, Swydd Gaerloyw a heddluoedd Avon a Gwlad yr Haf, lle mae penderfyniadau NFA y CPS a'r heddlu yn cael eu hadolygu.

Dr Katrin Hohl, Cyd-arweinydd Academaidd, Ymgyrch Soteria Bluestone, Prifysgol Dinas Llundain: 

“Gan weithio gyda Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, a CPS De Orllewin Lloegr, fe wnes i helpu i fframio dull gwaith y paneli NFA yn ôl ym mis Medi 2021. Ymunais â'r sesiwn gyntaf, ynghyd â chynrychiolydd o'r gwasanaeth ISVA lleol, gan ddarganfod ei bod hi a minnau yn codi cwestiynau gwahanol a heriol am yr ymchwiliad a phenderfyniadau cyhuddo. Naw mis yn ddiweddarach, ymunais â'r panel eto, gan ein bod wedi bod yn gofyn i academyddion Ymgyrch Soteria Bluestone fynychu bob panel misol. Creodd aeddfedrwydd y trafodaethau ym mhanel NFA argraff fawr arnaf. Cefais fy nharo hefyd gan ba mor wahanol oedd y cwestiynau a ofynnodd cynrychiolwyr yr heddlu a’r CPS am yr achosion NFA. Canfûm fod y cwestiynau hyn gan y gwahanol bartïon wedi'u llywio gan egwyddorion ymchwiliadau a oedd yn canolbwyntio ar ymddygiad yr unigolyn o dan amheuaeth, a dealltwriaeth gliriach o drais rhywiol yng nghyd-destun patrwm o reolaeth orfodol. Ysbrydoledig.”

Ar draws ardal yr Heddlu Metropolitan, cynhelir nifer o baneli craffu. Ym maes plismona, cynhelir panel NFA Heddlu Llundain gyda chynrychiolaeth y CPS. O fewn y CPS, cynhelir paneli craffu bob chwarter, gan ffocysu bob yn ail ar drais rhywiol a thrais yn erbyn menywod a merched (VAWG) ehangach. Mynychir y ddau banel gan uwch gydweithwyr yr heddlu a detholiad o grwpiau trydydd sector.

Defnyddio data i roi mewnwelediad ac i gefnogi gwelliannau

Rydym wedi ymrwymo i barhau i wella ansawdd a mynediad at ddata i'n galluogi i ddatblygu mewnwelediadau dyfnach a gwella'n barhaus. Yn 2021, datblygodd yr heddlu a’r CPS offeryn dadansoddeg data trais rhywiol ar y cyd i weithredu fel ‘prawf o gysyniad’ i gysylltu data am drais rhywiol ar draws y system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf. Gan ddefnyddio data sydd ar gael ar hyn o bryd gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf a’r CPS, o'r cyfnod 2016-2020, mae'r offeryn yn darparu dadansoddiad data o'r dechrau i'r diwedd o'r camau allweddol mewn achosion trais rhywiol, o'r adroddiad i'r llys. Mae'r offeryn yn caniatáu i ni archwilio a deall athreuliad ac amseroldeb yn yr achosion ar bob cam, gan ddefnyddio gwahanol amserlenni, demograffeg y rheini a ddrwgdybir a dioddefwyr, a’r math o achosion, er enghraifft achosion trais rhywiol cam-drin domestig neu achosion nad ydynt yn ddiweddar.

Mae'r CPS a phlismona wedi cefnogi datblygu a dylunio ymrwymiad y Llywodraeth i greu a chyhoeddi cardiau sgorio cyfiawnder troseddol rheolaidd, sy'n dangos sut mae'r system gyfan yn perfformio. Nod y cardiau sgorio yw taflu goleuni ar berfformiad, cynyddu a hyrwyddo tryloywder yn y system cyfiawnder troseddol, a gwella atebolrwydd ar y cyd ac ar draws y system.

Mae'r CPS hefyd yn parhau i gyhoeddi data chwarterol ar ein gwefan genedlaethol, ochr yn ochr â chynnal sesiynau rhanddeiliaid penodol ar ddiwrnod eu cyhoeddi i drafod y data gyda'r trydydd sector. Yn ogystal, mae'r ddau sefydliad wedi ymrwymo i wella ansawdd y data ar nodweddion gwarchodedig i ddioddefwyr a diffynyddion.

Cwnstabliaeth Durham a CPS Gogledd Ddwyrain Lloegr

O dan y JNAP, mae Cwnstabliaeth Durham a CPS Gogledd Ddwyrain Lloegr wedi adeiladu ar berthnasoedd cryf sydd eisoes yn bodoli ac wedi rhoi mwy o bwyslais ar ymgysylltiad cynnar rhwng swyddogion ac erlynwyr. Mae Cyfarfodydd Gwelliant Gweithredol ar y Cyd (JOIMs) sy’n canolbwyntio ar drais rhywiol wedi'u sefydlu lle mae'r heddlu a'r CPS yn craffu ar y cyd ac yn herio data perfformiad, achosion sydd wedi dod i ben neu achosion dim gweithredu pellach (NFAs) a chynlluniau gweithredu, yn ogystal ag ystyried adborth manwl o dreialon â rheithfarnau dieuog. Mae'r gweithgaredd hwn wedi ymgorffori amgylchedd dysgu ymhellach, lle mae gwelliannau'n cael eu nodi a’u gweithredu ar y cyd. Mae fforwm ISVA rhwng ISVAs lleol, y CPS a'r heddlu hefyd wedi cael ei ddatblygu, sydd wedi gwella cefnogaeth i ddioddefwyr trwy sicrhau llinellau cyfathrebu - megis trwy gyfarfodydd ôl-gyhuddo i drafod darpariaeth mesurau arbennig. Mae cynllun peilot Cyngor Cynnar Gwell yr Ardal wedi gweld erlynwyr yn cefnogi ymchwilwyr gyda chyngor o gamau cynharaf ymchwiliad ar strategaethau cyfweld unigolion o dan amheuaeth a dioddefwyr. Yn ogystal â hyn, mae Cynadleddau Cynllunio Achos Cynnar (ECPC) bellach yn digwydd yn fuan ar ôl y cyhuddiad, pan fydd trafodaethau cynnar yn digwydd rhwng ymchwilwyr ac erlynwyr ar gyflwyno tystiolaeth gymhleth, caiff deunydd allweddol ei flaenoriaethu ac mae trywyddau ymholi diangen yn cael eu hosgoi.

Ein gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn 

Effaith: Yr heddlu a'r CPS i weithredu dull gwaith cyfannol o ran troseddu, gan gydnabod y cysylltiad rhwng cam-drin domestig, trais rhywiol a'r gwaith ehangach ar VAWG.

GweithgareddYn y 3 mis nesafYn y 6 mis nesafYn y 9 mis nesafYn y 12 mis nesaf
Datblygu cynhyrchion dysgu a hyfforddi ar y cyd sy'n adlewyrchu canfyddiadau Ymgyrch Soteria, a datblygu gwerthusiadau dysgu ac academaidd.   
  • Negeseuon allweddol a chynnwys allweddol sy’n rhaid eu cynnwys yn y pecynnau hyfforddi lleol sy’n cael eu datblygu.
Defnyddio mewnwelediad o'r Offeryn Data Trais Rhywiol a gwaith ymchwil academaidd manwl Ymgyrch Soteria i ddylunio rhaglen o waith sy'n cydnabod yr amgylchiadau penodol sy'n amlwg mewn achosion o drais rhywiol a cham-drin domestig a datblygu cynigion polisi gan ddefnyddio'r mewnwelediadau hynny. 
  • Diweddaru canllaw cyfreithiol CCB a Stelcian y CPS i gynnwys arweiniad am DA a RASSO.
  • Ymrwymiad i ystyried y gorgyffwrdd sydd rhwng DA a RASSO yng nghyd-destun model gweithredu newydd RASSO.
 
Rhaglen o weithdai ar VAWG ar draws NPCC ac arweinwyr CPS i lunio'r gwaith yn y maes hwn.
  • Rhestr mynychwyr estynedig o gyfarfodydd rheolaidd y comisiynwyr i gynnwys arweinyddion NPCC VAWG a DA.
 
  • Lansio strategaeth VAWG y CPS
  • Uwchgynhadledd VAWG.
  • Cynnal pob cyfarfod VAWG.

Camau nesaf y Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol

Gwnaethom 32 o ymrwymiadau yn y JNAP. Rydym wedi cwblhau 24 ac mae wyth ar y gweill.

Wrth ddatblygu’r Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol diwygiedig hwn, rydym wedi defnyddio model theori newid i ystyried lle y gallwn fynd ymhellach, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma, ac alinio ein gweithgarwch yn y dyfodol â mesurau effaith. Rydym wedi ymgynghori â’r heddlu, erlynwyr, cynrychiolwyr cyfreithiol, gwasanaethau ISVA a’r trydydd sector i lunio a llywio ein blaenoriaethau. Rydym wedi profi ein hunain i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu’r camau gweithredu cywir wrth symud ymlaen, gan ddysgu o’r canfyddiadau hyd yma o Ymgyrch Soteria / Bluestone, adroddiadau arolygiaethau annibynnol, dadansoddi data ac adborth gan y trydydd sector. Yn ogystal, cynhaliom sesiwn benodol yn ein cynhadledd genedlaethol ar y cyd, yn ceisio adborth ar ein blaenoriaethau a gweithgarwch yn y dyfodol.

Mae’r JNAP diweddaraf yn cynnwys 20 o gamau gweithredu (mae hyn yn cynnwys yr wyth cam gweithredu 'ar y gweill' sy'n cael eu cynnwys yn ein cynllun cyflawni ar gyfer y dyfodol), a manylir arnynt drwy gydol y strategaeth hon. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy lywodraethiant ar y cyd, a arweinir ar lefel uwch gan ein Uwch Swyddogion Cyfrifol, a fydd yn adrodd i’r Bwrdd Gwelliant Gweithredol ar y Cyd (JOIB) o dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd Cynorthwyol, Nick Ephgrave, a’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Max Hill KC. Byddwn yn integreiddio ISVAs, y trydydd sector a phartneriaid eraill yn ein trefniadau llywodraethiant er mwyn bwrw ymlaen â chyflawni.

Byddwn yn canolbwyntio ar gam nesaf y JNAP ar wreiddio’r polisïau, gweithdrefnau a’r canllawiau a lansiwyd hyd yma, wrth gydnabod meysydd lle mae angen i ni fynd ymhellach. Rydym wedi nodi pum canlyniad y byddwn yn gweithio tuag atynt dros y 18 mis nesaf a byddwn yn strwythuro ein rhaglen waith yn unol â hynny i:

  • sicrhau bod dioddefwyr yn profi lefel uwch o gymorth;
    sicrhau bod dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd o dan amheuaeth wrth wraidd model gweithredu newydd RASSO; 
    sicrhau bod yr heddlu a’r CPS yn gweithredu dull gwaith cyfannol o ran troseddu, gan gydnabod y cysylltiad rhwng cam-drin domestig, trais rhywiol a'r gwaith ehangach ar VAWG;
    sicrhau ein bod yn ymrwymo i ddysgu a datblygu parhaus er mwyn gwella ein harferion a’n sylfaen dystiolaeth yn barhaus, gan alluogi meddwl beirniadol ac ymarfer myfyriol;
    sicrhau bod yr heddlu ac erlynwyr yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithio ar y cyd o'r camau cynharaf, gan arwain at fwy o hyder yn y system gyfiawnder.

Bydd cam nesaf y JNAP yn canolbwyntio’n benodol ar beilota a dysgu o wahanol ddulliau o gyflwyno cyfweliadau ‘Sicrhau’r Dystiolaeth Orau’, gan wreiddio a sicrhau cydymffurfiaeth â Chanllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar ddatgelu - ochr yn ochr â rhannu ein gwaith yn y maes hwn yn dosturiol ac yn deg i ddioddefwyr a diffynyddion, a defnyddio data a mewnwelediad i archwilio ymhellach y cysylltiad rhwng cam-drin domestig a throseddau trais rhywiol; yna byddwn yn dylunio datrysiadau polisi ac ymarfer yn y maes hwn. Hoffem ddiolch ymlaen llaw i gydweithwyr a phartneriaid sy’n gweithio gyda ni i roi’r rhaglenni gwaith newydd hyn ar waith.

Rydym yn falch o'r gwaith a gyflawnir gan gydweithwyr a phartneriaid drwy'r Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol. Gwyddom fod gennym lawer o waith i’w wneud o hyd ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r camau newydd hyn er mwyn helpu i ennyn hyder y cyhoedd yn y modd yr ydym yn ymchwilio i droseddau trais rhywiol ac yn eu herlyn, a sicrhau newid ystyrlon.

Available to download

Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol Trais Rhywiol rhwng yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) - diweddariad 2022 (dogfen PDF

Further reading

Scroll to top